Y Gyfraith a Ffrangeg (LLB)
- Meysydd pwnc: Y Gyfraith, Ieithoedd modern a chyfieithu
- Côd UCAS: RM11
- Derbyniad nesaf: Medi 2024
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Treuliwch flwyddyn dramor
Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd wrth i chi ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith.
Wedi'i deilwra i’ch gallu
Mae modd astudio ein holl ieithoedd ar lefel dechreuwr neu uwch ac nid oes angen cymhwyster Safon Uwch.
Rhyddid i ddewis
Enillwch brofiad ar leoliad gwaith, gweithiwch fel cynorthwyydd dysgu neu dewiswch astudio yn ystod eich blwyddyn dramor.
Ategwch eich astudiaethau academaidd
Rydym yn cynnig amrywiaeth o brosiectau pro bono arloesol lle gallwch weithio gyda chleientiaid dan oruchwyliaeth broffesiynol.
Achrediad proffesiynol
Cwrs wedi'i achredu gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.
Mae rhaglen LLB y Gyfraith a Ffrangeg yn heriol ac yn gyffrous ac yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y gyfraith ac amrywiaeth eang o broffesiynau.
Mae arferion cyfreithiol yn digwydd fwyfwy ar y llwyfan byd-eang, a nod rhaglenni LLB Caerdydd yn y gyfraith ac ieithoedd yw cynhyrchu cyfreithwyr sydd nid yn unig yn gwbl gymwys yng nghyfraith Cymru a Lloegr, ond hefyd yn rhugl yn yr iaith a ddewisir ac yn gyfarwydd â diwylliant cyffredinol, sefydliadau gwleidyddol a system gyfreithiol gwlad arall. Addysgir rhaglen y Gyfraith a Ffrangeg mewn cydweithrediad â’r Ysgol Ieithoedd Modern.
Yn ogystal â'r modiwlau sylfaen sy'n cynnwys y cam hyfforddi academaidd sydd ei angen er mwyn dod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, y cyfeirir ato fel 'Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith', rydym yn cynnig amrywiaeth eang o feysydd astudio dewisol sy'n cwmpasu pynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes.
Mae ein gradd yn eich galluogi chi i gwblhau cyfnodau academaidd hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr ac i symud ymlaen yn syth at y cyfnodau hyfforddi galwedigaethol ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr: y Cwrs Hyfforddiant Bar Proffesiynol neu'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol.
Ni yw’r unig Brifysgol yng Ngrŵp Russell i gynnig y ddau gwrs hyn, sydd yn golygu bod gennych yr opsiwn i aros gyda ni yng Nghaerdydd i gwblhau eich addysg gyfreithiol gyfan. Yn rheolaidd, mae’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol wedi cael sgôr uchaf yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr / Cymdeithas y Gyfraith.

Maes pwnc: Y Gyfraith
Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAA-AAB. Rhaid cynnwys Ffrangeg.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Ffrangeg HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B/6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Os hoffech chi symud ymlaen naill ai i'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu'r Cwrs Hyfforddi Bar ar ôl i chi raddio, rydym yn eich annog i ddarllen gofynion addasrwydd i ymarfer y corff proffesiynol perthnasol yn gyntaf i sicrhau y byddech chi'n gymwys i gofrestru gyda nhw. :
- Llawlyfr y Bwrdd Safonau Bar
- Cyfnod hyfforddiant cydnabyddedig yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.
PTE Academic
O leiaf 62 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.
Trinity ISE II/III
II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Ffrangeg Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae'r rhaglen LLB y Gyfraith a Ffrangeg yn radd anrhydedd lawn amser dros gyfnod o bedair blynedd. Mae blynyddoedd academaidd yn cynnwys dau semester ac mae'n ofynnol i chi astudio modiwlau sy'n werth 120 o gredydau yn ystod pob blwyddyn astudio.
Byddwch yn cael eich trwytho’n drylwyr yng nghyfraith Lloegr a Cymru a chyfraith Ffrainc.
