Ewch i’r prif gynnwys

Hanes yr Henfyd a Hanes (BA)

  • Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd
  • Côd UCAS: V117
  • Derbyniad nesaf: Medi 2023
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Astudiwch gydag angerdd

Dilynwch eich diddordebau gyda phynciau sy'n amrywio o gaethwasiaeth yn America i hanes Persia a Japan.

book

Dysgu gan arbenigwyr

Cewch elwa o addysgu a chefnogaeth gan staff ymchwil-weithredol.

star

Traethawd hir gyda gwahaniaeth

Dilynwch bwnc sy'n sbarduno eich chwilfrydedd; cewch wella sgiliau niferus gyda chyflwyniad ac elfen ysgrifenedig.

briefcase

Gweithdai gyrfaoedd rhyngweithiol

Cyfle i hogi eich sgiliau gyrfa a chael cipolwg gwerthfawr ar rolau a sectorau sy'n addas i chi.

Yn Hanes yr Henfyd, byddwch yn darganfod y Dwyrain Agos, Persia ac Ymerodraeth Bysantiwm, yn ogystal â'r byd Groegaidd a Rhufeinig, drwy archwilio ystod eang o dystiolaeth lenyddol, gweledol, epigraffegol ac archaeolegol. Nid yw cyn astudio hanes yr henfyd yn hanfodol; bydd ein rhaglen yn datblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o gymdeithasau hynafol, yn ogystal â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo ar lefel prifysgol a thu hwnt.

I ni, mae pynciau cymdeithasol a diwylliannol yr un mor bwysig â hanes gwleidyddol. Byddwch yn dod ar draws themâu hynod ddiddorol gyda pherthnasedd cyfoes, megis rhyfela, rhywedd a rhywioldeb, crefydd, meddygaeth, celf a llenyddiaeth, a byddwch yn darganfod sut mae hynafiaeth yn parhau i ysbrydoli'r byd modern.

Mae elfen hanes y radd hon yn rhoi cyfle i chi siapio eich angerdd am hanes yn ôl eich diddordebau, gan ddefnyddio'r dulliau diweddaraf i astudio'r gorffennol gyda llygad beirniadol a gwneud cysylltiadau â thrafodaethau ar bynciau llosg.

Rydyn ni’n hyddysg ynghylch amrywiaeth helaeth o gymdeithasau, cyfnodau a lleoedd ledled Ynysoedd Prydain, Ewrop (dwyrain a gorllewin), Affrica, Asia ac America. Byddwch yn dadansoddi pynciau o bob cwr o'r byd, gan ganiatáu ichi roi eich sgiliau fel hanesydd ar waith. At hynny, mae casgliadau mawreddog yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau'r Brifysgol yn rhoi mynediad i chi i ystod eang o destunau gwreiddiol a ffynonellau, gan gynnwys rhai o lyfrau print hynaf y byd.

Mae cyfuno Hanes a Hanes yr Henfyd yn ffordd wych o ennill cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy, wrth archwilio holl ystod hanes pobl. Mae'r amser a dreulir ar bob pwnc yn cael ei rannu'n gyfartal, gan ganiatáu i chi amsugno hanes hynafol, canoloesol a modern yn llawn drwy dystiolaeth faterol, ysgrifenedig a gweledol.

Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd gyda blwyddyn o astudio dramor, gan ymestyn eich gradd i raglen pedair blynedd, gyda'ch trydedd flwyddyn yn cael ei threulio mewn sefydliad partner y tu allan i'r DU.

Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Os ydych yn gwneud cais i astudio'r cwrs yma drwy Glirio, gall gofynion graddau mynediad fod yn uwch na'r rhai a hysbysebwyd. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Yn unol â Pholisi Derbyn Prifysgol Caerdydd.  Mae'n bosibl y cyfwelir ymgeiswyr sy'n dychwelyd i addysg mewn modd nad yw'n arferol, megis trwy gwrs Mynediad.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £20,450 Dim
Blwyddyn dau £20,450 Dim
Blwyddyn tri £20,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Dylech chi fod yn fodlon prynu rhai testunau pwysig a thalu am argraffu a llungopïo’ch deunydd. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn ddiddorol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’r radd BA Hanes yr Henfyd a Hanes wedi’i strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael y sgiliau lefel uchel dros flynyddoedd olynol y byddwch eu hangen i ddod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer cyflogaeth broffesiynol.

