Ewch i’r prif gynnwys

Athro mewn Fferylliaeth (MPharm)

  • Maes pwnc: Fferylliaeth
  • Côd UCAS: B230
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

academic-school

Ysgol glos, sydd wedi hen ennill ei phlwyf

Ysgol sydd wedi hen ennill ei phlwyf gyda dros 100 mlynedd o ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil.

molecule

Yr Ysgol orau ar gyfer rhagoriaeth ymchwil

Mae ein Hysgol Fferylliaeth yn gydradd gyntaf yn y DU am ansawdd ein haddysgu a'n hymchwil yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.

star

Y cyfraddau pasio uchaf ar gyfer arholiadau cyn-gofrestru

Fe wnaeth 95% o'n myfyrwyr a safodd arholiad cyn-gofrestru y Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn 2022 lwyddo ar y cynnig cyntaf, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol cyffredinol o 82%.

people

Rhagolygon gyrfaoedd gwych

Mae 98.5% o'n graddedigion mewn swyddi medrus iawn a/neu astudiaethau pellach lefel gradd 15 mis ar ôl i'w cwrs ddod i ben. (Graduate Outcomes 2020/21)

Mae ein rhaglen MPharm wedi'i chynllunio i roi’r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad fydd eu hangen arnoch i gychwyn ar yrfa fel Fferyllydd. Mae gan ein Hysgol enw da rhyngwladol am ansawdd rhagorol ein haddysgu a'n hymchwil.

Mae ymgymryd â'r MPharm ym Mhrifysgol Caerdydd yn golygu y byddwch yn astudio yn un o ysgolion Fferylliaeth gorau'r DU.

Mae fferyllwyr heddiw nid yn unig yn arbenigwyr ym maes darganfod a chyflwyno cyffuriau, maent hefyd yn chwarae rôl uniongyrchol wrth wella iechyd a lles cleifion. Erbyn hyn, mae nifer yn rhagnodi meddyginiaethau heb fod angen meddyg. Braint yw hyfforddi fferyllwyr y dyfodol ac, wrth i rôl y fferyllydd esblygu, felly hefyd ein rhaglen i gyd-fynd â'r datblygiadau cyffrous hyn.

Uwchlaw popeth arall, rydym ni’n ymdrechu i sicrhau bod ein graddedigion yn barod ar gyfer y cam nesaf yn eu gyrfa a’r cyfleoedd niferus sy’n eu disgwyl.

Dyna pam y llwyddodd 95% o'n myfyrwyr a wnaeth sefyll arholiad y Cyngor Fferyllol Cyffredinol's ym mis Mehefin 2022 ar y cynnig cyntaf, sy’n llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol cyffredinol (82%). Ers blynyddoedd lawer, mae 100% o'n graddedigion sydd wedi gwneud cais ar gyfer hyfforddiant fferylliaeth cyn cofrestru wedi llwyddo i gael lle yn yr hyfforddiant.

Ar y rhaglen bedair blynedd hon, sy'n ennyn parch rhyngwladol, byddwch yn dysgu am y broses o ddarganfod a datblygu cyffuriau newydd ac yn archwilio eu priodweddau cemegol, ffisicogemegol, ffarmacolegol a gwenwynegol. Byddwch hefyd yn astudio defnydd clinigol meddyginiaethau a rôl y fferyllydd wrth wella canlyniadau i gleifion yn rhan o dimau gofal iechyd rhyngbroffesiynol.

Byddwch yn dysgu am y bathoffisioleg sydd wrth wraidd llawer o glefydau dynol, a sut y gall defnyddio meddyginiaethau atal clefydau, arafu eu datblygiad neu wyrdroi eu prosesau.

Byddwch yn dysgu am hyn oll gan ein tîm o staff academaidd o'r radd flaenaf ac ymarferwyr fferylliaeth sydd ag ystod eang o arbenigedd. I ategu hyn, fe’n rhoddwyd yn y safle cyntaf ar y cyd o blith Ysgolion Fferylliaeth yn genedlaethol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf. Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i ansawdd a natur arloesol ein prosiectau ymchwil.

