Cemeg gyda Blwyddyn Ragarweiniol (BSc)
- Maes pwnc: Cemeg
- Côd UCAS: F105
- Derbyniad nesaf: Medi 2023
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Mae cemeg yn ddisgyblaeth sylfaenol a chyffrous ac mae ganddi rôl bwysig mewn llawer o feysydd gwyddoniaeth ac mewn bywyd pob dydd.
Astudio dramor neu mewn diwydiant
Gallwch wneud cais i drosglwyddo i MChem, gyda Blwyddyn mewn Diwydiant neu Flwyddyn Dramor.
Cyfleusterau o'r radd flaenaf
Ar ôl cael buddsoddiad o £20 miliwn, mae ein cyfleusterau'n cynnig amgylchedd gwych ar gyfer rhagoriaeth.
Profiad ymarferol
Datblygwch eich sgiliau ymarferol yn y labordy a ennill profiadau yn datrys problemau, gweithio mewn grŵp a llunio adroddiadau.
Ewch ar daith
Cymerwch olwg ar ein Hysgol a'n cyfleusterau mewn taith dywys 360.
Mae'r cwrs hwn, sy’n bedair blynedd o hyd gyda blwyddyn ragarweiniol, ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt wedi cael y cyfle i astudio'r pynciau rhagofynnol neu’n methu â bodloni’r gofynion i allu cael lle ym mlwyddyn gyntaf y radd BSc Cemeg. Bydd cwblhau'r flwyddyn ragarweiniol yn llwyddiannus yn eich galluogi i fynd ymlaen i flwyddyn gyntaf rhan greiddiol y radd.
Byddwch yn cael cyflwyniad eang i brif feysydd cemeg, yn ogystal â’r cyfle i arbenigo mewn maes sy’n ddiddorol neu’n bwysig i chi drwy fodiwlau opsiynol a phrosiect ymchwil yn nes ymlaen yn y cwrs. At hynny, byddwch yn treulio sawl awr yn ein labordai yn cael profiad ymarferol ac yn datblygu eich gwaith ymchwil a’ch sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol.
Mae ein graddedigion yn cael eu cyflogi fel cemegwyr sy'n gweithio ym maes ymchwil, datblygu prosesau a dadansoddi, yn ogystal ag mewn meysydd ehangach fel addysgu, marchnata, rheoli’r amgylchedd, patentau a chyllid.
Achrediadau

Maes pwnc: Cemeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
DDD ac eithrio Cemeg gradd C neu'n uwch.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
25 yn gyffredinol neu 444 mewn 3 phwnc HL. Rhaid eithrio gradd 5 neu'n uwch mewn Cemeg HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
MMP mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU
International equivalencies are not accepted for this course. Please contact the International Office for information about entry requirements from your country.
Please view your country page for information on our entry requirements, funding opportunities and who our local advisors are.
Gofynion mynediad ychwanegol
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to lab facilities including chemicals
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Costau ychwanegol
Bydd yr ysgol yn cynnwys cost popeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a rydd tiwtoriaid ar lafar. Efallai y bydd angen i chi dalu costau ychwanegol sydd naill ai ddim yn hanfodol neu sy'n gostau sylfaenol y mae disgwyl i fyfyrwyr eu talu eu hunain. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn cynnwys gliniaduron, cyfrifianellau, deunydd ysgrifennu cyffredinol, gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell), a chopïo / argraffu sylfaenol.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch. Wrth gofrestru, byddwn yn rhoi cot labordy, sbectol diogelwch, llyfr nodiadau labordy a phecyn modelu moleciwlaidd ichi. Mae meddalwedd arlunio cemegol ChemDraw ar gael ar holl gyfrifiaduron y Brifysgol, a byddwch yn gallu ei lawrlwytho i'ch cyfrifiaduron eich hun am ddim.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae pob blwyddyn yn cynnwys modiwlau sy'n dod i gyfanswm o 120 credyd
Mae'r flwyddyn ragarweiniol (blwyddyn un) yn rhoi sylfaen gadarn mewn gwyddoniaeth, gyda 40 credyd o gemeg graidd, ac 80 credyd o opsiynau. Mae 20 credyd pellach o Gemeg ddewisol ac 20 credyd o Fathemateg ar gael. Anogir myfyrwyr i ddewis y modiwlau hyn, er y gallai cymwysterau blaenorol (ee Safon Uwch dda mewn Mathemateg) olygu y gellir dewis opsiynau eraill.
