Rheoli Busnes gydag Iaith Ewropeaidd (Almaeneg) (BSc)
- Meysydd pwnc: Rheoli busnes, Ieithoedd modern a chyfieithu
- Côd UCAS: N1R2
- Derbyniad nesaf: Medi 2024
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Treuliwch flwyddyn dramor
Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd wrth i chi ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith.
Dysgu gan y gorau
Manteisiwch ar arbenigedd a chefnogaeth staff sy’n cynnal ymchwil mewn ysgol sydd â'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil.
Dilynwch eich llwybr eich hun
Y rhyddid i bersonoli eich gradd; cewch arbenigo neu gyfuno marchnata, adnoddau dynol, rheoli rhyngwladol, logisteg a gweithrediadau.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.
Nodwyd am ragoriaeth
Achrededig gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB).
Mae’r radd pedair blynedd mewn Rheoli Busnes gydag Almaeneg yn cyfuno prif elfennau (modiwlau ac addysgu) y rhaglen rheoli busnes ag astudio iaith Almaeneg a’i diwylliant.
Y flwyddyn gyntaf sy’n rhoi blociau adeiladu craidd pynciau rheoli a busnes, ynghyd ag un modiwl yn Almaeneg.
Mae’r ail yn datblygu’r sylfaen hon, gan roi pwysoliad cyfartal i bynciau busnes ac iaith. Byddwch yn parhau i ganolbwyntio ar fodiwlau Rheoli Busnes craidd, ac mae’r gydran iaith yn canolbwyntio ar fynegiant, cyfieithu ac iaith fusnes, gan roi'r paratoad delfrydol ar gyfer y drydedd flwyddyn a dreulir dramor. Yma, cewch eich addysgu Rheoli Busnes lefel dau yn Almaeneg.
Yn eich pedwaredd flwyddyn (ar ôl dychwelyd i Gaerdydd) bydd cynnwys busnes a rheolaeth y radd yn cael ei ymestyn gyda thri modiwl craidd a thri modiwl dewisol yn ogystal ag un modiwl sy'n cynnal y mewnbwn iaith.
Almaeneg yw mamiaith bron can miliwn o bobl. Drwy allu siarad Almaeneg rydych yn rhan o fyd gwleidyddol, economaidd a diwylliannol hynod bwysig. Dangosodd arolwg diweddar gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), sefydliad mwyaf blaenllaw cyflogwyr y Deyrnas Unedig, mai Almaeneg yw’r iaith a werthfawrogir fwyaf gan reolwyr yn y Deyrnas Unedig. Ystyrir mai’r Almaen yw conglfaen yr Undeb Ewropeaidd, felly mae medru’r iaith cyn bwysiced ym Mrwsel ag ym Merlin.
Byddwch yn datblygu sgiliau iaith lefel uchel gyda'r nod o gyflawni cymwyseddau yn agos at safon frodorol ynghyd â gwybodaeth fanwl am agweddau ar ddiwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a’r gymdeithas yn yr Almaen. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn mewn gwlad lle siaredir Almaeneg, yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau iaith. Rydym yn cynnig Almaeneg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr, fel ei gilydd.
Yn gyffredinol, mae'r radd mewn Rheoli Busnes gydag Almaeneg yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa ym maes busnes rhyngwladol gyda'r gallu i weithio yn Ffrangeg yn ogystal ag yn Saesneg.
Achrediadau

Maes pwnc: Rheoli busnes
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Os ydych yn gwneud cais i astudio'r cwrs yma drwy Glirio, gall gofynion graddau mynediad fod yn uwch na'r rhai a hysbysebwyd. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-ABB. Rhaid o’r rhain gynnwys Almaeneg.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Almaeneg Lefel Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD mewn Diploma BTEC mewn Busnes, a gradd B mewn Almaeneg Safon Uwch.
Lefel T
Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Cwrs pedair blynedd lawn amser yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu rhwng y ddau bwnc. Treulir y flwyddyn gyntaf a'r ail yng Nghaerdydd yn astudio ystod o fodiwlau mewn disgyblaethau busnes gan gynnwys cyfrifeg, economeg, marchnata a rheoli yn ogystal â’r gydran iaith. Treulir y drydedd flwyddyn yn astudio modiwlau sy’n gysylltiedig â busnes yn un o'n prifysgolion partner yn yr Almaen cyn dychwelyd i gwblhau'r flwyddyn olaf yng Nghaerdydd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024
Blwyddyn un
Mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac yn rhoi trosolwg i chi o ddau bwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach. Mae'n rhoi blociau adeiladu craidd pynciau rheoli a busnes, ynghyd ag un modiwl yn Almaeneg.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Introduction to Accounting | BS1503 | 20 Credydau |
Management: Theory and Evidence | BS1511 | 20 Credydau |
Marketing | BS1528 | 20 Credydau |
People in Organisations | BS1529 | 20 Credydau |
Advanced German Language Year 1 | ML7188 | 40 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae'r ail flwyddyn yn datblygu o'r sylfaen hon. Byddwch yn parhau i ganolbwyntio ar fodiwlau Rheoli Busnes craidd, ac mae’r gydran iaith yn canolbwyntio ar fynegiant, cyfieithu ac iaith fusnes, gan roi'r paratoad delfrydol ar gyfer y drydedd flwyddyn a dreulir dramor.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Excellence in Managing Operations | BS2003 | 20 Credydau |
Marketing and Strategy | BS2540 | 20 Credydau |
Managing People | BS2542 | 20 Credydau |
Ex-Advanced Language Year 2 German | ML7251 | 30 Credydau |
The World & Language of Business (German) | ML7283 | 30 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Mae blwyddyn tri yn cynnwys blwyddyn o astudio mewn prifysgol yn yr Almaen yn rhan o'ch gradd. Mae'r rhaglen astudio yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgol Busnes a bydd yn cyfateb i 6 modiwl dwbl neu 12 modiwl sengl yn Ysgol Busnes Caerdydd (120 credyd). Bydd yn cynnwys modiwlau mewn busnes, rheoli, economeg, cyfrifeg ac ati, sy'n cael eu haddysgu a'u hasesu yn Almaeneg. Mae hyn yn darparu cymhwysedd yn yr iaith o fewn fframwaith o arbenigeddau busnes, cyfrifeg ac economeg.