Cynhelir peth o'ch sesiynau addysgu ochr yn ochr â myfyrwyr o ddisgyblaethau gofal iechyd eraill yn rhan o'ch addysg ryngbroffesiynol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ymgymryd ag ystod o leoliadau gwaith mewn sefyllfaoedd traddodiadol a rolau iechyd sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys fferyllfeydd yn y gymuned ac mewn ysbytai, meddygfeydd a sefyllfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol arbenigol. Bydd hyn yn cynnig profiad amhrisiadwy ar llinell flaen darpariaeth gofal iechyd.

Achrediadau

Maes pwnc: Fferylliaeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB mewn dwy wyddoniaeth. Rhaid cynnwys un o Fioleg neu Gemeg, ac un o naill ai Bioleg, Cemeg, Mathemateg neu Ffiseg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL, a gradd 6 mewn Bioleg HL, Cemeg, Mathemateg neu Ffiseg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Yn eich datganiad personol, bydd angen i chi ddangos eich ymrwymiad i fferylliaeth.

Rhaid i chi hefyd fod â neu fod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd B/6 TGAU neu, lle nad yw TGAU wedi'i gymryd, yn gymhwyster cyfatebol derbyniol. Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- tri TGAU ar radd B/6 gan gynnwys Bioleg, Cemeg a Mathemateg, neu gymwysterau cyfatebol (pwnc a gradd). Gellir derbyn gwyddoniaeth ddwbl yn lle gwyddorau ar wahân.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.

AMODAU CYFRIFIAD
Yn unol â chod ymddygiad a gweithdrefnau addasrwydd ymarfer myfyrwyr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC), cyn dechrau eich cwrs bydd angen i chi gael gwiriad iechyd gan ein Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol, mynychu unrhyw apwyntiadau dilynol a derbyn yr holl frechiadau angenrheidiol i ymgymryd â lleoliadau clinigol yn ddiogel.

Bydd y GPhC yn cynnal ei wiriadau iechyd, cymeriad da a hunaniaeth ei hun pan fyddwch yn cwblhau eich hyfforddiant ac yn gwneud cais i gofrestru gyda'r corff rheoleiddio.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Saesneg Iaith.

IELTS (academic)

O leiaf 7.0 yn gyffredinol, gydag o leiaf 6.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 100 yn gyffredinol, gydag o leiaf 22 ym mhob is-sgil.

PTE Academic

O leiaf 76 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: Heb ei dderbyn.
III: o leiaf Teilyngdod ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) a yw'ch cais yn llwyddiannus. Os ydych chi'n gwneud cais o rai gwledydd dramor, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da.

Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y gwiriad a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr wahardd fod yn ymwybodol bod gwneud cais i'r cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Fferyllol a gradd B mewn Cemeg neu Fioleg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Ni fyddwn yn gwneud cynnig heb gyfweliad.

Rhaid i bob ymgeisydd fodloni'r gofynion sylfaenol ar Lefel 2 (TGAU fel arfer) a Lefel 3 (Safon Uwch fel arfer) er mwyn bod yn gymwys i'w hystyried ar gyfer cyfweliad.

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, gallwn gynnal cyfweliad dros y ffôn, drwy Skype neu, yn achlysurol, gan aelod staff sy'n teithio dramor. Cysylltwch â ni i ofyn am ddyddiadau’r ymweliadau hyn.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr dalu’’r costau sy’n gysylltiedig â chael Tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac fe'u hanogir i fod yn rhan o’r Gwasanaeth Diweddaru DBS trwy gydol cyfnod y rhaglen.


Er y bydd rhai o’r costau yn ystod lleoliadau ymarfer yn cael eu had-dalu, dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y bydd angen iddynt dalu’r costau cychwynnol er mwyn adhawlio’r rhain yn nes ymlaen. Gallai hyn gynnwys costau llety a theithio (os byddant uwchlaw eich costau teithio bob dydd arferol i’r Brifysgol).

