Ewch i’r prif gynnwys

Cemeg Feddyginiaethol (BSc)

  • Maes pwnc: Cemeg
  • Côd UCAS: F150
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

Cwrs gradd blaengar yw Cemeg Feddyginiaethol, gan ystyried problemau'r dyfodol, gan gysylltu â diwydiant ac ymestyn y tu hwnt i'r labordy i gwmpasu meysydd fel busnes, marchnata, a chynaliadwyedd.

certificate

Hyfforddiant ar gyfer y dyfodol

Cwrs blaengar sy'n cynnig hyfforddiant ar gyfer y dyfodol ac ystod eang o yrfaoedd.

people

Datblygu sgiliau pwysig

Astudiwch bynciau pwysig fel creu brechlynnau ar gyfer pandemigau presennol ac yn y dyfodol, a chreu cynhyrchion fferyllol cynaliadwy sy'n garedig i'r blaned ac yn fforddiadwy i bawb.

tick

Camwch y tu hwnt i'r labordy

Camwch y tu hwnt i'r labordy i feysydd fel rheoli prosiectau, busnes,marchnata, cyllid, gweithrediadau, strategaeth, cynaliadwyedd, arweinyddiaeth a mwy.

Mae'r cwrs tair blynedd hwn yn rhoi cyflwyniad eang i brif feysydd cemeg yn y flwyddyn gyntaf ac yna, yn y blynyddoedd dilynol, mae'n arbenigo yn y sgiliau cemeg a'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen yn y diwydiant fferyllol. Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn treulio oriau lawer yn ein labordai yn ennill profiad ymarferol o dechnegau syntheseiddio a phrofi cyffuriau, ac yn datblygu eich sgiliau ymchwil, mathemategol a chyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn dysgu am arweinyddiaeth, rheolaeth a chynllunio prosiectau. Yn y flwyddyn olaf, cewch gyfle i arbenigo mewn maes sy'n ddiddorol neu'n bwysig i chi trwy brosiect gwreiddiol.

Maes pwnc: Cemeg

  • academic-schoolYr Ysgol Cemeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4023
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid cynnwys Cemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Cemeg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.


Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd yr ysgol yn cynnwys cost popeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n glir yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a rydd tiwtoriaid ar lafar. Efallai y bydd angen i chi dalu costau ychwanegol nad ydynt yn hanfodol neu sy'n gostau sylfaenol y mae disgwyl i fyfyrwyr eu talu eu hunain. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn cynnwys gliniaduron, cyfrifianellau, deunydd ysgrifennu cyffredinol, gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell), a chopïo/argraffu sylfaenol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae gan y rhaglen dair blynedd, lle mae pob blwyddyn yn cynnwys dau semester sy'n cynnwys modiwlau gwerth cyfanswm o 120 credyd.

Ym mlwyddyn un byddwch yn astudio modiwlau cemeg gorfodol gwerth 120 credyd, gan gynnwys modiwlau sy'n cyflwyno cemeg yn y brifysgol a'r diwydiant fferyllol, ynghyd â 30 credyd o waith ymarferol.

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn astudio modiwlau gorfodol mewn cemeg, sgiliau trosglwyddadwy, a modiwl ymarferol 30 credyd.

Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn ymgymryd â gwaith ymarferol yn semester yr hydref (20 credyd) yn ogystal â modiwlau mewn cemeg organig, ystadegau a gwyddor data. Dilynir hyn gan brosiect arbenigol yn semester y gwanwyn (40 credyd).

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Nod modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw ysgogi eich diddordeb yn y pwnc, gan roi sylfaen wybodaeth gadarn o ran cemeg a throsolwg o'r diwydiant fferyllol i adeiladu arno yn y blynyddoedd canlynol. Ategir modiwlau cemeg theori craidd â gwaith ymarferol a gweithdai mathemategol.

Blwyddyn dau

Mae’r Ail Flwyddyn yn adeiladu ar sgiliau cemeg cyffredinol y flwyddyn gyntaf gyda modiwlau ym meysydd cemeg sydd o'r pwys mwyaf i gemegwyr meddyginiaethol. Ategir y rhain gan fodiwl labordy sy'n rhoi profiad o dechnegau cemeg organig, biolegol a chyfrifiadurol. Bydd modiwlau sgiliau trosglwyddadwy yn rhoi'r sgiliau i chi mewn gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a rheoli prosiectau sy'n werthfawr mewn gyrfa yn y diwydiant.