Yn yr ysgol Ieithoedd Modern, byddwch yn ymgymryd ag astudiaethau Ffrangeg sy'n cynnwys modiwlau iaith gorfodol sy'n cynnwys hyfforddiant hyfedredd mewn darllen, siarad ac ysgrifennu Ffrangeg, a modiwlau dewisol sy’n canolbwyntio ar astudio diwylliant, hanes a llenyddiaeth.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024
Blwyddyn un
Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio 80 credyd o fodiwlau gorfodol yn y Gyfraith ac un modiwl gorfodol gwerth 40 credyd mewn iaith Ffrangeg, gan roi sylfaen gadarn i chi ar gyfer tair blynedd nesaf eich rhaglen radd.
Mae blwyddyn un yn datblygu'r sgiliau ieithyddol ar gyfer myfyrwyr ôl-Safon Uwch ar y llwybr uwch.
Bydd yr amserlen iaith amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae ein dulliau addysgu yn fodd i chi ymgysylltu ag amrywiaeth o ddeunyddiau, gan gynnwys fideos, ffilmiau a gwefannau, yn ogystal ag offer dysgu rhyngweithiol. Addysgir dosbarthiadau iaith drwy gyfrwng y Ffrangeg, gan felly eich galluogi i drochi eich hun yn yr iaith o'r cychwyn cyntaf. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant Ffrainc.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Contract [20] | CL4201 | 20 Credydau |
Criminal [20] | CL4202 | 20 Credydau |
Legal Foundations [20] | CL4203 | 20 Credydau |
Public Law [20] | CL4204 | 20 Credydau |
Advanced French Language Year 1 | ML6188 | 40 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch yn astudio gwerth 120 credyd o fodiwlau gyda’i gilydd, gydag 80 ohonyn nhw’n cael eu dewis o'r rhestr o fodiwlau dewisol y Gyfraith sydd ar gael. Cymerir y modiwlau sy’n weddill o'r rhestr o ddewisiadau Ffrangeg.
Os ydych yn dymuno cael gradd gymhwyso yn y Gyfraith, byddwch yn sylwi bod ein modiwlau QLD (Tort a Chyfraith Tir) yn cael eu cynnig gydag ystod o bwysoliadau credyd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi yn eich dewisiadau modiwl ond mae hefyd yn eich galluogi i astudio'r modiwlau sydd eu hangen ar gyfer gradd gymhwyso yn y gyfraith.
Adolygir rhestr y modiwlau dewisol bob blwyddyn yng ngoleuni ffactorau fel adnoddau staff a’r galw ymysg y myfyrwyr. Mae'r dosbarthiad anrhydedd terfynol yn seiliedig ar yr asesiadau a gaiff eu cynnal yn ystod blynyddoedd dau a thri
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
French Law I | CL5255 | 20 Credydau |
French Law II | CL5256 | 20 Credydau |
Ex-Advanced Language Year 2 French | ML6281 | 30 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Land Law [20] | CL5201 | 20 Credydau |
Tort [20] | CL5202 | 20 Credydau |
Cyfraith Tir [20] | CL5221 | 20 Credydau |
CAMWEDD [20] | CL5222 | 20 Credydau |
Land Law [30] | CL5301 | 30 Credydau |
Tort [30] | CL5302 | 30 Credydau |
Cyfraith Tir [30] | CL5321 | 30 Credydau |
CAMWEDD [30] | CL5322 | 30 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Byddwch yn treulio blwyddyn tri yn Ffrainc. Bydd y flwyddyn hon yn eich galluogi i feithrin sgiliau iaith, yn dyfnhau eich dealltwriaeth o'r diwylliant targed ac yn datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.
Bydd eich opsiynau yn cynnwys astudio mewn cyfadran y gyfraith yn un o’n prifysgolion partner yn Ffrainc (ar hyn o bryd Amiens, Nantes, Rennes a Toulouse). Yn ystod y cyfnod hwnnw byddwch yn datblygu eich sgiliau ieithyddol a chyfreithiol cenedlaethol ac yn manteisio'n llawn ar fuddiannau astudio mewn amgylchedd Prifysgol dramor.
Mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.
Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.
Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei gael ar bethau.
Mae myfyrwyr y flwyddyn olaf a myfyrwyr sy’n ymweld â Chaerdydd o’n sefydliadau partner fel arfer yn barod iawn i helpu gyda’n sesiynau briffio blwyddyn dramor sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd, ac maen nhw wedi cyfrannu at ein ‘modiwl blwyddyn dramor’ helaeth ar Dysgu Canolog sy’n rhoi cyngor wedi ei ganolbwyntio ar fyfyrwyr drwy gydol eich blwyddyn dramor.
Mae astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
French Year Abroad | CL5121 | 120 Credydau |
French Year Abroad Bi Licence | CL5122 | 120 Credydau |
French Year Abroad Licence | CL5124 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl i Gaerdydd, byddwch yn cymryd o leiaf 60 o gredydau a hyd at 30 yn y Gyfraith ac o leiaf 30 credyd (ar ffurf modiwl iaith Ffrangeg 30 credyd) a hyd at 60 credyd yn Ysgol yr Ieithoedd Modern.
Byddwch yn adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych wedi'u datblygu i fynd ar drywydd dysgu arbenigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a/neu waith traethawd hir, sy’n cael ei addysgu/oruchwylio gan staff ymchwil arloesol, yn gweithio ar ddiwylliant, gwleidyddiaeth a hanes eich diwylliant targed.
Os ydych yn dymuno cael gradd gymhwyso yn y Gyfraith, byddwch yn sylwi bod ein modiwlau QLD (Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd ac Ecwiti ac Ymddiriedolaethau) yn cael eu cynnig gydag ystod o bwysoliadau credyd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi yn eich dewisiadau modiwl ond mae hefyd yn eich galluogi i astudio'r modiwlau sydd eu hangen ar gyfer gradd gymhwyso yn y gyfraith.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
High-Level Proficiency in French Language | ML6366 | 30 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorial a seminarau yn bennaf, er y bydd eich modiwlau Ffrangeg hefyd yn cynnig y cyfle i ymuno â gweithdai a dosbarthiadau iaith.
Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf ond yn gyffredinol yn darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol. Byddwch hefyd yb cael mynediad i ddarlithoedd y Gyfraith cofnodeding.
Mewn tiwtorialau byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau penodol, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy grynhoi dyfarniad neu erthygl benodol i'r grŵp.
Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, cyfreithiol a deallusol trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys datrys problemau cyfreithiol, trafodaethau mewn grwpiau bach, dadlau, ymrysonfeydd, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm.
Sut y caf fy nghefnogi?
Cewch diwtoriaid personol a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs a’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Byddan nhw hefyd yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf os ydych chi’n profi unrhyw anawsterau.
Cyflwynir Rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith ar gael.
Mae amrywiaeth o staff ar gael i gynnig cymorth pellach, gan gynnwys tiwtor cefnogaeth academaidd, cyd-gysylltydd cynllun pro-bono a llyfrgellwyr arbenigol y gyfraith. Mae aelod o staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau fod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau.
Mae’r holl fodiwlau’n defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol; Dysgu Canolog (Learning Central). Yma gallwch chi ymuno â fforymau trafod a dod o hyd i ddeunydd cwrs yn cynnwys recordiau o ddarlithoedd, dolenni at ddeunyddiau cysylltiedig, profion amlddewis, hen bapurau arholiad ac enghreifftiau o waith cyn-fyfyrwyr.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.
Sut caf fy asesu?
Caiff modiwlau eu hasesu drwy arholiad neu waith cwrs neu drwy gyfuniad o'r ddau. Mae fformat gwaith cwrs yn amrywio, gan gynnwys traethodau safonol, traethodau estynedig, portffolios o waith a gynhyrchir dros y flwyddyn academaidd gyfan ac atebion ysgrifenedig i broblemau cyfreithiol. Mae arholiadau yn cael eu cynnal ym mis Ionawr neu yn yr haf. Cyflwynir gwaith cwrs ar ddyddiadau dynodedig yn ystod y flwyddyn academaidd.
