Ewch i’r prif gynnwys

Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg (BSc Econ)

Pam astudio'r cwrs hwn

structure

Cymdeithaseg yn ei chyd-destun

Dysgwch am gymdeithaseg mewn amrywiaeth o gyd-destunau, fel globaleiddio, addysg, cyfryngau cymdeithasol, diwylliant a defnyddio, a chysylltiadau ethnig.

people

Cysylltiadau â sefydliadau gwleidyddol

Manteisiwch ar gysylltiadau â senedd San Steffan, Senedd Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.

book

Cewch brofiad o wleidyddiaeth ar waith

Dewiswch fodiwl a addysgir ar y cyd â San Steffan, sy'n cynnwys addysgu gan glercod Tŷ'r Cyffredin ac ymweliadau astudio.

plane

Astudiwch Brydain a thu hwnt

Dysgwch am wleidyddiaeth ym Mhrydain a thu hwnt, a’r dylanwad sydd gan sefydliadau rhyngwladol.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Ewch ar leoliad gwaith gyda chymorth ein rheolwr Cyflogadwyedd a Lleoliadau penodol.

Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod astudio rhaglen gydanrhydedd yn cyffroi ac yn brofiad gwerth chweil gan eu bod nhw’n gallu gweld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Trwy gyfuno Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg, byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth sy’n fuddiol ar gyfer eich dyfodol.

Mae maes gwleidyddiaeth yn eich galluogi i archwilio'r modd y mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu ac yn gwerthuso syniadau gwleidyddol fel pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd, yn ogystal â chynnwys cysylltiadau rhyngwladol.

Mae’r modiwlau’n amrywio, gan roi cyfle i chi archwilio'r modd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio ym Mhrydain a thu hwnt, yn ogystal ag ymchwilio i'r modd y mae polisi cyhoeddus yn cael ei lunio. Mae llwybrau gwaith eraill yn trafod cyfiawnder, democratiaeth, hawliau dynol a chysylltiadau rhyngwladol, gan ddarparu dealltwriaeth eang i chi o wleidyddiaeth sydd wedi’i theilwra i’ch anghenion penodol chi.

Nod y radd hon yw ceisio rhoi dealltwriaeth ardderchog o wleidyddiaeth a llywodraeth i chi, gan roi i chi hefyd y sgiliau deallusol a chyfathrebu cysylltiedig a fydd o werth p'un a fyddwch yn gweithio i’r llywodraeth neu yn y sectorau preifat neu wirfoddol.

Mae cymdeithaseg yn ymwneud yn benodol ag astudio bywyd cymdeithasol fel y’i ceir mewn grwpiau, sefydliadau a chymdeithasau. Mae'n darparu’r offer hanfodol ar gyfer ymdrin â dadansoddi pob agwedd ar ymddygiad cymdeithasol, o ryngweithiadau wyneb yn wyneb i sut mae grymoedd economaidd yn llunio’r gymdeithas fyd-eang ac yn cael eu llunio gan y gymdeithas honno.

Mae'r cwrs hwn yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau i’ch helpu chi i ddysgu’r dulliau a’r syniadau sydd eu hangen i wneud eich cyfraniad eich hun at ddeall ac at wella’r gymdeithas.

A chithau’n fyfyriwr cydanrhydedd, byddwch yn gweld bod meysydd a safbwyntiau ategol sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar.

Maes pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Maes pwnc: Y Gwyddorau Cymdeithasol

  • academic-schoolYsgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4208
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid bod gennych:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,950 Dim
Blwyddyn dau £22,950 Dim
Blwyddyn tri £22,950 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai gwerslyfrau allweddol ac i dalu costau argraffu sylfaenol a llungopïo. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn arbennig o ddiddorol.

Os oes gennych liniadur bydd gennych yr opsiwn o brynu meddalwedd am brisiau gostyngedig.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnoch i astudio ar y rhaglen hon.  Byddai defnydd o liniadur yn fanteisiol gan fod llawer o'r gwaith darllen ar gael yn electronig a chaiff y rhan fwyaf o'r asesiadau eu paratoi ar feddalwedd prosesu geiriau safonol.

Beth y bydd y Brifysgol yn ei ddarparu:

Cyfrifiaduron ar rwydwaith gyda gofod priodol i ffeiliau a'r holl feddalwedd angenrheidiol.  Mynediad at ddarllen hanfodol a chefndir ar gyfer pob modiwl ac amrywiaeth eang o gyfnodolion ac adnoddau ar-lein eraill.  Bydd holl ddogfennau'r cwrs ar gael ar-lein (drwy'r VLE) a chaiff copïau caled o ddogfennau hanfodol eu darparu ar gais.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, sy’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae’r dosbarthiad gradd terfynol a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.