Byddwch yn astudio 120 credyd ym mhob blwyddyn o'ch gradd, gan gymryd 60 credyd ym mhob disgyblaeth o ystod o fodiwlau craidd a dewisol. Mae'r modiwlau anghonfensiynol yn Hanes yr Henfyd a Hanes yn cwmpasu ystod eang o themâu, dulliau a chyfnodau, gan roi'r hyblygrwydd i chi ddilyn llwybr pwrpasol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn 1, byddwch yn astudio 100 credyd o fodiwlau craidd a 20 credyd o fodiwlau dewisol.

Yn hanes yr henfyd, byddwch yn caffael gwybodaeth eang am hanes yr henfyd o 1000 CC i 680 OC a'r dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer ei astudio. Mae'r modiwlau craidd hefyd yn rhoi sgiliau academaidd hanfodol i chi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol.

Mewn hanes, mae ein modiwlau blwyddyn 1 wedi'u cynllunio i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer astudiaeth uwch a'ch cyflwyno i themâu hanesyddol a meysydd astudio na fyddwch efallai wedi dod ar eu traws mewn Safon Uwch. Bydd ein dau fodiwl craidd yn cyflwyno’r gwahanol fframweithiau sydd wrth wraidd astudio hanes a’r amryw ffyrdd o’i bortreadu, yn ogystal â’ch galluogi i ystyried y dadleuon mawr am sut mae deall cysylltiadau ‘byd-eang’ a newid hanesyddol i gwestiynu ein ffordd o feddwl am gyfnodau a ffiniau rhanbarthau a gwledydd. Mae cymryd modiwl dewisol ychwanegol yn caniatáu i chi ymestyn eich gwybodaeth a'ch sgiliau hanesyddol trwy amrywiaeth o gyfnodau a rhanbarthau posibl i osod y sylfaen ar gyfer astudio ym mlwyddyn 2 a'r flwyddyn olaf.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2, byddwch yn astudio am 40 o gredydau craidd a 80 o gredydau dewisol.

Mae’r modiwl craidd arall yn hanes yr henfyd yn brosiect unigol ar bwnc o’ch dewis eich hun, y byddwch yn ei gyflwyno mewn ffordd greadigol a mentrus ac felly’n datblygu eich sgiliau ymchwil a chyflogadwyedd. Byddwch hefyd yn dewis dau fodiwl dewisol o ystod o gyfnodau a themâu, gan ganiatáu i chi ddilyn eich diddordebau penodol, a allai gynnwys dysgu Lladin neu Roeg hynafol, neu gymryd modiwl lleoliad gwaith i'ch helpu i gyflawni eich dyheadau o ran gyrfa.

Mewn hanes, byddwch yn cymryd modiwl craidd sy'n eich cyflwyno i'r dulliau damcaniaethol allweddol a'r dulliau sydd wedi dylanwadu ar ysgrifennu hanesyddol. Mae ein modiwlau dewisol yn eich galluogi i archwilio themâu ar draws ystod amser gulach wrth annog ymagwedd fwy cymharol at hanes.

Yn eich ail flwyddyn, mae'r pwyslais yn symud tuag at wahanol agweddau at hanes a gwahanol ffyrdd o ddefnyddio tystiolaeth. Mae gennych hefyd yr opsiwn i gymryd modiwlau sy'n rhoi dealltwriaeth ddyfnach i chi o'r mathau o dystiolaeth y mae haneswyr yn eu defnyddio, y ffyrdd o ddefnyddio'r dystiolaeth honno, a rôl yr hanesydd wrth rannu ymchwil y tu hwnt i ffiniau'r byd academaidd a'r lleisiau y mae’n eu breintio neu dawelu.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Independent Second Year StudyHS320220 Credydau
Reading HistoryHS620120 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Past, Present and FutureHS020120 Credydau
Past and Present: Encountering AntiquityHS320120 Credydau
Greece and the Near East: Expanding WorldsHS320320 Credydau
From the Hellenistic World to the Roman EmpireHS320420 Credydau
The Late Ancient WorldHS320520 Credydau
Life in Ancient RomeHS320620 Credydau
Gender and Sexuality in the Ancient WorldHS320720 Credydau
Reading Latin 1HS322120 Credydau
Reading Latin 2HS322220 Credydau
Reading Greek 1HS322320 Credydau
Reading Greek 2HS322420 Credydau
Making History: Historians, Evidence, AudiencesHS620220 Credydau
Everyday Life in Medieval Britain c1200–1600HS621020 Credydau
A History of the SupernaturalHS621120 Credydau
History of Human RightsHS621220 Credydau
Accessible PastsHS621320 Credydau
The British Civil WarsHS621420 Credydau
European Enlightenment(s): The View from the MarginsHS621520 Credydau
America: From Revolution to ReconstructionHS621620 Credydau
Modern FranceHS621720 Credydau
Europe's Dark CenturyHS621820 Credydau
Stalinism: State, Society, and EnvironmentHS621920 Credydau
Close Neighbours, Dangerous Foes: China, Japan and Modern East AsiaHS622020 Credydau
Politics and the People in Modern Britain: Protest, citizenship and the stateHS622120 Credydau
Environmental HistoriesHS622220 Credydau
Anti-Colonial ResistanceHS622320 Credydau
Language Skills for HistoriansHS622420 Credydau
Chwyldro, Diwylliant a Radicaliaeth, 1789–1914HS622520 Credydau
An Introduction to Greek Art and ArchaeologyHS720520 Credydau

