
Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth
Byddwch yn archwilio’r hanes, y diwylliannau a’r credoau sydd ynghlwm wrth draddodiadau crefyddol mawr a rhai llai adnabyddus, yn eich modd eich hun gyda’n graddau cyfoethog a boddhaus.
Sesiynau galw heibio am sgwrs fyw
Rydym yma i ateb eich holl gwestiynau, felly ymunwch ag un o'n sgyrsiau.
-
Astudio Crefydd a Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd (gweminar)
Mae'r digwyddiad hwn ar ben18 Tachwedd, 16:00 - 17:00
-
Beth allwch ei wneud gyda gradd yn y Dyniaethau (gweminar gyda chynfyfyrwyr)
Mae'r digwyddiad hwn ar ben18 Tachwedd, 17:00 - 17:30
Pam astudio gyda ni?
A ninnau’n chwilfrydig am y profiad dynol ar draws milenia a diwylliannau, rydym am ddeall ein gorffennol yn well er mwyn taflu goleuni ar y presennol er budd ein dyfodol. Rydym yn gymuned academaidd ymofyngar, angerddol dros astudio’r gorffennol a chredoau cyn-hanesyddol i gymdeithasau cyfoes.
Ar ôl graddio
Roedd 96% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis (DLHE 2016/17).
Ein hymchwil
Rydym yn y 10fed safle am ymchwil arwyddocaol, drylwyr a gwreiddiol ym maes Astudiaethau Crefyddol (REF 2014).
Hyblygrwydd
Cewch deilwra eich rhaglen gan gyfuno dulliau thematig, cymdeithasol, gwyddonol, ieithyddol a hanesyddol.
Ein sgyrsiau a'n fideos
Astudio crefydd a diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae ein cyflwyniad diwrnod agored rhithwir yn rhoi cipolwg ar ein cyrsiau astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth, sut rydym yn addysgu, a’r cyfleoedd ychwanegol sydd ar gael yn rhan o’ch gradd.
Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd
Cewch glywed gan academyddion a myfyrwyr am sut beth yw astudio crefydd a chred gyda ni.
Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Phrifysgol Caerdydd
Rhagor o wybodaeth am astudio yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Y rheswm roeddwn i wrth fy modd â fy mhwnc oedd oherwydd nad ydych chi’n dysgu am grefydd yn unig. Rydych chi’n dysgu am bobl, y gyfraith, cymdeithas a hanes. Mae Caerdydd yn lle amrywiol: y ffrindiau a’r cydberthnasau yw’r pethau agosaf at fy nghalon.

Canolfan ragoriaeth arloesol o fri rhyngwladol
Cynhelir y rhan fwyaf o’n darlithoedd, ein tiwtorialau a’n seminarau yn ein cartref, sef Adeilad John Percival.
Mae Llyfrgell y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol drws nesaf i ni, sy’n gartref i’n Casgliadau Arbennig o fri, yn ogystal ag amrywiaeth eang o ffynonellau cynradd ar gyfer astudio crefyddau’r byd.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Pori drwy ein cyrsiau israddedig ym maes astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth
Edrychwch ar ein cyrsiau ar gyfer 2021.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i gyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.