Ewch i’r prif gynnwys

Ffiseg gyda Lleoliad Gwaith Proffesiynol (BSc)

  • Maes pwnc: Ffiseg a seryddiaeth
  • Côd UCAS: F302
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
An IQE employee working on compound semiconductors

Pam astudio'r cwrs hwn

Dyluniwyd y radd BSc Ffiseg i roi addysg ffiseg eang i chi, yn ogystal â rhoi ystod eang o sgiliau cyfrifiadurol a mathemategol i chi.

Mae’r cwrs pedair blynedd hwn, sydd wedi’i achredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP), yn cynnig lleoliad proffesiynol blwyddyn o hyd mewn diwydiant, masnach, llywodraeth neu gyda darparwr lleoliad arall, gan roi'r cyfle i chi ennill profiad gwaith perthnasol yn y maes.

Mae'r radd wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai sydd â meddwl chwilfrydig ac i roi addysg eang ar sut y gellir defnyddio ffiseg ddamcaniaethol ac arbrofol i ddisgrifio'r bydysawd. Mae hefyd yn rhoi dealltwriaeth i chi o effaith ffiseg ar dechnolegau modern.

Nod y cwrs hwn yw eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes ymchwil a datblygiad diwydiannol neu academaidd, addysg neu feysydd eraill lle mae angen ymagwedd ddadansoddol, rifog ac ymarferol i ddatrys problemau, megis ym meysydd busnes a chyllid.

Byddwch yn rhan o adran gyfeillgar a chroesawgar sydd wedi'i lleoli ar hyn o bryd yng nghyfadeilad Adeilad y Frenhines. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o labordai pwrpasol, darlithfeydd a chyfleusterau cyfrifiadurol.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:

  • Byddwch yn astudio mewn amgylchedd cefnogol a chyfeillgar lle caiff adborth myfyrwyr ei werthfawrogi.
  • Staff sy’n flaenllaw ym myd ymchwil yn cyfrannu at gynllunio a chyflwyno cyrsiau
  • Mae cyfleoedd cyson i gynnal gwaith ymarferol yn labordai’r Ysgol
  • Mae pwyslais ar ddysgu annibynnol.
  • Byddwch yn ennill sylfaen gadarn mewn ffiseg, mathemateg a chyfrifiadureg, ac mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi pob un ohonynt.
  • Bydd gennych gyfle i gwblhau blwyddyn o leoliad proffesiynol mewn diwydiant

Bydd yr holl gynnwys craidd sydd ei angen ar gyfer y radd yn cael ei achredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP) a bydd yn rhan o'r cwrs.

Achrediadau

Maes pwnc: Ffiseg a seryddiaeth

  • academic-schoolYr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6457
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid cynnwys gradd A mewn Mathemateg neu radd B mewn Mathemateg a Ffiseg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Mathemateg HL neu radd 6 Mathemateg a Ffiseg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau gwyddoniaeth a pheirianneg a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch neu D mewn unrhyw bwnc BTEC ac yn graddio BB mewn Safon Uwch Mathemateg a Ffiseg.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,800 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £5,640 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Mae’r Ysgol yn talu am offer hanfodol, gan gynnwys gwerslyfrau craidd y cwrs yn y ddwy flynedd gyntaf. Mae’r holl werslyfrau eraill awgrymir ar gael drwy lyfrgelloedd y Brifysgol.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd y Brifysgol yn darparu’r holl offer hanfodol. Ar hyn o bryd y mae hefyd yn darparu gwerslyfr Ffiseg a Mathemateg craidd y flwyddyn gyntaf. Gallwch ddewis prynu gwerslyfrau eraill yn dilyn cyngor gan y staff.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd amser llawn pedair blynedd o hyd yw hon, ac mae'r drydedd flwyddyn yn cael ei threulio ar leoliad proffesiynol. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd o fodiwlau craidd a ddewiswyd yn ofalus, ynghyd â rhai modiwlau dewisol. 10 neu 20 credyd yw gwerth y modiwlau fel arfer, a bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Diben yr ystod o fodiwlau a gynigir yn y flwyddyn gyntaf yw ennyn eich diddordeb mewn Ffiseg, ar yr un pryd â rhoi sylfaen gadarn i chi adeiladu arni yn y blynyddoedd dilynol. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, gallwch barhau â'ch rhaglen radd wreiddiol o ddewis neu ddewis un arall o'n graddau anrhydedd sengl ffiseg a seryddiaeth.

Byddwch yn astudio modiwlau craidd gwerth 110 credyd a modiwl 10 credyd dewisol.

Yn Semester y Gwanwyn gallwch ddewis rhwng modiwlau dewisol fel Cyflwyniad i Astroffiseg, Sut mae'r Corff Dynol yn Gweithio, neu Gyfathrebu Gwyddoniaeth.