Ym mlwyddyn dau rydych chi'n cymryd modiwlau cemeg gorfodol sy'n werth 110 credyd, gan gynnwys 30 credyd ymarferol, a modiwl dewisol sy'n werth 10 credyd, a allai fod mewn cemeg neu unrhyw bwnc arall.
Ym mlwyddyn tri, byddwch yn cymryd modiwlau cemeg gorfodol mewn amrywiaeth o feysydd pwnc gwahanol, gan gynnwys modiwl ymarferol 30 credyd.
Ym mlwyddyn pedwar byddwch yn gwneud gwaith ymarferol yn semester yr hydref (20 credyd). Dilynir hyn gan brosiect ymchwil arbenigol yn semester y gwanwyn (30 credyd). Byddwch hefyd yn cymryd modiwl theori gorfodol ym mhob cangen o'r pwnc yn semester yr hydref (40 credyd) ac yn dewis o ystod o fodiwlau dewisol yn semester y gwanwyn (3 x 10 credyd).
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023
Blwyddyn ragarweiniol
Mae'r cwrs blwyddyn rhagarweiniol yn cynnwys modiwlau mewn biowyddorau, cemeg a mathemateg. Bydd eich modiwlau yn dibynnu ar eich cefndir academaidd a'ch trafodaethau gyda staff wrth gofrestru.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Fundamental Aspects of Chemistry | CH0001 | 10 Credydau |
Thermodynamics, Kinetics and Equilibria | CH0002 | 10 Credydau |
Chemistry of Organic Compounds | CH0003 | 10 Credydau |
Inorganic and Redox Chemistry | CH0004 | 10 Credydau |
Introduction to Green and Sustainable Chemistry | CH0005 | 10 Credydau |
Introduction to Forensic Chemistry | CH0006 | 10 Credydau |
Preliminary Mathematics I | MA0003 | 10 Credydau |
Preliminary Mathematics II | MA0004 | 10 Credydau |
Studying Science | OP0306 | 20 Credydau |
Blwyddyn un
Yn y flwyddyn gyntaf ein bwriad yw ennyn eich diddordeb yn y pwnc, tra hefyd yn rhoi sylfaen wybodaeth gref i adeiladu arni yn ystod y blynyddoedd sy’n dilyn. Mae ein modiwlau cemeg craidd wedi'u seilio ar bum prif faes pwnc (cemeg ddadansoddol anorganig, organig, ffisegol a chyflwr solid), ac yn cynnwys y sgiliau allweddol i gemegwyr. Cânt eu hategu gan ystod o fodiwlau dewisol, sy'n eich galluogi i gael dewis o ran eich astudiaethau ac ehangu’ch profiad. Gallwch hefyd astudio modiwlau dewisol mewn disgyblaethau megis y gwyddorau biolegol, ffiseg neu ieithoedd modern.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Foundations of Physical Chemistry | CH5101 | 20 Credydau |
Foundations of Inorganic Chemistry | CH5102 | 20 Credydau |
Foundations of Organic Chemistry | CH5103 | 20 Credydau |
Introduction to University Chemistry | CH5108 | 10 Credydau |
Year 1 Chemistry Foundation Practical | CH5110 | 30 Credydau |
Mathematical Methods for Chemistry | CH5116 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Forensic Chemistry | CH2112 | 10 Credydau |
Chemistry of the Cosmos | CH2115 | 10 Credydau |
Environmental Chemistry | CH2117 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Yn yr ail flwyddyn byddwch yn astudio modiwlau gorfodol uwch sy’n eich galluogi i ymarfer a datblygu sgiliau newydd drwy eu cymhwyso i ystod eang o broblemau.
