Ewch i’r prif gynnwys

Portiwgaleg a Sbaeneg (BA)

Two students speaking to each other

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Treuliwch flwyddyn dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd wrth i chi ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith.

structure

Wedi'i deilwra i’ch gallu

Mae modd astudio ein holl ieithoedd ar lefel dechreuwr neu uwch ac nid oes angen cymhwyster Safon Uwch.

people

Portiwgaleg a Sbaeneg yn eu cyd-destun

Dysgwch am ieithoedd a diwylliannau Portiwgal a Sbaen yn y gymdeithas, gan gynnwys: hanes, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth.

exit

Rhyddid i ddewis

Enillwch brofiad ar leoliad gwaith, gweithiwch fel cynorthwyydd dysgu neu dewiswch astudio yn ystod eich blwyddyn dramor.

microphone

Anogwch eraill i ddysgu ieithoedd

Ysbrydolwch eraill drwy gymryd rhan mewn cynlluniau Myfyrwyr sy’n Llysgennad Iaith a Mentora Myfyrwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yw galluogi ein myfyrwyr i fod yn ‘ddinasyddion byd-eang’. Mae ein graddedigion yn ieithyddion medrus iawn sydd â nifer o sgiliau sy’n eu galluogi nhw i weithio mewn llu o yrfaoedd a phroffesiynau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae ein rhaglen BA Portiwgaleg a Sbaeneg (sydd â phwyntiau mynediad ar gyfer dechreuwyr ac ar ôl Safon Uwch) yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau iaith lefel uchel, a deall diwylliant Sbaenaidd a Phortiwgaleg yn drylwyr. Trwy dreulio blwyddyn dramor yn gweithio, yn astudio neu’n addysgu Sbaeneg a Phortiwgaleg, byddwch yn mireinio eich iaith, eich ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol ac yn datblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer marchnad swyddi sy’n chwilio am raddedigion sy’n gallu siarad iaith dramor.

Mae gan Bortiwgaleg bwysigrwydd byd-eang, o Bortiwgal a Brasil i nifer o wledydd a rhanbarthau dros Affrica ac Asia. Mae'r Cyngor Prydeinig wedi nodi Portiwgaleg fel un o'r ieithoedd mwyaf hanfodol i'r DU dros yr ugain mlynedd nesaf, a hi yw un o'r ieithoedd cymunedol a siaredir mwyaf yn y DU. Sbaeneg yw'r ail iaith fwyaf yn y byd o ran nifer ei siaradwyr. Mae dros 400 miliwn o bobl yn siarad Sbaeneg mewn dros 20 o wledydd ledled y byd, ac mae’n un o’r ieithoedd mwyaf defnyddiol ym myd busnes a hamdden fel ei gilydd. Mae'n agor drysau i amrywiaeth fywiog ac amrywiol o brofiadau diwylliannol.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd yn yr iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Sbaen a Phortiwgal yn dibynnu ar eich meysydd arbenigol.

Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu

  • academic-schoolYr Ysgol Ieithoedd Modern
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB. Os oes gennych radd B yn yr iaith berthnasol ar lefel Safon Uwch bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Os oes gennych radd 6 yn yr iaith berthnasol ar Lefel Uwch bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol.

Os oes gennych radd B yn yr iaith berthnasol ar lefel Safon Uwch yn ychwanegol at neu mewn cyfuniad â BTEC bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Lefel T

M mewn Lefel T mewn unrhyw bwnc.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Mae proffil pob ymgeisydd yn cael ei ystyried fel darlun cyflawn, gan ystyried eich diddordeb yn y radd a pha mor addas yr ydych ar ei chyfer, fel y dangosir yn eich datganiad personol ac adroddiad y canolwr, yn ogystal â graddau a ragwelwyd ac a gyflawnwyd. Asesir eich gallu i gyflwyno dadl, tystiolaeth o chwilfrydedd deallusol a’ch brwdfrydedd a’ch ymrwymiad i astudio.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,350 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £3,405 Dim
Blwyddyn pedwar £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’r cwrs amser llawn hwn yn para am bedair blynedd gyda dau semester y flwyddyn. Mae 120 o gredydau bob blwyddyn, wedi eu rhannu’n gyfartal rhwng eich dau ddewis iaith. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd. Treulir y drydedd flwyddyn dramor.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch yn cyfuno Portiwgaleg gyda Sbaeneg, gan ganiatáu i chi brofi mwy nag un maes astudio.