Blwyddyn dau

Mae blwyddyn dau y cwrs yn parhau i adeiladu ar y deunydd ffiseg craidd ac yn cynnig dewis ar gyfer eich un modiwl dewisol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ffiseg Caeau a LlifoeddPX213120 Credydau
Mecaneg Quantum RhagarweiniolPX213210 Credydau
Rhaglennu StrwythuredigPX213410 Credydau
Ffiseg Ymarferol CanolraddPX215020 Credydau
Ffiseg Thermol ac YstadegolPX223120 Credydau
OptegPX223210 Credydau
Ffiseg SynopticPX223410 Credydau
Cyflwyniad i Ffiseg Mater CyddwysedigPX223610 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Byddwch yn treulio blwyddyn tri ar leoliad proffesiynol mewn diwydiant, masnach, y llywodraeth neu ddarparwr perthnasol arall sy'n cynnig lleoliad a gymeradwyir gan y Brifysgol. Bwriad y flwyddyn ar leoliad yw eich helpu i ddatblygu eich sgiliau datrys problemau ymhellach, a’ch annog i ddefnyddio menter, i gaffael methodoleg gwaith proffesiynol, a phrofiad ymarferol.

Yn ogystal â gwella eich sgiliau trosglwyddadwy megis ysgrifennu adroddiadau a chyflwyniadau llafar, efallai y byddwch yn cael profiad o weithio mewn tîm, cynyddu eich hunanhyder a deall yn well bwysigrwydd Iechyd a Diogelwch.

Mae'r lleoliad (naw mis o hyd fel arfer) hefyd yn caniatáu i chi werthfawrogi strwythur amgylchedd y gweithle a myfyrio ar eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
LleoliadPX9001120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Mae blwyddyn olaf eich gradd yn eich galluogi i arbenigo ac astudio pynciau dethol yn fanwl. Mae prosiect ymchwil yn rhoi cyfle i chi gymhwyso eich dysgu ffiseg ac i ddatblygu sgiliau mewn ymchwil annibynnol, gwneud cyflwyniadau, ysgrifennu adroddiadau a rheoli gwybodaeth.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ffiseg atomig a niwclearPX314120 Credydau
Ffiseg Mater CyddwysedigPX314210 Credydau
Ffiseg Gronynnau a Pherthnasedd ArbennigPX324120 Credydau
Prosiect FfisegPX335030 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ffiseg GyfrifiadurolPX314310 Credydau
CosmolegPX314610 Credydau
Delweddu Meddygol DigidolPX314710 Credydau
Ffiseg AmgylcheddolPX315310 Credydau
Cyflwyniad i Ddelweddu Cyseiniant MagnetigPX315510 Credydau
Cyfathrebu GwyddoniaethPX316010 Credydau
Dyfeisiau a Chymwysiadau Lled-ddargludyddionPX324210 Credydau
Ffiseg Laser ac Opteg AnllinellolPX324310 Credydau
Uwchsain MeddygolPX324610 Credydau
Ymbelydredd ar gyfer Therapi MeddygolPX324710 Credydau
Ffiseg DdamcaniaetholPX324810 Credydau
Mecaneg YstadegolPX324910 Credydau
Masnacheiddio ArloesiPX325310 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Physics students in a lab

Dysgu ac asesu

Cynhelir yr addysgu gan ddefnyddio ystod o dechnegau, megis darlithoedd traddodiadol, tiwtorialau a gwaith labordy ac ymarferion cyfrifiadurol, yn seiliedig ar brosiectau a sgiliau. Mae Ffiseg yn ddisgyblaeth hierarchaidd, felly mae strwythur y cwrs yn systematig, ac yn adeiladu ar ddealltwriaeth sylfaenol.

Mae ymarferion yn rhan annatod o bob modiwl sy’n seiliedig ar ddarlithoedd, ac mae’r rhain yn rhoi cyfle i chi gymhwyso eich gwybodaeth, cynyddu eich ymwybyddiaeth feirniadol a gwella eich sgiliau datrys problemau.

Byddwch yn cael dosbarthiadau labordy wythnosol yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, i'ch paratoi ar gyfer astudiaeth arbrofol fawr yn rhan o'ch prosiect blwyddyn olaf.

Addysgir Mathemateg ochr yn ochr â’r prif gysyniadau Ffiseg ac Astroffiseg ym mhob blwyddyn, gyda modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf. Mae’n hollbwysig er mwyn deall y pwnc ac mae wedi’i hymgorffori mewn nifer o fodiwlau.

Addysgir sgiliau TG allweddol trwy gydol y cwrs yn ogystal â rhaglennu elfennol drwy ddefnyddio Python. Efallai y cewch y cyfle hefyd i astudio modiwlau cyfrifiadurol a dulliau rhifiadol pellach wrth i'r cwrs ddatblygu.