Yn ystod y flwyddyn academaidd, byddwch yn cwblhau darnau gwahanol o waith nad ydyn nhw’n cyfrif tuag at farciau terfynol eich modiwlau, ond sydd wedi eu cynllunio i’ch helpu chi i gyflawni canlyniadau dysgu eich modiwlau ac i baratoi ar gyfer eich arholiadau a’ch gwaith cwrs. Gallai hyn fod yn ysgrifenedig neu ar lafar a gellir ei gyflwyno’n ffurfiol i diwtor neu ei gyflwyno yn ystod tiwtorialau neu seminarau. Fel arfer, bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ystod eich amser astudio annibynnol. Rhoddir adborth ar y gwaith hwn yn aml ac mewn amrywiaeth eang o fformatau, a’i fwriad yw eich helpu chi i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysg, yn ogystal â rhoi arwyddion o sut gallech wella eich perfformiad mewn arholiadau a gwaith cwrs.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae gradd yn y gyfraith yn datblygu eich gallu i drefnu ffeithiau a syniadau mewn ffordd systematig, nodi gwybodaeth berthnasol a gwerthuso'r rhain i lunio cyngor ar gyfer cleient neu ddadl gyfreithiol.
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:
- ddeall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg a Ffrangeg
- gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
- gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gwybodaeth arall
Uned Pro Bono Ysgol y Gyfraith Caerdydd – y gyfraith yn y byd go iawn
Rydym wedi ymrwymo i ymestyn cyfleoedd allgyrsiol i'n myfyrwyr, gan helpu i wella eu CVs mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi'r cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau.
Mae Pro Bono yn ymadrodd y mae cyfreithwyr yn ei ddefnyddio ar gyfer cyngor cyfreithiol am ddim. Rydym yn rhedeg sawl cynllun Pro Bono ac yn rhoi cyngor i aelodau o'r gymuned ar faterion cyfreithiol gwahanol.
Prosiect Dieuogrwydd
Mae ein Prosiect Dieuogrwydd yn gweithio gyda charcharorion tymor hir sy’n mynnu eu bod nhw’n ddieuog o droseddau difrifol fel llofruddiaeth, ymosodiad difrifol a throseddau rhywiol. Y nod yw atal camweinyddu cyfiawnder lle gallai unigolyn fod wedi ei gollfarnu ar gam.
Yn 2014, ein prosiect ni oedd y Prosiect Dieuogrwydd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod euogfarn yn cael ei wrthdroi gan y Llys Apêl.
Mae myfyrwyr yn gweithio dan oruchwyliaeth bargyfreithwyr cymwys, yn ymchwilio i achosion ac yn eu cyflwyno nhw i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.
Cynllun gofal iechyd parhaus y GIG
Dan y cynllun hwn, rydym yn mynd i’r afael â chyllid Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Mae hon yn broblem gynyddol ledled y wlad sy’n effeithio ar ran o’r gymuned sy’n agored i niwed, yn enwedig y rhai sy’n dioddef o glefyd Alzheimer a ffurfiau eraill o ddementia. Gall unigolion o’r fath gael eu gorfodi i fod mewn cartrefi nyrsio, gan dalu eu ffioedd yn breifat, lle gellid dadlau bod ganddyn nhw hawl i fynnu bod y GIG yn diwallu cost eu gofal yn llawn.
Mae myfyrwyr yn cael eu hyfforddi yn y maes arbenigol hwn o’r gyfraith, a dyrennir gwaith ar eu cyfer ar ffurf ‘cwmnïau’ o chwe myfyriwr. Maen nhw’n cael eu goruchwylio gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol o gwmni cyfreithwyr Hugh James yng Nghaerdydd, ac mae’r gwaith yn cynnwys cyfweliadau â chleientiaid, ysgrifennu llythyrau, ac ymchwil.
Prosiect Undeb Rygbi Cymru
Gan weithio mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, mae myfyrwyr yn rhoi gwasanaeth cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i glybiau rygbi Cymru o dan lefel Uwch-gynghrair Principality. Mae materion cyfreithiol y mae clybiau yn eu hwynebu yn cynnwys cyflogi staff, cynnal a chadw’r meysydd chwarae, iechyd a diogelwch a llawer mwy.
Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi a’i warantu gan gyfreithwyr Hugh James, a siambrau bargyfreithwyr Civitas. Mae myfyrwyr hefyd yn cydweithio i gynhyrchu taflenni gwybodaeth sy’n cwmpasu materion cyfreithiol y mae clybiau yn eu hwynebu.
Cynllun Oedolion Priodol Hafal
Hafal yw prif elusen iechyd meddwl Cymru. Mae Hafal yn hyfforddi myfyrwyr i weithio fel ‘Oedolion Priodol’, i gefnogi oedolion sy’n agored i niwed sy’n cael eu cyfweld mewn gorsaf heddlu ar ôl cael eu harestio. Ar ôl cael eu hyfforddi, mae myfyrwyr yn gwirfoddoli i fod ar rota i gael eu galw i mewn i orsafoedd heddlu ar draws de Cymru.
Uned Cymorth Personol
Mae’r Uned Cymorth Personol yn cefnogi’r rhai sy’n ymgyfreitha drostyn nhw eu hunain, tystion, dioddefwyr, aelodau o’u teuluoedd a chefnogwyr. Mae’n darparu cymorth di-dâl, cyfrinachol, annibynnol, nad yw’n gyfreithiol i gleientiaid, i’w helpu drwy broses y llys. Mae’r Uned yn hyfforddi myfyrwyr i gynorthwyo ymgyfreithwyr yn y Ganolfan Cyfiawnder Sifil yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Y Gyfraith
Yn 2013/14, dywedodd 96% o raddedigion yr Ysgol a oedd ar gael i weithio eu bod mewn gwaith a/neu yn gwneud rhagor o astudio o fewn chwe mis i raddio.
Fe wnaeth y myfyrwyr wnaeth ddewis gweithio yn syth ar ôl graddio gael swyddi fel trafodwyr, paragyfreithwyr, trinwyr ailforgeisio a chyfreithwyr gyda chwmnïau fel Cyfreithwyr Hugh James, Admiral Law, Eversheds LLP a Gwasanaethau’r Gyfraith a Risg GIG Cymru.
Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd yn y proffesiwn cyfreithiol. Bob blwyddyn mae nifer o raddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau mor amrywiol â chyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.
Ysgol yr Ieithoedd Modern
Yn 2013/14, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol a oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio.
Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am swydd.
O’r rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau MA yr Ysgol mewn Astudiaethau Ewropeaidd neu mewn Cyfieithu neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl graddio, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa ragorol mewn diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.
Mae myfyrwyr o'r Ysgol Ieithoedd Modern yn mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o feysydd cyffrous.
Gall myfyrwyr sy'n astudio rhaglen y Gyfraith a Ffrangeg yng Nghaerdydd fod â diddordeb arbennig yn y nodweddion canlynol fydd yn eu gwneud yn fwy cyflogadwy yn ôl pob tebyg:
- Sgiliau iaith o ansawdd uchel;
- Y gallu i feddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol;
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig;
- Lefel uchel o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol, sy'n galluogi myfyrwyr i gyfryngu rhwng diwylliannau;
Y posibilrwydd i fyfyrwyr gymryd diploma Ffrangeg a gydnabyddir yn rhyngwladol fel y DALF (Diplôme approfondi de langue française).
Lleoliadau
Rhaid i bob myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn gwblhau lleoliad academaidd dramor. Treulir y flwyddyn honno mewn cyfadran y gyfraith yn un o brifysgolion Ffrainc (ar hyn o bryd Amiens, Nantes, Rennes a Toulouse). Yn ystod y cyfnod hwnnw byddwch yn datblygu eich sgiliau ieithyddol a chyfreithiol cenedlaethol ac yn manteisio'n llawn ar fuddiannau astudio mewn amgylchedd Prifysgol dramor. Mae cyfle hefyd i ennill Licence (gradd cyfraith Ffrainc).
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.