Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Chymdeithaseg (BA)


Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

structure

Cymdeithaseg yn ei chyd-destun

Dysgwch am gymdeithaseg mewn amrywiaeth o gyd-destunau, fel globaleiddio, addysg, cyfryngau cymdeithasol, diwylliant a defnyddio, a chysylltiadau ethnig.

location

Cysylltiadau’r Brifddinas

Mae Caerdydd yn ffynnu; manteisiwch ar y diwydiannau cyfryngau a chreadigol sy'n tyfu, ynghyd â chysylltiadau â BBC Cymru a Media Wales, sydd drws nesaf.

academic-school

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Yn cynnwys llyfrgell arbenigol ar y safle, mannau astudio golau a chwe ystafell newyddion.

people

Newyddiaduraeth nawr

Ymchwiliwch i broblemau fwyaf heddiw fel cyfryngu pan fydd gwrthdaro gwleidyddol, llywodraethu'r rhyngrwyd a delwedd y corff.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Ewch ar leoliad gwaith gyda chymorth ein rheolwr Cyflogadwyedd a Lleoliadau penodol.

Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod astudio rhaglen gydanrhydedd yn cyffroi ac yn brofiad gwerth chweil gan eu bod nhw’n gallu gweld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Drwy gyfuno newyddiaduraeth, y cyfryngau a Chymdeithaseg, byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth a fydd yn fuddiol ar gyfer eich dyfodol.

Cyflwynir y radd hon mewn partneriaeth gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol. Mae'n cynnig cyfle i archwilio'r dadleuon presennol o ran cysyniadau a dulliau cymdeithasegol, cyfathrebu ac astudiaethau cyfryngau.

Bydd eich modiwlau Cymdeithaseg yn eich helpu chi i wneud synnwyr o'r cyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol lle ceir gwreiddiau newyddiaduraeth ac y mae’r cyfryngau yn ymateb iddyn nhwr i ddadleuon – fel y newid yn natur rhwydweithiau cyfryngau, shifftiau yn natur y gwaith, hamdden a bywyd teuluol, trawsnewid mewn sefydliadau fel y systemau addysg, lles, gwleidyddol a chyfreithiol, newidiadau ym mhatrwm ethnig Prydain, arwyddocâd parhaus anghydraddoldebau dosbarth a rhyw, a dadleuon ynghylch globaleiddio cynyddol a ffurfiau newydd o dechnoleg, y cyfryngau, arloesi gwyddonol ac ymyrraeth feddygol.

Bydd modiwlau Cymdeithaseg yn eich helpu chi i ddeall cwestiynau pwysig a godir wrth astudio'r cyfryngau, fel agweddau cyffredinol cymdeithas at fewnfudo, pam mae rhai grwpiau cymdeithasol yn cael eu swyno gan enwogrwydd, pam mae pobl ifanc yn ymddangos fel pe bai ganddyn nhw lai o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth heddiw ac a yw'n wir ein bod ni’n dod yn gymdeithas fwy cefnog ac unigol.

Bydd eich modiwlau Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau yn cyflwyno llawer o'r themâu allweddol, y cysyniadau, y fframweithiau a’r sgiliau angenrheidiol i ddechrau eich dadansoddiad beirniadol o’r cyfryngau, eich astudiaeth o newyddiaduraeth a'ch dealltwriaeth o gyfathrebu torfol.

Fe fyddan nhw’n cymharu dulliau ysgolheigaidd a phroffesiynol o ddeall natur esblygol newyddion yng ngoleuni tueddiadau a datblygiadau diweddar, a byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio dulliau hanesyddol a dadansoddol i feddwl yn feirniadol am ddiwylliant y cyfryngau cyfoes.

Maes pwnc: Newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant

Maes pwnc: Y Gwyddorau Cymdeithasol

  • academic-schoolYsgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4208
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O 2023 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei hailenwi'n Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru. Bydd y cymhwyster hwn yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Rhaid bod gennych:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Costau ychwanegol

Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai gwerslyfrau allweddol ac i dalu costau argraffu sylfaenol a llungopïo. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn arbennig o ddiddorol.