Blwyddyn tri

Ym Mlwyddyn Tri, byddwch yn dewis 60 credyd arall o Hanes yr Henfyd a 60 credyd Hanes, a allai gynnwys traethawd hir ar bwnc o'ch dewis naill ai mewn Hanes neu Hanes yr Henfyd.

Mae'r traethawd hir yn gyfle ichi ennill profiad ymchwil a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ymchwilio i broblem hanesyddol a chyflwyno eich canfyddiadau mewn astudiaeth gydlynol, ddadansoddol a beirniadol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Reaching Out: Enterprise, Community and CollaborationHS030120 Credydau
Roman BritainHS236220 Credydau
Art and Archaeology of Archaic GreeceHS238620 Credydau
The Byzantine EmpireHS333420 Credydau
Empires of FaithHS334020 Credydau
Early Christianity and Late AntiquityHS334820 Credydau
Two Greek Historians: Herodotus and ThucydidesHS334920 Credydau
The PersiansHS335020 Credydau
Greek and Roman MedicineHS337620 Credydau
Hellenistic SocietyHS339120 Credydau
The South Shore: The Cities, Cultures and Identities of North Africa in Antiquity and the Early Middle AgesHS430920 Credydau
Greek WarfareHS436620 Credydau
The Roman ArmyHS436720 Credydau
Early Rome and the EtruscansHS437220 Credydau
Hellenistic Art and ArchitectureHS437320 Credydau
Digital Games and the Practice of HistoryHS631020 Credydau
Spies and Espionage in the Medieval WorldHS631120 Credydau
Kingship: Image, Power and Portrayal, c.1100-1399HS631220 Credydau
Gender, Identity and Experience in Medieval EuropeHS631320 Credydau
Witchcraft and Witch-Hunting in Early Modern Europe, 1400-1750HS631420 Credydau
An Information Revolution: Politics and Communication in Early Modern BritainHS631520 Credydau
Health and Illness in Early Modern BritainHS631620 Credydau
Mobile Lives: Travel, Exile, and Migration in the Early Modern WorldHS631720 Credydau
Slavery and Enslaved Life in the United States, 1775-1865HS631820 Credydau
Native American HistoryHS631920 Credydau
Utopias of Extremism: Revolutions in Comparative ContextHS632020 Credydau
Czechoslovakia: The Twentieth Century in MiniatureHS632120 Credydau
France under OccupationHS632220 Credydau
Inside the Third ReichHS632320 Credydau
Violence and Ideology in the Inter-War Soviet UnionHS632420 Credydau
War and Freedom in the postcolonial SudansHS632620 Credydau
Gender and Imperialism, India c.1800- c.1900HS632720 Credydau
Change, Conflict, and Mass Mobilisation in Republican China, 1911-1945HS632820 Credydau
The Dark Valley of Fascist Japan, 1930-1945HS632920 Credydau
Peripheral Reverberations of the French RevolutionHS633020 Credydau
Mayhem and murder: Investigating the Victorian UnderworldHS633120 Credydau
The Making of British SocialismHS633220 Credydau
Britain at War: Culture and Politics on the Home Front, 1939-1945HS633320 Credydau
Public and Private: Gender, Identities and Power in Twentieth Century BritainHS633420 Credydau
Jews, Europe and the WorldHS633520 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Byddwch chi’n dysgu trwy sawl dull, megis darlithoedd rhyngweithiol, seminarau lle mae trafodaethau bywiog, gweithdai, gwaith grŵp a thiwtorialau. Bydd y gweithgareddau hyn ar y campws yn cael eu cyfuno ag ystod o amgylcheddau ar-lein a fydd yn cyfoethogi eich profiad dysgu ac yn eich galluogi i ymestyn eich astudiaethau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae’r seminarau a’r gweithdai’n cynnig cyfle gwerthfawr i drin a thrafod prif syniadau a deunydd darllen amryw bynciau. Maen nhw’n gyfle da i ystyried syniadau, cydweithio’n agos â’r darlithwyr a dysgu oddi wrth y myfyrwyr eraill. Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, byddwch yn cynnal prosiectau annibynnol gyda chymorth arbenigwr yn y maes a hyfforddiant unigol.

