Ewch i’r prif gynnwys

Sesiynau galw heibio am sgwrs fyw

Rydym yma i ateb eich holl gwestiynau, felly ymunwch ag un o'n sgyrsiau.

Pam astudio gyda ni?

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf. Ymunwch â ni a helpu i lunio dyfodol ieithyddol, diwylliannol ac economaidd Cymru. Rydym yn cynnig meysydd astudio unigryw - astudiaethau cyfieithu, treftadaeth a thwristiaeth, ieithyddiaeth gymdeithasol, caffael iaith, tafodieitheg, llenyddiaeth - sy'n berthnasol i'r Gymraeg yng Nghymru heddiw.

tick

Dyddiau hapus

Mae ein myfyrwyr yn mwynhau eu cyfnod yma ac mae 94% yn fodlon gyda’u profiad (NSS 2020).

briefcase

Rhagolygon gyrfaol ardderchog

Roedd 91% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu'n astudio ymhellach chwe mis ar ôl graddio (Arolwg DLHE 2016/17).

people

Astudio dau bwnc mewn un radd

Cyfunwch y Gymraeg â phwnc arall sy’n agos at eich calon - mae gennym ni lawer o raglenni cydanrhydedd i ddewis ohonynt.

Ein sgyrsiau a'n fideos

Dysgwch fwy am astudio Cymraeg (iaith gyntaf) gyda ni

Mae ein cyflwyniad diwrnod agored rhithwir yn rhoi cipolwg ar ein cyrsiau Cymraeg (iaith gyntaf) israddedig, sut rydym yn addysgu, a'r cyfleoedd ychwanegol sydd ar gael yn rhan o'n gradd.

Ymuno fel myfyriwr ail iaith - yr hyn yr ydym yn ei gynnig

Mae ein cyflwyniad diwrnod agored rhithwir yn rhoi blas ar ein cyrsiau Cymraeg (ail iaith) israddedig, sut rydym yn addysgu, a'r cyfleoedd ychwanegol sydd ar gael fel rhan o'n gradd.

Heb os, dilyn y radd BA yn y Gymraeg yn Ysgol y Gymraeg oedd un o benderfyniadau gorau fy mywyd. Uchafbwynt fy nghyfnod yn yr ysgol oedd treulio mis o brofiad gwaith yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, ar ôl ennill ysgoloriaeth gan yr Ysgol. Roedd y profiad hwnnw yn goron ar dair blynedd fythgofiadwy yn yr ysgol.
Osian Morgan BA yn y Gymraeg

Cyflymu eich gyrfa

Rydyn ni fel arfer yn sicrhau cyfnod o brofiad gwaith i'n holl fyfyrwyr drwy'r modiwl Yr Iaith ar Waith, ac mae gennym gysylltiadau ardderchog ag amrywiaeth o gyflogwyr cyffrous ar draws gwahanol sectorau gan gynnwys y celfyddydau, addysg, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, a threftadaeth. Dyma gyfle gwych i roi eich dysgu a'ch sgiliau ar brawf mewn gweithle lle caiff y Gymraeg ei defnyddio bob dydd.

The Welsh Flag

Cofleidio’r gymuned

Mae cyfoeth o weithgareddau a chyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol i chi eu mwynhau yn yr Ysgol, y Brifysgol, ac wrth gwrs ar draws y ddinas. Ymunwch â'r Gymdeithas Gymraeg – y Gym Gym (a oedd yn cynnwys dros 200 o aelodau y tro diwethaf i ni gyfri) – a mwynhau sesiynau cymdeithasu a thripiau. Neu, os mai perfformio sy'n mynd â'ch bryd, gallwch chi ymuno ag Aelwyd y Waun Ddyfal a'i chôr llwyddiannus.

Dod i'n hadnabod ni

Profiad academaidd a chymdeithasol o'r radd flaenaf yng nghanol Caerdydd

Cewch glywed gan rai o'n staff gwych am sut brofiad yw astudio gyda ni - y meysydd pwnc rydym ni'n arbenigo ynddynt, y gefnogaeth o ran cyflogadwyedd rydym ni'n ei gynnig a'r gymuned o fyfyrwyr a fydd yn eich croesawu chi.

Profiad i'w gofio - myfyrdodau myfyrwyr am fywyd yn y brifddinas

Mae ein sgoriau boddhad myfyrwyr yn uchel yn gyson - dyma farn rhai ohonynt am eu profiadau bythgofiadwy fel myfyrwyr gyda ni a'r cyfoeth o gyfleoedd - cymdeithasol, diwylliannol a phroffesiynol - a oedd ar gael iddynt.

Mae Ysgol y Gymraeg yn gymuned glòs gyda dulliau dysgu arloesol a safonau uchel. Mae’r holl staff mor gefnogol, angerddol, brwdfrydig ac yn barod i helpu bob amser, ac wedi gwneud y darlithoedd yn bleserus, sbarduno fy niddordeb mewn gwahanol feysydd ac wedi gwneud yr Ysgol yn lle cyffrous i astudio.
Ellie-Jo Thomas BA yn y Gymraeg

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Female students studying in single booths

Profiad campws diogel ar gyfer 2020/21

Rydym wrthi'n rhoi mesurau amddiffynnol ar waith i sicrhau bod eich amser gyda ni’n ddiogel ac yn bleserus yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Student in halls bedroom

Gwarant o lety

Os byddwch yn cyrraedd ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Y camau nesaf

academic-school

Edrychwch ar ein holl gyrsiau Cymraeg

Cymerwch olwg ar ein cyrsiau israddedig ar gyfer 2021.

Download icon

Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion

Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.

mobile-message

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Cyflwyno cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.