Blwyddyn tri

Byddwch yn astudio modiwlau theori mewn cemeg organig a meddyginiaethol synthetig, ystadegau a gwyddor data. Yn semester yr hydref bydd modiwl ymarferol labordy ac yn y gwanwyn cynhelir prosiect gwreiddiol sylweddol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Chemistry student in the lab

Dysgu ac asesu

Fel arfer, cynhelir addysgu yn yr Ysgol Cemeg drwy gyfres o ddarlithoedd, darlithoedd datrys problemau rhyngweithiol, darlithoedd gwrthdro, tiwtorialau mewn grwpiau bach, gweithdai, dosbarthiadau ymarferol sy'n cynnwys naill ai gwaith labordy neu waith cyfrifiadurol, a phrosiect. Cefnogir y rhain gan ddeunydd sy'n cael ei gynnal ar Dysgu Canolog, amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, megis labordai rhithwir a chwisiau hunanastudio.

Darlithoedd yw un elfen bwysig o’r addysgu. Fel arfer ceir 10-12 ohonynt yr wythnos sy’n 50 munud o hyd. Cefnogir y deunydd pwnc mewn sawl ffordd gan ddibynnu ar y pwnc o dan sylw. Gall hyn gynnwys sleidiau, cyflwyniadau cyfrifiadurol a fideos. Mae darlithoedd yn cael eu recordio ac maent ar gael i'w gwylio eto ar-lein.

Darlithoedd datrys problemau rhyngweithiol

Mewn darlithoedd datrys problemau rhyngweithiol, byddwch yn ymarfer sut i ddatrys problemau (gan gynnwys problemau arholiad) gan ddefnyddio deunydd a ddysgwyd yn flaenorol mewn darlith. Mae'r darlithoedd hyn yn aml yn rhyngweithiol ond yn cael eu harwain gan y darlithydd sy'n ymgysylltu â'r dosbarth wrth ystyried ffyrdd posibl o ddatrys problemau penodol.

Darlithoedd gwrthdro

Mae darlithoedd gwrthdro yn debyg iawn i ddarlithoedd datrys problemau rhyngweithiol; yr hyn sy’n wahanol yw bod y deunydd y mae angen i chi ei wybod ar gyfer y sesiwn drafod yn cael ei ddarparu i chi cyn y ddarlith ryngweithiol. Mae hyn yn golygu bod disgwyl i chi fod wedi cymryd rhan mewn hunanastudio cyn y ddarlith. Gellir sicrhau bod deunydd ar gyfer darlithoedd gwrthdro ar gael mewn sawl fformat, ond mae fideos byr wedi'u recordio neu adrannau gwerslyfrau am bynciau neu ddamcaniaethau penodol yn fformat poblogaidd.

Mae'r gweithdai hefyd yn cynnwys ymarferion datrys problemau yn y dosbarth ond fel arfer maent yn cynnwys arweiniad llai parhaus gan y darlithydd yn ystod y cam datrys problemau. Yn lle hynny, mae gweithdy yn aml yn cynnwys cymharu gwahanol atebion arfaethedig. Gall gweithdai gynnwys gwaith grŵp.

Gwaith labordy

Mae ail ran yr addysgu yn cynnwys dosbarthiadau ymarferol yn y labordy addysgu. Yn y flwyddyn gyntaf, mae’r pwyslais ar dechnegau sylfaenol a chofnodi arsylwadau mewn modd syml ond cywir. Ymdrinnir â thechnegau mwy datblygedig mewn cemeg organig a biolegol yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Addysgir sgiliau trwy brofiad ymarferol yn y labordy gydag adborth ar unwaith gan arddangoswyr, gan ddefnyddio offer tebyg i'r hyn a geir ym myd diwydiant. Cefnogir gwaith labordy gan amrywiaeth o adnoddau e-ddysgu gan roi'r cyfle i gywiro camgymeriadau cyn mynychu sesiynau labordy.

Gwaith cyfrifiannol

Bydd profiad ymarferol yn cael ei ddarparu gyda modelu moleciwlaidd o safon diwydiant, lluniadu cemegol, prosesu data a meddalwedd llyfr nodiadau electronig.