Mae’n dulliau addysgu’n meithrin sgiliau deallusol megis meddwl yn feirniadol, dadansoddi’n fanwl, cloriannu tystiolaeth, llunio dadleuon, rhoi damcaniaethau ar waith a defnyddio iaith yn effeithiol mewn traethodau a thrafodaethau. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Rydyn ni’n frwd dros feithrin awyrgylch cyfeillgar, personol a chefnogol lle mae pwyslais cryf ar gyfarfodydd unigol ar adegau pwysig yn ystod y cwrs. Gan ddod â chyfoeth o arbenigedd ar draws thema, cyfnod a daearyddiaeth, bydd ein darlithwyr yn rhannu'r syniadau diweddaraf yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys eu hymchwil arloesol eu hunain.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Dyrennir dau diwtor personol i chi, un ym mhob pwnc, fydd yn eich tywys trwy gydol cyfnod eich astudiaethau. Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtoriaid personol yn rheolaidd mewn grwpiau ac yn unigol i fyfyrio ar eich cynnydd a'ch datblygiad ar draws eich astudiaethau. Gall eich tiwtoriaid personol hefyd eich cyfeirio at gymorth priodol os byddwch yn cael anawsterau neu os bydd angen gwybodaeth benodol arnoch am eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhoddir cefnogaeth ychwanegol sy'n benodol i fodiwlau gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau; bydd cynghorydd academaidd a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer prosiectau annibynnol.

Trwy amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Brifysgol, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a byrddau trafod.

Mae tîm cymorth addysg i israddedigion yn cynnig cymorth ar gyfer gwaith academaidd a materion eraill gan roi gwybodaeth ac arweiniad yn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gyda chi.

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Dyfodol Myfyrwyr i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa, gwasanaethau cymorth, a digwyddiadau i’ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, cymorth gyda materion ariannol a chymorth i fyfyrwyr ag anableddau.

Sut caf fy asesu?

Byddwch yn dod ar draws ystod o asesiadau gwahanol yn ystod eich astudiaeth, gan gynnwys beirniadaeth ffynhonnell, prosiectau ymchwil, adolygiadau, cyflwyniadau a phrosiectau creadigol, ochr yn ochr â mathau mwy traddodiadol o asesu fel traethodau ac arholiadau. Mae rhai o'n hasesiadau yn caniatáu ichi weithio ar y cyd ar brosiect, a bydd eraill yn eich galluogi i ddangos hyblygrwydd ac ymgyfarwyddo â llwyfannau digidol megis blogiau, fideo-flogiau, a'r cyfryngau cymdeithasol, ac ysgrifennu mewn fformatau gwahanol ar gyfer cynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.

Ym mhob achos, diben yr asesu yw’ch helpu i gasglu syniadau, meithrin sgiliau a datblygu galluoedd. Maent yn helpu i roi’r sgiliau i chi gysylltu eich gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol; dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau; cydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau; a chyflwyno dadleuon ar sail tystiolaeth. Bydd y sgiliau sydd wedi’u meithrin a’u hasesu yn ystod y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer amryw yrfaoedd.

Byddwch yn cael adborth unigol ar yr holl waith a asesir i'ch helpu i wella perfformiad mewn asesiadau yn y dyfodol, a byddwch yn cael cyfleoedd i drafod yr adborth hwn gyda'r tiwtoriaid. Yn ogystal, byddwch yn gwneud ymarferion ymarfer amrywiol, megis cyflwyniadau a chynlluniau traethawd neu brosiect, a darperir adborth ffurfiannol mewn dosbarthiadau a thiwtorialau i'ch helpu i wella'ch dysgu a'ch dealltwriaeth cyn i chi gwblhau eich asesiadau crynodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud. 

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:

Gwybod a deall:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

GD1: Ymgysylltu'n feirniadol ac yn gysyniadol gydag ystod eang o hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol o'r hynafol i'r byd modern

GD2: Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o gymhlethdod ac amrywiaeth y sefyllfaoedd, y digwyddiadau, a’r meddylfryd mewn cyd-destunau tymhorol, diwylliannol a daearyddol penodol.

GD3: Ymwneud yn feirniadol ac yn gysyniadol â'r rhagdybiaethau a'r dulliau newidiol a ddefnyddir i egluro'r gorffennol.

