Y Gymraeg (BA) Rhan-amser
- Maes pwnc: Cymraeg
- Côd UCAS: Mynediad uniongyrchol
- Derbyniad nesaf: Medi 2022
- Hyd: 6 blwyddyn
- Modd (astudio): Rhan-amser

Pam astudio'r cwrs hwn
Mae Caerdydd yn aros amdanoch
Ymgollwch ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y brifddinas.
Cysylltiadau’r Brifddinas
Lleoliad delfrydol gyda chysylltiadau â sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol, treftadaeth a chyfryngau i'ch helpu ar eich ffordd.
Croeso i bawb
Darparu cyfleoedd dysgu pwrpasol i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith.
Cymraeg ymarferol
Codwch eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.
Cymuned lewyrchus
Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.
Nod y rhaglen hon yw cynhyrchu graddedigion sydd â��dealltwriaeth academaidd ac ymarferol drylwyr o’r Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ysgrifenedig a llafar yn y Gymraeg, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.
Wrth i ni anelu at gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ni fu erioed fwy o alw am raddedigion sydd â'r ddealltwriaeth hon. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol ac economaidd Cymru.
Mae gan y cwrs tair blynedd hwn ddau lwybr, un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf, ac un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, addysgir y carfanau hyn ar wahân yn bennaf, cyn dod ynghyd ar gyfer y rhan fwyaf o'r modiwlau yn ystod yr ail flwyddyn Addysgir pawb gyda’i gilydd yn y flwyddyn olaf.
Cynigir amrywiaeth o fodiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen i chi o ran iaith a llenyddiaeth Cymraeg, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu alwedigaethol. Ar ben hynny, cewch y cyfle i wneud lleoliad gwaith yn ystod yr ail flwyddyn er mwyn datblygu eich hyder a’ch sgiliau proffesiynol.
Cyflwyno cais ar gyfer 2022 neu 2023

Maes pwnc: Cymraeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
BBC-BCC. Rhaid i'r rhain gynnwys gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
30-29 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i chi hefyd feddu ar gymhwyster Cymraeg iaith sy'n cyfateb i radd B ar lefel Safon Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O 2023 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei hailenwi'n Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru. Bydd y cymhwyster hwn yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol a gradd B mewn Cymraeg Safon Uwch Iaith Gyntaf neu Ail Iaith.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Gofynion mynediad ychwanegol
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £3,500 | Dim |
Blwyddyn dau | £3,500 | Dim |
Blwyddyn tri | £3,500 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £3,500 | Dim |
Blwyddyn pump | £3,500 | Dim |
Blwyddyn chwech | £3,500 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,350 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,350 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,350 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,350 | Dim |
Blwyddyn pump | £9,350 | Dim |
Blwyddyn chwech | £9,350 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Un o nodweddion deniadol ein cwrs yw ei hyblygrwydd - gallwch arbenigo mewn astudiaethau llenyddol, canoloesol a/neu fodern, astudiaethau iaith, neu gallwch gymryd cyfuniad o fodiwlau sy'n adlewyrchu eich diddordebau academaidd penodol a’ch anghenion galwedigaethol.
Bydd myfyrwyr rhan-amser yn gallu caffael credydau dros gyfnod o hyd at 8 mlynedd. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r hyn sy'n cyfateb i flwyddyn un yn amser llawn. Yna byddant yn astudio rhwng 40 ac 80 credyd bob blwyddyn. 20 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o’rmodiwlau.
Cysylltwch â'r Ysgol yn uniongyrchol ( cymraeg@cardiff.ac.uk ) er mwyn trafod yr opsiynau sydd ar gael.
