Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

certificate

Cyrsiau wedi'u hachredu'n llawn

Achredwyd pob un o'n cyrsiau gan y sefydliadau peirianneg proffesiynol perthnasol, gan roi’r sylfeini sydd eu hangen arnoch chi i fod yn beiriannydd siartredig.

star

Prosiectau ymarferol

Dewch i wneud prosiectau ymarferol ar y cyd â myfyrwyr o ystod o ddisgyblaethau, yn union fel y byddwch chi yn y byd go iawn, gan ennill sgiliau hollbwysig ar gyfer eich gyrfa.

car

Heriau peirianyddol go iawn

Ewch i'r afael â heriau peirianneg go iawn drwy ystod o brosiectau dylunio amserol, megis argae trydan dŵr, clinig iechyd dros dro, neu gar trydan.

briefcase

Rhagolygon cryf i raddedigion

Roedd 92% o'n graddedigion mewn swydd, yn astudio ymhellach, i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n ymgymryd â gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (HESA, 2022)*

rosette

10 uchaf yn y DU

Rydym yn y 10 Uchaf yn y DU am Beirianneg Gyffredinol (Times Good University Guide, 2023)

microchip

1af yn y DU

Mae ein cyrsiau Peirianneg Drydanol ac Electronig yn 1af yn y DU yn ôl ein myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, 2022)

Mae’n hawdd mynd o le i le yng Nghaerdydd. Mae’n ddiogel, yn rhesymol, ac mae bywyd nos gwych yma. Mae'r Ysgol Peirianneg wedi'i threfnu'n dda, ac mae'r staff sy'n gweithio yno’n barod eu cymwynas ac yn ystyriol. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael un o Ysgoloriaethau Power Academy y DU yn ystod fy nghwrs, ac mae'n werth ymgeisio amdani yn y flwyddyn gyntaf. Gallwch chi wneud lleoliadau gyda llawer o gwmnïau wahanol - fe wnes i fy un fi gyda Siemens. Roedd yn brofiad gwych a ddatblygodd fy sgiliau cyfathrebu a fy helpu i weithio mewn tîm.
Isabelle Mahoney, Peirianneg Drydanol ac Electronig

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Peirianneg Bensaernïol (BEng)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Ein gradd baglor tair blynedd achrededig yw'r llwybr byrraf i yrfa foddhaus a chyffrous mewn peirianneg bensaernïol.

Peirianneg Bensaernïol (MEng)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Gall ein gradd meistr integredig pedair blynedd achrededig mewn peirianneg bensaernïol eich rhoi ar ben ffordd ar gyfer taith gyrfa greadigol a chyffrous.

Peirianneg Bensaernïol gyda Blwyddyn mewn diwydiant (BEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Bydd ein gradd baglor pedair blynedd achrededig gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous mewn peirianneg bensaernïol.

Peirianneg Bensaernïol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 5 blwyddyn

Bydd ein gradd meistr integredig pum mlynedd achrededig hon gyda blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa gyffrous ym maes peirianneg bensaernïol.

Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae peirianneg electronig a thrydanol yn archwilio gwyddoniaeth a chymwysiadau trydan ar raddfa fach a mawr.

Peirianneg Drydanol ac Electronig (MEng)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Gall ein gradd meistr integredig pedair blynedd achrededig mewn peirianneg electronig a thrydanol eich rhoi ar ben ffordd ar gyfer gyrfa gyffrous.

Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Bydd ein gradd baglor pedair blynedd achrededig gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous mewn peirianneg trydanol ac electronig.

Peirianneg Drydanol ac Electronig gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 5 blwyddyn

Bydd ein gradd meistr integredig pum mlynedd achrededig gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous mewn peirianneg trydanol ac electronig.

Peirianneg Fecanyddol (BEng)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Ein gradd baglor tair blynedd achrededig yw'r llwybr byrraf i yrfa foddhaus a chyffrous mewn peirianneg fecanyddol.

Peirianneg Fecanyddol (MEng)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Gall y radd meistr integredig achrededig hon mewn peirianneg sy’n para pedair blynedd eich rhoi ar ben ffordd ar gyfer taith gyrfa greadigol a chyffrous ym maes peirianneg fecanyddol.

Peirianneg Fecanyddol (BEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Bydd ein gradd baglor pedair blynedd achrededig gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous mewn peirianneg fecanyddol.

Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 5 blwyddyn

Bydd ein gradd meistr integredig pum mlynedd achrededig hon gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous mewn peirianneg fecanyddol.

