Hanes ac Economeg (BA)
- Meysydd pwnc: Economeg, Hanes a hanes yr henfyd
- Côd UCAS: VL11
- Derbyniad nesaf: Medi 2023
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn
Dysgu gan y gorau
Manteisiwch ar arbenigedd a chefnogaeth staff sy’n cynnal ymchwil mewn ysgol sydd â'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil.
Astudiwch gydag angerdd
Dilynwch eich diddordebau gyda phynciau sy'n amrywio o gaethwasiaeth yn America i hanes Sofietaidd a Japan.
Wedi'i deilwra i’ch diddordebau
Arbenigwch mewn economeg ddiwydiannol, hanes economaidd, economeg llafur neu economeg ryngwladol.
Ystafell fasnachu o’r radd flaenaf
Paratowch eich hun ar gyfer masnachu a rheoli risg mewn amgylchedd rheoledig gydag Investor Simulations, TRETS a Bloomberg.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.
Bydd ein modiwlau Hanes yn datblygu’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth feirniadol o strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymdeithasau’r gorffennol. Mae ein harbenigedd yn cyrraedd ehangder rhyfeddol o gymdeithasau, cyfnodau a lleoliadau, yn rhychwantu Ynysoedd Prydain, Ewrop (dwyrain a gorllewin), Affrica, Asia a Chyfandiroedd America. Mae ein modiwlau’n rhoi’r cyfle i chi astudio meysydd sydd wedi hen ennill eu plwyf, megis hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol a rhywedd, neu archwilio meysydd a allai fod yn newydd i chi, megis hanes amgylcheddol neu hanes digidol.
Mae'r elfen Economeg yn cynnig dealltwriaeth o theori economaidd i chi, yn enwedig nodweddion trefniadaethol a rheolaethol mentrau busnes modern. Amcan y rhaglen yw eich addysgu am brif nodweddion economi ddiwydiannol y DU a'r datblygiadau allweddol mewn busnes. Byddwch yn ystyried polisi busnes y llywodraeth a pholisïau busnes rhyngwladol gan nodi eu goblygiadau ar ddatblygiad marchnadoedd a chwmnïau. Cewch hefyd eich cyflwyno i feysydd y tu hwnt i economeg ynghyd â'r cyfle i ddilyn modiwlau mewn cyllid busnes, marchnata ac agweddau eraill ar reoli.
Bydd ein staff academaidd cyfeillgar wrth law i’ch arwain ac i ddarparu adborth llawn ac adeiladol drwy gydol eich astudiaethau. Gan ddod â chyfoeth o arbenigedd ar draws gwahanol themâu, cyfnodau a daearyddiaeth, bydd ein darlithwyr yn rhannu'r syniadau diweddaraf yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys eu hymchwil arloesol eu hunain.

Maes pwnc: Economeg
Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-ABB
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Yn unol â pholisi derbyn Prifysgol Caerdydd. Mae'n bosibl y cyfwelir ymgeiswyr sy'n dychwelyd i addysg mewn modd nad yw'n arferol, megis trwy gwrs Mynediad.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,000 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,000 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £20,450 | Dim |
Blwyddyn tri | £20,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai testunau allweddol ac i dalu costau argraffu a llungopïo sylfaenol at eich defnydd chi. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn ddiddorol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae’r rhaglen BA Hanes ac Economeg wedi’i strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael sgiliau lefel uchel dros flynyddoedd olynol i ddod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer cyflogaeth broffesiynol.
Trwy gyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol, byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau Hanes a 60 credyd o fodiwlau Economeg bob blwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023
Blwyddyn un
Mae'r flwyddyn gyntaf yn pontio’n raddol i astudio hanes ac economeg ar lefel gradd ac mae’n cynnig cyfarwyddyd ar y sgiliau, y technegau a’r dadleuon y byddwch yn eu defnyddio.
Mae modiwlau hanes y flwyddyn gyntaf wedi'u cynllunio i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer astudiaeth uwch a'ch cyflwyno i themâu hanesyddol a meysydd astudio nad ydych efallai wedi dod ar eu traws mewn Safon Uwch. Mae ein 2 fodiwl craidd yn eich cyflwyno i’r gwahanol fframweithiau sy’n sail i astudiaeth hanesyddol a’r gwahanol ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra hefyd yn caniatáu i chi archwilio’r dadleuon mawr ynghylch sut rydym yn deall cysylltiadau ‘byd-eang’ a newid hanesyddol i herio sut rydym yn meddwl y tu hwnt i gyfnodau amser penodol a ffiniau rhanbarthol neu genedlaethol. Mae modiwlau dewisol yn caniatáu i chi ymestyn eich gwybodaeth a'ch sgiliau hanesyddol trwy amrywiaeth o gyfnodau a rhanbarthau i osod y sylfaen ar gyfer astudio ym mlynyddoedd 2 a 3.
