Tsieinëeg Fodern (BA)
- Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu
- Côd UCAS: RC12
- Derbyniad nesaf: Medi 2022
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn
Treuliwch ddwy flynedd dramor
Treuliwch ddwy flynedd mewn prifysgol yn Beijing. Profwch ddiwylliant Tsieina, agorwch eich meddwl i syniadau newydd wrth wella eich sgiliau iaith.
Wedi'i deilwra i’ch gallu
Mae modd astudio ein holl ieithoedd ar lefel dechreuwr neu uwch ac nid oes angen cymhwyster Safon Uwch.
Diwylliant Tsieina yn ei gyd-destun
Dysgwch am Tsieinëeg a ddiwylliant Tsieina yn y gymdeithas, gan gynnwys: hanes, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Ewch ar leoliadau gwaith rhyngwladol dramor yn amrywio o gwmnïau rhyngwladol, sefydliadau diwylliannol, a chyfleoedd i addysgu mewn pentrefi yn Tsieina..
Anogwch eraill i ddysgu ieithoedd
Ysbrydolwch eraill drwy gymryd rhan mewn cynlluniau Myfyrwyr sy’n Llysgennad Iaith a Mentora Myfyrwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yw galluogi ein myfyrwyr i fod yn ‘ddinasyddion byd-eang’. Mae ein graddedigion yn ieithyddion medrus iawn sydd â nifer o sgiliau sy’n eu galluogi nhw i weithio mewn llu o yrfaoedd a phroffesiynau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae ein rhaglen BA Tsieinëeg Fodern yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau iaith lefel uchel iawn a deall diwylliant Tsieinëeg yn drylwyr. Mae’r radd hon yn mireinio eich iaith, eich ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol ac yn datblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer eich CV mewn marchnad swyddi sy’n chwilio am raddedigion sy’n gallu siarad iaith dramor.
Mae’r rhaglen Tsieinëeg Fodern bedair blynedd hon yn gyfle unigryw a chyffrous i astudio gradd ddeuol a gynigir ar y cyd â Phrifysgol Normal Beijing (BNU). Byddwch yn treulio dwy flynedd o’r radd yn Tsieina (blynyddoedd 2 a 3), a dwy flynedd yng Nghaerdydd (blynyddoedd 1 a 4).
Mae Tsieinëeg yn brif iaith sydd â chyrhaeddiad byd-eang, ac mae ganddi ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Trwy astudio Tsieinëeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth fuddiol i fyd gwaith. Bydd hyn yn rhoi mantais gystadleuol i chi, yn eich gwneud yn atyniadol mewn gweithlu cynyddol ryngwladol ac yn agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd yn yr iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Tsieina.
Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-ABB
Bydd gwybodaeth am Tsieinëeg Mandarin fel iaith dreftadaeth hefyd yn cael ei hystyried ochr yn ochr â chymwysterau Safon Uwch eraill.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O 2023 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei hailenwi'n Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru. Bydd y cymhwyster hwn yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Gofynion mynediad ychwanegol
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad anffurfiol i benderfynu a ydych yn addas ar gyfer y rhaglen ai peidio.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
FFfioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,000 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £19,450 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £19,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae'r rhaglen bedair blynedd o hyd, wedi'i rhannu ar draws y naill sefydliad ac yn gyfle unigryw a chyffrous i fyfyrwyr sy'n ymddiddori yn Tsieina a'i diwylliant. Byddwch yn treulio'r flwyddyn gyntaf a'r bedwaredd flwyddyn yng Nghaerdydd a'r ail a'r drydedd flwyddyn yn Beijing.
Cyn mynd i Tsieina, byddwch yn ennill sylfaen cadarn mewn hanes a diwylliant Tsieina, yn ogystal â sgiliau iaith. Yn Beijing, byddwch yn cymryd rhan mewn astudiaethau ystafell ddosbarth ac yn ymgymryd ag interniaeth, a ddewisir o ystod eang o opsiynau yn y sector diwylliannol a allai amrywio o orielau celf preifat, cyhoeddwyr llyfrau a chwmnïau dylunio cyfryngau i dai opera gwladol, er mwyn ategu eich sgiliau ieithyddol yn ogystal â chasglu data ymchwil.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/2023. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022
Blwyddyn un
Treulir blwyddyn un ym Mhrifysgol Caerdydd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.
