Ewch i’r prif gynnwys

Y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

rosette

Arwain y ffordd

Rhowch eich hun ar flaen y gad ym maes Newyddiaduraeth a Chyfathrebu mewn ysgol o safon uchel a gydnabyddir yn rhyngwladol.

location

Cysylltiadau’r Brifddinas

Mae Caerdydd yn ffynnu; manteisiwch ar y diwydiannau cyfryngau a chreadigol sy'n tyfu, ynghyd â chysylltiadau â BBC Cymru a Media Wales, sydd drws nesaf.

academic-school

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Yn cynnwys llyfrgell arbenigol ar y safle, mannau astudio golau a chwe ystafell newyddion.

structure

Dealltwriaeth amlgyfryngol ac aml-sector

Y tu hwnt i ddiwydiannau'r cyfryngau a newyddiaduraeth, ymchwiliwch i feysydd fel ffilm, teledu, platfformau cymdeithasol/digidol a marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

Prif nod ein cwrs ar y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant yw eich paratoi i fod yn ddinasyddion gwybodus mewn cymdeithas sy’n gyforiog o gyfryngau.

Mae ein cyrsiau’n astudio’r llu o agweddau ar newyddiaduraeth, y cyfryngau, diwylliant a chyfathrebu ac yn ystyried effaith y rheiny ar gymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant poblogaidd mewn oes o globaleiddio a newidiadau cymdeithasol dynamig. Maen nhw’n rhoi i chi sgiliau swydd-benodol fel dulliau ymchwilio a hefyd, os dewiswch, ymarfer newyddiadurol, sgiliau trosglwyddadwy llawer ehangach sydd o werth mewn amrywiaeth o sectorau.

Man cychwyn y radd hon yw’r rhagdybiaeth bod angen i ni, os ydym am ddeall ein cymdeithas fodern, ddeall rôl ganolog y cyfryngau a’r diwydiannau diwylliannol ynddi.

Er y gallwch gymryd nifer cyfyngedig o fodiwlau mwy ymarferol, ar yr academaidd a’r dadansoddol y mae pwyslais y radd.

Byddwch yn ymuno ag amgylchedd ysgogol o ddeallusol sy’n ymroddedig i fanteisio’n llawn ar eich potensial trwy ddatblygiad personol a digwyddiadau gyrfaoedd. Mae nifer o’n darlithwyr profiadol yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol yn eu meysydd pwnc.

Er bod y cwrs hwn yn heriol ac yn academaidd ei natur, NID yw'n darparu hyfforddiant galwedigaethol newyddiaduraeth.

Maes pwnc: Newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

.Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B/6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 7.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.0 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 100 yn gyffredinol, gydag o leiaf 20 ym mhob is-sgil.

PTE Academic

O leiaf 76 yn gyffredinol gydag o leiaf 62 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: Heb ei dderbyn.
III: o leiaf Teilyngdod ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC ym mhynciau'r Celfyddydau, y Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol.

Lefel T

D yn un o'r pynciau Lefel T canlynol:
- Cynhyrchu, dylunio a datblygu digidol
- Cefnogaeth a gwasanaethau digidol
- Gwasanaethau busnes digidol
- Cyfryngau, darlledu a chynhyrchu

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Nid oes proses gyfweld, a bydd deiliaid cynigion yn cael gwahoddiad i ddiwrnodau ymweld i ymgeiswyr ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’r radd BA yn y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Chyfathrebu yn gwrs modiwlaidd tair-blynedd, llawn amser. Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau’n cynnwys 12 wythnos o addysgu, a neilltuir gweddill y semester i arholiadau a mathau eraill o asesu, ynghyd â’r prosesau sy’n ymwneud â marcio a byrddau arholi.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Yr un flwyddyn gyntaf sydd i bob un o'n rhaglenni gradd anrhydedd sengl. Mae hyn wedi'i gynllunio i roi sylfaen gadarn i chi ym mhob un o gyd-destunau cyfoes a hanesyddol newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant. Mae hefyd yn eich cyflwyno i ymarferoldeb ysgrifennu, dadansoddi ac ymchwil academaidd o ansawdd uchel.