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd unrhyw ddillad ac offer amddiffynnol neu arbennig sy'n ofynnol yn cael eu darparu gan y Brifysgol. Bydd costau teithio rhesymol a threuliau eraill wrth ymweld â'r Brifysgol ac sy'n ofynnol yn rhan o'r cwrs yn cael eu had-dalu. Byddwch yn cael locer yn Adeilad Redwood yr Ysgol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd pedair blynedd amser llawn yw hon, ac mae’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Gan fod y rhaglen yn arwain, ar ôl hyfforddiant cyn-gofrestru dilynol, at gofrestru i fod yn fferyllydd, ac yn cael ei rheoleiddio trwy achrediad gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC), mae pob modiwl yn fodiwlau gofynnol a rhaid eu pasio: dim ond ar ôl cwblhau’r 480 credyd o’r gyfres lawn o fodiwlau y dyfernir y radd MPharm.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn un byddwch yn dysgu am rôl y fferyllydd yn y DU. Mae wedi newid yn sylweddol yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, gyda symudiad o rôl ddosbarthu fwy traddodiadol i rôl darparwr gwasanaethau clinigol sy'n canolbwyntio ar y claf. Gofal fferyllol yw canolbwynt y sylw ac amlygwyd fferyllwyr fel yr unig broffesiwn sydd wedi'i addysgu'n benodol i ddarparu gwasanaethau fferyllol. Bydd dysgu am eich rôl yn y dyfodol yn rhoi bloc adeiladu ar gyfer gweddill y cwrs MPharm gyda'r pwyslais ar gynnig y gofal fferyllol gorau posibl yw'r nod yn y pen draw.

Y nod yw rhoi cyflwyniad i rolau a chyfrifoldebau fferyllwyr a fferylliaeth o fewn systemau gofal iechyd, ym maes iechyd y cyhoedd ac yn ehangach mewn cymdeithas.

Bydd eich astudiaeth benodol yn canolbwyntio ar y bod dynol iach a chleifion yn gofalu am eu hunain, hanfodion gwyddoniaeth fferyllol, a meddyginiaethau gofal iechyd.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau fe gewch y cyfle i ddangos agwedd ac ymddygiad darpar weithiwr iechyd proffesiynol sy'n paratoi ar gyfer ymarfer diogel sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar anghenion y claf a'r gymdeithas, yn ogystal â datblygu’r sgiliau sydd gan weithiwr iechyd proffesiynol o’r fath.

Bydd eich astudiaeth benodol yn canolbwyntio ar ddefnyddio meddyginiaethau mewn meysydd clinigol â blaenoriaeth fel clefyd y galon, asthma, a chlefydau gastro-berfeddol.

Blwyddyn tri

Ym mlwyddyn tri bydd eich astudiaeth yn canolbwyntio ar ddefnyddio meddyginiaethau mewn meysydd clinigol mwy cymhleth megis optimeiddio gofal fferyllol i gleifion â chanser, clefydau niwrolegol, a haint gyda micro-organebau sy'n ymwrthod â gwrthfiotigau.

Blwyddyn pedwar

Mae'r flwyddyn olaf yn cynnwys prosiect ymchwil neu ddatblygu ac mae hefyd yn datblygu myfyrwyr i baratoi ar gyfer gofal iechyd cyfannol; eu herio i wneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb, rheoli newid a delio ag ansicrwydd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Students learning in the lab

Dysgu ac asesu

Mae trefn fodiwlaidd i’r radd. Cefnogir pob modiwl gan ddeunyddiau addysgu electronig a rennir trwy wefan Dysgu Canolog, rhan o amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol.

Mae'r addysgu ar safle’r Ysgol yn cynnwys darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol a gweithdai yn bennaf, ac mae dysgu gyda chymorth cyfrifiadur (CAL) yn nodwedd o rai dosbarthiadau a gweithdai ymarferol.