Yn ystod blwyddyn un, byddwch yn gosod y sylfeini ar gyfer astudiaeth arbenigol ddiweddarach, gan astudio nifer o fodiwlau craidd a dilyn rhaglen sgiliau astudio i'ch helpu i bontio i addysg uwch. Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn cael eich annog i astudio a dysgu'n fwy annibynnol, gan roi'r cyfle i chi ddarllen yn ehangach a datblygu eich diddordebau eich hun. Yn y flwyddyn olaf, mae opsiwn hefyd i astudio traethawd hir gwerth 40 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac yn rhoi trosolwg i chi o ddau bwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach. Bydd ein rhaglen tiwtor personol yn eich helpu chi i bontio i addysg uwch.

Byddwch yn astudio am 120 o gredydau gyda’i gilydd, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 credyd mewn Gwleidyddiaeth a 60 credyd mewn Cymdeithaseg.

Blwyddyn dau

Fe fyddwch chi unwaith eto’n astudio 60 credyd Gwleidyddiaeth a 60 credyd Cymdeithaseg.

Bydd eich tiwtor personol yn eich helpu i ddewis modiwlau a fydd yn cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Anghydraddoldebau CyfoesSI028820 Credydau
Dulliau Ymchwil CymdeithasolSI029720 Credydau
Damcaniaeth GymdeithasolSI030020 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rhyw, Rhyw a MarwolaethPL922020 Credydau
Cysylltiadau Rhyngwladol y Rhyfel OerPL922120 Credydau
Technolegau Digidol a Gwleidyddiaeth Fyd-eangPL922320 Credydau
Llywodraethu Byd-eangPL922420 Credydau
Gwleidyddiaeth yr UEPL922520 Credydau
O ysbïo i Gwrthderfysgaeth: Cudd-wybodaeth mewn Gwleidyddiaeth GyfoesPL922920 Credydau
Gwleidyddiaeth fodern CymruPL923320 Credydau
Meddwl Gwleidyddol Modern: Machiavelli to MillPL923420 Credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio'r Gymdeithas GyfalafolPL923820 Credydau
Mae'r Barbariaid yn Dod!: Damcaniaethau Gwleidyddol Traws-ddiwylliannolPL924020 Credydau
Syniadau ac ideoleg mewn Gwleidyddiaeth PrydainPL924120 Credydau
Anifeiliaid, Aer, ac Ardaloedd y tu hwnt i awdurdodaeth genedlaethol - Gwleidyddiaeth Cyfundrefnau Amgylcheddol Byd-eangPL924220 Credydau
Personoliaeth, rhagfarn a pholareiddio: Seicoleg WleidyddolPL924420 Credydau
Agweddau Beirniadol at Wleidyddiaeth y Dwyrain CanolPL924520 Credydau
Gwleidyddiaeth Ffiniau: Gwrthdaro a Chydweithrediad yn Ewrop FodernPL924620 Credydau
Chwyldroi'r Gorchymyn Gwleidyddol: Damcaniaeth Gymdeithasol Prydain yn y ddeunawfed ganrifPL924920 Credydau
Gwneud ymchwil gwleidyddolPL925120 Credydau
Gwleidyddiaeth Hinsawdd (In)ActionPL925220 Credydau
Gwleidyddiaeth Cyfnewid RhyngwladolPL926060 Credydau
Credoau'r CymryPL928620 Credydau
Gwleidyddiaeth Prydain ers 1945PL928720 Credydau
Diogelwch Rhyngwladol: Cysyniadau a MaterionPL928820 Credydau
Cyfiawnder a Gwleidyddiaeth: Theori Wleidyddol GyfoesPL929120 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL929220 Credydau
Cyfraith ryngwladol mewn byd sy'n newidPL929920 Credydau

Blwyddyn tri

Fe fyddwch chi unwaith eto’n astudio 60 credyd Gwleidyddiaeth a 60 credyd Cymdeithaseg.

