Ewch i’r prif gynnwys

Beth sy'n ein gwneud ni'n unigryw?

Pam astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?

Yn y cyflwyniad hwn, byddwn yn sôn am beth sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio gyda ni.

O’i bri academaidd o fod yr unig Brifysgol Gymreig yng Ngrŵp Russell, i gyfleoedd cymdeithasol a byw yn y brifddinas, cewch ragor o wybodaeth am pam mae cymaint o fyfyrwyr yn syrthio mewn cariad â Phrifysgol Caerdydd.

Virtual tour

Ewch ar daith 360 o'r brifysgol

Gweld ein cyfleusterau blaenllaw a chlywed gan ein myfyrwyr presennol.

Graduates in St David's Hall

Rhesymau dros astudio gyda ni

Dewch i wybod pam y dylech ein dewis ni ar gyfer eich astudiaethau israddedig.

Byw yng Nghaerdydd

Mae ein myfyrwyr wedi’u hudo gan brifddinas Cymru. Dewch i ddarganfod pam.

Main Building - Autumn

Ein campysau

Mae gennym ddau gampws: Parc Cathays yng nghanol y ddinas, a Pharc y Mynydd Bychan, cartref Ysbyty Athrofaol Cymru.

briefcase

Y graddedigion y mae’r galw mwyaf amdanynt yn y DU

Roedd 96% o'n graddedigion mewn cyflogaeth, a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).

academic-school

Un o'r prifysgolion harddaf yn y DU - (Times Higher Education 2018)

Byddwch yn astudio mewn prifddinas sy’n enwog am ei chyfeillgarwch, ei diwylliant a’i mannau gwyrdd - mae gennym fwy o fannau gwyrdd y pen nag unrhyw ddinas graidd arall yn y DU.

bike

Campws sy'n hawdd ei grwydro

Mae Castell Caerdydd ac ardaloedd siopa'r ddinas o fewn tafliad carreg o'n campws Cathays.

Taith campws Parc Cathays'

Ein campws ym Mharc Cathays, lle mae'r rhan fwyaf o'n Hysgolion Academaidd wedi'u lleoli, sy'n cynnwys llwybrau â choed uchel bob ochr iddynt ac adeiladau cerrig Portland cain.

Ceisiadau a derbyn myfyrwyr

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Byddwn yn eich tywys drwy’r broses ymgeisio gyda Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS). Mwy o wybodaeth am wneud cais ac ysgrifennu datganiad personol.

Cyflwyno cais i'r brifysgol

Yn y cyflwyniad hwn, byddwn yn sôn am wahanol elfennau’r broses o wneud cais, terfynau amser UCAS, sut mae gwneud cais, y mathau o gynigion a wneir a sut mae ymateb. Byddwn hefyd yn trafod y ffurflen gais, gwallau cyffredin ac yn cynnig cyngor ynghylch gwneud cais llwyddiannus.

Llety

Dechreuwch eich bywyd fel myfyriwr mewn amgylchedd difyr, bywiog, gan gwrdd â llwyth o bobl newydd o wahanol gefndiroedd. Bydd pob myfyrwyr sydd wedi derbyn cynnig cadarn neu gynnig yswiriant yn cael gwarant o ystafell wely deiliadaeth sengl yn ein preswylfeydd, cyn belled ag y byddant yn cadw at y terfynau amser sy'n gysylltiedig.

Llety Prifysgol Caerdydd

Yn y cyflwyniad hwn, cewch wybod sut i wneud cais am lety, yn ogystal â manylion am ein neuaddau a'n tai preswyl. Byddwn hefyd yn sôn am sut rydym yn prosesu ceisiadau a phryd byddwch yn debygol o gael cynnig am eich ystafell.

Undergraduate students walking outside halls

Porwch drwy ein llety

Cymryd cipolwg 360 gradd y tu mewn i’n neuaddau a’n tai, a chymharu prisiau, lleoliadau a rhagor.

Neuaddau Preswyl

Bywyd mewn llety myfyriwr

Ymdrwythwch mewn cymuned gefnogol, groesawgar a chymryd rhan mewn digwyddiadau i’ch helpu i ymgartrefu.

Eight smiling people - seven of whom are students - standing in two rows and wearing red sweatshirts that say 'Residences Life',

Ein Tîm Bywyd Preswyl

Mae ein tîm o fyfyrwyr presennol yn cynnig cefnogaeth i’w cymheiriaid ac yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau diwylliannol drwy gydol y flwyddyn.