Cynhelir sesiynau tiwtorial rheolaidd mewn grwpiau bach ym mlynyddoedd un a dau. Bydd y cyfarfodydd hyn yn eich galluogi i gwrdd â myfyrwyr eraill mewn grwpiau bach (fel arfer pedwar neu bump o fyfyrwyr i un tiwtor) a chael adborth ar eich asesiad parhaus. Yn y flwyddyn gyntaf mae’r sesiynau hyn fel arfer yn cael eu cynnal yn wythnosol, ac yn yr ail flwyddyn maen nhw’n cael eu cynnal bob pythefnos.

Drwy gydol y gwaith o gyflawni‘r rhaglen, lle bynnag y bo'n bosibl, mae canlyniadau ymchwil diweddar yn cael eu defnyddio i ddangos enghreifftiau a goleuo'r pwnc.

Disgwylir i ddarparwr eich lleoliad proffesiynol roi profiad i chi o amgylchedd gwaith, lle gellir defnyddio a datblygu rhai sgiliau academaidd y gallwch eu disgrifio mewn adroddiad technegol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd eich prif fodd o ryngweithio â staff academaidd yn digwydd drwy ddarlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (tiwtorialau).

Byddwn hefyd yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn gallu rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.

Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol ar unwaith.

Bydd eich lleoliad proffesiynol yn cael ei oruchwylio gan fentor lleoliad a'i oruchwylio gan aelod staff academaidd a benodir yn benodol.

Trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, bydd modd i chi gael gafael ar ddeunyddiau amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.

Sut caf fy asesu?

There are a wide variety of assessment methods. Some modules combine continuous assessment and end-of-semester exam and others are solely based on continuous assessment.

Continuous assessment (exercises and laboratory work) typically makes up 40% of your marks in year one.

At first the nature and methods of experiments are clearly defined for you, but by your final year you will be capable of tackling more open-ended investigations.

In year three you will undertake a placement (minimum nine months) in an industrial, commercial or other working environment, normally within the UK, that you have selected but which has been approved by the University. You will complete a reflective assessment of your placement, initial and final reports and give an oral presentation of the technical outcomes of your placement year.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Bydd astudio’r cwrs hwn yn eich galluogi i gaffael a datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth ac yn seiliedig ar gyflogadwyedd yn gyffredinol. Byddwch yn:

  • Defnyddio dosbarthiadau labordy i ddatblygu eich sgiliau arbrofol, dadansoddol ac ymchwiliol
  • Dysgu sut i ddylunio offer arbrofol, cylchedwaith electronig neu gaffael data neu algorithmau lleihau data
  • Defnyddio cyfrifiadau manwl gywir neu gyfrifiadau trefn maint mewn sefyllfaoedd priodol
  • Defnyddio pecynnau cyfrifiadurol a/neu ysgrifennu meddalwedd
  • Cynnal ymchwil annibynnol gan ddefnyddio deunyddiau ffynhonnell fel gwerslyfrau, cyfnodolion gwyddonol a chronfeydd data electronig
  • Datblygu eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm a'ch gallu i werthuso eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill yn feirniadol
  • Datblygu eich gallu i ddysgu'n annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae galw mawr am raddedigion Ffiseg a Seryddiaeth ymhlith cyflogwyr ac mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio mewn ystod eang o wahanol feysydd gan gynnwys y gwyddorau ymchwil, ffiseg a thechnoleg feddygol, addysgu a chyllid a bancio.

Rydym yn darparu ystod o gymorth i helpu ein myfyrwyr i ddod o hyd i'r cyfleoedd gyrfa sy'n gweddu orau iddynt, megis Cynghorydd Gyrfaoedd sydd wedi'i leoli'n rhan-amser yn yr Ysgol, ffeiriau gyrfaoedd ar y safle ac ymweliadau â chyflogwyr. Ein nod hefyd yw paratoi ein myfyrwyr drwy roi iddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo i gael swyddi a theimlo'n hyderus yn y gweithle o'u dewis.

Roedd cyflogwyr yn cynnwys prifysgolion rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau fel Rolls Royce, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Lockheed Martin, Tata Steel, Offerynnau Cenedlaethol a Barclays.

Bydd y cysylltiadau a wnewch a'r profiad gwaith a gewch yn ystod eich blwyddyn lleoliad yn gwella eich CV a gall hyd yn oed arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth neu ddarparu cyfeiriadau gwell ar gyfer ceisiadau am swyddi eraill.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Gwyddonydd Ymchwil
  • Ystadegydd
  • Dadansoddwr Data
  • Cyfathrebwr Gwyddoniaeth
  • Cyllid a bancio
  • Peilot Awyrennau
  • Peiriannydd meddalwedd
  • Athro

Lleoliadau

Byddwch yn treulio blwyddyn tri ar leoliad proffesiynol mewn diwydiant, masnach, y llywodraeth neu sefydliad arall a gymeradwyir gan y Brifysgol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.