Bydd eich tiwtor personol yn eich helpu chi i ddewis modiwlau a fydd yn gweddu orau ar gyfer llwybr penodol gyda’ch dewisiadau gyrfa yn y dyfodol mewn cof.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hanes Meddwl mewn Cysylltiadau RhyngwladolPL931120 Credydau
Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Oes NiwclearPL932020 Credydau
Bomiau, Bwledi a Ballot-flychau: Gwrthdaro Gogledd Iwerddon, 1969 i 1998PL932420 Credydau
Economi wleidyddol: Rhesymoldeb mewn Byd Afresymol?PL932520 Credydau
Diwylliant Poblogaidd a Gwleidyddiaeth y BydPL932820 Credydau
Rhyfel a ChymdeithasPL933120 Credydau
Gwleidyddiaeth Trais a LladdPL933520 Credydau
Cyfiawnder, Cyfreithlondeb a Chyfraith RyngwladolPL933620 Credydau
Gwleidyddiaeth America LadinPL933720 Credydau
Rhyw, Cyffuriau a Pholisi CyhoeddusPL933820 Credydau
Gwleidyddiaeth mewn Ymarfer: Modiwl Lleoliad GwaithPL934020 Credydau
Be the Change: Llywodraethu heb y WladwriaethPL934620 Credydau
Gwleidyddiaeth a Llywodraethu BrexitPL934720 Credydau
Cynrychioli DatblyguPL934820 Credydau
Gwleidyddiaeth Populism yn EwropPL935020 Credydau
Llywodraethu Iechyd Cyhoeddus Byd-eang: Pandemigau Firaol, a'r 'epidemig' cyffuriau byd-eangPL935320 Credydau
Gwrthdaro, cystadlu a chynghreiriau yn y "Dwyrain Canol Newydd"PL935420 Credydau
Cysylltiadau Eingl-Americanaidd ac Amddiffyn y Rhyfel OerPL935720 Credydau
Tsieina yn y BydPL935820 Credydau
Strategaeth mewn Theori ac YmarferPL935920 Credydau
Economi Wleidyddol Cymru: O Lo i Covid-19PL936120 Credydau
Economi Wleidyddol Cymru: o 'Oes y glo' i 'Oes y clo'PL936220 Credydau
Argyfwng ac Ymrwymiad mewn Meddwl Gwleidyddol ModernPL936320 Credydau
Diwedd y byd fel yr ydym yn ei adnabodPL936420 Credydau
Ar ôl y Gorllewin: IR 2.0PL936520 Credydau
Dirty Hands: Problemau Moeseg GwleidyddolPL936620 Credydau
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yr Unol DaleithiauPL937420 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL937720 Credydau
Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder: Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruPL937820 Credydau
Modiwl Astudiaethau SeneddolPL938020 Credydau
Traethawd Hir Cysylltiadau RhyngwladolPL938520 Credydau
Traethawd Hir GwleidyddiaethPL938620 Credydau
Etholiadau yn y Deyrnas UnedigPL938720 Credydau
Sefydliad Rhyngwladol Byd-eang mewn Gwleidyddiaeth y BydPL939120 Credydau
Personoliaeth a GrymPL939220 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 Credydau
Traethawd hirSI013140 Credydau
Cymdeithaseg TrychinebSI031520 Credydau
Cymdeithaseg ar y SymudSI061220 Credydau
EthnomethodologySI061420 Credydau
Cymdeithas Ddigidol a Newid CymdeithasolSI061720 Credydau
Yr Amgylchedd ac Iechyd DynolSI062020 Credydau
Theori BywSI063020 Credydau
Dad-drefedigaethu'r Gwyddorau CymdeithasolSI063120 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Byddwch yn dysgu gan ysgolheigion sy'n dylanwadu ar ddyfodol eu meysydd. Mae ein cyrsiau yn adlewyrchu syniadau craidd eu disgyblaethau a hefyd ymchwil, theorïau a dadleuon cyfoes.

Mae dulliau addysgu yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, astudio annibynnol a dysgu hunangyfeiriedig sy'n tynnu defnydd o adnoddau ar-lein, gwaith unigol a thasgau grŵp. Yn gyffredinol, mae darlithoedd yn rhoi trosolwg o'r pwnc perthnasol, gan gyflwyno cysyniadau neu ymchwil allweddol, ac amlygu materion neu ddadleuon cyfoes. Mae nifer cynyddol o ddarlithoedd yn cael eu recordio erbyn hyn. Yn wahanol i ddarlithoedd, mae seminarau yn rhoi cyfle i chi drafod darlleniadau, ymchwil neu bynciau penodol yn fanwl. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfnerthu eich dealltwriaeth a chael adborth ar eich dysgu unigol. Mae seminarau hefyd yn eich galluogi i hogi'ch sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a chydweithio wrth i chi gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a thasgau eraill.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn eich tywys trwy gydol cyfnod eich astudiaethau. Mae'r tiwtoriaid ar gael i drafod cynnydd a darparu cyngor ac arweiniad ar eich astudiaethau academaidd.

