Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Fecanyddol (BEng)

  • Maes pwnc: Peirianneg
  • Côd UCAS: H300
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn
Student project

Pam astudio'r cwrs hwn

car

Rasio Caerdydd

Mae llawer o fyfyrwyr peirianneg fecanyddol yn ymuno â Rasio Caerdydd ac yn cymryd rhan mewn dylunio, datblygu a phrofi car rasio Fformiwla Myfyrwyr profedig.

briefcase

Cynnwys a arweinir gan ddiwydiant

Caiff cynnwys ein cwrs ei lywio gan gydweithrediad diwydiannol a'i gyflwyno gan staff academaidd blaenllaw, y mae llawer ohonynt yn Beirianwyr Siartredig neu wedi gweithio mewn diwydiant.

screen

Cyfleusterau o safon y diwydiant

Bydd gofod stiwdio dylunio dynodedig, labordai arbenigol, gweithdai ac ystafelloedd cyfrifiadurol ar gael ar eich cyfer.

star

Elfen ddylunio gref

Mae elfen ddylunio gref drwy gydol y cwrs, a bydd gennych ddigonedd o gyfleoedd ar gyfer gwaith ymarferol yn ein gofod stiwdio dylunio dynodedig, ein labordai arbenigol, ein gweithdai a’n hystafelloedd cyfrifiaduron. Bydd cyfle i'r rhai sy'n astudio yn y ddisgyblaeth peirianneg sifil fynd ar deithiau maes diwydiannol.

certificate

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Achredir gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol a’r Sefydliad Ynni ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni'n llawn y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Corfforedig, a bodloni'n rhannol y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig.

Mae peirianwyr mecanyddol yn cyfuno dychymyg a thechnoleg i ddatrys problemau yn y byd go iawn, trwy drin rhannau sy'n symud. Maent yn datblygu pob math o ddyfeisiau mecanyddol, offer, peiriannau a pheiriannau. sy'n cynnig atebion arloesol i gymdeithas a sectorau gan gynnwys trafnidiaeth, ynni a gweithgynhyrchu.

Mae’r cwrs achrededig hwn yn darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i ddod yn beiriannydd fecanyddol sy’n barod am waith. Byddwch yn ymgorffori'r wybodaeth a gafwyd o'ch darlithoedd a'ch tiwtorialau ac yn datblygu eich galluoedd ymarferol ym meysydd cyfrifiadura dylunio, drwy brosiectau ymarferol a dosbarthiadau dylunio.

Byddwch yn dewis o blith amrywiaeth o broblemau peirianneg dilys a senarios sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, i weithio arnynt yn unigol a chyda pheirianwyr-fyfyrwyr o ddisgyblaethau eraill. Mae gwaith grŵp yn adlewyrchu perthnasoedd tîm peirianneg a bydd yn eich helpu i feithrin sgiliau proffesiynol, megis gwaith tîm a chyfathrebu. Mae ein mannau creu mynediad agored yn darparu lle i chi ddylunio, creu a chydweithio.

Achrediadau

Maes pwnc: Peirianneg

  • academic-schoolYr Ysgol Peirianneg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4656
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys Mathemateg. Bydd angen i chi basio yr elfen ymarferol o bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 5 mewn Mathemateg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc, a gradd B mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

No specific equipment is needed. The University will provide resources such as computers and associated software, laboratory equipment (including any safety equipment) and any required learning resources.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn gwrs gradd tair blynedd amser llawn, gyda modiwlau craidd yn bennaf ym Mlynyddoedd Un a Dau. Mae gan Flwyddyn Tri gydbwysedd a ddewiswyd yn ofalus o fodiwlau craidd a dewisol, sy'n eich galluogi i ddewis pynciau i gyd-fynd â'ch diddordebau personol neu'ch llwybr gyrfa dewisol.

Mae angen i chi ennill 120 credyd y flwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Year one consists of a series of lectures underpinned by practical laboratory sessions.