GD4: Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o ystod eang o ddeunyddiau ffynhonnell cynradd, gan gynnwys llenyddol, dogfennol, epigraffeg, gweledol, a thystiolaeth  archaeolegol a phroblemau defnyddio ffynonellau cynradd.

Sgiliau Deallusol:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

SD1: Diffinio problemau a chwestiynau hanesyddol cymhleth

SD2: Defnyddio gwybodaeth, ynghyd â sgiliau a dulliau priodol, i nodi a chloriannu newid hanesyddol yn y ffordd o drin a thrafod cyfnodau neu ardaloedd.

SD3: Llunio a chyfiawnhau dadleuon ynghylch ystod o faterion hanesyddol, problemau, a dadleuon gan ddefnyddio dulliau a dehongliadau modern o'r gorffennol.

SD4: Dod o hyd i ffynonellau sylfaenol priodol, pwyso a mesur eu natur a'u dadansoddi'n feirniadol i ateb cwestiynau a datrys problemau.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

SY1: Gofyn cwestiynau ymchwil cymhellol a phenodol a mynd ar drywydd atebion i'r cwestiynau hynny trwy ymholi strwythuredig, gan ddethol ac archwilio ystod briodol o dystiolaeth

SY2: Crynhoi a gwerthuso'n feirniadol rinweddau ac anfanteision cymharol safbwyntiau a dehongliadau amgen a gwerthuso eu harwyddocâd

SY3: Dangos y gallu i weithio ar y cyd ac ar eich pen eich hun ar brosiectau sydd â sail ddamcaniaethol ac empirig sy'n defnyddio tystiolaeth ymchwil briodol a pherthnasol.

SY4: Dylunio, ymgymryd â, a chyflwyno prosiect ymchwil hanesyddol neu gysyniadol sy'n tynnu ar sgiliau a dealltwriaeth o ddwy ochr eich gradd.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

ST1: Datrys problemau cymhleth trwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau i fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.

ST2: Dangos meddwl beirniadol, rhesymu a'r gallu i gymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth trwy ddethol yn annibynnol a dadansoddi'n feirniadol ystod briodol o dystiolaeth.

ST3: Cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth yn effeithiol, naill ai'n unigol neu ar y cyd fel rhan o dîm

ST4: Dangos menter i ddatrys problemau a dadansoddi tystiolaeth amryfal, rannol neu amwys gan feddwl yn feirniadol, yn fentrus ac yn greadigol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio, waeth pa lwybr byddwch chi’n ei ddilyn.

Mae’n cwrs yn rhoi ichi sgiliau pwysig mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi megis cydweithio a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd, meddwl yn feirniadol a dyfeisio ffyrdd newydd o drin a thrafod problemau. Mae hyfforddiant ac achlysuron gyrfaoedd yn aml, gan anelu at feithrin sgiliau yn ystod y cwrs a’u defnyddio’n llwyddiannus wedyn. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd yn darparu hyfforddiant a gweithdai yn ogystal â’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun wrth ganiatáu i chi wneud gwahaniaeth.

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan ddefnyddio'r sgiliau a enillwyd drwy gydol cyfnodau eu graddau. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o reoli ar lefel graddedigion i addysgu. Mae graddedigion diweddar o'r ysgol wedi mynd ymlaen i rolau mewn amgueddfeydd, archaeoleg, y sector treftadaeth, addysgu ac addysg, y cyfryngau, y gwasanaeth sifil, y fyddin, bancio ac yswiriant, y gyfraith, adnoddau dynol a'r sector elusennol, gyda chyflogwyr yn amrywio o Amgueddfa Cymru i awdurdodau lleol ac ysgolion.

Lleoliadau

Rydym yn sicrhau y gall lleoliadau gael eu hymgorffori yn eich dysgu. Rydym yn cynnig cyfleoedd ar gyfer lleoliadau ym Mlwyddyn Dau ar fodiwl dewisol sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio’r sgiliau rydych yn eu hennill trwy'ch gradd yn y gweithle, tra yn eich blwyddyn olaf gallwch ddatblygu'ch sgiliau menter ymhellach ar fodiwl sy'n rhoi ichi’r sgiliau i gyfathrebu a chydweithio â sefydliadau allanol. Mae gan staff hefyd gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth leol a sefydliadau eraill, sy’n cynnig cyfleoedd lleoliad yn ystod semestrau a’r tu allan iddynt.

Trwy ein cysylltiadau â Dyfodol Myfyrwyr, gallwch chi drefnu i dreulio amser mewn sefydliadau neu fod yn intern ar y campws (er enghraifft, gweithio 35 awr yr wythnos wrth astudio neu weithio dros yr haf). At hynny, mae Go Wales yn cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer profiad gwaith.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.