
Y Gwyddorau Cymdeithasol
Cewch astudio mewn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ddynamig, ryngddisgyblaethol ac arloesol ag iddi enw da rhyngwladol am ragoriaeth ymchwil.
Sesiynau byw
Rydym yma i ateb eich holl gwestiynau, felly ymunwch ag un o'n sgyrsiau neu wyliwch ein gweminar.
Pam astudio gyda ni?
Mewn byd sy’n gynyddol fyd-eang ac yn newid yn gyflym, nid yw erioed wedi bod yn bwysicach deall ymddygiad, agweddau a chymhelliant pobl a sut y caiff cyfle a llwyddiant eu llywio gan ein rhyngweithiadau â’r sefydliadau a’r strwythurau sy’n ein hamgylchynu.
Lleoliadau ac astudio dramor
Estynnwch eich astudiaeth i bedair blynedd, gan dreulio blwyddyn ar leoliad proffesiynol neu’n astudio dramor.
Ymchwil ragorol
Gosodwyd ni yn y 3ydd safle yn y DU ar gyfer ein hymchwil mewn Cymdeithaseg (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
Cyflogadwyedd
Roedd 94% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio. (DLHE 2016/17)
Ein sgyrsiau a'n fideos
Astudio'r gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae ein cyflwyniad diwrnod agored rhithwir yn cynnig cipolwg ar ein cyrsiau israddedig yn y Gwyddorau Cymdeithasol, sut rydym ni'n addysgu, a’r cyfleoedd ychwanegol sydd ar gael yn rhan o’ch gradd.
Gallwch hefyd wylio ein fideos am y gwyddorau cymdeithasol ar ein rhestr chwarae YouTube.
Uchafbwynt fy ngradd oedd gwneud fy nhraethawd hir, gan fy mod yn ddigon lwcus i gael y cyfle i fynd i Seland Newydd am leoliad dros haf fy ail flwyddyn. Roeddwn i ym Mhrifysgol Auckland yn gwneud gwaith ymchwil mewn ysgolion.

Caiff ein haddysgu ei lywio a’i danategu gan yr ymchwil a’r ysgolheictod academaidd diweddaraf
Cydnabyddir bod ymchwil yn yr Ysgol yn rhagorol yn rhyngwladol, ac yn cael effaith uniongyrchol ar bolisi ac arfer ar draws y byd. Mae llawer o'n staff yn gweithredu fel cynghorwyr i sefydliadau rhyngwladol, seneddau San Steffan ac Ewrop, a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â sefydliadau sector cyhoeddus a sector preifat.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein holl gyrsiau y Gwyddorau Cymdeithasol
Cymerwch olwg ar ein cyrsiau israddedig ar gyfer 2021.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.