Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Bensaernïol (Rhyngwladol) (MEng)

  • Maes pwnc: Peirianneg
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn
Myfyrwyr yn gweithio ar fodel Peirianneg Bensaernïol.

Pam astudio'r cwrs hwn

structure

Cwrs hyblyg

Gallwch deilwra eich cwrs gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau eich hun gyda'r hyblygrwydd i ddewis lle rydych am ganolbwyntio eich astudiaethau’n ddiweddarach yn y cwrs. Os byddwch yn newid eich meddwl am eich rhaglen, yn y rhan fwyaf o achosion gallwch ofyn i newid ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.

mortarboard

Breintiau graddedigion

Mae graddedigion yn dilyn llwybr cyflymach a mwy uniongyrchol i statws Peiriannydd Siartredig na myfyrwyr BEng.

globe

Semester dramor

Cewch y gyfle i dreulio semester yn astudio dramor yn un o'n sefydliadau partner Saesneg eu hiaith yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd yn Awstralia, yr Unol Daleithiau, Tsieina a mwy.

briefcase

Cynnwys a arweinir gan ddiwydiant

Caiff cynnwys ein cwrs ei lywio gan gydweithrediad diwydiannol a'i gyflwyno gan staff academaidd blaenllaw, y mae llawer ohonynt yn Beirianwyr Siartredig neu wedi gweithio mewn diwydiant.

certificate

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Wedi'i achredu gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant a Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion cyflawni'n llawn y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig.

Mae creu adeiladau yn waith cymhleth sy'n gofyn am sgiliau o sawl disgyblaeth amrywiol. Mae'r cwrs hwn yn cyfuno manylder peirianneg â chreadigrwydd dylunio adeiladau ynghyd â phwyslais ar ffactorau amgylcheddol.

Nod ein gradd MEng Peirianneg Bensaernïol yw rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o beirianneg sifil, gan ganolbwyntio'n arbennig ar beirianneg strwythurol a'r amgylchedd adeiledig yn ogystal â gwerthfawrogiad o bensaernïaeth a gwasanaethau adeiladu.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o theori, wedi'i ategu o’i ddefnyddio’n ymarferol drwy waith ymchwil a gwaith labordy, cyrsiau maes a dosbarthiadau dylunio, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn niwydiant peirianneg sifil. Gallwch ddewis modiwlau dewisol o blith y rhai sydd â thema bensaernïol.

Un o fanteision ychwanegol y cwrs Rhyngwladol Bensaernïol hwn yw bod un semester yn cael ei dreulio yn astudio peirianneg trwy gyfrwng Saesneg mewn prifysgol bartner dramor. Maent yn cynnwys prifysgolion mewn gwledydd fel Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, UDA, Awstralia, Canada ymhlith eraill.

Mae'r radd MEng bedair blynedd o hyd yn caniatáu ichi ddefnyddio'r ddwy flynedd ddiwethaf o astudio i ehangu a chryfhau eich gwybodaeth mewn peirianneg bensaernïol. Byddwch yn elwa o ddysgu ar lefel uwch mewn dylunio a rheoli a gwerthfawrogiad o'r technegau sydd eu hangen i reoli a threfnu prosiect dylunio peirianneg amlddisgyblaethol.

Mae cyrsiau peirianneg bensaernïol eraill yn cynnwys:

  • Sylfaen drylwyr yn hanfodion peirianneg bensaernïol os dewiswch gwrs BEng.
  • Y cyfle i ddilyn blwyddyn ryngosod mewn diwydiant os dewiswch radd BEng pedair blynedd berthnasol neu’r radd MEng pum mlynedd
  • Y cyfle i astudio iaith os dewiswch y radd MEng perthnasol gyda blwyddyn ryngosod mewn prifysgol yn Ffrainc, yr Almaen neu Sbaen.

Maes pwnc: Peirianneg

  • academic-schoolYr Ysgol Peirianneg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4656
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Os ydych yn gwneud cais i astudio'r cwrs yma drwy Glirio, gall gofynion graddau mynediad fod yn uwch na'r rhai a hysbysebwyd. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd A mewn Mathemateg. Bydd angen i chi basio yr elfen ymarferol o bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac amrywiaeth o adnoddau dysgu ychwanegol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2024. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2024 i ddangos y newidiadau.

Gradd amser llawn a phedair blynedd o hyd yw hon. Byddwch yn treulio un semester o flwyddyn tri yn astudio dramor. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o fodiwlau, 20 credyd yw gwerth rhai ohonynt, 30 credyd yr un yw gwerth prosiectau blynyddoedd tri a phedwar, a 50 credyd yw gwerth y modiwl rhyngwladol. Mae angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Engineering AnalysisEN109120 Credydau
Computing 1EN109210 Credydau
Environmental Fluid and GeomechanicsEN191120 Credydau
Materials and ConstructionEN191220 Credydau
Design StudiesEN191520 Credydau
StructuresEN191620 Credydau
Professional EngineeringEN191710 Credydau

Blwyddyn dau

Mae’r ail flwyddyn eto'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.

Mae cwrs maes preswyl oddi ar y safle yn cael ei gynnal am bum niwrnod yn semester y gwanwyn, fel rhan o'r modiwl Astudiaethau Maes o'r Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Engineering AnalysisEN202620 Credydau
History of Western ArchitectureEN220710 Credydau
Computing 2EN220810 Credydau
Hydraulics and Soil MechanicsEN231420 Credydau
Professional Studies and ConstructionEN231520 Credydau
Structural Analysis and DesignEN240040 Credydau

Blwyddyn tri

Treulir semester yr hydref yn y drydedd flwyddyn yn astudio mewn sefydliad partner dramor am yr hyn sy’n gyfwerth â 50 credyd.

