Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarniad Cyfle i Geiswyr Lloches

Mae ceiswyr lloches a phlant i geiswyr lloches yn aml yn methu â chael mynediad at gymorth cyllid myfyrwyr arferol y DU. Mae dau ddyfarniad ar gael i helpu myfyrwyr cymwys.

Pwy sy’n gymwys

Mae ein Dyfarniad Cyfle yn talu am gost ffioedd dysgu ac yn rhoi grant nad yw’n ad-daladwy o £4,000 y flwyddyn i gefnogi costau byw. Bob blwyddyn rhoddir y wobr i ddau fyfyriwr israddedig sydd â chynnig diamod neu amodol i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn derbyn ceisiadau gan y rhai sydd naill ai'n geiswyr lloches neu'n blant i geiswyr lloches sy'n byw yn y DU.

Noder, ni fydd myfyrwyr sy’n astudio Gwyddorau Gofal Iechyd, Deintyddiaeth neu Feddygaeth yn gymwys am y dyfarniad hwn. Nid yw cyrsiau'r GIG ychwaith yn dod o dan y Dyfarniad Cyfle ond gallwch wneud cais i Ymddiriedolaeth Schwab Westheimer am gymorth.

Os bydd eich cais am loches yn llwyddiannus, efallai y bydd cyllid ar gael i chi drwy Gyllid Myfyrwyr. Felly, ni fyddai’r Dyfarniad Cyfle yn gymwys mwyach.

Swm a ddyfarnwyd

Mae dau ddyfarniad ar gael. Byddant yn talu am gost ffioedd dysgu ac yn rhoi grant nad yw'n ad-daladwy o £4,000 y flwyddyn i gefnogi eich costau byw. Byddwch hefyd yn cwrdd, ac yn cael cymorth gan, gynghorydd a all eich helpu wrth bontio i Addysg Uwch.

Rhagor o wybodaeth

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer blwyddyn academaidd 22/23 a byddant yn cau ar 13 Mehefin 2022. I gael rhagor o fanylion am y dyfarniad hwn a'r broses ymgeisio, cysylltwch â Lena Smith.