Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (BA)
- Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth
- Côd UCAS: Q300
- Derbyniad nesaf: Medi 2023
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn
Treuliwch semester dramor
Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd mewn bywyd a dysg.
Wedi'i deilwra i chi
Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.
Profiad yn y diwydiant
Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.
Dysgu gan y gorau
Cewch elwa o gynnwys a arweinir gan ymchwil; a dysgu gan awduron, ysgolheigion iaith ac ysgolheigion llenyddol byd-enwog.
Mae'r radd gyfoethog a gwerth chweil hon yn eich galluogi i gyfuno eich angerdd am yr iaith Saesneg a llenyddiaeth.
Yn llenyddiaeth Saesneg, mae holl rychwant cronolegol llenyddiaeth Saesneg, o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid hyd at yr unfed ganrif ar hugain ar agor ichi. Rydym yn ymdrin â phob genre, o ffuglen troseddol a hanesyddol gyfoes i farddoniaeth, drama, ffilm, cerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol. Ni chyfyngir ein cwricwlwm i’r gair printiedig: gan ein bod yn ymddiddori yn y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celf, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd. Mae'r amrywiaeth hwn yn caniatáu i chi lunio gradd sy’n gweddu i chi, p'un a oes gennych ddiddordeb mewn cyfnodau a genres neu astudiaeth lenyddol gyda dadansoddiad o ffurfiau diwylliannol eraill.
Ar wahân i'n ffocws ar y groesffordd rhwng iaith a diwylliant, cymdeithas, gwleidyddiaeth a meddwl, mae ein gradd Saesneg yn cynnig sylfaen gadarn wrth ddadansoddi'r iaith, a addysgir gan arbenigwyr sy’n cael eu parchu’n rhyngwladol. Fe ddysgwch chi arfau ieithyddol hanfodol fel ffoneteg, gramadeg a dadansoddi disgwrs, a hynny gan y rhai sy’n helpu i ddatblygu’r meysydd hynny. Gan fod gennym ymagwedd eang tuag at iaith, fe ddysgwch hefyd sut y mae dadansoddi’r mathau o destunau amlfoddol sy’n cyfuno gair, delwedd a sain a geir mor aml yn y cyfryngau cyfoes.
Gan ddod â chyfoeth o arbenigedd, bydd ein darlithwyr yn rhannu'r syniadau diweddaraf yn yr ystafell ddosbarth o'r dyniaethau digidol i’r rhywiau, o'r gothig i astudiaethau ôl-drefedigaethol a thu hwnt, wedi'u tynnu o'u hymchwil yn ein canolfannau rhagoriaeth gan gynnwys y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Iaith a Chyfathrebu. Mae ein platfformau cyhoeddus, BookTalk Caerdydd ac Arbrawf Barddoniaeth Caerdydd yn boblogaidd ac yn ennyn llawer o ddiddordeb.
Mae'r radd amrywiol hon hefyd yn rhoi'r hyblygrwydd i chi lunio eich llwybr wrth i chi symud ymlaen. Ar ôl rhaniad cyfartal ym Mlwyddyn Un, gallwch ddewis mwy o fodiwlau o'r naill ddisgyblaeth i'r llall i weddu i'ch diddordebau a'ch dyheadau gyrfaol.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Os ydych yn gwneud cais i astudio'r cwrs yma drwy Glirio, gall gofynion graddau mynediad fod yn uwch na'r rhai a hysbysebwyd. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBB. Rhaid i’r rhain gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 ar Lefel Uwch mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD-DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ogystal â gradd B mewn Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Ysgrifennu Creadigol ar Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,000 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,000 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £20,450 | Dim |
Blwyddyn tri | £20,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am dair blynedd gyda dau semester y flwyddyn. Ceir 120 o gredydau bob blwyddyn. 20 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o’r modiwlau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023
Blwyddyn un
Byddwch yn astudio 120 credyd bob blwyddyn o'ch gradd, gan gynnwys modiwlau craidd a dewisol.