Cyllid myfyrwyr

I gael gwybodaeth am ba gyllid sydd ar gael i'ch helpu i dalu ffioedd dysgu a chostau byw, ewch i'n tudalen wybodaeth cyllid israddedig . Yma fe welwch fanylion am y cyllid sydd ar gael yn dibynnu ar y cwrs rydych yn bwriadu ei astudio a ble rydych yn byw fel arfer.

Angen cymorth arbenigol? Gall ein Tîm Cyngor ac Arian eich helpu i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau heriol y gallech eu hwynebu sy’n ymwneud â chyllid myfyrwyr.

Woman studying and using a calculator

Ffioedd dysgu

Mae’r rhain yn talu am yr holl ffioedd dysgu, costau hanfodol y cwrs, cofrestru ac arholiadau.

Undergraduate student having a conversation

Y tîm Cyngor ac Arian

Gall ein myfyrwyr gael gafael ar gyngor rhad ac am ddim, diduedd a chyfrinachol ar ystod eang o faterion ariannol.

A student shopping in a mini mart

Cyfrifiannell costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Cefnogi a lles myfyrwyr

O gwnsela a chyngor gyrfaol i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol, rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau y gallwch gael gafael arnynt yn ystod eich amser yma, neu ar ôl i chi raddio.

Cyflwyniad i’n Gwasanaeth Anableddau a Dyslecsia

Mae gennym fwy na 3,000 o fyfyrwyr cofrestredig yn defnyddio ein gwasanaethau. Os ydych yn teimlo y gallai fod angen cefnogaeth arnoch yn y brifysgol, neu os ydych wedi cael cefnogaeth yn flaenorol ac eisiau iddi barhau, gwyliwch y cyflwyniad hwn i gael rhagor o wybodaeth am beth allwn ni ei wneud i chi.

Students studying in a lecture theatre

Cyngor i ymgeiswyr anabl

Pethau i'w hystyried cyn i chi wneud cais a gwybodaeth am sut i wneud addasiadau unigol ar gyfer eich cyfnod yn y brifysgol.

Students standing in the back of Main Building

Cynllun Mentor Myfyrwyr

Fel myfyriwr israddedig yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael mentor sy’n fyfyriwr, fydd yn eich helpu i ddod i arfer â bywyd yn y Brifysgol.

Student Advice

Cyngor gyrfaol yn ystod eich astudiaethau

Gallwn eich helpu i ddechrau busnes, trefnu profiad gwaith yn ystod eich gradd, dod o hyd i swydd a gallwn gynnig cefnogaeth yrfaol wedi’i theilwra atoch chi.

Myfyrwyr Rhyngwladol ac o’r UE

Gyda thros 7,900 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 130 o wledydd, rydym yn brifysgol fyd-eang go iawn.

I’ch helpu i fwrw eich gwreiddiau ym mywyd y myfyrwyr, mae ein tîm cefnogi myfyrwyr rhyngwladol yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau croesawu, ac yn trefnu gwasanaeth coets rhad ac am ddim o feysydd awyr Heathrow a Chaerdydd pan fyddwch yn cyrraedd. Maent hefyd yn cynnig cyngor arbenigol ar amrywiaeth eang o faterion ariannol, mewnfudo a lles.

Gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol

Yn y cyflwyniad hwn, mae ein Swyddfa Ryngwladol yn cynnig cyngor defnyddiol, ac yn dangos pam bod Prifysgol Caerdydd, a'r brifddinas ei hun, yn lleoliad perffaith i astudio, gweithio ac i fyw ynddo.

Flags of the world

Canllawiau yn benodol i'ch gwlad

Mwy o wybodaeth am ofynion mynediad, cefnogaeth o fewn eich gwlad, digwyddiadau a mwy.

Group of international students talking

Cymorth iaith Saesneg

Os oes angen i chi wella eich sgiliau iaith Saesneg, mae gennym ystod o gyrsiau i’ch helpu i fodloni ein gofynion iaith Saesneg.

Student looking at wiring

Rhaglenni Sylfaen a Chyn-Meistr

Gall rhaglen sylfaen neu gyn-meistr ddarparu llwybr amgen i chi i'n cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig.

Astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor

Ni waeth beth fo eich cwrs, gallwch fachu ar y cyfle i fynd dramor, lle gallwch ddarganfod diwylliannau newydd, dysgu iaith newydd a gwneud ffrindiau oes. Mae gennym gysylltiadau â thros 300 o sefydliadau, ac mae ein myfyrwyr wedi ymweld â thros 50 gwlad y llynedd, yn Ewrop a thu hwnt. Rydym yn cynnig ystod o fwrsariaethau hefyd, i helpu i dalu am y costau.