Os ydych chi'n cael o leiaf cyfartaledd o 55% yn yr ail flwyddyn, bydd gennych y cyfle i drosglwyddo i gwrs MChem Cemeg cyn dechrau’r drydedd. Os yw treulio cyfnod mewn diwydiant ar leoliad gwaith yn apelio atoch, mae angen i chi fynegi’ch diddordeb erbyn dechrau’r ail flwyddyn, a throsglwyddo i'r cyrsiau BSc Cemeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant erbyn dechrau’r drydedd flwyddyn.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Further Physical Chemistry | CH5201 | 20 Credydau |
Structure, bonding and reactivity in compounds of the p and d-block elements | CH5202 | 20 Credydau |
Further Organic and Biological Chemistry | CH5203 | 20 Credydau |
Communicating Chemistry: Key skills for chemists | CH5206 | 10 Credydau |
Introduction to the chemistry of life | CH5207 | 10 Credydau |
Applications of Molecular Spectroscopy | CH5208 | 10 Credydau |
Further Chemistry Laboratories | CH5210 | 30 Credydau |
Blwyddyn tri
Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn cynnal prosiect ymchwil sylweddol yn ystod semester y gwanwyn. Byddwch yn cwblhau modiwl theori gorfodol ym mhedair cangen o'r pwnc ac yn dewis o blith ystod o ddewisiadau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Training in Research Methods | CH2301 | 20 Credydau |
Project | CH3325 | 30 Credydau |
Advanced Organometallic and Coordination Chemistry | CH4302 | 10 Credydau |
Advanced Synthetic Strategies | CH4303 | 10 Credydau |
Quantum and Statistical Mechanics of Molecules and Solids | CH4304 | 10 Credydau |
Macromolecules of Life | CH4305 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Advanced Spectroscopy and Diffraction | CH3307 | 10 Credydau |
Bioinorganic Chemistry | CH3308 | 10 Credydau |
Heterogeneous Catalysis | CH3310 | 10 Credydau |
Structure and Mechanism in Organic Chemistry | CH3315 | 10 Credydau |
Homogeneous Catalysis | CH3316 | 10 Credydau |
Engineering Biosynthesis | CH3317 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu
Ein nod yw cynnig amgylchedd rhagorol ar gyfer addysg gemegol ac mae ein graddau israddedig yn adlewyrchu ein cryfderau a’n diddordebau ymchwil presennol. Mae prosiectau yn y flwyddyn olaf yn gwbl integredig yn ein grwpiau ymchwil. Mae eich cwrs astudio wedi’i lunio i’ch galluogi chi i wireddu eich llawn botensial. Ein nod yw cynnig addysgu arbenigol a gofal bugeiliol cynhwysfawr.
Addysgir trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol. Cefnogir hyn gan y deunyddiau sydd ar Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn elfen bwysig o’r addysgu, mae 10-12 yr wythnos fel arfer, ac mae’r rhain yn 50 munud o hyd. Cefnogir y pwnc mewn sawl ffordd yn dibynnu ar y pwnc o dan sylw. Gall hyn gynnwys sleidiau, cyflwyniadau cyfrifiadur, taflenni gwaith a chrynodebau o’r cwrs.
Gwaith labordy
Mae ail ran yr addysgu’n cynnwys dosbarthiadau ymarferol, unwaith eto gyda thua 10-12 awr yr wythnos ar gyfartaledd fel arfer. Mae’r pwyslais ar dechnegau sylfaenol a chofnodi arsylwadau mewn modd syml ond cywir ym mlwyddyn un. Addysgir sgiliau drwy arddangosiadau ymarferol ac fe’u cefnogir gan ystod o adnoddau e-ddysgu sydd ar gael yn hwylus ac yn rhad ac ddim i bob myfyriwr.
Mae hunan-brofi yn cynnig dealltwriaeth o wahanol dechnegau ymarferol yn ogystal â'r cyfle i gywiro camgymeriadau cyn mynd i sesiynau labordy.
Mae gwaith labordy yn gweithio tuag at arbrofion sylweddol sy’n gofyn am gynllunio, dadansoddi a dehongli canlyniadau yn ofalus, yn ogystal ag adrodd safonol, proffesiynol. Mae gwaith ymarferol yn cynnig profiad ym mhob un o brif weithdrefnau a thechnegau'r labordy. Mae wedi'i gynllunio i ymestyn lefel eich hyfedredd mewn cemeg ymarferol, gan eich paratoi i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yng nghamau olaf eich gradd.
Addysgu mewn grwpiau bach
Rhoddir dosbarthiadau tiwtorial mewn grwpiau bach ym mhob blwyddyn, er mwyn ymarfer, trafod a dadansoddi deunydd y darlithoedd, yn ogystal â datblygu sgiliau cyfathrebu. Cyflwynir sesiynau gan dri aelod staff penodol, un arbenigwr ym mhob un o feysydd cemeg organig, anorganig a ffisegol. Mae'r un tri thiwtor fel arfer yn parhau i fod wedi’u haseinio i bob grŵp trwy gydol eich gradd.