Ym Mlwyddyn Un, gan ddibynnu ar eich diddordebau unigol a'ch cynlluniau ar gyfer eich gyrfa, gallwch ddewis gwneud 60 credyd yr un rhwng eich dau bwnc, neu astudio 80 credyd mewn un a 40 yn y llall. (Mae angen i chi gymryd o leiaf 40 credyd ym mhob pwnc.)
Mae blwyddyn un yn cynnig sylfaen ar gyfer astudio ac fe’i cynlluniwyd i roi i chi’r sgiliau i astudio ar lefel uwch a chael trosolwg o’ch pynciau i allu gwneud dewisiadau gwybodus o blith modiwlau blynyddoedd dau a thri. Mae’r ddau fodiwl craidd (40 credyd) Saesneg Iaith yn rhoi sylfaen wych o ran disgrifio, dadansoddi a dehongli iaith. Mae'r modiwl craidd (20 credyd) mewn Llenyddiaeth Saesneg yn datblygu sgiliau beirniadol a chyd-destunol wrth ddadansoddi testunau llenyddol a ffyrdd ategol o ddarllen. Mae gennych hefyd yr opsiwn i gymryd modiwlau pâr (40 credyd) a fydd yn cyflwyno theori ac ymarfer Ysgrifennu Creadigol i chi.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
How Language Works 1 | SE1113 | 20 Credydau |
How Language Works 2 | SE1114 | 20 Credydau |
Critical Reading and Critical Writing | SE2146 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Language and the Mind | SE1111 | 20 Credydau |
Reading and Writing in the Digital Age | SE1112 | 20 Credydau |
Developing English: History and Society | SE1115 | 20 Credydau |
Understanding Communication | SE1116 | 20 Credydau |
Drama: Stage and Page | SE2139 | 20 Credydau |
Star-cross'd Lovers: the Politics of Desire | SE2140 | 20 Credydau |
Transforming Visions: Text and Image | SE2142 | 20 Credydau |
Creative Reading | SE2144 | 20 Credydau |
Creative Writing | SE2145 | 20 Credydau |
Transgressive Bodies in Medieval Literature | SE2147 | 20 Credydau |
Ways of Reading | SE2148 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Ym Mlwyddyn Dau, byddwch yn cymryd 120 credyd, gan gynnwys dau fodiwl craidd.
Mae'r modiwl craidd cyntaf yn eich cyflwyno i astudio arddull ieithyddol mewn ystod eang o destunau creadigol a llenyddol (gan gyfrif fel 10 credyd yr un ar gyfer Iaith a Llenyddiaeth). Mae'r ail fodiwl yn cwmpasu elfennau hanfodol seineg, gramadeg a semanteg geiriadurol (ystyr geiriau), gan adeiladu stoc gyffredin o wybodaeth a dealltwriaeth mewn Llenyddiaeth Saesneg.
Byddwch hefyd yn dewis pedwar opsiwn (80 credyd) ar draws Iaith a Llenyddiaeth, a byddwch yn gorfod dewis o leiaf un o bob pwnc.
Mae modiwlau dewisol mewn Iaith Saesneg yn darparu gwybodaeth sylfaenol gadarn mewn ystod o feysydd astudio allweddol. Ar hyn o bryd, mae'r pynciau yn cynnwys sosioieithyddiaeth, hanes Saesneg, datblygiad iaith plant, iaith a rhyw, dulliau ymchwil, llythrennedd ddigidol a nodweddion arddull. Mae'r hyfforddiant a ddarperir drwy’r modiwlau hyn yn eich paratoi i wneud eich dewis o blith y modiwlau 'estynedig' mwy arbenigol, dan arweiniad ymchwil, sydd ar gael yn eich blwyddyn olaf.
O ran Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn dewis o blith ystod o fodiwlau sy’n seiliedig ar gyfnod, genre neu thema, a byddwch chi’n darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol. Gallwch hefyd barhau i astudio Ysgrifennu Creadigol yn ystod blwyddyn dau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sound, Structure and Meaning | SE1411 | 20 Credydau |
Style and Genre | SE1416 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Byddwch yn astudio 120 o gredydau.
Gan ddibynnu ar eich diddordebau unigol a'ch cynlluniau ar gyfer eich gyrfa, gallwch ddewis gwneud 60 credyd yr un rhwng eich dau bwnc, neu astudio 80 credyd mewn un a 40 yn y llall.