Oddi ar y safle, cynhelir lleoliadau gwaith canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol. Ar ben hynny, cynigir addysg ryngbroffesiynol (IPE) gyda myfyrwyr meddygol ym mhob blwyddyn o'r rhaglen: gweithdai sgiliau clinigol ar y cyd sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddiogelwch cleifion ac ar ddefnyddio meddyginiaethau yn ddiogel ac yn effeithiol. Ceir addysg ryngbroffesiynol gyda myfyrwyr optometreg hefyd. Yn ogystal â dod wyneb yn wyneb â chleifion ac ymarferwyr iechyd eraill yn ystod lleoliadau gwaith ac addysg ryngbroffesiynol, mae cleifion, meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol yn cyfrannu at ddysgu yn ystafell ddosbarth y brifysgol. Trwy bob un o'r dulliau hyn, mae ein myfyrwyr yn cael sylfaen wyddonol mewn fferylliaeth. Maent hefyd yn ymgyfarwyddo â gyrfa fel ymarferydd gofal iechyd ac yn gallu paratoi ar ei chyfer.

Ar ôl astudi modiwl dulliau ymchwil ym mlwyddyn tri, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, ysgolheigaidd neu ddatblygu ymarfer ym mlwyddyn pedwar.

Mae pwyslais penodol ar symud ymlaen tuag at ddysgu annibynnol er mwyn paratoi ar gyfer dysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP: rhaid i fferyllwyr roi tystiolaeth o hyd o leiaf pob pum mlynedd). Felly, mae astudio preifat dan gyfarwyddyd a dysgu ehangach a gynghorir yn nodweddion o'r holl fodiwlau.

Ym mhob blwyddyn o'r cwrs, fe gewch eich cefnogi ac mae'n ofynnol i chi gynhyrchu cofnodion o'ch gweithgaredd DPP a hefyd o Gynllunio Datblygiad Personol (PDP) a'i gyflawni ar gyfer cymhwysedd penodol neu gaffael sgiliau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael rhaglen gofrestru ac ymsefydlu yn ystod yr wythnos cyn i'r addysgu a'r dysgu ffurfiol ddechrau. Byddwch yn cael copïau o'r Côd Ymddygiad i Fyfyrwyr Fferylliaeth (ym Mhrydain Fawr) a Llawlyfr Diogelwch yr Ysgol. Byddwch yn cael cot labordy a locer gydag allwedd trwy gydol eich amser gyda ni. Eich cyfrifoldeb chi yw golchi cot y labordy a dychwelyd allwedd y locer pan fydd eich amser fel myfyriwr wedi dod i ben. Yn bwysicaf oll, byddwch yn cael amserlen o ddosbarthiadau yn ystod yr wythnos gofrestru ac ymsefydlu ym mis Medi bob blwyddyn. Cefnogir pob modiwl gan y cynnwys electronig ar Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol. Cewch gyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad at Ddysgu Canolog a'ch cyfrifon ebost a System Rheoli Gwybodaeth Myfyrwyr (SIMS) Prifysgol.

Gallwch fynd i Swyddfa Israddedig yr Ysgol (Ystafell Redwood 1.01) i wneud ymholiadau, cwblhau prosesau gweinyddol a chasglu ffurflenni a dogfennau pwysig eraill. Mae'r 'tyllau colomennod' ar gyfer post myfyrwyr israddedig ychydig y tu allan i'r swyddfa hon.