Sylwch mai gradd ran-amser yw hon, nid cwrs allanol. Mae myfyrwyr rhan-amser yn dilyn yr un opsiynau modiwl ac amserlen â'u cymheiriaid amser llawn, ac mae myfyrwyr amser llawn a rhan-amser yn cael eu haddysgu yn yr un dosbarthiadau. Yr unig wahaniaeth rhwng astudio amser llawn a rhan-amser yw hyd y cwrs.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/2023. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022
Blwyddyn un
Mae myfyrwyr rhan-amser fel arfer yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r cam nesaf o'r rhaglen, gan ddilyn 60 credyd y flwyddyn. Cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol (cymraeg@caerdydd.ac.uk) er mwyn trafod yr opsiynau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sgiliau Astudio Llenyddiaeth | CY1513 | 20 Credydau |
Sgiliau Iaith | CY1515 | 20 Credydau |
Y Gymraeg Heddiw | CY1516 | 20 Credydau |
Iaith ac Ystyr | CY1600 | 20 Credydau |
Awdur, Testun a Darllenydd | CY1601 | 20 Credydau |
Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol | CY1753 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae myfyrwyr rhan-amser fel arfer yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r cam nesaf o'r rhaglen, gan ddilyn 60 credyd y flwyddyn. Cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol (cymraeg@caerdydd.ac.uk) er mwyn trafod yr opsiynau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Trafod ein llên | CY1510 | 20 Credydau |
Cymraeg Creadigol a Phroffesiynol | CY1511 | 20 Credydau |
Rhoi’r Cymry ar y Map | CY1514 | 20 Credydau |
Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes | CY1602 | 20 Credydau |
Mapio'r Cymry | CY1754 | 20 Credydau |
Herio'r Traddodiad Llenyddol | CY1755 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Mae myfyrwyr rhan-amser fel arfer yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r cam nesaf o'r rhaglen, gan ddilyn 60 credyd y flwyddyn. Cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol (cymraeg@caerdydd.ac.uk) er mwyn trafod yr opsiynau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Yr Iaith ar Waith | CY2205 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | CY2105 | 20 Credydau |
Sgiliau Academaidd Uwch | CY2210 | 20 Credydau |
Rhyddiaith Ddiweddar | CY2410 | 20 Credydau |
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith | CY2610 | 20 Credydau |
Sgriptio | CY2700 | 20 Credydau |
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990 | CY2810 | 20 Credydau |
Caffael Iaith | CY2910 | 20 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | CY2105 | 20 Credydau |
Rhyddiaith Ddiweddar | CY2410 | 20 Credydau |
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith | CY2610 | 20 Credydau |
Sgriptio | CY2700 | 20 Credydau |
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990 | CY2810 | 20 Credydau |
Caffael Iaith | CY2910 | 20 Credydau |
Blwyddyn pump
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | CY3105 | 20 Credydau |
Rhyddiaith Ddiweddar | CY3410 | 20 Credydau |
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith | CY3610 | 20 Credydau |
Yr Ystafell Ddosbarth | CY3660 | 20 Credydau |
Sgriptio | CY3700 | 20 Credydau |
Cyfieithu Proffesiynol | CY3705 | 20 Credydau |
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990 | CY3810 | 20 Credydau |
Caffael Iaith | CY3910 | 20 Credydau |
Blwyddyn chwech
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | CY3105 | 20 Credydau |
Rhyddiaith Ddiweddar | CY3410 | 20 Credydau |
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith | CY3610 | 20 Credydau |
Yr Ystafell Ddosbarth | CY3660 | 20 Credydau |
Sgriptio | CY3700 | 20 Credydau |
Cyfieithu Proffesiynol | CY3705 | 20 Credydau |
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990 | CY3810 | 20 Credydau |
Blas ar Ymchwil | CY3900 | 20 Credydau |
Ymchwilio Estynedig | CY3905 | 40 Credydau |
Caffael Iaith | CY3910 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydym yn darparu addysg gyffrous a heriol er mwyn helpu ein myfyrwyr i lwyddo mewn amgylchedd cystadleuol. Ymchwil sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu, felly byddwch yn dysgu am y syniadau diweddaraf gan ysgolheigion sy’n cyfrannu at ddatblygiad eu meysydd arbenigol.
Gan amlaf bydd y dysgu’n digwydd drwy gyfrwng darlithoedd a seminarau sy’n rhoi cyfle ichi drafod y pwnc o dan sylw yn fanwl mewn grwpiau. Fodd bynnag, mae rôl allweddol i sesiynau tiwtorial un-i-un, gweithdai a dosbarthiadau iaith hefyd (yn enwedig ar gyfer y myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr ail iaith).