Mewn economeg, byddwch yn astudio’r deunydd hanfodol gyda modiwlau gorfodol mewn macro-economeg a micro-economeg ac ystadegau cymhwysol. Caiff cyfran helaeth o'r modiwlau sy'n rhan o'r rhaglen radd ei haddysgu gan adran economeg yr ysgol fusnes, ond mae'n bosibl y bydd cyfle i astudio modiwlau a addysgir mewn adrannau eraill o'r ysgol fusnes.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Applied Stats and Maths in Econ and Business | BS1501 | 20 Credydau |
Microeconomics | BS1551 | 20 Credydau |
Macroeconomics | BS1652 | 20 Credydau |
History in Practice Part 1: Questions, Frameworks and Audiences. | HS1119 | 20 Credydau |
Global Histories | HS6101 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
The Making of The Modern World, 1750-1970 | HS1105 | 20 Credydau |
Inventing a Nation: Politics, Culture and Heritage | HS1109 | 20 Credydau |
Medieval Worlds, AD 500 -1500 | HS1112 | 20 Credydau |
Renaissance, Reformation and Revolution | HS1117 | 20 Credydau |
History in Practice Part 2: Sources, Evidence and Argument. | HS1120 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae modiwl craidd hanes yn eich cyflwyno i'r dulliau damcaniaethol allweddol a'r dulliau sydd wedi dylanwadu ar ysgrifennu hanesyddol. Mae modiwlau dewisol yn eich galluogi i archwilio themâu ar draws ystod amser gulach tra'n annog ymagwedd fwy cymharol at hanes. Yn eich ail flwyddyn, mae'r pwyslais yn symud tuag at wahanol agweddau at hanes a gwahanol ffyrdd o ddefnyddio tystiolaeth. Mae gennych hefyd yr opsiwn i gymryd modiwlau sy'n rhoi dealltwriaeth ddyfnach i chi o'r mathau o dystiolaeth y mae haneswyr yn eu defnyddio, y ffyrdd o ddefnyddio'r dystiolaeth honno, a rôl yr hanesydd wrth rannu ymchwil y tu hwnt i ffiniau'r byd academaidd a'r lleisiau y maent yn eu breintio neu eu tawelu.
Bydd y modiwlau economeg yn rhoi sylfaen gadarn i chi o ran theori, cysyniadau, egwyddorion a thechnegau ym meysydd creiddiol y pwnc: macro-economeg, micro-economeg a dadansoddi meintiol. Byddwn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol dda i chi ynghylch sut mae economi'r DU yn gweithio, a'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau. Mae modiwl hanes economaidd penodol ar gael hefyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Macroeconomic Theory | BS2549 | 20 Credydau |
Microeconomic Theory | BS2550 | 20 Credydau |
Making History: Historians, Evidence, Audiences | HS6202 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Rydym yn cynnig ystod eang o agweddau economeg i wahanol raddau yn eich blwyddyn olaf, ynghyd â chyfle i arbenigo. Bydd gan rai modiwlau elfennau meintiol iddynt, tra bo eraill yn fathemategol o ran eu natur. Mae modiwl hanes economaidd penodol ar gael hefyd.
Yn eich blwyddyn olaf mewn hanes, cewch eich herio i feddwl yn ddyfnach am natur datblygiadau hanesyddol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau dadansoddi ffynonellau ac ysgrifennu hanes trwy astudio’r ystod o fodiwlau arbenigol a gynigir.
Cewch y cyfle hefyd i ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar bwnc o'ch dewis yn y naill ddisgyblaeth neu'r llall, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar faes neu gyfnod penodol neu edrych yn fanylach ar y cysylltiad rhwng llenyddiaeth a hanes, a gallwch wneud hynny drwy draethawd hir os ydych yn dymuno.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae ymchwil yn ganolog i brofiad myfyrwyr yng Nghaerdydd a chaiff ein holl addysgu ei lywio gan y canfyddiadau diweddaraf.