Os oes gennych liniadur bydd gennych yr opsiwn o brynu meddalwedd am brisiau gostyngedig.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnoch i astudio ar y rhaglen hon.  Byddai defnydd o liniadur yn fanteisiol gan fod llawer o'r gwaith darllen ar gael yn electronig a chaiff y rhan fwyaf o'r asesiadau eu paratoi ar feddalwedd prosesu geiriau safonol.

Beth y bydd y Brifysgol yn ei ddarparu:

Cyfrifiaduron ar rwydwaith gyda gofod priodol i ffeiliau a'r holl feddalwedd angenrheidiol.  Mynediad at ddarllen hanfodol a chefndir ar gyfer pob modiwl ac amrywiaeth eang o gyfnodolion ac adnoddau ar-lein eraill.  Bydd holl ddogfennau'r cwrs ar gael ar-lein (drwy'r VLE) a chaiff copïau caled o ddogfennau hanfodol eu darparu ar gais.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, sy’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae’r dosbarthiad gradd terfynol a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.

Yn ystod blwyddyn un, byddwch yn gosod y sylfeini ar gyfer astudiaeth arbenigol ddiweddarach, gan astudio nifer o fodiwlau craidd a dilyn rhaglen sgiliau astudio i'ch helpu i bontio i addysg uwch. Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn cael eich annog i astudio a dysgu'n fwy annibynnol, gan roi'r cyfle i chi ddarllen yn ehangach a datblygu eich diddordebau eich hun. Yn y flwyddyn olaf, mae opsiwn hefyd i astudio traethawd hir gwerth 40 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023

Blwyddyn un

Mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac yn rhoi trosolwg i chi o ddau bwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach. Bydd ein rhaglen tiwtor personol yn eich helpu chi i bontio i addysg uwch.

Byddwch yn astudio am 120 o gredydau gyda’i gilydd, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 credyd Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau a 60 credyd mewn Cymdeithaseg.

Blwyddyn dau

Fe fyddwch chi unwaith eto’n astudio am 60 credyd mewn Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau a 60 credyd mewn Cymdeithaseg.

Bydd eich tiwtor personol yn eich helpu i ddewis modiwlau a fydd yn cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.

Blwyddyn tri

Fe fyddwch chi unwaith eto’n astudio am 60 credyd mewn Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau a 60 credyd mewn Cymdeithaseg.

Bydd eich tiwtor personol yn eich helpu chi i ddewis modiwlau a fydd yn gweddu orau ar gyfer llwybr penodol gyda’ch dewisiadau gyrfa yn y dyfodol mewn cof.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Byddwch yn dysgu gan ysgolheigion sy'n dylanwadu ar ddyfodol eu meysydd. Mae ein cyrsiau yn adlewyrchu syniadau craidd eu disgyblaethau a hefyd ymchwil, theorïau a dadleuon cyfoes.

Mae dulliau addysgu yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, astudio annibynnol a dysgu hunangyfeiriedig sy'n tynnu defnydd o adnoddau ar-lein, gwaith unigol a thasgau grŵp. Yn gyffredinol, mae darlithoedd yn rhoi trosolwg o'r pwnc perthnasol, gan gyflwyno cysyniadau neu ymchwil allweddol, ac amlygu materion neu ddadleuon cyfoes. Mae nifer cynyddol o ddarlithoedd yn cael eu recordio erbyn hyn. Yn wahanol i ddarlithoedd, mae seminarau yn rhoi cyfle i chi drafod darlleniadau, ymchwil neu bynciau penodol yn fanwl. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfnerthu eich dealltwriaeth a chael adborth ar eich dysgu unigol. Mae seminarau hefyd yn eich galluogi i hogi'ch sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a chydweithio wrth i chi gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a thasgau eraill.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtoriaid personol ym mhob ysgol yn eich tywys drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r tiwtoriaid ar gael i drafod cynnydd a darparu cyngor ac arweiniad ar eich astudiaethau academaidd.

Mae holl fodiwlau’r cwrs yn defnyddio Blackboard Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) Prifysgol Caerdydd, lle cewch ddeunyddiau cwrs, dolenni at ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth yn ymwneud â thasgau asesu. Darperir cefnogaeth ychwanegol penodol i’r modiwl gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau. Darperir cefnogaeth ar gyfer y traethawd hir gan oruchwyliwr a fydd yn cyfarfod â myfyrwyr yn rheolaidd.

