Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Integredig (Rhyngwladol) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MEng)

  • Maes pwnc: Peirianneg
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 5 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Integrated Engineering

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Semester dramor

Cewch y gyfle i dreulio semester yn astudio dramor yn un o'n sefydliadau partner Saesneg eu hiaith yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd yn Awstralia, yr Unol Daleithiau, Tsieina a mwy.

rosette

Ystyriaeth am ddyfarniad proffesiynol

Mae ein partneriaeth ffurfiol â Sefydliad City and Guilds Llundain yn eich galluogi i ennill Gwobr Uwch Licentiateship ar ôl cwblhau eich lleoliad yn llwyddiannus.

location

Lleoliad diwydiannol

Ewch ati i ennill profiad gwerthfawr o weithio mewn rôl â thâl mewn sefydliad yn y DU neu dramor am un flwyddyn academaidd.

mortarboard

Ysgoloriaethau allanol ar gael

Mae myfyrwyr yn gymwys i gyflwyno cais ar gyfer ysgoloriaethau gan Academi Bŵer y DU a Sefydliad Sgiliau Electronig y DU UKESF (mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o'r ddau gynllun).

rosette

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni'n llawn y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig.

Mae angen dull amlddisgyblaethol i fynd i’r afael â chymhlethdod a soffistigedigrwydd peirianneg fodern. Felly mae diwydiant yn chwilio am beirianwyr sydd â gwybodaeth a sgiliau eang mewn mwy nag un o'r disgyblaethau peirianneg traddodiadol.

Gradd amlddisgyblaethol yw MEng Peirianneg Integredig (Rhyngwladol) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant. Mae wedi'i llunio o amgylch peirianneg drydanol, electronig a mecanyddol, sy'n ceisio datblygu myfyrwyr ym meysydd gweithgynhyrchu, mecatroneg, dylunio drwy gymorth cyfrifiadur ac ynni adnewyddadwy. Bydd eich gwybodaeth eang am wahanol agweddau ar beirianneg yn sicrhau y gallwch ryngweithio â pheirianwyr o'r holl ddisgyblaethau peirianneg traddodiadol mewn unrhyw amgylchedd amlddisgyblaethol. Byddwch hefyd yn dod yn gyfarwydd â rôl peirianneg yn yr amgylchedd busnes, gan fod sylw arbennig yn cael ei roi i economeg, rheolaeth a'r gyfraith.

Mae dewis gradd MEng yn cynnig llwybr cyflymach, mwy uniongyrchol at statws Peiriannydd Siartredig na’r cwrs BEng. Mae dwy flynedd olaf y radd MEng yn ceisio ehangu eich gwybodaeth a’i chryfhau. Byddwch yn elwa o ddysgu ar lefel uwch mewn dylunio a rheoli a gwerthfawrogiad o'r technegau sydd eu hangen i reoli a threfnu prosiect dylunio peirianneg amlddisgyblaethol.

Un o fanteision ychwanegol y cwrs Pensaernïaeth Integredig (Rhyngwladol) hwn yw bod un semester yn cael ei dreulio yn astudio peirianneg trwy gyfrwng Saesneg mewn prifysgol bartner dramor. Maent yn cynnwys prifysgolion mewn gwledydd fel Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, UDA, Awstralia, Canada ymhlith eraill.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys y cyfle i dreulio blwyddyn ar leoliad diwydiannol rhwng ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaeth academaidd. Gyda'r opsiwn hwn, byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad gwaith fydd yn caniatáu ichi weld dros eich hun sut beth yw amgylchedd gwaith proffesiynol. Os byddwch yn llwyddo i sicrhau lleoliad gwaith byddwch yn cael cyflog a byddwch yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd trwy ennill profiad uniongyrchol o weithio mewn busnes, diwydiant neu'r sector cyhoeddus.