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Byddwch yn dysgu trwy ystod eang o ddulliau addysgu o ddarlithoedd rhyngweithiol, seminarau bywiog yn seiliedig ar drafodaeth a gweithdai i waith grŵp a thiwtorialau. Bydd y gweithgareddau hyn ar y campws yn cael eu cyfuno ag ystod o amgylcheddau ar-lein a fydd yn cyfoethogi eich profiad dysgu ac yn eich galluogi i ymestyn eich astudiaethau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae seminarau a gweithdai’n cynnig profiad gwerth chweil i ymgysylltu'n feirniadol â'r syniadau a’r darllen allweddol ar bwnc. Maent yn gyfle gwerthfawr i archwilio syniadau a gweithio'n agos gyda'ch darlithwyr a dysgu oddi wrth fyfyrwyr eraill. Yn eich ail a thrydedd flwyddyn, cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o brosiectau annibynnol gyda chefnogaeth arbenigwr yn y maes a hyfforddiant un-i-un.
Mae ein dulliau addysgu’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu a thrafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gwaith tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser mewn amgylchedd cefnogol.
Addysgu yn yr Iaith Gymraeg
Mae Hanes yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os bydd staff ar gael, bydd seminarau a addysgir yn Gymraeg ar gael ar rai o'r modiwlau craidd neu bob un ohonynt. Mae goruchwyliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael hefyd ym Mlwyddyn Dau a Blwyddyn Tri ar gyfer prosiectau hwy ac ar gyfer traethodau hir. Gallwch ddewis ysgrifennu’r cyfan neu rywfaint o’ch gwaith a asesir ac arholiadau yn y Gymraeg.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.
Byddwch yn cael tiwtoriaid personol mewn Hanes ac Economeg, a fydd yn eich arwain trwy gydol eich astudiaethau. Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtoriaid personol yn rheolaidd mewn grwpiau ac yn unigol i fyfyrio ar eich cynnydd a'ch datblygiad ar draws eich astudiaethau. Gall eich tiwtoriaid personol hefyd eich cyfeirio at gymorth priodol os byddwch yn cael anawsterau neu os bydd angen gwybodaeth benodol arnoch am eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rhoddir cefnogaeth ychwanegol sy'n benodol i fodiwlau gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau; bydd cynghorydd academaidd a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol.
Trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a byrddau trafod.
Mae ein Timau Cefnogi Addysg israddedig yn cynnig cymorth academaidd a chymorth i fyfyrwyr, ac maent yno i gynnig gwybodaeth ac arweiniad i ymateb i unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Dyfodol Myfyrwyr i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa, gwasanaethau cymorth a digwyddiadau i’ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, cymorth gyda materion ariannol a chymorth i fyfyrwyr ag anableddau.
Sut caf fy asesu?
Mae asesiadau’n cynnwys beirniadaeth ffynhonnell, prosiectau ymchwil, adolygiadau, cyflwyniadau, portffolios creadigol-feirniadol a phostiadau blog, ochr yn ochr â mathau mwy traddodiadol o asesu fel traethodau a phrofion/arholiadau. Mae rhai o'n hasesiadau yn caniatáu i chi weithio ar y cyd ar brosiect, tra bod eraill yn cynnwys ysgrifennu a chreu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd; er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ddylunio arddangosfa amgueddfa neu greu canllaw ar gyfer defnyddio ffynonellau; ac efallai y cewch gyfle i greu podlediadau a thestunau digidol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae traethodau hir mewn Hanes yn caniatáu i chi fynd i'r afael â chwestiynau hanesyddol sylfaenol neu archwilio mater neu ddadl hanesyddol yn fanylach.
Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Maent yn helpu i roi’r sgiliau i chi gysylltu eich gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol; dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau; cydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau; a chyflwyno dadleuon ar sail tystiolaeth. Mae'r sgiliau a ddatblygir ac a asesir trwy gydol y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd graddedig. Mae adborth unigol a grŵp ar asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich lefel cyrhaeddiad gyfredol neu ddiweddar.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae Deilliannau Dysgu’r Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Mae Deilliannau Dysgu’r Rhaglen hon i’w gweld isod:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
GD1: dangos ymwybyddiaeth systematig o theori economaidd, yn enwedig nodweddion trefniadaethol a rheolaethol mentrau busnes modern.
GD2: dangos dealltwriaeth feirniadol o theori, cysyniadau, egwyddorion a thechnegau meysydd pwnc craidd economeg fel disgyblaeth: macro-economeg, micro-economeg a dadansoddi meintiol.
GD3: deall prif nodweddion economi ddiwydiannol y DU a'r datblygiadau allweddol mewn busnes.
GD4: ymwneud yn feirniadol ac yn gysyniadol â'r rhagdybiaethau a'r dulliau newidiol y mae haneswyr yn eu defnyddio i egluro'r gorffennol.
GD5: dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o gymhlethdod ac amrywiaeth sefyllfaoedd, digwyddiadau a meddylfryd y gorffennol mewn un wlad neu mewn perthynas â thema benodol.
