Ewch i’r prif gynnwys

Sesiynau galw heibio sgwrsio byw

Croeso cynnes

Mae astudio eich rhaglen yn golygu y byddwch yn rhan o Ysgol gyfeillgar y Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae'r Athro David Whitaker, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, yn eich croesawu i'n Diwrnod Agored Rhithwir.

Pam y dylech astudio gyda ni

rosette

1af yn y DU

Yn ôl y Complete University Guide 2021 ein rhaglen Radiotherapi ac Oncoleg (BSc) yw’r un orau yn y DU (*fel sefydliad sy’n cynnig Radiotherapi ac Oncoleg o dan y categori Technoleg Feddygol).

star

Bodlonrwydd myfyrwyr

Cawsom 100% o adborth cadarnhaol am ein cwrs gan fyfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2019.

globe

Rydym yn rhyngwladol

Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol.

location

Ein lleoliad

Mae prif adeilad ein Hysgol yng nghalon ysbyty mwyaf Cymru – felly byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd gofal iechyd go iawn o'r diwrnod cyntaf un.

tick

Caiff ein rhaglen ei hariannu

Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.

building

Ein cyfleusterau

Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.

Ein sgwrs

Mae'r Tiwtor Derbyn Radiotherapi ac Oncoleg (BSc), Paul Brown, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.

Rwy’n dwlu ar astudio radiograffeg yng Nghaerdydd oherwydd bod y cwrs yn gyfuniad o ddysgu academaidd a dysgu clinigol. Gallwch fod yn astudio oncoleg organ un wythnos, a’r wythnos nesaf, byddwch yn rhoi’r ddealltwriaeth sydd gennych ar waith mewn adran.
Sophie Myfyriwr Radiotherapi ac Oncoleg (BSc)

Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr

Mae Jordan, sy'n fyfyriwr Radiotherapi a Oncoleg (BSc), yn sôn am ei brofiad o astudio gyda ni.

Mae'r lleoliadau'n wych ac rydych chi'n cael rhoi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith yn syth.
Jake Myfyriwr Radiotherapi ac Oncoleg (BSc)

Ystafell Efelychu Caerllion

Mae ein hystafell efelychu yn adlewyrchu lleoliadau clinigol sy'n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau a phrofiad allweddol.

LT1

Darlithfa

Mae ein darlithfa wedi'i hadnewyddu yn cynnal sesiynau addysgu mawr.

Llyfrgell Campws y Mynydd Bychan

Mae adnoddau addysgol ar gyfer ein rhaglenni iechyd gofal ar gael yn ein llyfrgell ar y safle.

Lolfa IV

Mae ein man hamdden a chaffeteria hefyd yn gartref i Undeb Myfyrwyr ar Gampws y Mynydd Bychan.

Dewch i fod yn rhan o rywbeth arbennig

Ydych chi am ddewis cwrs sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn? Gyda chyrsiau hygyrch, darlithwyr ysbrydoledig, a gwneud ffrindiau oes, rhyddhewch eich potensial gyda ni a dechrau gyrfa y byddwch chi'n ymfalchïo ynddo.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Female students studying in single booths

Profiad campws diogel ar gyfer 2020/21

Rydym wrthi'n rhoi mesurau amddiffynnol ar waith i sicrhau bod eich amser gyda ni’n ddiogel ac yn bleserus yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Student in halls bedroom

Gwarant o lety

Os byddwch yn cyrraedd ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni

Download icon

Lawrlwythwch lyfryn ein Hysgol

Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.

icon-chat

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

mobile-message

Dilynwch ni ar Twitter

I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.

Gallai fod diddordeb gennych hefyd yn