Ewch i’r prif gynnwys

Gwleidyddiaeth a Sbaeneg (BA)


Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Treuliwch flwyddyn dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd wrth i chi ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith.

structure

Wedi'i deilwra i’ch gallu

Mae modd astudio ein holl ieithoedd ar lefel dechreuwr neu uwch ac nid oes angen cymhwyster Safon Uwch.

exit

Rhyddid i ddewis

Enillwch brofiad ar leoliad gwaith, gweithiwch fel cynorthwyydd dysgu neu dewiswch astudio yn ystod eich blwyddyn dramor.

people

Cysylltiadau â sefydliadau gwleidyddol

Manteisiwch ar gysylltiadau â senedd San Steffan, Senedd Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.

book

Cewch brofiad o wleidyddiaeth ar waith

Dewiswch fodiwl a addysgir ar y cyd â San Steffan, sy'n cynnwys addysgu gan glercod Tŷ'r Cyffredin ac ymweliadau astudio.

Nod yr Ysgol Ieithoedd Modern a’r Adran Gwleidyddiaeth yw meithrin ac addysgu ein myfyrwyr i fod yn ‘ddinasyddion byd-eang’. Drwy astudio Sbaeneg a Gwleidyddiaeth, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn atyniadol i weithlu cynyddol fyd-eang ac agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.

Mae maes gwleidyddiaeth yn eich galluogi i archwilio'r modd y mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu ac yn gwerthuso syniadau gwleidyddol fel pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd, yn ogystal â chynnwys cysylltiadau rhyngwladol.

Mae’r modiwlau’n amrywio, gan roi cyfle i chi archwilio'r modd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio ym Mhrydain a thu hwnt, yn ogystal ag ymchwilio i'r modd y mae polisi cyhoeddus yn cael ei lunio. Mae llwybrau gwaith eraill yn trafod cyfiawnder, democratiaeth, hawliau dynol a chysylltiadau rhyngwladol, gan ddarparu dealltwriaeth eang i chi o wleidyddiaeth sydd wedi’i theilwra i’ch anghenion penodol chi.

Drwy gydol y rhaglen, yn ogystal â datblygu sgiliau iaith lefel uchel, mae myfyrwyr yn cael dealltwriaeth ryngddiwylliannol drylwyr sy'n cwmpasu gwybodaeth benodol am ddiwylliannau Sbaen, law yn llaw â’r gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant. Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu lefel uchel a sgiliau meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.

Mae Sbaen yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Sbaeneg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig.

Rydym ni’n cynnig Sbaeneg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant Sbaen yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad Sbaeneg ei hiaith.

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, a fydd yn ysgogi menter ac yn gallu bod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig.

Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol.

A chithau’n fyfyriwr cydanrhydedd, byddwch yn gweld bod meysydd a safbwyntiau ategol sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar. Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Sbaen.

Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu

  • academic-schoolYr Ysgol Ieithoedd Modern
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Maes pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB. Os oes gennych radd B mewn Sbaeneg Safon Uwch bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Os oes gennych radd 6 mewn Sbaeneg HL bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol. Os oes gennych radd B mewn Sbaeneg Safon Uwch yn ychwanegol at neu mewn cyfuniad â BTEC bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 62 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,350 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £19,450 Dim
Blwyddyn dau £19,450 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £2,918 Dim
Blwyddyn pedwar £19,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’r BA Sbaeneg a Gwleidyddiaeth yn rhaglen radd lawn-amser a gaiff ei chyflwyno wyneb yn wyneb dros bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael sgiliau a chymwyseddau iaith a gwleidyddol lefel uchel dros flynyddoedd olynol i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob blwyddyn o’r rhaglen byddwch yn astudio 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 o gredydau mewn Gwleidyddiaeth a 60 o gredydau mewn Sbaeneg. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yn Sbaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Sbaeneg.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/23. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Blwyddyn ragarweiniol yw Gwleidyddiaeth y flwyddyn gyntaf. Byddwch yn astudio un modiwl craidd 20 o gredydau, ac yn dewis 40 o gredydau yn rhagor (dau fodiwl 20 o gredydau) o blith ein modiwlau craidd sylfaenol eraill, er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer eich astudiaethau ym mlynyddoedd dau a phedwar.

Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Sbaeneg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am y Sbaeneg. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith sy'n cyflwyno datblygiad Sbaen fel cenedl i chi, gan archwilio beth yw ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Mae hefyd yn archwilio perthynas Sbaen â'r byd, gan eich galluogi i archwilio rôl Sbaen y tu hwnt i'r ffiniau cenedlaethol. Bydd y modiwl yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau, byddwch unwaith eto yn astudio 60 o gredydau mewn Gwleidyddiaeth a 60 o gredydau mewn Sbaeneg.

Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi ar gyfer eich blwyddyn dramor. Yn ogystal ag iaith, byddwch yn astudio 30 credyd yn edrych ar Sbaen mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio’n fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth.

Byddwch hefyd yn astudio am 60 credyd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, gan ddewis o blith ein hamrywiaeth eang o fodiwlau dewisol ac yn cynnwys o leiaf 20 o gredydau Gwleidyddiaeth dynodedig.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ex-Advanced Language Year 2 SpanishML027930 Credydau
Ex-Beginners Language Year 2 SpanishML028030 Credydau
Gender, Sex and DeathPL922020 Credydau
International Relations of the Cold WarPL922120 Credydau
Colonialism, GPE and DevelopmentPL922220 Credydau
Digital Technologies and Global PoliticsPL922320 Credydau
Global GovernancePL922420 Credydau
EU PoliticsPL922520 Credydau
From Espionage to Counter-Terrorism: Intelligence in Contemporary PoliticsPL922920 Credydau
The Power and Politics of Research MethodsPL923020 Credydau
Critical War and Military Studies: an IntroductionPL923120 Credydau
Comparative European PoliticsPL923220 Credydau
Modern Welsh PoliticsPL923320 Credydau
Modern Political Thought: Machiavelli to MillPL923420 Credydau
Local to Global Sustainable DevelopmentPL923620 Credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio'r Gymdeithas GyfalafolPL923820 Credydau
Introduction to Data Science for Politics and International RelationsPL923920 Credydau
The Barbarians are Coming!: Cross-cultural Political TheoriesPL924020 Credydau
Ideas and Ideology in British PoliticsPL924120 Credydau
Animals, Air, and Areas beyond national jurisdiction - The Politics of Global Environmental RegimesPL924220 Credydau
Governing Modern BritainPL924320 Credydau
Credoau'r CymryPL928620 Credydau
British Politics since 1945PL928720 Credydau
International Security: Concepts and IssuesPL928820 Credydau
Justice and Politics: Contemporary Political TheoryPL929120 Credydau
International Law in a Changing WorldPL929920 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir blwyddyn tri yn Sbaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Sbaeneg. Bydd y flwyddyn yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Sbaenaidd a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwydnwch.

Mae eich dewisiadau yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy Gynllun y Cyngor Prydeinig, neu weithio i sefydliad neu gwmni Sbaenaidd. Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Os byddwch yn dewis yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd sydd wedi cynnwys Valencia, Barcelona a Seville.

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y British Council fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r British Council yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Sbaeneg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Sbaeneg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Mae astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn ni’n eich croesawu chi yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn derfynol, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 credyd iaith Sbaeneg yn y flwyddyn olaf a 30 credyd mewn modiwlau dewisol Sbaeneg. Byddwch hefyd yn astudio am 60 credyd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, gan ddewis o blith ein hamrywiaeth eang o fodiwlau dewisol ac yn cynnwys o leiaf 20 o gredydau Gwleidyddiaeth dynodedig. Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig.

Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu hynod boblogaidd, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae modiwl traethawd hir y flwyddyn olaf yn rhoi’r dewis i chi ymgysylltu’n ddyfnach â maes y testun a ddewisir, yn ogystal ag ymestyn eich sgiliau ymchwil a dadansoddi.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Final Year Dissertation - Spanish (in Spanish)ML036030 Credydau
Final Year Dissertation - Spanish (in English/Welsh)ML036130 Credydau
Catalan Language & SocietyML036230 Credydau
Hispanic Cultures at the MarginsML036330 Credydau
Crime and Punishment in Latin American History and CultureML036730 Credydau
Culture, Political Protest & Dissent in the 1960sML136030 Credydau
European Cinema: Thinking the Real of FictionML136230 Credydau
Slavery, Abolitionism and the Black Atlantic: A Transnational PerspectiveML136430 Credydau
The History of Thought in International RelationsPL931120 Credydau
International Politics in the Nuclear AgePL932020 Credydau
Africa in International Thought and Practice: Colonialism, Anticolonialism, PostcolonialismPL932120 Credydau
Bombs, Bullets and Ballot-boxes: the Northern Ireland Conflict, 1969 to 1998PL932420 Credydau
Political Economy: Rationality in an Irrational World?PL932520 Credydau
Popular Culture and World PoliticsPL932820 Credydau
War and SocietyPL933120 Credydau
Cybersecurity: Diplomacy and Digital Rights in Global PoliticsPL933220 Credydau
A History of British IntelligencePL933320 Credydau
The Politics of Violence and KillingPL933520 Credydau
Justice, Legitimacy and International LawPL933620 Credydau
Latin American PoliticsPL933720 Credydau
Sex, Drugs and Public PolicyPL933820 Credydau
Visual Global PoliticsPL933920 Credydau
Politics in Practice: Work Placement ModulePL934020 Credydau
The Soul and the City: Plato's Political PhilosophyPL934120 Credydau
Crisis and Commitment in 20th Century Political ThoughtPL934320 Credydau
Be the Change: Governing without the StatePL934620 Credydau
The Politics and Governance of BrexitPL934720 Credydau
Representing DevelopmentPL934820 Credydau
The Politics of Populism in EuropePL935020 Credydau
Terrorism and (In)securityPL935120 Credydau
Radical Political TheoryPL935220 Credydau
Governing Global Public Health: Viral Pandemics, and the Global Drugs 'Epidemic'PL935320 Credydau
US Government and PoliticsPL937420 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL937720 Credydau
Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder: Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruPL937820 Credydau
Parliamentary Studies ModulePL938020 Credydau
International Relations DissertationPL938520 Credydau
Politics DissertationPL938620 Credydau
Elections in the UKPL938720 Credydau
Global International Organisation in World PoliticsPL939120 Credydau
Personality and PowerPL939220 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n cynorthwyo gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA mewn Sbaeneg a Gwleidyddiaeth yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall eich tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Drwy wefan Dysgu Canolog (amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol), byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Hefyd, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Mae adborth ac asesu yn feysydd blaenoriaeth i’r Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, gydag arweinydd asesu ac adborth penodol yn gyfrifol am sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau. Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol. Mae’r ddwy Ysgol yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

chi, sut y byddwch yn cael eich marcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor hyd at lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
  • Gwybodaeth am y cysyniadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â’r wladwriaeth fodern a mathau o lywodraeth, yn enwedig y ffurf seneddol Ewropeaidd; esbonio sut y mae sefydliadau gwleidyddol craidd yn gweithredu; defnyddio geirfa arbenigol trafodaethau gwleidyddol fel y’i mynegwyd gan wyddonwyr ac ymarferwyr gwleidyddol; dangos sgiliau ymchwil a gwybodaeth sylfaenol ar waith.
  • Gwybodaeth am waith sawl un o feddylwyr allweddol hanes syniadaeth wleidyddol a syniadaeth wleidyddol gyfoes;
  • Ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth eang o faterion a dadleuon sy’n ganolog i syniadaeth wleidyddol; a
  • Bod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o’r termau a'r cysyniadau sy'n angenrheidiol ar gyfer dealltwriaeth ddigonol o syniadaeth wleidyddol.
  • Darllen a dadansoddi testunau athronyddol a gwleidyddol.
  • Crynhoi a chyflwyno dadleuon canolog testunau cymhleth.
  • Gwerthuso cysyniadau a dadleuon cymhleth.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes Sbaen a gwledydd lle siaredir Sbaeneg.
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn Saesneg a Sbaeneg, a hynny yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Defnyddio dadleuon damcaniaethwyr gwleidyddol clasurol, modern a chyfoes mewn trafodaeth lafar ac mewn aseiniadau ysgrifenedig.
  • Dadl ddarbwyllol, h.y. un sy’n rhesymegol ac yn seiliedig ar dystiolaeth; i gasglu, trefnu a defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
  • Cyfosod gwybodaeth berthnasol i arfer barn feirniadol wrth werthuso gwybodaeth.
  • Y gallu i gasglu, trefnu a defnyddio tystiolaeth, data a gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau eilaidd a rhai ffynonellau gwreiddiol.
  • Llunio dadl resymol, cyfosod gwybodaeth berthnasol ac arfer barn feirniadol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Defnydd effeithiol o dechnolegau cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer casglu a chyflwyno gwybodaeth.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Dadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad Proffesiynol eich hun.
  • Sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Yn 2015-16, dywedodd 97% o raddedigion yr Ysgol a oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae Gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd yn gronfa recriwtio uchel ei pharch ar gyfer amrywiaeth o gyflogwyr yn y sector, a bu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yr Adran Addysg, Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig ac ystod o bleidiau gwleidyddol i gyd yn recriwtio myfyrwyr o’r flwyddyn raddio ddiwethaf.

Y tu allan i'r sector gwleidyddol, mae'r radd o ddiddordeb i gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda graddedigion yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddi ar gyfer bod yn rheolwyr yn EY, Enterprise Rent A Car, Zurich Insurance a King Worldwide.

Ysgol yr Ieithoedd Modern

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau MA Cyfieithu neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.