Addysgir pum modiwl 20 credyd craidd drwy ddefnyddio fformat darlith/seminar yn bennaf. Yn ystod eich darlithoedd byddwch yn cael eich cyflwyno i syniadau a dulliau newydd ac yn gwneud mwy o waith cymhwysol a gwaith tîm yn eich seminarau.

Blwyddyn dau

Bydd dau fodiwl craidd a phedwar modiwl dewisol yn cael eu haddysgu drwy ddefnyddio fformat darlith/seminar yn bennaf, er y bydd y tasgau a ddatblygir mewn seminarau yn fwy uchelgeisiol.

Bydd disgwyl i chi ddatblygu protocolau ymchwil, ar eich pen eich hun ac mewn grwpiau, a dechrau arbrofi gyda a dylunio gweithdrefnau methodolegol (fel dulliau arolygu, ethnograffeg, a dadansoddi cynnwys a sgyrsiau).

Erbyn diwedd blwyddyn dau, bydd gennych chi’r sgiliau sydd eu hangen i ysgrifennu traethawd hir ym mlwyddyn tri.

Blwyddyn tri

Bydd y flwyddyn olaf yn cynnwys traethawd hir dewisol a dewis o fodiwlau dewisol a fydd yn eich galluogi i arbenigo yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi. Er y bydd nifer o’r rhain ar ffurf darlith/gweithdy, bydd yr amrywiaeth o ddulliau dysgu yn fwy amrywiol ac yn cynnwys aseiniadau mwy cymhleth a heriol.

Byddwch yn cynnal ymchwil annibynnol ac yn defnyddio syniadau damcaniaethol a dulliau gwaith ymarferol a/neu ddadansoddol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae ein gwaith addysgu yn aml yn cael ei arwain a’i lywio gan ein gwaith ymchwil. Cewch eich addysgu mewn amgylchedd cefnogol a bydd tiwtor personol sy’n aelod o staff academaidd yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn gallu rhoi cyngor ar amrywiaeth eang o faterion.

Bydd arferion dysgu a chynhyrchu cyfryngau newydd ac aml-gyfrwng pe baech chi’n dewis rhai o’r modiwlau newyddiaduraeth a chyfryngau mwy ymarferol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch tiwtor personol.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Mae nifer o fodiwlau’n cynnwys dulliau asesu ffurfiannol. Mae’r rhain fel arfer yn cynnwys llunio cynigion ar gyfer traethodau sy’n seiliedig ar ymchwil (gan gynnwys y traethawd hir), gan roi cyfle i diwtoriaid modiwlau roi adborth cyn i chi gychwyn ar ddarnau mwy sylweddol o waith ysgrifenedig neu brosiectau eraill. Mewn rhai achosion, bydd aseiniadau ffurfiannol yn cynnwys elfen grynodol, ac yn rhan o’r asesiad cyffredinol.

O ran gwaith a asesir, mae Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn gwarantu:

  • bydd y meini prawf marcio yn cael eu dangos yn glir
  • byddwch yn cael sylwadau ysgrifenedig manwl wedi eu teipio ar eich testun
  • byddwch yn cael adborth prydlon a bydd pob gwaith a asesir yn cael ei ddychwelyd atoch o fewn pedair wythnos
  • bydd yr adborth yn esboniadol ac wedi ei eirio i'ch helpu i wella
  • lle bo angen byddwn yn cwrdd â chi’n unigol i sicrhau eich bod chi’n deall yr adborth

SYLWER: Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr anabl, ac mae’n bosibl y byddwn yn gallu cynnig dulliau asesu amgen. Fodd bynnag, ni fydd hyn bob amser yn bosibl o reidrwydd, er enghraifft pan fydd perfformiad yn ddull asesu mewn modiwl perfformiad. Gall safonau cymhwysedd o’r fath gyfyngu ar argaeledd addasiadau neu asesiadau amgen, ond dylech gyfeirio at ddisgrifiadau’r modiwlau i gael manylion.