Mae system y tiwtoriaid personol yn rhan hanfodol a chanolog o’r gefnogaeth i fyfyrwyr yn yr Ysgol. Rôl y tiwtor personol yw monitro cynnydd academaidd cyffredinol a rhoi adborth a chyngor i diwtoriaid. Mae tiwtoriaid yn rhoi cefnogaeth bersonol ac arweiniad academaidd hefyd, gan fod y pwynt cyswllt cyntaf lle bo’n briodol ac yn borth i wasanaethau cefnogi myfyrwyr y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Gall gwybodaeth a drafodir gyda thiwtor personol eu cofnodi yn nodiadau tiwtor personol. Bydd cyfrinachedd yn cael ei gynnal oni bai bod goblygiadau i ddiogelwch neu les cleifion neu'r cyhoedd. Rhoddir tiwtor a dirprwy diwtor i chi wrth ymrestru am y tro cyntaf ym mlwyddyn un. Eich tiwtor a'ch dirprwy diwtor fydd y rhain trwy gydol eich amser fel myfyriwr. Mae rhagor o wybodaeth yn Llawlyfr MPharm.

Mae modd cysylltu ag arweinwyr modiwlau ac maent ar gael i ateb cwestiynau myfyrwyr a mynd i'r afael â'u hanawsterau wrth astudio eu modiwl.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ffurfiannol yn ystod sesiynau tiwtorial, dosbarthiadau trafod a dosbarthiadau datrys problemau yn ogystal â thrwy sylwadau ysgrifenedig ar waith cwrs.

Sut caf fy asesu?

Progress in each module is assessed during and at the end of the semester(s) in which they are taught.  Many modules include formative or diagnostic assessments (assessments which do not count towards the module mark) which are intended to help your understanding and to provide you with an indication of your progress.  Methods of summative assessment (assessments which count towards the module mark) are varied: essay assignments, multiple-choice question tests, conventional written examinations, assessed presentations, and objective structured clinical examinations (OSCEs) and other practical/skills tests are all used as appropriate.

The course leads, after subsequent pre-registration training, to registration as a pharmacist and is regulated, through accreditation, by the GPhC.  Consequently, there are capabilities or competencies that all students must evidence at a satisfactory level to be allowed to progress through and achieve the final award of the programme. For pharmaceutical calculations, dispensing and clinical assessments students can be required to achieve at pass marks higher than 40%. Such cases are clearly stated in the schedules of assessment for each year of study within the set of module descriptions for that year.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn meithrin amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch chi’n gallu:

  • tystiolaethu a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o agweddau gwyddonol, clinigol, proffesiynol, cymdeithasol, cyfreithiol a moesegol sy’n ymwneud â defnyddio a chamddefnyddio asiantau meddyginiaethol;
  • tystiolaethu ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddealltwriaeth newydd mewn fferylliaeth, y mae llawer ohonynt ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth ac ymarfer fferyllol, neu'n cael ei lywio ganddo;
  • tystiolaethu a chymhwyso dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau sy'n berthnasol i ymchwil neu ysgoloriaeth uwch;
  • dangos sut i gymhwyso gwybodaeth mewn ymarfer;
  • gwerthuso ymchwil gyfredol feirniadol ac ysgolheictod uwch mewn gwyddoniaeth ac ymarfer fferyllol;
  • gwerthuso methodolegau ymchwil a datblygu beirniadaeth ohonynt;
  • cyfathrebu'n effeithiol â chleifion, y cyhoedd ac aelodau eraill y tîm gofal iechyd;
  • cyflenwi meddyginiaethau yn ddibynadwy yn unol â gwybodaeth, deddfwriaeth ac ymddygiad proffesiynol ym maes fferylliaeth a chydag agweddau eraill ar gyfraith a moeseg fferylliaeth;
  • ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a dysgu annibynnol;
  • ymgymryd â hyfforddiant cyn-gofrestru a thrwy hynny gymhwyso fel fferyllydd yn y DU.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae'r dewisiadau o ran gyrfa yn amrywiol ac yn doreithiog ar gyfer Fferyllwyr, gan amrywio o leoliadau ysbyty, gofal sylfaenol neu gymunedol – sy'n cynnwys cael eich lleoli mewn meddygfeydd teulu – i ddiwydiant neu ymchwil yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan olygu bod y radd hon yn ddewis cyffrous.