Ym mlwyddyn un, rydym yn rhedeg dau lwybr i fyfyrwyr; llwybr uwch wedi'i anelu at fyfyrwyr sydd â Safon Uwch a dysgwyr treftadaeth sy'n dymuno dyfnhau eu gwybodaeth bresennol am iaith, hanes a diwylliannau'r bydoedd Portiwgaleg/Sbaeneg eu hiaith, a llwybr dechreuwr ar gyfer myfyrwyr sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth o Bortiwgal neu Sbaeneg.

Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.

Byddwch hefyd yn astudio modiwl di-iaith sy'n eich cyflwyno i ddatblygiad y byd Portiwgaleg ei iaith a'r byd Sbaenaidd, gan archwilio i beth mae'r ddau ddiwylliant a'r ddwy iaith wedi'i symboleiddio i wahanol grwpiau ar wahanol adegau mewn hanes. Mae hefyd yn archwilio cyfnewidfeydd Portiwgal a Sbaen gyda'r byd, gan eich galluogi i archwilio Portiwgal a rôl y byd Sbaenaidd y tu hwnt i'r ffiniau cenedlaethol. Bydd astudiaethau yn y meysydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Blwyddyn dau

Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Yn ogystal â 30 o gredydau iaith Portiwgaleg a Sbaeneg, byddwch yn astudio 30 credyd gan edrych ar y byd Portiwgaleg ei iaith a'r byd Sbaenaidd mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio’n fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth. Bydd gennych hefyd y dewis o astudio 30 o gredydau Iaith Busnes a Chyfieithu Arbenigol.

Y tu allan i'ch astudiaethau ffurfiol, byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Mentora Myfyrwyr sydd wedi cael canmoliaeth uchel ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cynllun yn rhoi israddedigion mewn ysgolion lleol i fentora disgyblion ac yn eu hannog i ystyried ieithoedd tramor modern wrth ddewis eu hopsiynau TGAU.

Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon Iaith i Fyfyrwyr (SLA), sy'n gweithredu fel eiriolwr ar gyfer dysgu ieithoedd. Yn dilyn hyfforddiant penodol, fel Llysgennad mae’n bosibl y cewch gyfle i siarad yn gyhoeddus mewn digwyddiadau, gan rannu eich profiad personol o ddysgu ieithoedd. Gallwch gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, megis sesiynau blasu iaith, cyflwyno a hyrwyddo’r flwyddyn dramor, cefnogi diwrnodau a digwyddiadau iaith mewn ysgolion, neu hybu ieithoedd modern mewn ffeiriau gyrfaoedd neu ddiwrnodau agored.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Ym mlwyddyn tri byddwch yn treulio un Semester mewn gwlad lle siaredir Portiwgaleg ac un mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg, wedi'ch trochi yn yr ieithoedd.

Mae eich dewisiadau yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gan weithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol, neu weithio i sefydliad neu gwmni Sbaeneg ei iaith. Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Mae gennym fyfyrwyr cyfnewid Erasmus yn Lisbon, Coimbra, Braga a chysylltiadau cryf â phrifysgolion ym Mrasil. Mae myfyrwyr hefyd wedi trefnu interniaethau proffesiynol mewn dinasoedd fel São Paulo. Yn Sbaen mae gennym gysylltiadau yn Barcelona, Caceres, Ciudad Real, Granada a Santiago de Compostela y Valencia. Yn America Sbaenaidd mae gennym gytundebau cyfnewid gyda phrifysgolion yn Lima (Periw), Dinas Mecsico a Guadalajara (Mecsico).