 

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:

  • ddarllen, dadansoddi a chyfosod testunau academaidd cymhleth
  • dadansoddi testunau cyfryngau gwahanol, gan gynnwys geiriau, delweddau a sain
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
  • gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • cynnal gwahanol fathau o ymchwil annibynnol ar gyfer traethodau, prosiectau, cynyrchiadau creadigol neu draethodau hir
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gwybodaeth arall

Y Tîm Cyfleoedd Byd-eang

Mae astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor fel rhan o'ch profiad yn y brifysgol yn ffordd wych o ehangu'ch gwybodaeth academaidd, ymgolli mewn diwylliant arall a dysgu sgiliau y bydd cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Gallwch wneud cais am leoliadau ledled Ewrop ac yn rhyngwladol drwy nifer o gynlluniau cydnabyddedig yn rhan o raglen eich gradd.

Mae Prifysgol Erasmus Rotterdam (Iseldiroedd) a Phrifysgol Stockholm (Sweden) ymhlith y cyrchfannau Ewropeaidd. Mae Prifysgol Sydney (Awstralia), Prifysgol Ottawa (Canada), Prifysgol Technoleg Auckland (Seland Newydd) a Phrifysgol Pennsylvania (UDA) ymhlith y cyrchfannau rhyngwladol.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae gan ein myfyrwyr enw rhagorol am ddod o hyd i waith ar ôl iddynt raddio ac maent yn gweld bod eu sgiliau'n ddefnyddiol mewn amrywiaeth o rolau cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus.

Maent yn elwa o'u gallu i ysgrifennu cynnwys yn gyflym, yn effeithiol ac ar gyfer cynulleidfa benodol. Yn aml iawn mae ein graddedigion yn llwyddo ym myd busnes oherwydd eu bod yn gallu strwythuro dadl gydlynol yn ysgrifenedig ac ar lafar wrth gyflwyno eu syniadau busnes.

Mae rhai o’n graddedigion yn defnyddio’r wybodaeth newydd am faterion cyhoeddus a gwleidyddiaeth y byd i ddilyn gyrfa ym maes newyddiaduraeth.

Gan nad yw ein graddau israddedig yn rhoi hyfforddiant newyddiaduraeth neu achrediad newyddiadurol, mae llawer yn dewis mynd ymlaen at un o’n cyrsiau Meistr, megis newyddiaduraeth darlledu, newyddiaduraeth newyddion neu newyddiaduraeth gyfrifiadurol i gael eu hyfforddiant ymarferol. Darganfod mwy am yrfaoedd a chyflogadwyedd.

Yn wir, byddwch yn ennill sgiliau sy’n berthnasol i ystod o swyddi sy’n seiliedig ar y cyfryngau modern. Dyma enghreifftiau o lwybrau gyrfa a rolau diweddar:

  • Cynhyrchu ar gyfer y teledu – Cynhyrchydd ac ymchwilydd
  • Hysbysebu – Ysgrifennwr deunydd a  rheolwr ymgyrchoedd
  • Cysylltiadau Cyhoeddus – Rheolwr cyfrif ac awdur
  • Addysgu – Disgyblaethau amrywiol
  • Newyddiaduraeth – Gohebydd lleol a blogiwr
  • Cynhyrchu Ffilmiau – Awdur a chynhyrchydd
  • Cyhoeddi – Awdur a golygydd deunydd
  • Cyfathrebu – Swyddog y wasg/cyfathrebu

Gyrfaoedd graddedigion

  • Journalist
  • Digital Media Executive
  • Social Media Policy Advisor
  • Editor
  • Public Relations

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 40% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.