GD6: dangos ymwybyddiaeth feirniadol o derfynau gwybodaeth am ddisgyblaeth a natur esblygol y wybodaeth a'r ddealltwriaeth honno.
Sgiliau Deallusol:
SD1: nodi goblygiadau polisi busnes y llywodraeth a pholisïau busnes rhyngwladol ar ddatblygiad marchnadoedd a chwmnïau.
SD2: defnyddio gwybodaeth a sgiliau a dulliau priodol i nodi a gwerthuso newid hanesyddol a diwylliannol yn feirniadol.
SD3: ffurfio a chyfiawnhau dadleuon am ystod o faterion, problemau a dadleuon hanesyddol gan ddefnyddio syniadau a dulliau hanesyddiaethol.
SD4: dod o hyd i ffynonellau sylfaenol priodol, pwyso a mesur eu natur a'u dadansoddi'n feirniadol i ateb cwestiynau a datrys problemau.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
SP1: nodi gwybodaeth rifol berthnasol, ei dehongli a'i chyflwyno – i gefnogi sail adroddiadau prosiect ac achosion busnes.
SP2: gofyn cwestiynau ymchwil cymhellol a phenodol a mynd ar drywydd atebion i'r cwestiynau hynny trwy ymholi strwythuredig, gan ddethol ac archwilio ystod briodol o dystiolaeth.
SP3: crynhoi a gwerthuso'n feirniadol rinweddau ac anfanteision cymharol safbwyntiau a dehongliadau amgen a gwerthuso eu harwyddocâd.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
ST1: dangos meddwl beirniadol, rhesymeg a'r gallu i gymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth trwy ddethol yn annibynnol a dadansoddi'n feirniadol ystod briodol o dystiolaeth.
ST2: cyflwyno canfyddiadau a dadleuon cymhleth yn glir, yn gryno, ac yn berswadiol mewn amrywiaeth o fformatau.
ST3: dangos sgiliau menter i ddatrys problemau a dadansoddi tystiolaeth amrywiol, rannol neu amwys gan ddefnyddio meddwl beirniadol, menter a chreadigrwydd.
ST4: cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth yn effeithiol, naill ai'n unigol neu ar y cyd fel rhan o dîm.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae graddau mewn hanes ac economeg yn symud ymlaen i amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan ddefnyddio'r sgiliau a enillir drwy gydol y radd. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat. Mae sectorau cyflogaeth poblogaidd yn cynnwys cyllid, cyhoeddi, y gyfraith, newyddiaduraeth, hysbysebu a marchnata, diwylliant a threftadaeth, addysg, y llywodraeth a sectorau proffesiynol eraill. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, a rhai wedi dod yn haneswyr o fri rhyngwladol.
Mae ein gradd yn cynnig y sgiliau pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, o gydweithio a chyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd i feddwl yn feirniadol a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau. Cyflwynir digwyddiadau hyfforddi a gyrfaol y tu mewn a’r tu allan i’r cwricwlwm gyda ffocws ar ddatblygu eich sgiliau tra byddwch yn y brifysgol a gwneud defnydd llwyddiannus o’r sgiliau hynny yn y dyfodol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd nid yn unig yn darparu hyfforddiant a gweithdai ar ein modiwlau craidd, ond hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun tra'n caniatáu i chi wneud gwahaniaeth.
Lleoliadau
Rydym yn sicrhau y gall lleoliadau gael eu hymgorffori yn eich dysgu. Bydd cyfleoedd am leoliadau amrywiol, pwrpasol yn cael eu cynnig mewn modiwl Blwyddyn Dau yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd sy'n canolbwyntio ar drosi'r sgiliau a enillwch drwy eich gradd i'r gweithle. Yn eich blwyddyn olaf, rydym yn cynnig y cyfle i astudio modiwl y gallwch ddatblygu’ch sgiliau menter drwyddo, gan roi’r sgiliau i chi gyfathrebu a chydweithio â sefydliadau allanol. Mae gan staff hefyd gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth leol a sefydliadau eraill, sy’n cynnig cyfleoedd lleoliad yn ystod a’r tu allan i semestrau.
Trwy ein cysylltiadau â Dyfodol Myfyrwyr, gallwch ddod o hyd i leoliadau ac interniaethau ar y campws, o leoliadau 35 awr rhan-amser sy’n cyd-fynd â'ch astudiaethau i leoliadau haf cyflogedig. Yn ogystal, mae Go Wales yn cynnig cymorth ychwanegol i'ch helpu i gael profiad gwaith.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.