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 o gredydau mewn Portiwgaleg a 30 o gredydau mewn Sbaeneg, yn ychwanegol at 60 o gredydau mewn modiwlau dewisol.

Yn ogystal, byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig. Cewch gyfle i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl Addysgu Myfyrwyr poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae'r modiwl yn caniatáu i chi fynd i ysgolion uwchradd lleol ac addysgu disgyblion sy'n dysgu ieithoedd tramor. Byddwch yn cael cyfle i arsylwi addysgu gan weithwyr proffesiynol, cymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth a chynhyrchu deunyddiau dysgu newydd. Mae hyn yn ei dro yn gwella eich sgiliau TGCh, cyflwyno, paratoi a threfnu ac, yn y pen draw, eich cyflogadwyedd. Mae'r myfyrwyr hynny sy'n dymuno mynd i yrfa mewn addysgu yn cael profiad gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio i fwydo i mewn i'w cais TAR. Mae'r myfyrwyr hyn hefyd yn cael y cyfle i gymryd sesiwn hyfforddiant pwrpasol (dewisol) ar gyfer ceisiadau TAR gydag arbenigwr yn y maes.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n cynorthwyo gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol pan fyddwch yn cyrraedd. Mae tiwtoriaid personol yn aelodau o staff academaidd a byddant wrth law i ddarparu cyngor, cyfarwyddyd, cymorth ac adborth.

Mae wythnos ddarllen pob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Hefyd, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol ar waith ysgrifenedig, ac adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau. Byddwch hefyd yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.

Sut caf fy asesu?

Essays, written examinations and oral presentations are used not only for assessment purposes but also as a means of developing your capability to gather, organise, evaluate and communicate relevant information and ideas from a variety of sources in reasoned arguments.

Dedicated essay workshops and individual advice enable you to produce your best work for submission, while written feedback on submitted work feeds forward into future work, enabling you to develop your strengths and address any weaker areas.  You may also be provided with additional oral feedback. 

The optional final-year dissertation provides you with the opportunity to investigate a specific topic in depth and to acquire detailed knowledge about a particular field of study. You will develop your research skills by collecting and presenting material, and your evaluative skills by formulating a clear, cogent argument and drawing appropriate conclusions.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • datblygu eich sgiliau ieithyddol, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes gwledydd lle siaredir Ffrangeg a Sbaeneg
  • deall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
  • gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gwybodaeth arall

Beth yw barn cyflogwyr am y rhaglen hon?

Fel rhan o’r gwaith cynllunio’r cwricwlwm, ymgynghorodd yr ysgol â sefydliadau cyflogwyr ar y nodweddion maen nhw’n chwilio amdanyn nhw mewn graddedigion. Roedd cyflogwyr yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a gallu i ysgrifennu’n dda yn Saesneg, sydd, ill dau, yn ddeilliannau dysgu allweddol ar gyfer y rhaglen, yn ogystal â datblygu sgiliau iaith uwch a'r gallu i feddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint fel eu bod, ar ôl graddio, yn cymryd amser i barhau i deithio neu maen nhw'n mynd dramor i weithio.

Mae ein graddedigion yn ffynnu yn y farchnad swyddi y gwelir yn ein hystadegau cyflogaeth. Mae eu graddau iaith yn eu harwain i ystod amrywiol a chyffrous o yrfaoedd sydd wedi cynnwys cyllid, rolau cyswllt rhyngwladol ym maes chwaraeon, ymgynghoriaeth busnes, addysg, iechyd, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, diplomyddiaeth, cyfieithu ar y pryd, cyfieithu, y gyfraith ac addysgu.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Interpreting
  • Teaching
  • Finance

Lleoliadau

Treulir blwyddyn tri yn gweithio neu’n astudio mewn gwlad sy'n siarad Ffrangeg a gwlad sy’n siarad Sbaeneg.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.