Ewch i’r prif gynnwys

Pam y dylech astudio gyda ni

rosette

Cyntaf yng Nghymru a phumed yn y DU

Mae pob un o’n rhaglenni nyrsio ar frig tablau’r Complete University Guide 2023 ymysg prifysgolion Cymru, ac yn bumed yn y DU.

star

Ymchwil

Fel aelod o Grŵp enwog Russell, mae ein graddau'n cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr ledled y byd.

globe

Rydym yn rhyngwladol

Rydym yn cynnig persbectif a chyfleoedd byd-eang trwy ein rhaglenni addysgu a lleoliadau mewn gwledydd fel Grenada, Sri Lanka, Nepal, Fiji a Tanzania. Mae ein cwrs nyrsio oedolion bellach yn denu myfyrwyr o bob rhan o'r byd.

location

Ein lleoliad

Mae prif adeilad ein Hysgol yng nghalon ysbyty mwyaf Cymru – felly byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd gofal iechyd go iawn o'r diwrnod cyntaf un.

tick

Caiff ein rhaglen ei hariannu

Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.*

building

Ein cyfleusterau

Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.


*Mae cyllid yn amodol ar feini prawf cymhwysedd. Gallwch ddysgu mwy am Fwrsariaeth y GIG a chyllid gofal iechyd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Baglor mewn Nyrsio (Gofal Iechyd) derbyniad y Gwanwyn (BN)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae nyrsys iechyd meddwl yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau i gefnogi a thrin pobl sy'n byw gyda neu'n profi problemau iechyd meddwl.

Baglor mewn Nyrsio (Gofal Iechyd) derbyniad yr Hydref (BN)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae nyrsys iechyd meddwl yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau i gefnogi a thrin pobl sy'n byw gyda neu'n profi problemau iechyd meddwl.

Baglor mewn Nyrsio (Oedolion) derbyniad y Gwanwyn (BN)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae nyrsys yn defnyddio eu harbenigedd a'u sgiliau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a'u teuluoedd.

Baglor mewn Nyrsio (Oedolion) Derbyniad yr Hydref (BN)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae nyrsys yn defnyddio eu harbenigedd a'u sgiliau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a'u teuluoedd.

Baglor mewn Nyrsio (Plant) (BN)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Ymunwch â’n rhaglen nyrsio, sydd yn y 10 uchaf yn ôl Complete University Guide 2019 ac a ddilyswyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).

Dychwelwch i Ymarfer (Nyrsio) (Credyd Israddedig Sefydliadol)

Part Time Blended Learning, 20 wythnos

Bydd ein rhaglen fer, Dychwelyd i Ymarfer, sydd wedi'i hachredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), yn adeiladu ar eich profiad presennol ac yn eich cefnogi i ailgofrestru gyda'r NMC.

Pam astudio nyrsio?

Mae gan bob un o'n myfyrwyr eu stori a'i resymau ei hun dros ddewis y cwrs gofal iechyd. Beth fydd eich stori chi?

Gallwch weld mwy o straeon myfyrwyr ar ein rhestr chwarae ar YouTube.

Ein sgyrsiau

Nyrsio Oedolion

Mae'r Tiwtor Derbyn Nyrsio Oedolion (BN) Sandra Fender, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.

Cyngor i ymgeiswyr rhyngwladol sy'n ystyried Nyrsio Oedolion

Bydd Uwch Ddarlithydd mewn Nyrsio Oedolion, Claire Job, yn rhoi rhywfaint o gyngor i chi ynglŷn â gwneud cais i'r rhaglen hon os ydych yn ymgeisydd rhyngwladol.

Nyrsio Plant

Mae'r tiwtor Derbyn Nyrsio Plant (BN), Martina Nathan, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.

Nyrsio Iechyd Meddwl

Mae'r Tiwtor Derbyn Iechyd Meddwl (BN) Alex Nute, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.

Mae bod yn nyrs iechyd meddwl wedi caniatáu i mi ofalu am bobl pan fyddant yn fwyaf agored i niwed, cael cyfle i wneud gwahaniaeth a'u grymuso a'u cynorthwyo i newid eu bywydau. Dyna'r teimlad gorau yn y byd.
Rebecca Myfyriwr Nyrsio Iechyd Meddwl (BN)

Cyfleusterau a lleoliadau

Barn ein myfyrwyr

Mae Eleanor, sy'n fyfyriwr Nyrsio Oedolion (BN) yn y drydedd flwyddyn, yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.

Nyrsio Oedolion

Mae Eleanor, sy'n fyfyriwr Nyrsio Oedolion (BN) yn y drydedd flwyddyn, yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.

Mae Adam, myfyriwr Nyrsio Plant yn yr Ail Flwyddyn (BN), yn sôn am ei brofiad o astudio gyda ni.

Nyrsio Plant

Mae Adam, myfyriwr Nyrsio Plant yn yr Ail Flwyddyn (BN), yn sôn am ei brofiad o astudio gyda ni.

Mae Jodie, myfyriwr Nyrsio Iechyd Meddwl (BN) yn yr ail flwyddyn, yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.

Nyrsio Iechyd Meddwl

Mae Jodie, myfyriwr Nyrsio Iechyd Meddwl (BN) yn yr ail flwyddyn, yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.

Rwyf wedi dwlu ar yr amrywiaeth o gyfleoedd o ran lleoliadau, yn arbennig gyda POLO. Mae fy nghyfleoedd am swyddi’n edrych mor eang nawr.
Billie Myfyriwr Nyrsio Plant (BN)

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cymorth i fyfyrwyr

Mae cyngor diduedd a chyfrinachol ar gael yn rhad ac am ddim ar anableddau, dyslecsia, arian, gyrfaoedd, gwasanaethau cwnsela a mwy.

Library students

Gwarant o lety

Os byddwch chi’n cyrraedd ym mis Medi, rydyn ni’n gwarantu ystafell sengl i chi mewn llety ar y cyd â myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Dewch i wybod rhagor am ein chwaraeon a’n gweithgareddau hamdden, rhaglenni iaith am ddim, costau byw, cymorth dysgu ac Undeb y Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell y bydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni

academic-school
icon-chat

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych chi gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi.

certificate

Polisi derbyn myfyrwyr

Gwybodaeth am dderbyniadau israddedig ar gyfer yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.

Gallai fod diddordeb gennych hefyd mewn

Student being taught

Bydwreigiaeth

Ein rhaglen Bydwreigiaeth yw’r un orau yng Nghymru ac yn 3ydd yn y DU.

Student assisting a patient

Therapi Galwedigaethol

Our Occupational Therapy programme is ranked 1st in the UK by the Complete University Guide 2021.

Student at a computer

Radiotherapi

Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen yw’r un orau yn y DU.

Students with a skeleton

Ffisiotherapi

Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen yw’r un orau yng Nghymru ac yn 3ydd yn y DU.

Student using equipment

Radiograffeg

Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu yw’r un orau yn y DU.