Blwyddyn dau

Year two again consists of a series of lectures underpinned by practical laboratory sessions.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Labordai Peirianneg FecanyddolEN202410 Credydau
Rheolaeth ac OfferyniaethEN203710 Credydau
Thermofluids 2EN210420 Credydau
Mecaneg a Dynameg SolidEN210520 Credydau
Cyfrifiadura 1EN210610 Credydau
Dadansoddi Peirianneg a Chyfrifiadura 2EN210720 Credydau
CynllunioEN260220 Credydau
Dylunio Systemau GweithgynhyrchuEN290410 Credydau

Blwyddyn tri

Year three includes a major project, with a value of a quarter of the overall year. For this you will work individually, alongside a supervising staff member.

There are core modules in Business Management and Product Design but also a choice of optional modules, building upon the foundations established in the earlier years.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rheoli Prosiect DiwydiannolEN302610 Credydau
ProsiectEN310030 Credydau
Dylunio CynnyrchEN390610 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Myfyriwr peirianneg fecanyddol yn gweithio ar gar Formula Student
Myfyriwr peirianneg fecanyddol yn gweithio ar gar Formula Student ar gyfer Team Cardiff Racing.

Dysgu ac asesu

Addysgir trwy ddarlithoedd a thiwtorialau, ac ategir hyn gan waith ymarferol mewn labordai a gwaith prosiect. Mae yna lyfrgell gyfoethog o ddeunyddiau dysgu ar-lein, wedi'i deilwra ar gyfer pob gwers ym mhob modiwl, gan gynnwys fideos cyfarwyddiadol/gwybodaeth, nodiadau astudio, cwestiynau ymarfer dan arweiniad a rhai cwisiau ar-lein.

Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 30 credyd ym Mlwyddyn Tri, a dyrennir goruchwyliwr ar ei gyfer o blith y staff addysgu.

Bydd cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr trwy ffeiriau gyrfaoedd a darlithoedd gwadd. Bydd siaradwyr o’r diwydiant yn cyflwyno darlithoedd rheolaidd am eu meysydd arbenigol. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle i chi glywed arbenigwyr yn siarad am bynciau sy’n berthnasol i’ch gradd, ac mae'n rhoi dealltwriaeth i chi o sut beth yw gweithio yn y diwydiant.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ym Mlwyddyn Un, dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor personol wrth law i'ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn rhai academaidd a materion phersonol, a hynny mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol. Ein nod yw eich helpu i oresgyn unrhyw broblem, ni waeth pa mor fach neu fawr ydyw, mor effeithlon a chyflym â phosibl.

Ar gyfer y prosiect 30 credyd ym Mlwyddyn Tri, bydd goruchwyliwr yn y maes arbenigedd ymchwil perthnasol yn cael ei ddyrannu i chi a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd i roi arweiniad a chyngor ar gynnydd yn y gwaith.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn yr Ysgol Peirianneg ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd ar gael hefyd. 

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.

Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth am asesiadau ysgrifenedig. Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn at grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar am gyflwyniadau a chyfraniadau at weithgareddau grŵp.

Sut caf fy asesu?

Bydd eich asesiadau'n amrywio i werthuso gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau proffesiynol a sgiliau allweddol.  Yn bennaf, asesir ym Mlwyddyn Un trwy brofion yn ystod y flwyddyn, adroddiadau byr, portffolio datblygiad proffesiynol, cyflwyniadau a dau arholiad ysgrifenedig. Mae'r amrywiaeth hwn o asesiadau'n cael eu cynnal i'r blynyddoedd uwch gyda newid graddol o brofion i arholiadau. Mae'r prosiect unigol mawr ym Mlwyddyn Tri yn cael ei asesu gan adroddiad traethawd hir.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud. 

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

KU1 Cymhwyso gwybodaeth gynhwysfawr am fathemateg, ystadegau, gwyddoniaeth naturiol ac egwyddorion peirianneg i ddatrys problemau cymhleth mewn peirianneg fecanyddol. Bydd llawer o'r wybodaeth ar flaen y gad yn y pwnc astudio penodol ac yn cael ei llywio gan ymwybyddiaeth feirniadol o ddatblygiadau newydd a chyd-destun ehangach peirianneg fecanyddol.