Rydym wedi datblygu cysylltiadau â nifer o brifysgolion neu sefydliadau cyfatebol yn Ffrainc, Sbaen, y Swistir a'r Almaen. Ein bwriad fyddai i bob grŵp o'r Ysgol Busnes mewn unrhyw sefydliad lletyol gynnwys dau i bedwar myfyriwr. Gall myfyrwyr sy'n astudio yn Ewrop yn rhan o'u rhaglen radd fod yn gymwys i gael grant gan gynllun Erasmus, a weithredir gan y Cyngor Prydeinig.
Mae gennym gytundebau partneriaeth rhyngwladol gyda sefydliadau o safon uchel yn Ewrop ac ar hyn o bryd mae gennym gytundebau cyfnewid gyda:
- Prifysgol Mannheim
- Prifysgol Konstanz
- Tu Munich
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Intercalary Study Programme in Europe | BS4009 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Yn eich pedwaredd flwyddyn (ar ôl dychwelyd i Gaerdydd) bydd cynnwys busnes a rheolaeth y radd yn cael ei ymestyn gyda dau fodiwl craidd a detholiad o fodiwlau dewisol. Mae modiwl dwbl craidd arall yn cynnal y mewnbwn iaith.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Strategic Management | BS3543 | 20 Credydau |
High-Level Proficiency in German Language | ML7366 | 30 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Tra bo ein staff, a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth o fewn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil diweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn a chyfoes.
Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.
Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).
Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol Cymraeg yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.
Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os ydych yn profi unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd ef neu hi yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.
I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hwb Myfyrwyr Israddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn rheolaidd. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol ar waith ysgrifenedig, ac adborth ysgrifenedig cyffredinol.
Byddwch yn cael adborth cyffredinol ar ôl pob cyfnod arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.
Sut caf fy asesu?
A range of assessment methods are used, including essays, examinations, presentations, portfolios, creative assignments and individual or group projects.
Essays and examinations are used not only for assessment purposes but also as a means of developing your capacities to gather, organise, evaluate and deploy relevant information and ideas from a variety of sources in reasoned arguments. Dedicated essay workshops and individual advice enable you to produce your best work, and written feedback on essays feeds forward into future work, enabling you to develop your strengths and address any weaker areas.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:
- deall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- dod o hyd i wybodaeth rifol berthnasol, ei dehongli a'i chyflwyno ��� i gefnogi sail adroddiadau prosiect ac achosion busnes
- gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a phecynnau meddalwedd safonol, lle bo hynny'n briodol
- cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gwybodaeth arall
Defnyddir ein Hystafell Masnachu yn rhan o rai cyrsiau economeg a chyfrifeg ond mae'n agored i holl fyfyrwyr yr Ysgol. Mae'r cyfleuster hwn yn cael ei oruchwylio gan fyfyrwyr PhD hyfforddedig fydd yn eich helpu i ymgyfarwyddo â'r feddalwedd a'r technegau modelu a ddefnyddir mewn ystafelloedd masnachu go iawn.
Yn rhan o'r cyfleoedd a gyflwynir gan yr Ysgol Busnes i israddedigion, cewch y cyfle i ymgymryd â chymhwyster Tystysgrif Thomson Reuters, cymhwyster diwydiant blaenllaw sy'n profi eich gallu i ddefnyddio'r platfform masnachol hwn. Mae'r broses hyfforddi bum-elfen hon yn cynnwys hyfforddiant un-i-un a chynadleddau dros y ffôn gyda chynrychiolydd o Thomson Reuters. Felly, mae'r Ystafell Masnachu yn rhoi cyfle i chi ddod yn raddedigion posibl deniadol yn y Ddinas, lle mae'r farchnad swyddi'n dod yn fwyfwy cystadleuol.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae graddau Busnes yn cynnig ystod eang o sgiliau a gaiff eu cymeradwyo gan lawer o gyflogwyr yn sector breifat a'r sector gyhoeddus.
Yn ogystal â Gwasanaeth Gyrfaoedd canolog y Brifysgol, mae ein myfyrwyr yn elwa o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Lleoliadau ar y campws sy'n eich helpu i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd gwaith a chael mynediad at hyfforddiant, canllawiau a chyngor sy'n benodol i'r diwydiant busnes.
Gyrfaoedd graddedigion
- Cyfrifydd
- Dadansoddwr Busnes
- Economegydd
- Rheolwr AD
- Darlithydd
- Gweithredwr Marchnata
- Rheolwr Cynhyrchu
- Brocer Stoc
Lleoliadau
Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd ennill profiad gwaith yn ystod eich astudiaethau.
Mae ein Rheolwr Lleoliadau dynodedig yn cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau am swyddi a thechnegau cyfweliad hefyd ar gael gan Ymgynghorydd Gyrfaoedd mewnol yr Ysgol Busnes.
Treulir blwyddyn tri yn gweithio neu’n astudio mewn gwlad lle siaredir Almaeneg.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.