Treulio amser dramor gyda Chyfleoedd Byd-eang

Yn y cyflwyniad hwn, bydd ein Tîm Cyfleoedd Byd-eang yn cyflwyno’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael ac yn ystyried y manteision o gael profiad rhyngwladol.

Intern Colombia

Eich cyfle i weld y byd

Dod o hyd i’ch antur nesaf, herio eich hun a hybu eich gyrfa.

Camp America

Blogiau ein teithwyr ledled y byd

Dewch i gwrdd â'n myfyrwyr sydd wedi treulio amser yn gweithio, astudio neu wirfoddoli dramor.

Dysgwch iaith am ddim

Ochr yn ochr â’ch prif raglen gradd, gallwch gymryd un o’n cyrsiau Ieithoedd i Bawb rhad ac am ddim mewn Arabeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Japaneg, Tsieinëeg Mandarin, Portiwgaleg, Rwsieg a Sbaeneg. Os hoffech chi ddysgu Cymraeg, gallwch gofrestru am gwrs Cymraeg i Bawb, sydd hefyd yn ffitio o gwmpas eich ymrwymiadau academaidd.

Rydym yn darparu ar gyfer pob gallu, o gyrsiau i ddechreuwyr i rheiny o safon uwch.

Gwyliwch y cyflwyniad diwrnod agored hwn i ddysgu mwy am y cyrsiau hyn, sy'n eich galluogi i ddysgu iaith newydd neu i wella sgiliau iaith sydd gennych eisoes, yn rhad ac am ddim.

Ieithoedd i Bawb - Cyrsiau iaith rhad ac am ddim i fyfyrwyr

Gwyliwch y cyflwyniad diwrnod agored hwn i ddysgu mwy am y cyrsiau hyn, sy'n eich galluogi i ddysgu iaith newydd neu i wella sgiliau iaith sydd gennych eisoes, yn rhad ac am ddim.

Yn y cyflwyniad hwn, byddwn yn sôn am y cwrs Cymraeg i Bawb, sy'n gyfle gwych i astudio'r Gymraeg ac i ddysgu am hanes a diwylliant Cymru yn ystod eich cyfnod yma. Mae cyrsiau dwys yn cael eu haddysgu wyneb yn wyneb; cynigir cyrsiau wythnosol ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Cymraeg i Bawb

Yn y cyflwyniad hwn, byddwn yn sôn am y cwrs Cymraeg i Bawb, sy'n gyfle gwych i astudio'r Gymraeg ac i ddysgu am hanes a diwylliant Cymru yn ystod eich cyfnod yma. Mae cyrsiau dwys yn cael eu haddysgu wyneb yn wyneb; cynigir cyrsiau wythnosol ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Student at table in Students Union

Ein cyrsiau Ieithoedd i Bawb

Agorwch fyd o leoliadau newydd, diwylliannau sy'n ysbrydoli, a dewisiadau cyffrous yn eich gyrfa drwy gofrestru ar gyfer un o'n cyrsiau iaith yn rhad ac am ddim.

Undergraduate

Ein cwrs Cymraeg i Bawb

Mae llawer o gyflogwyr a chwmnïau’n chwilio am raddedigion sy'n gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a dyma eich cyfle i fanteisio ar ddarpariaeth arbenigol a phroffesiynol.

Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae gennym bron 100 o gyrsiau gradd - gan gynnwys y rheiny ym meysydd meddygaeth, y gyfraith a newyddiaduraeth - sy’n cynnig rhai neu bob un o’u modiwlau yn Gymraeg. Mae byw mewn prifddinas ddwyieithog yn golygu y byddwch hefyd yn cael llawer o gyfleoedd i brofi diwylliant Cymraeg bywiog, ar y campws ac oddi arni.

Darllewch am sut yr ydym yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygiad yr iaith Gymraeg. Ac os ydych am ddysgu Cymraeg, gallwch gofrestru ar gyfer ein cwrs Cymraeg i Bawb, fel y gallwch ddysgu’r iaith, yn rhad ac am ddim, ochr yn ochr â’ch astudiaethau

Dylech nodi mai yn Gymraeg yn unig y mae'r fideos a'r cyflwyniadau ar gael.

Defnyddio'ch Cymraeg yn y brifysgol

Yn y cyflwyniad hwn, cewch wybodaeth am y math o gyrsiau sydd ar gael i'w hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chipolwg o fywyd cymdeithasol ein myfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Mae'n esbonio'r mantais o astudio rhan o'i gwrs Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyma Ben, llysgennad y Coleg Cymraeg

Mae'n esbonio'r mantais o astudio rhan o'i gwrs Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pwy yw pwy ymysg swyddogion cymdeithasau Cymraeg y Brifysgol.