KU2 Llunio a dadansoddi problemau cymhleth i ddod i gasgliadau wedi'u cadarnhau. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso’r data sydd ar gael gan ddefnyddio egwyddorion cyntaf mathemateg, ystadegau, gwyddoniaeth naturiol ac egwyddorion peirianneg, a defnyddio barn beirianyddol i weithio gyda gwybodaeth a allai fod yn ansicr neu’n anghyflawn, gan drafod cyfyngiadau’r technegau a ddefnyddir.

KU3 Gwerthuso effaith amgylcheddol a chymdeithasol atebion i broblemau peirianneg fecanyddol cymhleth (gan gynnwys cylch bywyd cyfan cynnyrch neu broses) a lleihau effeithiau andwyol.

KU4 Trafod rôl systemau rheoli ansawdd a gwelliant parhaus yng nghyd-destun problemau peirianneg fecanyddol cymhleth.

KU5 Cymhwyso gwybodaeth am egwyddorion rheoli peirianneg, cyd-destunau masnachol, rheoli prosiectau a newid, a materion cyfreithiol perthnasol gan gynnwys hawliau eiddo deallusol.

Sgiliau Deallusol:

IS1 Dewis a chymhwyso technegau cyfrifiadurol a dadansoddol priodol, gan gydnabod/trafod cyfyngiadau'r technegau a ddefnyddir, ar gyfer cyfuno problemau peirianneg fecanyddol, a llunio barn ar gamau gweithredu priodol.

IS2 Dewis a gwerthuso llenyddiaeth dechnegol a ffynonellau eraill o wybodaeth i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth.

IS3 Dylunio datrysiadau ar gyfer problemau peirianneg fecanyddol cymhleth sy’n bodloni cyfuniad o anghenion cymdeithasol, defnyddwyr, busnes a chwsmeriaid fel y bo’n briodol, gan ystyried iechyd a diogelwch, amrywiaeth, cynhwysiant, materion diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol a masnachol, codau ymarfer a safonau diwydiant

IS4 Cymhwyso dull integredig neu systemau i ddatrys problemau cymhleth.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

PS1 Dewis a chymhwyso sgiliau labordy a gweithdy ymarferol priodol ym maes peirianneg fecanyddol, yn enwedig wrth ddyfeisio dulliau dadansoddol neu arbrofol, i ymchwilio i broblemau cymhleth.

PS2 Dewis, cymhwyso a gwerthuso deunyddiau, offer, technolegau a phrosesau peirianneg priodol, gan gydnabod eu cyfyngiadau.

PS3 Defnyddio proses rheoli risg i nodi, gwerthuso a lliniaru risgiau (effeithiau ansicrwydd) sy'n gysylltiedig â phrosiect neu weithgaredd peirianneg fecanyddol penodol.

PS4 Mabwysiadu dull cyfannol a chymesur o liniaru risgiau diogelwch mewn peirianneg fecanyddol.

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:

TS1 Cyfathrebu'n effeithiol am faterion peirianneg cymhleth â chynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol, gan werthuso effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir.

TS2 Nodi a dadansoddi pryderon moesegol a gwneud dewisiadau moesegol rhesymegol ar sail codau ymddygiad proffesiynol.

TS3 Mabwysiadu agwedd gynhwysol at ymarfer peirianneg a chydnabod/cyfleu cyfrifoldebau, buddion a phwysigrwydd cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

TS4 Gweithredu'n effeithiol fel unigolyn, ac fel aelod neu arweinydd tîm.

TS5 Cynllunio a chofnodi gwerthusiad myfyriol o hunanddysgu a datblygiad fel sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes/DPP.

Robotics project
Student works on their third-year project in the area of robotics.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Many graduates work in product design for the automotive, aeronautical, communications and energy industries. Some work in medical engineering, some are travelling the world for the petrochemical industry, while others are involved in development, production and general management.

A few choose to use their degrees as a qualification to enable them to work in other disciplines. Those who have followed this route typically work in the Armed Forces, the financial sector, the legal profession, chartered accountancy or computing.

With such high-calibre and broad opportunities, a career in mechanical engineering is varied, challenging and rewarding.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.