Tiwtorialau grŵp bach

Rhoddir dosbarthiadau tiwtorial mewn grwpiau bach yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, er mwyn ymarfer, trafod a dadansoddi deunydd y darlithoedd, yn ogystal â datblygu sgiliau cyfathrebu. Cyflwynir sesiynau gan staff sy'n arbenigwyr ym maes pwnc pob tiwtorial.

Labordai rhithwir a chwisiau hunanastudio

Mae'r dulliau addysgu uchod yn cael eu hategu â deunyddiau a gynigir trwy ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir sy'n cynnwys labordai rhithwir a chwisiau ar-lein ar gyfer hunanastudio.

Prosiect

Yn y flwyddyn olaf byddwch yn gweithio ar brosiect ac yn cael pwnc i ymchwilio iddo neu ei ddatblygu. Gall prosiectau gynnwys cyfuniad o ymchwil labordy, gwaith cyfrifiannol a llenyddiaeth. Byddwch yn cyflwyno canlyniadau eich gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy weithio o dan arweiniad arbenigwr yn y maes.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae’r holl staff yn gweithredu polisi drws agored, sy’n golygu y gallwch bob amser fynd at staff gyda phroblemau – boed y rheiny’n academaidd neu’n broblemau eraill. Mae addysgu mewn grwpiau bach yn digwydd gydag aelodau o staff, gan roi cyfle i chi ddod â'ch cwestiynau i arbenigwyr pwnc. Bydd gennych hefyd diwtor personol a fydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar y staff academaidd a byddwch yn cwrdd yn rheolaidd trwy gydol eich gradd i drafod eich cynnydd academaidd a'ch datblygiad gyrfa. Mae'r Tîm Addysg a Myfyrwyr Ysgol yn darparu cymorth ar gyfer gweinyddu cyrsiau megis amserlennu.

Byddwch yn cael llawlyfr cynhwysfawr sy'n briodol i'ch blwyddyn astudio. Mae'n cynnwys manylion am weithdrefnau a pholisïau'r Ysgol.

Rydym yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Dysgu Canolog) y Brifysgol i rannu gwybodaeth a deunyddiau addysgu a chefnogi eich dysgu. Cyflwynir mwyafrif yr asesiadau ar-lein, a bydd adborth yn cael ei ddarparu'n awtomatig ar gyfer llawer o asesiadau, ond ar gyfer eraill bydd y marcio yn cael ei wneud gan staff a bydd adborth yn cael ei roi ar ffurf sylwadau ysgrifenedig neu sain/fideo.

Sut caf fy asesu?

Cynhelir asesiadau ffurfiannol a chrynodol yn ystod pob blwyddyn astudio. Mae hyn yn rhoi mesur o berfformiad i'ch hysbysu chi, staff, a darpar gyflogwyr am eich cynnydd a'ch cyrhaeddiad. Hefyd gall helpu'r broses ddysgu trwy dynnu sylw at feysydd llwyddiant a meysydd y mae angen mwy o sylw arnynt. Mae'r asesu'n cynnwys cyfuniad o ddulliau sy'n cael eu dewis i weddu i ganlyniadau penodol pob modiwl a'r cwrs yn ei gyfanrwydd. Mae'r dulliau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Arholiadau ffurfiol a phrofion dosbarth gyda therfynau amser penodol ar gyfer modiwlau theori
  • Adroddiadau ac allbynnau (cyfansoddion, data, cod) o waith labordy a gwaith cyfrifiadurol i ddangos meistrolaeth ar sgiliau ymarferol ac adrodd i safonau proffesiynol
  • Cynllunio a chynnal gwaith prosiect ac adrodd amdano
  • Traethodau ar gyfer arddangos chwilio, cyfosod a gwerthuso'r llenyddiaeth
  • Datrys problemau fel aseiniadau gweithdy neu ymarferion ar-lein sy'n galluogi rhoi theori ar waith
  • Cyflwyniadau llafar
  • Paratoi ac arddangos posteri.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn ei gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Ar ôl cwblhau eich Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD 1 Bod yn gyfarwydd â therminoleg, enwau, confensiynau ac unedau cemegol

GD 2 Adnabod, egluro a chymhwyso'r prif fathau o adwaith mewn cemeg organig a biolegol fel y'u defnyddir mewn cemeg feddyginiaethol.