Cwrdd â'r myfyrwyr

Pwy yw pwy ymysg swyddogion cymdeithasau Cymraeg y Brifysgol.

Mae Siwan ac Elen yn sôn am eu profiadau o astudio drwy'r Gymraeg a'r effaith mae defnyddio'r Gymraeg yn ei gael ar gleifion.

Pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y maes nyrsio

Mae Siwan ac Elen yn sôn am eu profiadau o astudio drwy'r Gymraeg a'r effaith mae defnyddio'r Gymraeg yn ei gael ar gleifion.

2015 Creative Minds Scholarship winners

Rhesymau dros astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Gwellwch eich opsiynau o ran gyrfa ac astudio, yn ogystal ag agor y drws at fyd newydd yn y brifysgol a thu hwnt.

Pobl Caerdydd stand at Tafwyl 2014

Cymryd rhan

Mae’r holl glybiau, cymdeithasau, gigs, gwyliau a chyfleoedd eraill yn agored i’r myfyrwyr hynny sy’n caru diwylliant Cymraeg.

Student lying across three other students

Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Cangen Caerdydd

Mae cangen Caerdydd y corff cenedlaethol hwn yn gyfrifol am ddatblygu addysg ac ysgoloriaethau Cymraeg yn y Brifysgol.

Chwaraeon

Mae cyfleoedd diderfyn i chi gymryd rhan - ar y campws ac oddi arno - p’un ai cynghrair pêl-droed 7 yr ochr, parhau â’ch gyrfa chwaraeon elît neu heicio llwybr arfordirol 870 milltir o hyd Cymru.

Mae ein cyfleusterau ar bedwar safle ar y ddau gampws, ac yn cynnwys pentref ymarfer, pwll nofio, canolfan ffitrwydd a sboncen, a chaeau chwarae 33 erw.

Rydym wrthi'n trefnu'r addasiadau angenrheidiol ar gyfer ein cyfleusterau chwaraeon ar gyfer eleni, ond roedden am rhoi blas i chi o beth sydd gennym i'w gynnig. Dylech nodi efallai na fydd modd cynnal rhai gweithgareddau ar hyn o bryd oherwydd y sefyllfa bresennol.

Cymryd rhan mewn Chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd

Trosolwg o'r cyfleoedd sydd ar gael ym maes chwaraeon ym Mhrifysgol Caedydd, p'un ai ydych yn bwriadu ymuno â chlwb chwaraeon, ymuno ag un o'n campfeydd, am gymryd rhan mewn modd hamddenol, neu'ch bod chi'n athletwr o'r safon uchaf.

Cofiwch y gallai rhywfaint o'r wybodaeth yn y fideos hyn fod yn hen erbyn hyn. Dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cyfleusterau chwaraeon.

Dyma syniad i chi o'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael, waeth beth yw eich gallu.

Chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd

Dyma syniad i chi o'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael, waeth beth yw eich gallu.

Gallwn helpu myfyrwyr sy’n athletwyr i barhau â’u gyrfaoedd chwaraeon ochr yn ochr â'u haddysg.

Ein Rhaglenni Perfformiad Uchel

Gallwn helpu myfyrwyr sy’n athletwyr i barhau â’u gyrfaoedd chwaraeon ochr yn ochr â'u haddysg.

Dyma ddigwyddiad chwaraeon mwyaf y genedl i fyfyrwyr ac mae’n cynnwys timau o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wrth iddynt gystadlu mewn dros 30 o chwaraeon gwahanol o flaen 15,000 o gefnogwyr.

Gornest Prifysgolion Cymru

Dyma ddigwyddiad chwaraeon mwyaf y genedl i fyfyrwyr ac mae’n cynnwys timau o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wrth iddynt gystadlu mewn dros 30 o chwaraeon gwahanol o flaen 15,000 o gefnogwyr.

Y camau nesaf

screen

Ymunwch â ni ar Facebook

Cadwch i'r funud o ran beth sy'n digwydd ar y campws

cursor

Dilynwch ni ar Instagram

Tagiwch eich lluniau gyda @cardiffuni a #cardiffuni er mwyn i ni eu rhannu.

people

Darllenwch ein blogiau myfyrwyr

Mae ein myfyrwyr sy’n ysgrifennu blogiau yn cofnodi eu profiadau ac yn fodlon ateb eich cwestiynau.

icon-contact

Cysylltu

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.


Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.

Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.