Athroniaeth ac Economeg (BA)
- Meysydd pwnc: Economeg, Athroniaeth
- Côd UCAS: VL51
- Derbyniad nesaf: Medi 2023
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Dysgu gan y gorau
Manteisiwch ar arbenigedd a chefnogaeth staff sy’n cynnal ymchwil mewn ysgol sydd â'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil.
Wedi'i deilwra i’ch diddordebau
Arbenigwch mewn economeg ddiwydiannol, hanes economaidd, economeg llafur neu economeg ryngwladol.
Ystafell fasnachu o’r radd flaenaf
Paratowch eich hun ar gyfer masnachu a rheoli risg mewn amgylchedd rheoledig gydag Investor Simulations, TRETS a Bloomberg.
Profiad yn y diwydiant
Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau diwylliannol.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.
Mae'r radd BA mewn Athroniaeth ac Economeg yn anelu at ddatblygu eich dealltwriaeth o ddadansoddiad economaidd a phroblemau economaidd mewn cysylltiad ag amrywiaeth ehangach o faterion cymdeithasol a gwleidyddol, gan feithrin eich sgiliau deallusol a beirniadol yr un pryd.
Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i hategu gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.
Mae dwy agwedd gysylltiedig ar y cwrs Athroniaeth yng Nghaerdydd sy'n ei wneud yn nodedig ymysg prifysgolion Grŵp Russell. Un ohonyn nhw yw’r pwyslais cryf ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg ymhlith y modiwlau a gynigir. Y llall yw bod ein gwaith ymchwil a’n haddysgu yn rhoi’r un faint o sylw i ddulliau 'dadansoddol' a 'Chyfandirol' athroniaeth y Gorllewin, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth lawn o'r ddau ddull gyda'r posibilrwydd o wneud dewis gwybodus i arbenigo mewn un dull neu'r llall.
Mae’r radd yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen ar fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’r naill astudiaeth neu’r llall ar lefel ôl-raddedig, ynghyd ag amrywiaeth werthfawr o sgiliau deallusol a throsglwyddadwy i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd i broffesiynau eraill.

Maes pwnc: Economeg
Maes pwnc: Athroniaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBB
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O 2023 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei hailenwi'n Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru. Bydd y cymhwyster hwn yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Busnes.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Gofynion mynediad ychwanegol
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
FFfioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am dair blynedd gyda dau semester y flwyddyn, wedi eu rhannu rhwng y ddau bwnc. Ceir 120 o gredydau bob blwyddyn. 20 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o’r modiwlau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023
Blwyddyn un
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Athroniaeth a 60 credyd Economeg.
Mae'r modiwlau athroniaeth gorfodol yn canolbwyntio ar natur y meddwl a chyflwyno cysyniadau, damcaniaethau, dadleuon a dulliau canolog damcaniaeth foesol a gwleidyddol cyfoes.
Ceir hefyd fodiwlau gorfodol mewn macro-economeg a micro-economeg.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Applied Stats and Maths in Econ and Business | BS1501 | 20 Credydau |
Microeconomics | BS1551 | 20 Credydau |
Macroeconomics | BS1652 | 20 Credydau |
Mind, Thought and Reality | SE4101 | 20 Credydau |
Moral and Political Philosophy | SE4103 | 20 Credydau |
Critical Thinking | SE4107 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Athroniaeth a 60 credyd Economeg. Mae modiwlau damcaniaethau macro-economaidd a micro-economaidd yn orfodol.
Fe fyddwch chi hefyd yn dewis eich modiwlau sy'n weddill o amrywiaeth fawr o ddewisiadau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Macroeconomic Theory | BS2549 | 20 Credydau |
Microeconomic Theory | BS2550 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
British Economy | BS2547 | 20 Credydau |
Money Banking and Finance | BS2551 | 20 Credydau |
Economics of the EU | BS2558 | 20 Credydau |
Managerial Economics | BS2560 | 20 Credydau |
Introductory Econometrics | BS2570 | 20 Credydau |
State, Business and the British Economy in the Twentieth Century | BS2572 | 20 Credydau |
Philosophy of Science | SE4312 | 20 Credydau |
Philosophy of Mind | SE4313 | 20 Credydau |
Philosophy of Contemporary Politics | SE4363 | 20 Credydau |
French Existentialism | SE4369 | 20 Credydau |
Modern Moral Philosophy | SE4373 | 20 Credydau |
Contemporary Ethical Theory | SE4388 | 20 Credydau |
Epistemology | SE4398 | 20 Credydau |
Credoau'r Cymry | SE4400 | 20 Credydau |
Ancient Philosophy | SE4405 | 20 Credydau |
What to Believe in the Age of the Internet | SE4407 | 20 Credydau |
Philosophy of Feminism | SE4418 | 20 Credydau |
Damcaniaethu a Dadfeilio'r Gymdeithas Gyfalafol | SE4423 | 20 Credydau |
Aesthetics | SE4424 | 20 Credydau |
The Varieties of Experience | SE4430 | 20 Credydau |
International Study Abroad (60 credits) Spring | SE6252 | 60 Credydau |
Blwyddyn tri
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Athroniaeth a 60 credyd Economeg.
Wrth astudio Athroniaeth, mae modiwlau arbenigol yn eich galluogi chi i ddilyn eich diddordebau ac ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod.
Wrth astudio Economeg, bydd eich technegau mathemateg ac ystadegau wedi datblygu, a byddwch yn gallu gwneud dadansoddiad economaidd o ddadleuon damcaniaethol mewn economeg ac asesu dadleuon amgen.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.
Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.
Sut caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.
Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol.
Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:
- deall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
- gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
YSGOL SAESNEG, CYFATHREBU AC ATHRONIAETH
Yn 2015-16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae gan raddedigion Athroniaeth sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.
YSGOL BUSNES
Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn swydd a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae Economeg yn ddisgyblaeth sy’n ysgogi deallusrwydd ac mae gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn aml yn galw am sgiliau graddedigion Economeg. Pa bynnag yrfa rydych chi’n ei dilyn, bydd y sgiliau a ddatblygir yn ystod eich gradd (gallu datrys problemau, technegau meintiol a sgiliau dadansoddol) yn ddi-os yn cael eu croesawu gan gyflogwyr.
Yn ychwanegol at Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, rydym wedi buddsoddi yn ein canolfan yrfaoedd bwrpasol ein hunain er mwyn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd am swyddi a mynediad at gyngor ac arweiniad penodol i’r diwydiant busnes.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cai
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.