GD 3 Esbonio'r egwyddorion ffisegol a chyfiawnhau'r dewis o dechnegau ar gyfer dadansoddi ymgeiswyr cyffuriau a mesur/rhagfynegi eu gweithgaredd biolegol.

GD 4 Disgrifio a rhoi enghreifftiau o dargedau a dull gweithredu dosbarthiadau mawr o gyffuriau.

GD 5 Esboniwch rôl cemeg feddyginiaethol wrth ddarganfod cyffuriau a sut mae'n rhyngweithio â'r fenter darganfod cyffuriau ehangach a'r gymdeithas.

Sgiliau Deallusol:

SD 1 Adnabod, dadansoddi a datrys problemau trwy ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth bynciol yn ansoddol ac yn feintiol.

SD 2 Dehongli data sy'n deillio o arsylwadau a mesuriadau labordy o ran y theori sy'n sail iddynt ac asesu eu harwyddocâd yn feirniadol.

SD 3 Defnyddio modelau damcaniaethol a dulliau cyfrifiadurol cysylltiedig ar gyfer gwneud rhagfynegiadau o briodweddau ffisegol, cemegol a biolegol moleciwlau.

SD 4 Llunio crynodebau o wybodaeth sy'n deillio o sawl ffynhonnell.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SY 1 Cynllunio a chynnal gweithdrefnau labordy safonol yn ddiogel ar gyfer paratoi, puro, dadansoddi a chynnal profion biolegol cyffuriau.

SY 2 Mewn modd systematig a dibynadwy, arsylwi ar ddata sy’n ymwneud â pharatoi, dadansoddi a chynnal cyffuriau, a monitro a chofnodi hyn mewn modd sy’n briodol i gemegwr proffesiynol sy’n gweithio mewn sefyllfa academaidd neu ddiwydiannol.

SY 3 Cyfleu cysyniadau, cynigion a data gwyddonol ar lafar ac yn ysgrifenedig i ystod o gynulleidfaoedd trwy'r cyfryngau gan gynnwys cyfnodolion, adroddiadau, seminarau a chynadleddau.

SY 4 Ymgymryd â chyfrifiannau, prosesu data a chwiliadau electronig o gronfeydd data sy'n ymwneud â chyffuriau a sut maent yn rhyngweithio â systemau biolegol.

SY 5 Gweithredu gydag uniondeb gwyddonol ac mewn modd moesegol gan ystyried goblygiadau cymdeithasol ac amgylcheddol y diwydiant fferyllol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

SA 1 Defnyddio technoleg gwybodaeth fel prosesu geiriau, taenlenni, cofnodi a storio data, cyfathrebu ar y we a phecynnau llunio cemegol.

SA 2 Defnyddio sgiliau rhifedd a mathemategol gan gynnwys algebra, ystadegau a dadansoddi gwallau i brosesu, dehongli a chyflwyno data.

SA 3 Cynllunio a gweithredu prosiectau ar amser wrth weithio fel rhan o dîm rhyngddisgyblaethol.

SA 4 Myfyrio ar eich dysgu eich hun ac, yn annibynnol, nodi a chynnal astudiaeth sydd ei hangen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

Chemistry student in the lab

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Bydd gradd BSc Cemeg Feddyginiaethol o Brifysgol Caerdydd yn agor llawer o ddrysau i chi. Yn gyntaf, byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen ar gymdeithas i ddatrys llawer o faterion allweddol, er enghraifft; creu brechlynnau a meddyginiaethau ar gyfer clefydau presennol ac yn y dyfodol, neu greu cynhyrchiol fferyllol ecogyfeillgar sy'n garedig i'r blaned ac yn fforddiadwy i bawb. Byddwch wedi cael profiad o raddio arbrofion bach i lefel ddiwydiannol lawn ac wedi elwa o gysylltiadau yn y byd go iawn â diwydiannau a chwmnïau. Bydd eich hyfforddiant wedi ymestyn y tu hwnt i'r labordy, i reoli prosiectau, busnes, ​marchnata, cyllid, strategaeth, cynaliadwyedd ac arweinyddiaeth, felly byddwch yn barod iawn i fynd i mewn i ystod amrywiol o yrfaoedd.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.