Gall y cyrsiau peirianneg integredig eraill sydd ar gael gynnwys:

  • Sylfaen drylwyr yn hanfodion peirianneg os dewiswch gwrs BEng
  • Y cyfle i astudio iaith os dewiswch y radd MEng perthnasol gyda blwyddyn ryngosod mewn prifysgol yn Ffrainc, yr Almaen neu Sbaen

Maes pwnc: Peirianneg

  • academic-schoolYr Ysgol Peirianneg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4656
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Os ydych yn gwneud cais i astudio'r cwrs yma drwy Glirio, gall gofynion graddau mynediad fod yn uwch na'r rhai a hysbysebwyd. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd A mewn Mathemateg. Bydd angen i chi basio yr elfen ymarferol o bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol a’i sefydliadau partner yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac amrywiaeth o adnoddau dysgu eraill.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2024. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2024 i ddangos y newidiadau.

Gradd amser llawn a phum mlynedd o hyd yw hon. Byddwch yn treulio'r drydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant, ac un semester o flwyddyn pedwar yn astudio dramor. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o fodiwlau, 20 credyd yw gwerth rhai ohonynt, ac mae ychydig ohonynt, gan gynnwys prosiectau blynyddoedd pedwar a phump a'r modiwl rhyngwladol, yn werth hyd at 50 credyd yr un. Mae angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.

Mae dau semester bob blwyddyn, pob semester yn cynnwys 11 wythnos addysgu, un wythnos adolygu a chyfnod arholiadau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Network AnalysisEN106410 Credydau
LaboratoryEN107220 Credydau
Professional EngineeringEN107910 Credydau
Analogue Communications SystemsEN108110 Credydau
Electrical and Electronic Engineering 1EN108210 Credydau
Power Engineering and Electrical MaterialsEN108510 Credydau
Engineering Mathematics 1EN109320 Credydau
Engineering ComputingEN109410 Credydau
MechanicsEN110220 Credydau

Blwyddyn dau

Mae’r ail flwyddyn eto'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Control EngineeringEN205810 Credydau
Microcontroller Applications and Embedded DesignEN208110 Credydau
Engineering Mathematics 2EN209010 Credydau
Materials and ManufactureEN210120 Credydau
ThermofluidsEN210320 Credydau
Machine and Power ElectronicsEN270810 Credydau
Power Systems AnalysisEN270910 Credydau
Programming for EngineeringEN275010 Credydau
Integrated Product DesignEN281020 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir y drydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant. Fel arfer, disgwylir i chi fod mewn cyflogaeth am o leiaf 30 wythnos i fodloni isafswm gofyniad y Brifysgol, er bod Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn disgwyl i'r lleoliad bara am y flwyddyn academaidd gyfan.

Yn ystod eich lleoliad gwaith bydd eich tiwtor hyfforddiant diwydiannol neu enwebai yn ymweld â chi o leiaf unwaith, ond ddwywaith yn ddelfrydol, os ydych chi wedi eich lleoli yn y DU.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Industrial TrainingEN3095120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Yn y bedwaredd blwyddyn, byddwch yn treulio Semester yr Hydref yn astudio mewn sefydliad partner dramor am yr hyn sy’n gyfwerth â 50 credyd.

Byddwch hefyd yn gwneud prosiect yn ystod y bedwaredd blwyddyn, sy’n 40 credyd i gyd.  Byddwch yn gweithio'n unigol ar y prosiect, ochr yn ochr ag aelod o staff goruchwylio.  Mae rhywfaint o waith paratoi yn digwydd yn semester yr hydref ond cwblheir y modiwl yn semester y gwanwyn.

Mae modiwlau craidd a dewisol eraill yn adeiladu ar sylfeini y blynyddoedd cyntaf.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Engineering Project ManagementEN302410 Credydau
International ExperienceEN309250 Credydau
Individual ProjectEN340040 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Commercialising InnovationEN300610 Credydau
Solid MechanicsEN303710 Credydau
Object Oriented Engineering ComputingEN308510 Credydau
Fluid Power and ControlEN351310 Credydau
Electrical Machines and Drives AEN370210 Credydau
Grid Integration of RenewablesEN370910 Credydau
Product DesignEN390610 Credydau

Blwyddyn pump

Byddwch yn gwneud dau brosiect grŵp yn y bumed blwyddyn, sy'n gysylltiedig ag ymchwil amserol. Gyda’i gilydd, mae'r rhain yn ffurfio hanner yr asesiad cyffredinol.