Mae'r flwyddyn hefyd yn cynnwys prosiect mawr, sy’n werth chwarter y flwyddyn fel arfer.  Byddwch yn gweithio'n unigol ar y prosiect, ochr yn ochr ag aelod o staff goruchwylio.  Mae rhywfaint o waith paratoi yn digwydd yn semester yr hydref ond cwblheir y modiwl yn semester y gwanwyn.

Mae saith modiwl craidd arall ond mae modiwlau dewisol hefyd, gan adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn y blynyddoedd cynharach.

Blwyddyn pedwar

Byddwch yn gwneud prosiect grŵp yn y bedwaredd flwyddyn, sy'n werth chwarter yr asesiad cyfan.

Mae sawl modiwl craidd a dewisol hefyd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Image of Perth Australia

Dysgu ac asesu

Addysgir trwy ddarlithoedd, dosbarthiadau enghreifftiau a llawer o waith yn y labordy, TG a gwaith ymarferol. Mae'r modiwlau a addysgir yn y ddwy flynedd gyntaf yn rhai gorfodol i raddau helaeth, ond mae opsiynau ar gael ym mlynyddoedd tri a phedwar fel rheol. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 30-credyd ym mlwyddyn tri, a dyrennir goruchwyliwr ar eu cyfer o blith y staff addysgu. Bydd cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr.

Cyflwynir y modiwl rhyngwladol trwy gyfrwng Saesneg, gan ddefnyddio dulliau cyflwyno'r sefydliadau tramor, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, gwaith grŵp a labordai.

Sut y caf fy nghefnogi?

Dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd ac sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor yno i’ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn academaidd a materion personol mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol, pan fydd angen ychydig o arweiniad arnoch. Ein nod yw eich helpu chi i oresgyn unrhyw broblem, fach neu fawr, mor ddiffwdan a chyflym â phosibl.

Ar gyfer y prosiect 30-credyd ym mlwyddyn tri, dyrennir goruchwyliwr i chi yn y maes ymchwil arbenigol eang a byddwch yn cwrdd yn rheolaidd.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.

Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth ar asesiadau ysgrifenedig. Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn i grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar ar gyflwyniadau a chyfraniadau i weithgareddau grŵp.

Sut caf fy asesu?

Your progress in each module is usually assessed at various stages through each semester (through a short test) to give you feedback on your progress, then finally at the end of the appropriate semester. Assessment is undertaken using methods including formal written examinations, case studies, assignments and project work.

Examinations count for 60% to 70% of all assessment throughout the course, depending on the options chosen. The remainder is composed mainly of project work and larger pieces of coursework, plus performance in laboratories.

The opportunity to test knowledge and understanding is given through class tests throughout years one and two, plus feedback on written assessments. Occasionally, peer assessment of an individual’s contribution to a group may be used, and students may also receive oral feedback on presentations and contributions to group activities.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r cwrs hwn yn cael ei achredu trwy'r Cyngor Peirianneg ar hyn o bryd, gan ei fod yn gwrs newydd. Mae'r cymwyseddau craidd sy'n ofynnol ar gyfer UK-SPEC (Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Broffesiynol) wedi'u hintegreiddio trwy gydol blynyddoedd y caiff y cwrs ei addysgu.

Trwy waith labordy byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol sy'n canolbwyntio ar gymhwyso ystod o egwyddorion peirianneg i broblemau technolegol, rheoliadol a moesegol bywyd go iawn a wynebir yn y proffesiwn peirianneg.

Byddwch hefyd yn:

  • datblygu eich dealltwriaeth o bensaernïaeth, adeiladu dyluniadau cysyniadol a gwasanaethau adeiladu yng nghyd-destun peirianneg ac adeiladu
  • gwella eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, trwy gyfres o adroddiadau ac aseiniadau
  • datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a hyder i ddatrys problemau amlddisgyblaethol mewn cyd-destun peirianneg sifil

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Cyflogir ein graddedigion yn bennaf yn y meysydd peirianneg sifil a strwythurol gyda chwmnïau ymgynghori a chontractio mawr, gyda rolau fel peiriannydd sifil neu beiriannydd strwythurol graddedig neu beiriannydd dylunio adeiladau.

Mae ein graddedigion fel arfer yn cael eu cyflogi gan gwmnïau mawr fel Arup, Atkins, Capita Symonds a Ramboll, ledled y DU a thu hwnt. Mae gennym hefyd raddedigion sy'n gweithio ar gyfer cwmnïau gwasanaethau pensaernïol ac adeiladu.

Mae nifer o raddedigion wedi dewis astudio ymhellach, naill ai ar lefel MSc neu PhD, mewn sefydliadau ledled y DU. Mae eraill wedi dewis gweithio i gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhai enghreifftiau diweddar yn cynnwys cwmnïau yn y sectorau ariannol, y cyfryngau a marchnata gyda chyrchfannau gan gynnwys Deloitte, PwC a Virgin.

Gwaith maes

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn cymryd rhan mewn cwrs maes preswyl oddi ar y safle am bum niwrnod yn rhan o fodiwl craidd Astudiaethau Maes yr Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.