Sbaeneg ac Economeg (BA)
- Meysydd pwnc: Economeg, Ieithoedd modern a chyfieithu
- Côd UCAS: LR14
- Derbyniad nesaf: Medi 2023
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn
Treuliwch flwyddyn dramor
Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd wrth i chi ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith.
Wedi'i deilwra i’ch gallu
Mae modd astudio ein holl ieithoedd ar lefel dechreuwr neu uwch ac nid oes angen cymhwyster Safon Uwch.
Rhyddid i ddewis
Enillwch brofiad ar leoliad gwaith, gweithiwch fel cynorthwyydd dysgu neu dewiswch astudio yn ystod eich blwyddyn dramor.
Ystafell fasnachu o’r radd flaenaf
Paratowch eich hun ar gyfer masnachu a rheoli risg mewn amgylchedd rheoledig gydag Investor Simulations, TRETS a Bloomberg.
Wedi'i deilwra i’ch diddordebau
Arbenigwch mewn economeg ddiwydiannol, hanes economaidd, economeg llafur neu economeg ryngwladol.
Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol Busnes Caerdydd yw addysgu ein myfyrwyr i fod yn 'ddinasyddion byd-eang'. Drwy astudio Sbaeneg ac Economeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn atyniadol i weithlu cynyddol fyd-eang ac agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.
Mae’r radd pedair blynedd mewn Sbaeneg ac Economeg yn cyfuno prif elfennau (modiwlau ac addysgu) Economeg ag astudio’r iaith Sbaeneg a’i diwylliant. Bydd y rhaglen yn rhoi sylfaen cadarn i chi o ran theori, cysyniadau, egwyddorion a thechnegau ym meysydd creiddiol y pwnc: macro-economeg, micro-economeg a dadansoddi meintiol. Amcan hyn yw rhoi gwybod i chi sut y mae economi'r Deyrnas Unedig yn gweithio, a'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau. Mae hefyd yn ceisio rhoi lefel uchel o gymhwysedd mewn Sbaeneg a gwybodaeth am economi Sbaen.
Byddwn yn cyflwyno ehangder a dyfnder dadansoddiad economaidd i chi ac yn cynnig cyfle i chi gaffael gwybodaeth a thechnegau ar draws nifer o feysydd arbenigol. Mae astudio economeg yn darparu hyfforddiant trylwyr a all fod yn sylfaen ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.
Drwy astudio Sbaeneg ac Economeg, mae'r rhaglen yn annog amrywiaeth o sgiliau penodol i’r maes a chraidd trosglwyddadwy a fydd o werth i chi mewn addysg yn y dyfodol ac yn eich gyrfa ddilynol.
Wrth i’r Undeb Ewropeaidd ddatblygu, mae sgiliau iaith yn dod yn fwyfwy atyniadol i gyflogwyr. Bydd astudio Economeg gyda Sbaeneg yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer gyrfa mewn Economeg, gan ddarparu gwybodaeth gadarn i chi am ddamcaniaethau, cysyniadau, egwyddorion a thechnegau’r ddisgyblaeth. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi mantais ychwanegol i chi drwy gaffael iaith.
Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i hategu gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.
Mae'r flwyddyn gyntaf yn darparu’r Economeg hanfodol a modiwlau cysylltiedig sy'n sail i radd mewn Economeg ynghyd â modiwlau yn yr iaith Sbaeneg a’i diwylliant.
Mae’r ail flwyddyn yn datblygu’r sylfaen hon, gan roi pwysoliad cyfartal i Economeg a phynciau Sbaenaidd. Byddwch yn parhau i ganolbwyntio ar fodiwlau craidd mewn Economeg, tra bydd yr elfen iaith Sbaeneg yn canolbwyntio ar eich sgiliau cyfathrebu. Yn eich ail flwyddyn yn astudio Economeg byddwch yn astudio modiwlau gorfodol mewn micro-economeg a macro-economeg. Byddwch yn dewis eich 20 credyd sy'n weddill o blith rhestr o'r modiwlau Sbaeneg dewisol.
Treulir eich trydedd flwyddyn yn Sbaen yn astudio modiwlau sy’n gyfwerth â 120 o gredydau mewn amrywiaeth o bynciau cyfrifyddu, busnes ac economeg yn Sbaeneg.
Mae Sbaen yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Sbaeneg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig.
Yn y bedwaredd flwyddyn byddwch yn astudio ar gyfer 60 credyd o fodiwlau dewisol sy'n gysylltiedig ag Economeg, ynghyd â 30 o gredydau yn yr iaith Sbaeneg a 30 credyd o fodiwlau dewisol Sbaeneg.
Yn gyffredinol, mae'r radd mewn Sbaeneg ac Economeg eich paratoi chi ar gyfer gyrfa mewn Economeg neu fusnes rhyngwladol gyda'r gallu i weithio yn Sbaeneg yn ogystal ag yn Saesneg.