Mae’r modiwlau craidd yn cynnwys Rheoli mewn Diwydiant a gallwch ddewis modiwlau o blith modiwlau eraill.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Group ProjectEN410030 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Addysgir trwy ddarlithoedd, dosbarthiadau enghreifftiau a llawer o waith yn y labordy, TG a gwaith ymarferol. Mae'r modiwlau a addysgir yn y ddwy flynedd gyntaf yn rhai gorfodol i raddau helaeth, ond mae opsiynau ar gael ym mlynyddoedd pedwar a phump fel rheol. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 40-credyd ym mlwyddyn pedwar, a dyrennir goruchwyliwr ar eu cyfer o blith y staff addysgu. Bydd cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr.

Cyflwynir y modiwl rhyngwladol trwy gyfrwng Saesneg, gan ddefnyddio dulliau cyflwyno'r sefydliadau tramor, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, gwaith grŵp a labordai.

Sut y caf fy nghefnogi?

Dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd ac sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor yno i’ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn academaidd a materion personol mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol, pan fydd angen ychydig o arweiniad arnoch. Ein nod yw eich helpu chi i oresgyn unrhyw broblem, fach neu fawr, mor ddiffwdan a chyflym â phosibl.

Ar gyfer y prosiect 40 credyd ym mlwyddyn pedwar, dyrennir goruchwyliwr i chi yn y maes ymchwil arbenigol eang a byddwch yn cwrdd yn rheolaidd.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.

Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth ar asesiadau ysgrifenedig. Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn i grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar ar gyflwyniadau a chyfraniadau i weithgareddau grŵp.

Sut caf fy asesu?

Your progress in each module is usually assessed at various stages through each semester (through a short test) to give you feedback on your progress, then finally at the end of the appropriate semester. Assessment is undertaken using methods including formal written examinations, case studies, assignments and project work.

Examinations count for 60% to 70% of all assessment throughout the course, depending on the options chosen. The remainder is composed mainly of project work and larger pieces of coursework, plus performance in laboratories.

The opportunity to test knowledge and understanding is given through class tests throughout Year 1, plus feedback on written assessments. Occasionally, peer assessment of an individual’s contribution to a group may be used, and students may also receive oral feedback on presentations and contributions to group activities.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gan fod y cwrs newydd gael ei gyflwyno, mae'r rhaglen hon yn cael ei hachredu trwy'r Cyngor Peirianneg ar hyn o bryd. Mae'r cymwyseddau craidd sy'n ofynnol ar gyfer UK-SPEC (Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Broffesiynol) wedi'u hintegreiddio trwy gydol blynyddoedd y caiff y cwrs ei addysgu.

Trwy waith labordy byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol sy'n canolbwyntio ar gymhwyso ystod o egwyddorion peirianneg i broblemau technolegol, rheoliadol a moesegol bywyd go iawn a wynebir yn y proffesiwn peirianneg.

Byddwch hefyd yn:

  • Gwella eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, trwy gyfres o adroddiadau ac aseiniadau
  • Datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a hyder i ddatrys problemau amlddisgyblaethol mewn cyd-destun peirianneg.
  • Gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm, eich gallu i ymarfer syniadau gwreiddiol a barn broffesiynol dda

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae gan ein graddedigion peirianneg integredig swyddi allweddol mewn cwmnïau blaenllaw fel Halcrow, Atkins, BP, BAE Systems, RWE npower, Mott McDonald, Network Rail, Rolls Royce, Ford, Tata Steel, Nokia, Bosch ac eraill. Mae ein graddedigion hefyd wedi symud ymlaen i weithio mewn llywodraeth leol, gyda chwmnïau a sefydliadau cyfleustodau rhyngwladol y DU a rhyngwladol megis Climate Energy a GlaxoSmithKline.

A hithau ar flaen y gad ym maes ymchwil beirianegol, mae gan Gaerdydd gysylltiadau cryf â byd diwydiant. Datblygwyd cysylltiadau niferus â chwmnïau yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy ein cynlluniau Blwyddyn mewn Diwydiant a thrwy waith ymgynghorol ein staff. Mae hynny’n cynnwys cynghori ynghylch materion fel polisi ynni, dylunio pontydd, defnyddiau magnetig a dyfeisiau lled-ddargludo.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.