Peirianneg Feddygol (BEng)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Ein gradd baglor tair blynedd achrededig yw'r llwybr byrraf i yrfa foddhaus a chyffrous mewn peirianneg feddygol.

Peirianneg Feddygol (MEng)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Gall ein gradd meistr integredig pedair blynedd achrededig mewn peirianneg eich rhoi ar ben ffordd ar gyfer gyrfa gyffrous ym maes peirianneg feddygol.

Peirianneg Feddygol (BEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Bydd ein gradd baglor pedair blynedd achrededig gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous mewn peirianneg feddygol.

Peirianneg Feddygol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 5 blwyddyn

Bydd ein gradd meistr integredig pum mlynedd achrededig hon gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous mewn peirianneg feddygol.

Peirianneg gyda Blwyddyn Sylfaen (BEng)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Mae’r cwrs Blwyddyn Sylfaen Peirianneg wedi'i chynllunio i roi'r ddealltwriaeth arbennig sydd ei hangen arnoch ar gyfer gradd peirianneg BEng neu MEng.

Peirianneg Integredig (BEng)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Ein gradd baglor tair blynedd arloesol ac achrededig yw'r llwybr byrraf i yrfa foddhaus a chyffrous mewn peirianneg.

Peirianneg Integredig (MEng)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Gall ein gradd meistr arloesol integredig pedair blynedd achrededig mewn peirianneg eich rhoi ar ben ffordd ar gyfer gyrfa greadigol a chyffrous.

Peirianneg Integredig (BEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Bydd ein gradd baglor arloesol pedair blynedd achrededig gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous ym myd peirianneg.

Peirianneg Integredig gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 5 blwyddyn

Bydd ein gradd meistr integredig arloesol pum mlynedd achrededig hon gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous mewn peirianneg.

Peirianneg Sifil (BEng)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Ein gradd baglor tair blynedd achrededig yw'r llwybr byrraf i yrfa foddhaus a chyffrous mewn peirianneg sifil.

Peirianneg Sifil (MEng)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Gall ein gradd meistr integredig pedair blynedd achrededig mewn peirianneg eich rhoi ar ben ffordd ar gyfer gyrfa gyffrous ym maes peirianneg sifil.

Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol (BEng)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Y radd baglor tair blynedd achrededig hon yw'r llwybr byrraf i yrfa foddhaus a chyffrous ym maes peirianneg sifil ac amgylcheddol.

Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol (MEng)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Gall ein gradd meistr integredig pedair blynedd achrededig mewn peirianneg eich rhoi ar ben ffordd ar gyfer gyrfa gyffrous ym maes peirianneg sifil ac amgylcheddol.

Peirianneg Sifil ac Amgylcheddolgyda Blwyddyn mewn diwydiant (BEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Bydd ein gradd baglor achrededig pedair blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau ar daith gyrfa gyffrous mewn peirianneg sifil ac amgylcheddol.

Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol gyda blwyddyn mewn diwydiant (MEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 5 blwyddyn

Bydd y radd meistr integredig pum mlynedd achrededig hon gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous mewn peirianneg sifil ac amgylcheddol.

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (BEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Bydd ein gradd baglor pedair blynedd achrededig gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous mewn peirianneg sifil.

Peirianneg Sifil gyda blwyddyn mewn diwydiant (MEng)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 5 blwyddyn

Bydd ein gradd meistr integredig pum mlynedd achrededig hon gyda blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau taith yrfa gyffrous mewn peirianneg sifil.

Cyfleusterau a lleoliad

Roedd yr elfennau ymarferol wir wedi fy helpu i gael llawer o fudd o fy nghwrs. Bob blwyddyn aethom ar daith maes i leoliad gwahanol yn y DU lle cawsom brofiad ymarferol o'r hyn y mae'r diwydiant yn ei gynnig. Fe gyrhaeddon ni arolygu gwahanol adeiladau a gweld sut maen nhw'n cael eu rhoi at ei gilydd yn strwythurol. Roedd hefyd yn gyfle da i ddod i adnabod eich darlithwyr, felly rydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn gofyn cwestiynau iddyn nhw nes ymlaen yn y cwrs. Ar ben hynny, rydych chi'n cael cwrdd â mwy o bobl ar eich cwrs a gwneud ffrindiau.
Kathleen, Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol

Ein sgyrsiau

Dewch i ddysgu rhagor am astudio gradd Peirianneg Bensaernïol, Peirianneg Sifil a Pheirianneg Sifil ac Amgylcheddol.

Trosolwg o Beirianneg Bensaernïol, Sifil ac Amgylcheddol

Dewch i ddysgu rhagor am astudio gradd Peirianneg Bensaernïol, Peirianneg Sifil a Pheirianneg Sifil ac Amgylcheddol.

