Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni?

A ninnau’n chwilfrydig am y profiad dynol ar draws milenia a diwylliannau, rydym am ddeall ein gorffennol yn well er mwyn taflu goleuni ar y presennol er budd ein dyfodol. Rydym yn gymuned academaidd ymofyngar, angerddol dros astudio’r gorffennol a chredoau cyn-hanesyddol i gymdeithasau cyfoes.

academic-school

Ar ôl graddio

90% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

tick

Ein hymchwil

Yn 9fed yn y DU ar gyfer ymchwil ym maes Archaeoleg ac yn 5ed ar gyfer effaith ein hymchwil (REF 2021).

rosette

Prawf amser

Wedi dathlu 100 mlynedd o Archaeoleg a Chadwraeth arloesol yng Nghaerdydd yn 2020, heddiw mae ein harbenigwyr yn parhau i rannu darganfyddiadau blaengar a thechnegau a meddwl diweddaraf.

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Archaeoleg (BA)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Ymgollwch yn yr astudiaeth o olion cymdeithasau'r gorffennol, o'r eitemau bach a wisgwyd ar y corff i gyfadeiladau anferth megis Côr y Cewri, gyda’n gradd BA mewn Archaeoleg.

Archaeoleg (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Gan osod yr astudiaeth o'r gorffennol dynol wrth wraidd ymchwiliad gwyddoniaeth archaeolegol, bydd ein gradd yn rhoi sylfaen gadarn i chi o ran theori a chymhwyso egwyddorion gwyddonol, data a thechnegau ym maes archaeoleg, o raddfa moleciwlau i

Archaeoleg a Hanes (BA)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Astudio olion cymdeithasau a fu - pethau bychain megis tlysau i’w gwisgo am y corff a rhai mwy sylweddol megis adeiladau mawr a phropaganda’r 20fed ganrif.

Archaeoleg a Hanes yr Henfyd (BA)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Archwiliwch gymdeithasau hynafol Môr y Canoldir, Ewrop a chymdeithasau agos y Dwyrain o wahanol safbwyntiau, a deall sut mae'r gorffennol a'r presennol wedi'u plethu.

Cadwraeth Gwrthrychau mewn Amgueddfeydd ac Archaeoleg (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae Cadwraeth Gwrthrychau mewn Amgueddfeydd ac Archaeoleg yn cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y celfyddydau, gwyddoniaeth gymhwysol a gwaith ymarferol gyfle i gyfuno'r holl ddiddordebau hyn o fewn rhaglen gradd gyffrous a heriol.

Ein sgyrsiau a'n fideos

Astudio Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae ein hacademyddion yn rhannu mewnwelediad i'r pwnc hynod ddiddorol hwn, y gymuned groesawgar y byddwch yn ymuno â hi, a'r mathau o gyfleoedd cyffrous a chymorth ehangach y gallwch eu disgwyl.

Archaeoleg a chadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Cewch glywed gan academyddion a myfyrwyr am sut beth yw astudio archaeoleg a chadwraeth gyda ni.

Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd

Rhagor o wybodaeth am astudio yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Darlith ragflas Archaeoleg

Bydd Dr Anna Davies-Barrett, Darlithydd Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn trafod ei hymchwil yn y cyflwyniad byr hwn o'r enw: 'Y llwybr at COVID - sut mae clefyd anadlol wedi bod yn bla ar bobl yn y gorffennol hefyd'.

Beth mae ein myfyrwyr yn dweud

Cewch glywed gan Thea sy'n astudio archaeoleg gyda ni.

Mae’r lleoliadau’n amhrisiadwy – ro’n i’n ddigon ffodus i gael gweithio yn y maes ac mewn uned fasnachol fawr, a roddodd sgiliau amrywiol i mi ar gyfer gweithio yn y dyfodol, cysylltiadau amrywiol yn y diwydiant a ffrindiau arbennig.
Katie Faillace BSc Archaeoleg

Profiad ymarferol

Archaeology dig

Lleoliad treftadaeth yn y byd go iawn, gwaith maes neu brofiad o gloddio

Mae ein graddau’n cynnig profiad ymarferol sylweddol drwy ddefnyddio ein rhwydwaith ar gyfer lleoliadau yn y DU a thu hwnt. Mae’r hyfforddiant ymarferol hwn yn rhoi’r cyfle i chi osod eich hun ar wahân i’r dorf ar ôl graddio.

Student working on artefact

Astudio yn ein labordai pwrpasol

Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol a rhoi’r cyfle i chi ddysgu dros eich hun yn ein hystod o labordai archaeoleg a chadwraeth sydd wedi’u huwchraddio. Rydym hefyd yn defnyddio ein cyfleusterau'n helaeth wrth weithio gyda phartneriaid allanol yn y sectorau cadwraeth a threftadaeth.

Cyfleusterau a lleoliad

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Library students

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Y camau nesaf

academic-school
icon-contact

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i gyflwyno cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Students sitting in a classroom

Hanes a hanes yr henfyd

Ymchwiliwch i fydoedd a fu ac ehangu eich dealltwriaeth o newid hanesyddol yn ein rhaglenni uchel eu bri sy’n cael eu haddysgu gan arbenigwyr angerddol a thrwy gipolygon o’u hymchwil ddiweddaraf.

Row of statues

Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth

Byddwch yn archwilio’r hanes, y diwylliannau a’r credoau sydd ynghlwm wrth draddodiadau crefyddol mawr a rhai llai adnabyddus, mewn ffordd o'ch dewis chi, gyda’n graddau cyfoethog a boddhaus.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.