Mae’r ddwy ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd hon yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi ei ategu gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y myfyrwyr a’r staff.

Mae holl fodiwlau’r cwrs yn defnyddio Blackboard Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) Prifysgol Caerdydd, lle cewch ddeunyddiau cwrs, dolenni at ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth yn ymwneud â thasgau asesu. Darperir cefnogaeth ychwanegol penodol i’r modiwl gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau. Darperir cefnogaeth ar gyfer y traethawd hir gan oruchwyliwr a fydd yn cyfarfod â myfyrwyr yn rheolaidd.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Assessment methods vary from module to module but, across the degree scheme as a whole, you can expect a mixture of exams, coursework, essays, practical work, presentations, and individual and group projects.

You’ll also have the opportunity to undertake assessments that don’t count towards your final grade but give you an opportunity to assess your progress and to get feedback on your work.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Nodi ac egluro cysyniadau canolog gwyddor gwleidyddiaeth, a dangos eich bod yn gyfarwydd â geirfa disgwrs wleidyddol;
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o agweddau allweddol ar Theori Wleidyddol normadol ac empirig;
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o agweddau allweddol ar wleidyddiaeth fodern, gan gynnwys strwythur a gweithrediad systemau gwleidyddol Ewropeaidd dethol ar lefelau cenedlaethol a'r Undeb Ewropeaidd a gwleidyddiaeth ryngwladol sy'n cofleidio astudiaethau byd-eang a rhanbarthol;
  • Dangos arbenigedd penodol ym maes Theori Gwleidyddol a/neu Wleidyddiaeth Ewrop a/neu gysylltiadau rhyngwladol. Gwerthfawrogi ansicrwydd, amwysedd a therfynau gwybodaeth;
  • Cymhwyso gwahanol gysyniadau, damcaniaethau a dulliau wrth ddadansoddi syniadau gwleidyddol, sefydliadau ac ymddygiad;
  • Archwilio a gwerthuso gwahanol ddehongliadau o faterion a digwyddiadau gwleidyddol;
  • Defnyddio ymchwil gyfoes, fel erthyglau mewn cyfnodolion wedi'u safoni.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Casglu, trefnu a defnyddio tystiolaeth, data a gwybodaeth am amrywiaeth o ffynonellau;
  • Datblygu dadl resymol, cyfosod gwybodaeth berthnasol ac arfer barn feirniadol;
  • Myfyrio ar eich dysgu eich hun a defnyddio adborth adeiladol;
  • Rheoli eich dysgu eich hun yn hunanfeirniadol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dylunio a defnyddio ystod o offerynnau casglu data sydd eu hangen i archwilio a deall y byd cymdeithasol
  • Gwerthuso, cydosod a dehongli data sylfaenol ac eilaidd a gynhyrchir drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau ac offer a meddalwedd arbenigol lle bo angen
  • Gweithio ar y cyd ac ar eich pen eich hun ar brosiectau sydd â sail ddamcaniaethol ac empirig sy'n defnyddio tystiolaeth ymchwil briodol a pherthnasol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Cyfleu syniadau’n effeithiol ac yn rhugl, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • Defnyddio technolegau cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer casglu a chyflwyno gwybodaeth;
  • Gweithio’n annibynnol, gan ddangos mentergarwch a’r gallu i drefnu eu hunain a rheoli amser;
  • Cydweithio ag eraill a chyfrannu at gyflawni nodau cyffredin.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Mae rhoi damcaniaeth ar waith yn ymarferol, a darparu profiad o'r byd gwaith yn agweddau pwysig ar baratoi ein graddedigion at fywyd y tu allan i fyd addysg.

Rydyn ni’n annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r Brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio.

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae Gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd yn gronfa recriwtio uchel ei pharch ar gyfer amrywiaeth o gyflogwyr yn y sector, a bu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yr Adran Addysg, Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig ac ystod o bleidiau gwleidyddol i gyd yn recriwtio myfyrwyr o’r flwyddyn raddio ddiwethaf.

Y tu allan i'r sector gwleidyddol, mae'r radd o ddiddordeb i gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda graddedigion yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddi ar gyfer bod yn rheolwyr yn EY, Enterprise Rent A Car, Zurich Insurance a King Worldwide.

Lleoliadau

Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Reolwr Lleoliadau penodol sy'n gallu cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau swydd a thechnegau cyfweliad ar gael hefyd.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.