Byddwch yn cael cyflwyniad i'r iaith Tsieinëeg, i gyfieithu a Tsiena drwy amrywiaeth o fodiwlau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
China in Context | ML1192 | 20 Credydau |
Life in China: A Practical Guide | ML1196 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Introduction to Chinese Linguistics | ML1130 | 20 Credydau |
Advanced Mandarin Chinese Language Year 1 | ML1190 | 40 Credydau |
Mandarin Chinese Language Beginners | ML1193 | 40 Credydau |
Introduction to Translation Methods | ML8100 | 20 Credydau |
Introduction to Translation Theory | ML8101 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau: Blwyddyn Ryngosod
Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Normal Beijing (BNU) lle byddwch yn dewis o ystod o fodiwlau iaith a di-iaith. Mae'r modiwlau hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): Gwrando ar Tsieinëeg, ei siarad, ei darllen, ei hysgrifennu; hanes Tsieineaidd hynafol a modern; meddwl Tsieineaidd hynafol; gwleidyddiaeth ac economeg Tsieineaidd fodern; diwylliant rhyngrwyd yn Tsieina; a diwylliant poblogaidd yn Tsieina. I gael rhagor o wybodaeth am y modiwlau sydd ar gael yn BNU, cysylltwch â Wei Shao.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Credits Pursued at an Institution other than Cardiff University | CU1120 | 120 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Treulir blwyddyn tri ym Mhrifysgol Normal Beijing (BNU).
Yn ystod eich trydedd flwyddyn yn Beijing, yn ogystal â'ch modiwlau safonol, byddwch yn ymgymryd ag interniaeth a gynigir mewn amrywiaeth o sefydliadau sy'n amrywio o gwmnïau rhyngwladol i sefydliadau diwylliannol. Mae BNU hefyd yn trefnu lleoliadau addysgu mewn pentrefi yn Tsieina fel rhan o'i chenhadaeth ddinesig, a gellir gwneud hyn fel lleoliad gwaith.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Chinese Language, Business and Culture (BNU Year 2S) | ML1140 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Treulir blwyddyn pedwar ym Mhrifysgol Caerdydd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.
Byddwch yn astudio iaith Tsieinëeg Mandarin ymhellach ar lefel uwch. Byddwch hefyd yn elwa ar fodiwlau ym Tsieinëeg Mandarin ar gyfer busnes, rheolaeth yn Tsieina a datblygiadau domestig a rhyngwladol.
Bydd gofyn i chi ysgrifennu traethawd hir fel rhan o'ch pedwaredd flwyddyn. Byddwch yn cael rhestr o bynciau traethawd addas yn unol â'r cyfreithiau a'r rheoliadau sy'n llywodraethu darparu addysg uwch yn Tsieina.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
High-Level Proficiency in Mandarin Chinese Language | ML1370 | 30 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Final Year Dissertation - Chinese (in English) | ML1361 | 30 Credydau |
China, Greater China & China Overseas | ML1369 | 30 Credydau |
Specialised Chinese | ML1371 | 30 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol.
Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.
Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n cynorthwyo gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael tiwtor personol pan fyddwch yn cyrraedd. Mae tiwtoriaid personol yn aelodau o staff academaidd a byddant wrth law i ddarparu cyngor, cyfarwyddyd, cymorth ac adborth.
Mae wythnos ddarllen pob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae ein Tîm Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Hefyd, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.
Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.
Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Oherwydd natur unigryw'r BA mewn Tsieinëeg Fodern, mae'r rhaglen hon yn cynnig cefnogaeth sylweddol er mwyn sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i baratoi cyn teithio i Tsieina ar gyfer eich ail a'ch trydedd flwyddyn.
Byddwch yn mynychu cyfarfodydd cyn-gadael gyda'r Cydlynydd Academaidd Tsieineaidd yn ogystal ag ymweld ag ysgolheigion o BNU, y Gyfnewidfa Ryngwladol a swyddfa ERASMUS yn yr Ysgol. Bydd y cyfarfodydd yn rhoi gwybodaeth ddiwylliannol bwysig ar foesau ac ymddygiad yn Tsieina, teithio, bwyd a siopa, cadw'n ddiogel, y Nadolig a materion ymarferol eraill.
