Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni?

Ysgol Pensaernïaeth Cymru yw un o ysgolion pensaernïaeth gorau'r DU ac mae wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod y myfyrwyr yn cael y sgiliau sydd eu hangen i greu pensaernïaeth gynaliadwy a dinasoedd sy'n gwella bywydau pobl heb ddinistrio'r blaned. Gan roi pwyslais ar greu a harneisio creadigrwydd, rydym ni'n annog myfyrwyr i herio eu ffiniau a symud ymlaen gyda'u syniadau.

academic-school

Ysgol bensaernïaeth flaenllaw

Dewch i astudio yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau'r deyrnas.

notepad

Arweinir gan ddylunio

Mae’n rhaglen yn canolbwyntio ar ymarfer, ac mae dau draean o'n cwrs gradd BSc yn ymwneud â phrosiectau yn y stiwdio ar hyn o bryd.

star

Cwrs achrededig

Cwrs achrededig RIBA ac ARB mewn pensaernïaeth.

Rydw i wrth fy modd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru gan ei bod yn teimlo fel teulu. Y wers bwysicaf rydw i wedi’i dysgu oedd deall sut mae ein dyluniadau’n gallu effeithio ar y gymdeithas. Fy nghyngor i fyfyrwyr pensaernïaeth newydd fyddai mwynhewch y broses ddylunio. Peidiwch ag ofni pethau newydd, byddwch feiddgar! Wedi’r cwbl, mae gan fyfyrwyr y rhyddid i ystyried syniadau newydd ac estyn eu creadigrwydd. Dyma’r adeg i arbrofi.
Dolunay Dogahan, BSc Astudiaethau Pensaernïol

Cyrsiau

Nid ydym ar hyn o bryd yn cynnig cyrsiau yn y maes pwnc hwn. Chwiliwch ein cyrsiau i ddod o hyd i feysydd eraill a fyddai o ddiddordeb y chi.

Ein sgyrsiau

BSc Astudiaethau Pensaernïol

Bydd Dr Sam Clark, Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn, yn siarad am ddysgu ac addysgu yn rhaglen BSc Ysgol Pensaernïaeth Cymru a’r cyfleoedd y gall yr ysgol eu cynnig i chi.

Gradd Meistr Pensaernïaeth (MArch)

Bydd Caroline Almond, Cadeirydd Blwyddyn 1 MArch, a’r Dr Mhairi McVicar, Cadeirydd Blwyddyn 2 MArch, yn rhoi crynodeb o raglen Meistr Pensaernïaeth a’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl ym mlynyddoedd 4 a 5.

Ein Hysgol a’n myfyrwyr

Gweld ein cyfleusterau a gwylio fideos am ein myfyrwyr i ddysgu rhagor am fod yn rhan o ysgol bensaernïaeth fywiog a chydweithredol sy’n rhoi pwyslais cryf ar waith stiwdio.

Ysgol Pensaernïaeth Cymru ydyn ni

Cewch wybod am Ysgol Pensaernïaeth Cymru, dysgu am ein gwerthoedd craidd a gweld sut brofiad yw bod yn rhan o'r Ysgol.

Taith trwy Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Mae adeilad Bute rhestredig Gradd II eiconig Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi cael ei adnewyddu’n helaeth i gynnwys cyfleusterau pwrpasol newydd gan gynnwys gofodau stiwdio mwy, Stiwdio Hybrid, Labordy Byw a Neuadd Arddangos. Mae’r ffilm newydd hon yn arddangos gwedd newydd yr adeilad, gan fynd â gwylwyr ar daith dan arweiniad myfyrwyr presennol a’u profiadau o astudio yn yr ysgol.

Astudio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Bydd myfyriwr BSc Astudiaethau Pensaernïol Zizy yn sôn am yr ysgol, bywyd myfyriwr ac awgrymiadau i ymgeiswyr cwrs pensaernïaeth.

Taith rithwir Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Gweld ein taith ffotograffig newydd o'r lleoedd a'r offer sydd ar gael i chi yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Adeiladau a lleoliadau

Roeddwn i wir wrth fy modd gyda fy nghyfnod yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Roedd yn saith mlynedd o waith caled a heriau ond yn daith anhygoel o ymdrwythol a gwerth chweil sydd wedi cynnig cymaint i mi. Fe wnes i ymdrwytho'n llwyr ym mhopeth roedd yr Ysgol yn ei gynnig - roedd yn dda gyda fi weld bod cymaint i’w ddysgu a rhoes yr amrywiaeth helaeth o ddysg hyder imi ddechrau fy ngyrfa.
Ross Hartland (BSc, MArch, PgDip)

Student Association

Cymdeithas y Myfyrwyr

Cewch chi fod yn aelod o Gymdeithas Myfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru pan ymunwch chi â’r ysgol.

WSA robot arm

Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau yn cynnwys labordy roboteg pensaernïaeth, gweithdy, labordy cyfryngau, llyfrgell a labordy dyfeisiau digidol.

WSA engagement

Ymgysylltu ar gyfer myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu yn y deyrnas hon a thramor.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Library students

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

certificate
Download icon

Lawrlwytho’r llyfryn

Dysgwch ragor am ein Hysgol yn ein llyfryn pwnc.

icon-contact

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i gyflwyno cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.