Prosiect
Mae gan bob un o’n cyrsiau Cemeg elfen gref o waith prosiect annibynnol, o dan oruchwyliaeth. Ym mlwyddyn olaf y cwrs BSc, byddwch yn gweithio ar brosiect yn y maes cemeg sydd orau gennych ac yn cael pwnc i'w ymchwilio neu ei ddatblygu. Byddwch yn cyflwyno canlyniadau eich gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy weithio o dan arweiniad arbenigwr yn y maes. Yn y gorffennol, mae hyn wedi arwain at fyfyrwyr israddedig yn ysgrifennu papurau a gyhoeddwyd ar y cyd.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae gan bob myfyriwr dri thiwtor academaidd,���y mae un ohonynt hefyd yn diwtor personol i chi. Byddwch yn gweld un o’ch tiwtoriaid bob wythnos, naill ai fel rhan o grŵp tiwtorial bach neu ar sail un-i-un mewn sesiwn diwtorial bersonol. Mae’r holl staff yn gweithredu polisi drws agored, sy’n golygu y gallwch bob amser fynd at staff gyda phroblemau ��� academaidd neu broblemau eraill.
Byddwch yn cael llawlyfr cynhwysfawr sy'n briodol i'ch blwyddyn astudio. Mae'n cynnwys manylion am weithdrefnau a pholisïau'r Ysgol.
Rydym yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol (Dysgu Canolog) er mwyn rhannu gwybodaeth
Sut caf fy asesu?
Formative and summative assessments are carried out during each year of study. This gives a measure of performance to inform you, us as staff, and potential employers about your progress and achievement. It can also help the learning process by highlighting areas of success and areas needing more attention. Assessment for the BSc degree involves methods that are selected to suit the particular outcomes of each module and the course as a whole. These methods include the following:
- Formal examinations with fixed time-limits
- Class tests
- Reports on laboratory work
- Planning, conduct and reporting of project work
- Essays
- Problem-solving exercises (as workshop assignments)
- Oral presentations
- Preparation and display of posters.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu dangos gwybodaeth systematig a dealltwriaeth feirniadol gynhwysfawr o ffeithiau, cysyniadau, egwyddorion a damcaniaethau hanfodol sy'n ymwneud â maes pwnc cemeg. Yn benodol
- Terminoleg, enwau, confensiynau ac unedau cemegol
- Nodweddion strwythurol ac ymddygiad cemegol elfennau cemegol a'u cyfansoddion, gan gynnwys perthnasoedd a thueddiadau rhwng grwpiau yn y Tabl Cyfnodol
- Yr egwyddorion a'r gweithdrefnau a ddefnyddir mewn dadansoddi cemegol a nodweddu cyfansoddion cemegol, gan gynnwys cymhwyso sbectrosgopïau i bennu strwythur a phriodweddau endidau cemegol.
- Damcaniaethau sy'n disgrifio strwythur, bondio, adweithedd a newid cemegol a'r berthynas rhwng priodweddau microsgopig a swmp sylweddau.
- Priodweddau a phrif fathau o adwaith cemegol cyfansoddion anorganig, organig, biolegol, organometalig a chydlynol
- Gwybodaeth fathemategol mewn algebra sylfaenol a chalcwlws a thrin rhifiadol sy'n briodol ar gyfer dadansoddi a gwerthuso problemau cemegol.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos
- Sut i gymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd pwnc a nodwyd uchod er mwyn datrys problemau ansoddol a meintiol o natur gyfarwydd ac anghyfarwydd.
- Cydnabod a dadansoddi problemau a strategaethau, beirniadu technegau sy'n berthnasol i'w hysgolheictod datblygedig eu hunain, a pharatoi strategaethau ar gyfer eu datrys.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu
- Cynllunio a chynnal gweithdrefnau labordy safonol yn ddiogel ar gyfer paratoi, puro a dadansoddi ystod o sylweddau, a defnyddio technegau offerynnol priodol ar gyfer eu hastudio.
- Monitro priodweddau neu newidiadau cemegol a ffisegol ar draws ystod eang o gemeg, trwy arsylwi a mesur, a chofnodi, mewn dull systematig a dibynadwy, ddogfennaeth sy'n ymwneud â'r digwyddiadau hyn mewn modd sy'n briodol i gemegydd proffesiynol sy'n gweithio mewn sefyllfa academaidd neu ddiwydiannol.