Bydd eich Swyddog Achosion Myfyrwyr ar gael ar eich cyfer hefyd pan fyddwch ym Mhrifysgol Normal Beijing. Y Swyddog Achos Myfyrwyr fydd eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw broblemau a bydd yn darparu unrhyw arweiniad y gallai fod ei angen arnoch pan fyddwch yn Tsieina. Bydd hyn yn cael ei egluro'n glir. Gallwch ebostio eich tiwtor ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod unrhyw broblemau a gewch. Bydd aelod o'r Gwasanaethau Proffesiynol a all gyfathrebu yn Tsieinëeg ar gael ar eich cyfer hefyd rhag ofn y bydd angen sgiliau Tsieinëeg i ddatrys problemau materion penodol. Gellir rhoi gwybod i'r Swyddog Achosion Myfyrwyr at unrhyw amgylchiad esgusodol sydd angen sylw arbennig, a bydd hyn yn cael ei gyflwyno i gyngor academaidd BNU i'w adolygu a mynd i'r afael ag ef. Gwneir hyn yn wythnosol felly gwarentir ymateb prydlon ac astud bob amser
Bydd Prifysgol Normal Beijing yn dyrannu tiwtor personol i chi yn ystod eich cyfnod yn astudio yno. Mae cefnogaeth hefyd ar gael drwy drefniadau eraill, fel y disgrifir uchod. Bydd yr holl gefnogaeth a'r cymorth ar-lein a ddarperir gan Brifysgol Caerdydd ar gael ae eich cyfer pan fyddwch yn Tsieina. Bydd gan academyddion ofal bugeiliol hefyd dros eu myfyrwyr sydd yn BNU a bydd gennych gyswllt ag academyddion a enwir fydd hefyd yn cyflawni dyletswyddau gofal bugeiliol wrth ymweld â Tsieina.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol ar waith ysgrifenedig, ac adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau. Byddwch hefyd yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.
Sut caf fy asesu?
Essays, written examinations and oral presentations are used not only for assessment purposes but also as a means of developing your capability to gather, organise, evaluate and communicate relevant information and ideas from a variety of sources in reasoned arguments.
Dedicated essay workshops and individual advice enable you to produce your best work for submission, while written feedback on submitted work feeds forward into future work, enabling you to develop your strengths and address any weaker areas. You may also be provided with additional oral feedback.
The optional final-year dissertation provides you with the opportunity to investigate a specific topic in depth and to acquire detailed knowledge about a particular field of study. You will develop your research skills by collecting and presenting material, and your evaluative skills by formulating a clear, cogent argument and drawing appropriate conclusions.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:
- ddatblygu eich sgiliau ieithyddol, yn ogystal â meithrin gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes Sbaen.
- deall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
- gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gwybodaeth arall
Beth yw barn cyflogwyr am y Rhaglen hon?
Fel rhan o’r gwaith cynllunio’r cwricwlwm, ymgynghorodd yr ysgol â sefydliadau cyflogwyr ar y nodweddion maen nhw’n chwilio amdanyn nhw mewn graddedigion. Roedd cyflogwyr yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a gallu i ysgrifennu’n dda yn Saesneg, sydd, ill dau, yn ddeilliannau dysgu allweddol ar gyfer y rhaglen, yn ogystal â datblygu sgiliau iaith uwch a'r gallu i feddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Yn 2016-17, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol a oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio.
Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint fel eu bod, ar ôl graddio, yn cymryd amser i barhau i deithio neu maen nhw'n mynd dramor i weithio.
Mae ein graddedigion yn ffynnu yn y farchnad swyddi y gwelir yn ein hystadegau cyflogaeth. Mae eu graddau iaith yn eu harwain i ystod amrywiol a chyffrous o yrfaoedd sydd wedi cynnwys cyllid, rolau cyswllt rhyngwladol ym maes chwaraeon, ymgynghoriaeth busnes, addysg, iechyd, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, diplomyddiaeth, cyfieithu ar y pryd, cyfieithu, y gyfraith ac addysgu.
Gyrfaoedd graddedigion
- Interpreter
- Banking and Finance
- Teaching
Lleoliadau
Yn ail semester y drydedd flwyddyn, bydd gan fyfyrwyr leoliad gwaith sy'n cyfateb i gyfnod o 2-3 wythnos o hyd.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cai
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.