Mae llawer o fferyllwyr y dyddiad hyn yn gymwys i ragnodi meddyginiaethau yn annibynnol heb sêl bendith meddyg ac maent ar y rheng flaen o ran darpariaeth gofal iechyd.

Mae ein rhaglen MPharm wedi'i chynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddilyn eich gyrfa ym maes fferylliaeth. Ar ôl cwblhau'r rhaglen MPharm yn llwyddiannus, gallwch ymgymryd â blwyddyn hyfforddi cyn cofrestru, cyn sefyll asesiad cofrestru'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol er mwyn cofrestru fel Fferyllydd.

Ac rydym ni'n ymfalchïo bod 100% o'n graddedigion mewn swydd a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio.

Mae ein graddedigion yn llenwi swyddi allweddol yn ysbytai’r GIG ac ysbytai tramor, mewn sefydliadau fferyllol cymunedol megis Boots UK, Lloyds Pharmacy Group, y Well Pharmacy Group, mewn mentrau gwyddonol a gofal iechyd cysylltiedig, yn ogystal â lleoliadau mewn diwydiant. Mae rhai hefyd wedi mynd yn eu blaenau i gael gyrfaoedd wrth eu boddau fel fferyllwyr milfeddygol, fferyllwyr milwrol, ac ym maes materion rheoleiddiol.

Mathau o swyddi:

  • Fferyllydd Ysbyty - sydd â rôl allweddol yn y tîm gofal iechyd. Maent yn gweithio yn un o ysbytai'r GIG neu mewn ysbyty preifat, gan ganolbwyntio'n glir ar anghenion cleifion.

  • Fferyllydd Cymunedol - yn eu fferyllfeydd eu hunain mewn canolfan gofal iechyd leol neu feddygfa. Maent yn cynnig gofal iechyd ar lawr gwlad yn y DU neu dramor. Gydag astudiaeth bellach, cewch ragnodi meddyginiaethau'n annibynnol.

  • Fferyllydd gofal sylfaenol – byddwch yn cynnig y meddyginiaethau gorau posibl i gleifion er mwyn manteisio i'r eithaf ar y manteision a lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyffuriau gwahanol. Byddwch hefyd yn helpu i ddatblygu gwasanaethau i gefnogi'r boblogaeth leol â'u hanghenion iechyd.

  • Fferyllydd Diwydiannol - byddwch yn helpu i ymchwilio, dylunio, datblygu a phrofi meddyginiaethau a thriniaethau newydd, gan wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac o safon dda i gleifion.

  • Fferyllydd Academaidd - gallai'r hon fod y rôl i chi os oes diddordeb gennych mewn addysgu, ymchwilio, ymarfer neu gyfuniad o'r tri maes. Gallech fod yn gweithio mewn prifysgolion, sefydliadau ymchwil neu sefydliadau eraill ledled y byd.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Fferyllydd Ysbyty
  • Fferyllydd Clinigol yn y Gymuned, meddygfa neu leoliad Gofal Sylfaenol arall
  • Fferyllydd Diwydiannol
  • Ymchwilydd
  • Rheolwr Fferyllfa

Lleoliadau

Mae lleoliadau ymarfer fferyllol ar gyfer pob myfyriwr ym mhob blwyddyn o'r rhaglen, gan gynnwys nifer o ddiwrnodau, tua phump i gyd, mewn fferyllfeydd cymunedol ac, ym mlwyddyn tri, wythnos mewn fferyllfa un o ysbytai'r GIG. Mae yna hefyd nifer o leoliadau rôl-gyfan neu hanner diwrnod yn dod i'r amlwg mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol eraill ar gyfer pob myfyriwr.

Yn dibynnu ar eich dewisiadau astudio, mae cyfleoedd i rai myfyrwyr ymgymryd â lleoliadau ychwanegol mewn amgylcheddau cleifion neu ofal cymdeithasol neu ymweliadau/lleoliadau gwaith mewn sefydliadau diwydiant fferyllol.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 37% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.