Maes pwnc: Economeg
Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBB. Os oes gennych radd B mewn Sbaeneg Safon Uwch bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Os oes gennych radd 6 mewn Sbaeneg ar Lefel Uwch bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol. Os oes gennych radd B mewn Sbaeneg Safon Uwch yn ychwanegol at neu mewn cyfuniad â BTEC bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.
Lefel T
D mewn Lefel T mewn unrhyw bwnc.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Mae proffil pob ymgeisydd yn cael ei ystyried fel darlun cyflawn, gan ystyried eich diddordeb yn y radd a pha mor addas yr ydych ar ei chyfer, fel y dangosir yn eich datganiad personol ac adroddiad y canolwr, yn ogystal â graddau a ragwelwyd ac a gyflawnwyd. Asesir eich gallu i gyflwyno dadl, tystiolaeth o chwilfrydedd deallusol a’ch brwdfrydedd a’ch ymrwymiad i astudio.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,000 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,000 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £1,350 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £20,450 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £3,068 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £20,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r gwerslyfrau craidd a argymhellir, y geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae BA Sbaeneg ac Economeg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael lefel uchel o gymwyseddau iaith ac economaidd dros flynyddoedd olynol, ynghyd â sgiliau i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.
Ym mhob blwyddyn o’r rhaglen byddwch yn astudio 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 o gredydau mewn Economeg a 60 o gredydau mewn Sbaeneg. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yn Sbaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Sbaeneg.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023
Blwyddyn un
Ym mlwyddyn un byddwch yn astudio am 60 credyd mewn modiwlau economeg craidd ac un modiwl gorfodol o 40 credyd yn yr iaith Sbaeneg a modiwl trawsfudol 20 credyd, gan ddarparu sail gadarn i chi ar gyfer tair blynedd nesaf eich rhaglen radd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Applied Stats and Maths in Econ and Business | BS1501 | 20 Credydau |
Microeconomics | BS1551 | 20 Credydau |
Macroeconomics | BS1652 | 20 Credydau |
Understanding Hispanidad in a Global Context | ML0187 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Advanced Spanish Language Year 1 | ML0188 | 40 Credydau |
Beginners Spanish Language Year 1 | ML0189 | 40 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae'n ofynnol i chi astudio modiwlau sy’n cyrraedd cyfanswm o 120 o gredydau yn yr ail flwyddyn. Mae'r ail flwyddyn yn datblygu ar sylfaen blwyddyn un, gan roi pwysoliad cyfradd o 60 credyd rhwng pynciau iaith a busnes. Byddwch yn parhau i ganolbwyntio ar fodiwlau Economeg gorfodol mewn micro-economeg a macro-economeg, tra bydd yr elfen iaith yn canolbwyntio ar eich sgiliau cyfathrebu yn yr iaith Sbaeneg, gan ddarparu’r paratoad delfrydol ar gyfer y drydedd flwyddyn, a gaiff ei threulio dramor.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Macroeconomic Theory | BS2549 | 20 Credydau |
Microeconomic Theory | BS2550 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ex-Advanced Language Year 2 Spanish | ML0279 | 30 Credydau |
Ex-Beginners Language Year 2 Spanish | ML0280 | 30 Credydau |
British Economy | BS2547 | 20 Credydau |
Money Banking and Finance | BS2551 | 20 Credydau |
Economics of the EU | BS2558 | 20 Credydau |
Managerial Economics | BS2560 | 20 Credydau |
Introductory Econometrics | BS2570 | 20 Credydau |
State, Business and the British Economy in the Twentieth Century | BS2572 | 20 Credydau |
The World & Language of Business (Spanish Ex-Beginners) | ML0268 | 30 Credydau |
Cultures in Context (Spanish) | ML0282 | 30 Credydau |
The World & Language of Business (Spanish) | ML0283 | 30 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Treulir blwyddyn tri yn Sbaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Sbaeneg. Bydd y flwyddyn yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Sbaenaidd a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwydnwch.
Mae eich dewisiadau yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy Gynllun y Cyngor Prydeinig, neu weithio i sefydliad neu gwmni Sbaenaidd. Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.
Os byddwch yn dewis yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd sydd wedi cynnwys Valencia, Barcelona a Seville.
Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y British Council fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r British Council yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.
Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Sbaeneg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Sbaeneg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.
Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.
Mae astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad (Spanish, Spring) | ML0090 | 60 Credydau |
Intercalary Semester Abroad: Work Placement (Spanish, Spring) | ML0093 | 60 Credydau |
Intercalary Semester Abroad: Work Placement | ML0097 | 60 Credydau |
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad | ML0099 | 60 Credydau |
Sandwich Year Project (Autumn Semester) | ML1240 | 60 Credydau |
Sandwich Year Project (Spring Semester) | ML1241 | 60 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Pan fyddwn yn eich croesawu chi yn ôl i Gaerdydd yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio ar gyfer 60 credyd o fodiwlau Economeg dewisol. Cymerir modiwl 30 credyd gorfodol yn iaith Sbaeneg hefyd, ynghyd â modiwl 30 credyd dewisol mewn Sbaeneg.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
High-Level Proficiency in Spanish Language | ML0366 | 30 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Tra bo ein staff, a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth o fewn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil diweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn a chyfoes. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.
Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.
Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a seminarau yn bennaf, er y bydd eich modiwlau Sbaeneg hefyd yn cynnig cyfle i ymuno â gweithdai a dosbarthiadau iaith. Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).
Mewn tiwtorialau a seminarau byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau penodol, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy astudiaeth achos benodol i'r grŵp.
Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm.
Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n cynorthwyo gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.
Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae ein rhaglen BA Sbaeneg ac Economeg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.
Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.
Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall eich tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.
Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.
Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.
Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
Mae adborth ac asesu yn feysydd blaenoriaeth yn y rhaglen hon, gydag arweinydd asesu ac adborth penodol yn gyfrifol am sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau. Yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol Busnes Caerdydd, mae'r asesu’n canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol. Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).
Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau ym mlwyddyn 1, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor hyd at lefel uchel o gymhwysedd.
- Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
- Dealltwriaeth gadarn o sylfeini a datblygiadau damcaniaeth economaidd.
- Bod yn gyfarwydd â phrif fathau a ffynonellau data economaidd a sut y cânt eu defnyddio mewn dadansoddiad economaidd.
- Dealltwriaeth o'r dadleuon polisi economaidd cyfredol allweddol a phroblemau economaidd cyfoes.
- Gwerthfawrogiad o’r cyfraniad y gall dadansoddiad economaidd ei wneud at ddeall amrywiaeth o broblemau economaidd penodol.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes Sbaen a gwledydd lle siaredir Sbaeneg.
- Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn Saesneg a Sbaeneg, a hynny yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Y gallu i egluro, trin, cymhwyso a gwerthuso modelau economaidd penodol yn feirniadol.
- Y gallu i weithio gyda data economaidd a ddefnyddir mewn dadansoddiad economaidd.
- Sgiliau deall a defnyddio canfyddiadau empirig o lenyddiaeth economaidd.
- Sgiliau cynnal ymchwil sylfaenol i broblemau economaidd.
- Gallu cymhwyso syniadau damcaniaethol i ddadansoddi problemau economaidd byd-eang, yn rhai cyfoes a/neu hanesyddol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
- Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
- Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
- Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
- Gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.
- Y gallu i fodelu sefyllfaoedd gwneud penderfyniadau economaidd cymhleth er mwyn llunio fframweithiau dadansoddi sy’n hwyluso dealltwriaeth a datrys problemau’n effeithiol.
- Gallu cymhwyso rhesymeg ddiddwytho a dadansoddi rhesymegol er mwyn modelu materion economaidd.
- Sgiliau defnyddio mathemateg sylfaenol i daflu goleuni ar syniadau economaidd.
- Cymhwysedd mewn integreiddio data, gwybodaeth ffeithiol, dadansoddiad meintiol a gwaith empiraidd, mewn modd priodol.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
- Y gallu i ddadansoddi testunau cymhleth.
- Dehongli a defnyddio data perthnasol.
- Sgiliau ymchwil ymarferol.
- Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
- Cyfrifoldeb dros eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad Proffesiynol eich hun.
- Sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
- Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
- Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
- Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
- Dilyniant o lunio problem i ganfod ateb.
- Dadl strwythuredig er mwyn dod i gasgliad ar sail set o dybiaethau.
- Cysyniadau macro-economeg a gallu ymgymryd â dadansoddiad macro-economaidd sylfaenol o effeithiau ehangu ariannol, er enghraifft.
- Meistrolaeth ar dechnegau diagramatig ac algebraidd.
- Y gallu i gynnal dadansoddiadau diagramatig a mathemategol o faterion macro-economaidd.
- Sgiliau dadansoddi, cyfathrebu a dysgu drwy waith dosbarth ac ymarferion ar y we.
- Defnyddio sgiliau rhifedd, datrys problemau a TG.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Ysgol yr Ieithoedd Modern
Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am swydd.
Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.
Ysgol Fusnes Caerdydd
Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae Economeg yn ddisgyblaeth sy’n ysgogi deallusrwydd ac mae cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn aml yn galw am sgiliau graddedigion Economeg. Mae rhai graddedigion Economeg yn treulio cyfnod ychwanegol o hyfforddiant ar ôl cwblhau eu gradd, fel cwrs ôl-raddedig, efallai, neu gwrs hyfforddi pellach a fydd yn eu galluogi i drosi i broffesiwn arall fel cyfrifyddiaeth neu fyd y gyfraith. Pa bynnag yrfa rydych chi’n ei dilyn, bydd y sgiliau a ddatblygir yn ystod eich gradd Economeg (gallu datrys problemau, technegau meintiol, sgiliau dadansoddol ac ati) yn ddi-os yn cael eu croesawu gan gyflogwyr.
Yn ychwanegol at Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, rydym wedi buddsoddi yn ein Canolfan Yrfaoedd bwrpasol ein hunain er mwyn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd am swyddi a mynediad at gyngor ac arweiniad penodol i’r diwydiant busnes.
Lleoliadau
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.
Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd Reolwr Lleoliadau penodol sy’n cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.