Cynigir modiwlau Saesneg Iaith yn y meysydd pwnc y mae staff yn gweithio ynddynt ar hyn o bryd, gan roi cipolwg unigryw i chi ar rywfaint o’r gwaith ymchwil mwyaf diweddar ac arloesol. Mae'r modiwlau hyn yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i chi gasglu a dadansoddi eich data eich hun. Ar hyn o bryd, mae'r modiwlau'n mynd i'r afael â meysydd fel anhwylderau cyfathrebu, ieithyddiaeth fforensig, dysgu ac addysgu iaith, iaith ac ideoleg, ieithyddiaeth corpws, trafodaethau yn y cyfryngau, cyfathrebu proffesiynol a rhyng-ddiwylliannol, a chyfathrebu mewn perthnasoedd.
Erbyn blwyddyn olaf Llenyddiaeth Saesneg, byddwch wedi cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genre a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn dadansoddi cyd-destunau a thestunau a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn dewis o blith ystod mwy arbenigol o fodiwlau sy'n ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod mewn perthynas ag awduron a thestunau a phynciau a meysydd hanesyddol yr ydych chi’n gyfarwydd â nhw, ac efallai rhai sy'n llai cyfarwydd i chi.
Cewch y cyfle i ymgymryd ag ymchwil mewn pwnc o'ch dewis yn y naill bwnc fel Prosiect neu Draethawd Hir (20 credyd), neu ar bwnc sy'n cyfuno'r ddau bwnc fel Traethawd Estynedig (40 credyd), yn amodol ar eich perfformiad ym mlwyddyn dau. Fel arall, os ydych yn dymuno astudio Ysgrifennu Creadigol ym Mlwyddyn 3, gallwch gymryd y Prosiect Arbennig sy'n werth 40 credyd.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol i’ch galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.
Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau
Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.
Sut caf fy asesu?
A range of formative and summative assessment methods are used, including essays, examinations, presentations, portfolios and creative assignments.
Essays and examinations are used not only for assessment purposes but also as a means of developing your capacities to gather, organise, evaluate and deploy relevant information and ideas from a variety of sources in reasoned arguments. Dedicated essay workshops and individual advice enable you to produce your best work, and written feedback on essays feeds forward into future work, enabling you to develop your strengths and address any weaker areas.
The optional final-year dissertation provides you with the opportunity to investigate a specific topic of interest to you in depth and to acquire detailed knowledge about a particular field of study, to use your initiative in the collection and presentation of material and present a clear, cogent argument and draw appropriate conclusions.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:
- deall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
- gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Mae ein graddau mewn Saesneg Iaith a Llenyddiaeth yn cyfuno’r goreuon o blith sgiliau dyniaethau (hyblygrwydd, cyfathrebu, beirniadu) â sgiliau gwyddorau cymdeithasol (dadansoddi technegol a dull systematig). Mae cyrchfannau cyffredin yn cynnwys addysgu ysgolion cynradd ac uwchradd, addysgu Saesneg fel iaith dramor, newyddiaduraeth (digidol), marchnata a cysylltiadau cyhoeddus, gwerthu a hysbysebu, y gwasanaeth sifil a gweinyddiaeth gyhoeddus.
Mae'r swyddi mwyaf cyffredin/poblogaidd ar gyfer graddedigion y rhaglen hon yn cynnwys:
- Athro Saesneg
- Cynorthwy-ydd ymchwil
- Gweithiwr proffesiynol yn y cyfryngau
- Golygydd
- Cynorthwy-ydd therapi iaith a lleferydd
- Gweithiwr proffesiynol ym meysydd busnes a gwasanaethau cyhoeddus
- Technoleg gwybodaeth a'r proffesiwn telathrebu
Yn ystod eich gradd gallwch fanteisio'n llawn ar yr ystod eang o gyfleoedd a ddarperir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Gyrfaoedd graddedigion
- Darlithydd
- Athro
- Awdur
- Dadansoddwr Gwybodaeth am Droseddau
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.