Sut caf fy asesu?

Mae'r dulliau asesu'n amrywio o fodiwl i fodiwl ond, ar draws cynllun y radd yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl cymysgedd o arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau a phrosiectau unigol ac mewn grŵp

Bydd cyfle i chi hefyd gynnal asesiadau nad ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich gradd derfynol ond a fydd yn rhoi cyfle i chi asesu eich cynnydd ac i gael adborth ar eich gwaith. 

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dealltwriaeth o gysyniadau allweddol a dulliau damcaniaethol sydd wedi'u datblygu ac sy'n datblygu o fewn Cymdeithaseg a Newyddiaduraeth
  • Dealltwriaeth o ddamcaniaethau cymdeithasegol a diwylliannol
  • Dealltwriaeth o newid cymdeithasol a natur prosesau cymdeithasol sy'n sail iddynt a'u goblygiadau ar gyfer amrywiaeth cymdeithasol ac anghydraddoldeb
  • Dealltwriaeth o ystod o strategaethau a dulliau ymchwil ansoddol a meintiol

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • arfarnu damcaniaethau cymdeithasegol a diwylliannol a’u hasesu mewn perthynas â thystiolaeth
  • dangos ymwybyddiaeth o newidiadau cymdeithasol, natur y prosesau cymdeithasol sy'n sail iddynt a’u goblygiadau o ran amrywiaeth cymdeithasol ac anghydraddoldeb
  • arfarnu a defnyddio ystod o strategaethau a dulliau ymchwil ansoddol a meintiol
  • dangos ymwybyddiaeth o gymeriad unigryw cymdeithaseg mewn perthynas â disgyblaeth newyddiaduraeth ac astudiaethau cyfryngau a hefyd ei pherthynas ag esboniadau bob dydd.
  • dangos annibyniaeth ddeallusol, ymgysylltu critigol, a sgiliau cyfathrebu personol ac academaidd.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dylunio a defnyddio ystod o offerynnau casglu data sydd eu hangen i archwilio a deall y byd cymdeithasol
  • Gwerthuso, cydosod a dehongli data sylfaenol ac eilaidd a gynhyrchir drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau ac offer a meddalwedd arbenigol lle bo angen
  • Gweithio ar y cyd ac ar eich pen eich hun ar brosiectau sydd â sail ddamcaniaethol ac empirig sy'n defnyddio tystiolaeth ymchwil briodol a pherthnasol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i ddatrys problemau a gwreiddioldeb wrth feddwl drwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau i fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd
  • Sgiliau academaidd a phersonol fel meddwl beirniadol, ysgrifennu, cyflwyniadau llafar, datrys problemau, gwaith grŵp, rheoli amser, a defnyddio technoleg gwybodaeth.
  • Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau llafar, posteri a thraethawd hir
  • Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau llafar, posteri a thraethodau hir

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Mae rhoi damcaniaeth ar waith yn ymarferol, a darparu profiad o'r byd gwaith yn agweddau pwysig ar baratoi ein graddedigion at fywyd y tu allan i fyd addysg.

Rydyn ni’n annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r Brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio.

Darganfod mwy am yrfaoedd a chyflogadwyedd.

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Mae llawer o raddedigion yn symud ymlaen i’n graddau meistr newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu ôl-raddedig, ac yna i swyddi amrywiol yn y cyfryngau.

Ymhlith enghreifftiau diweddar o swyddi lefel mynediad mae: awdur cynnwys, gweithredwr cyfryngau digidol, cynghorydd polisi cyfryngau cymdeithasol, intern ymchwil, intern golygyddol, gohebydd, gweithredwr/cynorthwyydd cysylltiadau cyhoeddus, intern polisi, gweithredwr ymgyrchoedd, cynorthwyydd addysgu a rheolwr prosiect hefyd.

Darganfod mwy am yrfaoedd a chyflogadwyedd.

Lleoliadau

Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Ysgol Newyddiaduraeth ac Astudiaethau'r Cyfryngau staff lleoliadau ymroddedig sy'n gallu cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd i wella'ch CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau swydd a thechnegau cyfweliad ar gael hefyd.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.