Dewch i ddysgu rhagor am astudio gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig a Pheirianneg Integredig.

Trosolwg o Beirianneg Drydanol, Electronig ac Integredig

Dewch i ddysgu rhagor am astudio gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig a Pheirianneg Integredig.

Dewch i ddysgu rhagor am astudio gradd Peirianneg Fecanyddol a Pheirianneg Feddygol.

Trosolwg o Beirianneg Fecanyddol a Meddygol

Dewch i ddysgu rhagor am astudio gradd Peirianneg Fecanyddol a Pheirianneg Feddygol.

Astudio gyda ni

Rydyn ni wrthi'n diweddaru blwyddyn gyntaf ein cyrsiau peirianneg ar gyfer y sawl fydd yn dechrau astudio yn 2023. Byddwn ni’n diwygio manylion y cwrs yn ein llyfryn israddedig ac ar ein tudalennau gwe cyn bo hir. Cewch ragor o wybodaeth am y flwyddyn gyntaf isod. Ar hyn o bryd, dim ond y flwyddyn gyntaf fydd yn newid a bydd blynyddoedd diweddarach ein cyrsiau yn aros yr un fath. Cewch ragor o wybodaeth am gamau diweddarach y cwrs ar dudalennau cwrs ein gwefan.

Eglurwyd y flwyddyn gyntaf

Darganfyddwch beth i'w ddisgwyl o flwyddyn un fel myfyriwr peirianneg.

Myfyrwyr yn gweithio ar fodel Peirianneg Bensaernïol.

Dewis eich gradd peirianneg

Dewch i gael gwybod sut brofiad yw astudio yn y gwahanol ddisgyblaethau peirianneg a'r cyrsiau rydyn ni'n eu cynnig ym mhob maes.

Cyfleoedd allgyrsiol

Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol i ddatblygu eich sgiliau, cyfrannu at gymdeithas, a chael seibiant cynhyrchiol o astudio.

Dyma Phil sy’n dweud wrthon ni am astudio peirianneg sifil a rhai awgrymiadau defnyddiol i fyfyrwyr peirianneg newydd.

Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol

Dyma Phil sy’n dweud wrthon ni am astudio peirianneg sifil a rhai awgrymiadau defnyddiol i fyfyrwyr peirianneg newydd.

Dyma Juliette sy’n dweud wrthon ni sut beth yw astudio yma ac mae'n rhoi ei hargymhellion o ran sut i fwynhau i’r eithaf bod yn fyfyriwr yn y brifysgol.

Peirianneg fecanyddol a meddygol

Dyma Juliette sy’n dweud wrthon ni sut beth yw astudio yma ac mae'n rhoi ei hargymhellion o ran sut i fwynhau i’r eithaf bod yn fyfyriwr yn y brifysgol.

Dyma Jessica sy’n dweud wrthon ni am ei phrofiadau o astudio gyda ni a'i gyrfa lwyddiannus ers graddio.

Peirianneg drydanol ac electronig

Dyma Jessica sy’n dweud wrthon ni am ei phrofiadau o astudio gyda ni a'i gyrfa lwyddiannus ers graddio.

Mi wnes i leoliad gwaith yn Airbus. Roedd yn gyfle gwych, a chefais weithio gyda chynhyrchion byd-enwog. Roedd fy lleoliad yn caniatáu i mi gael profiad o beirianneg ymarferol, ac roeddwn i'n gallu penderfynu beth oeddwn i eisiau ei wneud ar ôl gorffen y cwrs. Treuliais amser yn astudio dramor ym Mhrifysgol Miami hefyd. Cefais gyfle i wneud ffrindiau rhyngwladol, astudio mewn lleoliad gwych, a chael profiad anhygoel.
Fergus, Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell y bydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Y camau nesaf

Download icon

Lawrlwytho’r llyfryn

Dysgu rhagor am astudio peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd.

mobile-message

Cysylltu â ni

Er mwyn gofyn unrhyw gwestiwn inni anfonwch ein ffurflen ymholi a byddwn ni’n eich ateb cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

certificate

Gweld ein cyrsiau peirianneg

Archwilio ein cyrsiau.


Ffynhonnell: yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion diweddaraf ar gyfer 2019/20 ac a gyhoeddodd HESA ym mis Mehefin 2022.

Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint Higher Education Statistics Agency Limited 2022. Ni all The Higher Education Statistics Agency Limited dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau a wna trydydd partïon o ganlyniad i’w data.