Cefnogir pob modiwl gan ddeunyddiau addysgu electronig a rennir trwy wefan Dysgu Canolog, rhan o amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd tiwtor personol yn cwrdd â��chi o leiaf deirgwaith y flwyddyn i drafod eich cynnydd. Byddwch yn cael adborth yn brydlon ar bob darn o waith asesedig (crynodol) a gyflwynir (gan gynnwys arholiadau). Mae rhai modiwlau’n cynnwys asesiadau na fyddant yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol, ond y byddwch yn cael adborth defnyddiol amdanynt.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
Mae ein cyrsiau wedi eu cynllunio’n ofalus i sicrhau eich bod yn profi ystod o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs, arholiadau/profion dosbarth ysgrifenedig, traethodau hir, portffolios, adroddiadau ysgrifenedig, ac arholiadau llafar.
Mae’r Ysgol yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ddarparu adborth i fyfyrwyr, gan gynnwys adborth ar lafar ar dasgiau ym mlwyddyn un; adborth mewn seminarau grŵp a gweithdai, gwersi unigol a sesiynau tiwtorial un i un ym mlynyddoedd dau a thri, yn ogystal â sylwadau ysgrifenedig ar asesiadau.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn meithrin amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- cyfathrebu a chyflwyno gwybodaeth, syniadau a dadleuon (ar lafar ac yn ysgrifenedig), yn unigol ac yn rhan o dîm)
- meddwl yn ddadansoddol, sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer)
- creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
- defnyddio technoleg gwybodaeth (meddalwedd ieithyddol, prosesu geiriau, cronfeydd data, y rhyngrwyd)
- datblygu sgiliau ymchwil ymarferol a dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth rifiadol
- gweithio mewn grŵp a datblygu sgiliau rhyngbersonol
- nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
- rheoli eich dysgu eich hun (gan gynnwys rheoli amser)
- dangos ymrwymiad i ddysgu a datblygu’n barhaus
Beth yw deilliannau dysgu'r cwrs/rhaglen?
O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch chi’n gallu:
- dangos sgiliau deallusol sy’n golygu bod modd darllen yn fanwl, disgrifio, dadansoddi a chynhyrchu gwahanol fathau o destunau (gan gynnwys cynhyrchu testunau yn y maes ysgrifennu creadigol yn achos rhai myfyrwyr)
- dadansoddi rôl greiddiol iaith wrth greu ystyr a grym effeithiol ar iaith
- gwerthfawrogi sut mae rhagdybiaethau diwylliannol yn effeithio o greu safbwynt
- gwerthuso testunau, cysyniadau a damcaniaethau perthnasol ym maes Cymraeg a’u trafod gan ddefnyddio iaith addas
- dangos dealltwriaeth o amrywiaeth o destunau o wahanol gyfnodau hanesyddol a genres
- dangos dealltwriaeth o sefyllfa a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y gweithle modern
- Gweithredu y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau rydych wedi datblygu
- Yn y gweithle, drwy ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith a gwerthuso’r profiad yn feirniadol.
- drwy gwblhau traethawd neu brosiect estynedig sydd yn gynnyrch astudiaeth annibynnol o dan arweiniad tiwtor, gan ddangos perthnasedd y gwaith mewn cysylltiad i gam nesaf eich gyrfa.
- defnyddio sgiliau rhifiadol sylfaenol wrth werthuso data yng nghyswllt yr iaith Gymraeg
- defnyddio technoleg gwybodaeth i gyflwyno a dadansoddi deunyddiau mewn modd effeithiol, caboledig, gan gynnwys defnyddio meddalwedd i gywiro a gwella iaith
- cynhyrchu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig o safon uchel
- Defnyddio cofrestrau ysgrifenedig arall, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn cyd-destunau gwahanol, gan gynnwys y gweithle
- Dangos dealltwriaeth o ddatblygiad yr Iaith Gymraeg dros y canrifoedd, o safbwynt ieithyddol a chymdeithasol, a dealltwriaeth o ddulliau cyfoes penodol o’i hadferiad a’i hyrwyddiad.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig yma yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall.
Yn 2013/14, adroddodd 100% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio.
Gyrfaoedd graddedigion
- Newyddiadurwr
- Gwas Sifil
- Athro
- Cyfreithiwr
- Cyfryngau
- Gweinyddiaeth
Lleoliadau
Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn feunyddiol. Mae'r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.