- Ymchwilio, adolygu a gweithredu prosiect, gan ddewis gweithdrefnau priodol o lenyddiaeth a gwybodaeth, a symud ymlaen o'r cam nodi problemau hyd at werthuso ac arfarnu canlyniadau'n feirniadol.
- Dehongli data sy'n deillio o arsylwadau a mesuriadau labordy o ran eu harwyddocâd cyfredol a'r theori sy'n sail iddynt, er mwyn asesu eu harwyddocâd a'u rhoi mewn cyd-destun.
- Cyflwyno deunydd a dadleuon gwyddonol yn glir ac yn gywir, yn ysgrifenedig ac ar lafar, i ystod o gynulleidfaoedd gan gynnwys cyfnodolion cemeg, seminarau a chynadleddau a adolygir gan gymheiriaid.
- Dangos sgiliau cyfrifiadurol, prosesu data a sgiliau chwilio electronig, yn ymwneud â gwybodaeth gemegol, data a'r llenyddiaeth gynradd.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu
- Cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Cymhwyso technoleg gwybodaeth fel prosesu geiriau, taenlenni, cofnodi a storio data, cyfathrebu ar y we a phecynnau llunio cemegol.
- Rhyngweithio â phobl eraill a gweithio mewn tîm.
- Cynllunio a gweithredu prosiectau sy'n gweithio tuag at nod.
- Nodi a chynnal astudiaeth sydd ei hangen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus yn annibynnol
Gwybodaeth arall
Os ydych chi'n cael o leiaf cyfartaledd o 55% yn yr ail flwyddyn, byddwch yn cael cyfle i drosglwyddo i gwrs MChem Cemeg cyn dechrau’r drydedd.
Os yw lleoliad gwaith yn apelio atoch, bydd angen i chi fynegi’ch diddordeb erbyn dechrau’r ail flwyddyn, a throsglwyddo i'r cyrsiau BSc Cemeg gyda blwyddyn mewn diwydiant neu BSc Cemeg gyda blwyddyn ar leoliad gwaith dramor erbyn dechrau’r drydedd. Rhoddir cyngor ac arweiniad ar geisiadau drwy gydol y flwyddyn honno. Mae ein lleoliadau yn gystadleuol, ond ar y cyfan, maent ar gael yn genedlaethol ar draws pob cangen o’r diwydiant cemegol, fferyllol a gweithgynhyrchu.
Bob hyn a hyn, daw cyfleoedd i wneud ymchwil dros yr haf yng Nghaerdydd dan oruchwyliaeth staff academaidd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae amrywiaeth o opsiynau o ran gyrfa yn agored i raddedigion cemeg. Mae llawer yn ymuno â’r diwydiant cemegion, tra bo eraill yn mynd i mewn i’r byd academaidd neu at sefydliadau’r llywodraeth. Mae nifer o raddedigion yn defnyddio’r hyfforddiant rhesymegol ac ymarferol a gawson nhw er mwyn mynd i feysydd marchnata, gwerthu, rheoli neu gyllid. Mae newyddiaduraeth wyddonol, cyhoeddi ac addysgu i gyd yn feysydd y gallech fynd i mewn iddynt. Felly hefyd, mae’r sgiliau penodol a gafwyd mewn labordai yn gallu bod yn gam tuag at waith yn y diwydiant gweithgynhyrchu.
Gyrfaoedd graddedigion
- Cemegydd Datblygu Cynnyrch
- Dadansoddwr Patentau
- Gwyddonydd Rheoli Ansawdd
- Awdur Gwyddoniaeth
- Peiriannydd Cemegol
Lleoliadau
Bydd pob myfyriwr ar y cwrs hwn yn ymgymryd â phrosiect ymchwil un semester o hyd yn un o labordai ymchwil Cemeg Caerdydd.
Mae cyfleoedd ychwanegol i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn lleoliad gwaith tramor neu mewn diwydiant drosglwyddo i'r BSc Cemeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, y BSc Cemeg gyda Blwyddyn Lleoliad Gwaith Dramor, yr MChem Cemeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, neu’r MChem Cemeg gyda chyrsiau Blwyddyn Lleoliad Gwaith Dramor.
Yn olaf, mae amrywiaeth o gyfleoedd i ymgymryd ag ymchwil dros yr haf yng Nghaerdydd dan oruchwyliaeth staff academaidd.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.