Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg gyda Blwyddyn dramor (BSc)

  • Maes pwnc: Mathemateg
  • Côd UCAS: G103
  • Derbyniad nesaf: Medi 2022
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn dramor

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae’r radd bedair blynedd hon yn cynnwys trydedd flwyddyn llawn antur yn astudio mathemateg yn un o’n prifysgolion partner ar draws y byd.

globe

Blwyddyn dramor

Byddwch yn astudio mewn prifysgol dramor lle byddwch yn dysgu wrth i chi deithio ac yn profi arferion a diwylliant gwlad wahanol.

tick

Cynlluniau gradd hyblyg

Yn y rhan fwyaf o achosion, rydych chi’n rhydd i symud rhwng graddau ar ddiwedd blwyddyn un os bydd eich diddordebau’n newid. Bydd gennych y cyfle hefyd i gwblhau Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol neu Flwyddyn Dramor rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn. Nid oes rhaid i chi ymrwymo i’r naill na’r llall o’r opsiynau hyn nes dechrau eich ail flwyddyn, felly mae digon o amser i chi benderfynu.

people

Gwasanaethau cymorth

Mae eich tiwtor personol yno i gynnig cyngor, yn gyfrinachol, ar faterion academaidd ac anacademaidd. Gallwch hefyd fanteisio ar diwtorialau wythnosol, labordai cyfrifiadurol wedi'u goruchwylio a sesiynau galw heibio ar gyfer cymorth un-i-un.

building

Cyfleusterau rhagorol

Byddwch yn cael eich addysgu yn Abacws, cartref newydd yr Ysgol Mathemateg. Mae’r adeilad blaenllaw hwn wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, ac mae mannau addysgu arloesol yn nodwedd allweddol, gan gynnwys Ystafell Masnachu efelychiadol newydd ar gyfer mathemateg ariannol.

certificate

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Achredir y radd hon gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau .

Archwiliwch ddiwylliannau ac arferion newydd wrth i chi dreiddio’n ddyfnach i fyd diddorol mathemateg? Byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau a fydd yn eich paratoi chi at y gweithlu ��� ac nid mewn swyddi sy’n defnyddio mathemateg yn uniongyrchol yn unig. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi cymhwyster mewn mathemateg: bydd eich sgiliau rhifedd, datrys problemau a meddwl yn rhesymegol yn eich galluogi chi i fynd i’r afael ag amrywiaeth o rolau.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio mewn prifysgol dramor yn ystod eich trydedd flwyddyn cyn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer y flwyddyn olaf. Mae gan ein Hysgol gytundebau gyda phrifysgolion ledled y byd, a bydd gennych gefnogaeth i wneud cais am eich blwyddyn dramor.

Mae astudio dramor yn ffordd wych o ehangu eich gwybodaeth academaidd, ymgolli mewn diwylliant arall a chaffael sgiliau y gallai cyflogwyr eu gwerthfawrogi. Bydd nid yn unig yn gwella eich CV drwy ddangos sgiliau allweddol fel cyfathrebu, hyblygrwydd, a gweithio ar y cyd, gall roi cyfleoedd gwerthfawr i chi rwydweithio hefyd. Yn anad dim, mae'n ddechrau ar antur newydd. Mae'n gyfle i brofi diwylliannau a safbwyntiau eraill, gan wneud ffrindiau newydd a rhannu profiadau bythgofiadwy.

Achrediadau

Maes pwnc: Mathemateg

  • academic-schoolYr Ysgol Mathemateg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i'r rhain gynnwys cynnwys gradd A mewn Mathemateg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i'r rhain gynnwys gradd 6 mewn Dadansoddiad a Dulliau Mathemateg neu Fathemateg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O 2023 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei hailenwi'n Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru. Bydd y cymhwyster hwn yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

FFfioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,350 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,450 Dim
Blwyddyn dau £23,450 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £3,518 Dim
Blwyddyn pedwar £23,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd amser llawn a phedair blynedd o hyd yw hon. Byddwch yn treulio blwyddyn tri yn astudio dramor. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 neu 20 credyd yw gwerth y modiwlau, a bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn. Y modiwlau y byddwch yn eu dewis ym mlynyddoedd un a dau fydd yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer nes ymlaen.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/2023. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Bydd eich modiwlau craidd ym Mlwyddyn Un yn cwmpasu meysydd sylfaen Calculus, Algebra, Dadansoddi, Cyfrifiadura a Tebygolrwydd. Gallwch hefyd ddewis modiwlau dewisol mewn Ystadegau, Mecaneg a Chyllid.

Mae’r rhan fwyaf o Flwyddyn Un yn gyffredin i'n holl gynlluniau gradd ac felly mae fel arfer yn bosib trosglwyddo i radd Mathemateg arall.

Mae'n ofynnol i chi basio pob modiwl blwyddyn gyntaf a chyflawni cyfartaledd o 50%, o leiaf, i fynd ymlaen i'r cam ymgeisio.

Blwyddyn dau

Ym Mlwyddyn Dau, bydd eich modiwlau craidd yn parhau i adeiladu gwybodaeth sylfaenol ym meysydd Calculus, Algebra a Dadansoddi. Mae rhagor o fodiwlau dewisol ar gael, gan gynnwys Mathemateg Bur a Chymhwysol, Ystadegau ac Ymchwil Weithredol.

Bydd y modiwlau y byddwch yn eu dewis yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer ym Mlwyddyn Pedwar.

Mae croeso i chi drosglwyddo i'r cynllun gradd BSc Mathemateg os ydych chi’n penderfynu peidio â chymryd y Flwyddyn Dramor. Trefnir y lleoliad gan yr Ysgol ac mewn rhai achosion, bydd cyllid ar gael ar gyfer costau teithio a byw.

Mae'n ofynnol i chi basio o leiaf 100 credyd i symud ymlaen i'r Flwyddyn Dramor.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Calculus of Several VariablesMA200110 Credydau
Complex AnalysisMA200310 Credydau
Series and TransformsMA200410 Credydau
Real AnalysisMA200610 Credydau
Linear Algebra IIMA200820 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Introduction to Number Theory IMA201110 Credydau
Algebra I: GroupsMA201410 Credydau
Vector CalculusMA230110 Credydau
Vibrations and WavesMA230310 Credydau
Modelling with Differential EquationsMA232010 Credydau
Foundations of Probability and StatisticsMA250020 Credydau
Operational ResearchMA260120 Credydau
Ymchwil WeithrediadolMA265120 Credydau
Numerical AnalysisMA270110 Credydau
Finance II: Investment ManagementMA280010 Credydau
Problem SolvingMA290010 Credydau
Datrys ProblemauMA290110 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Byddwch yn treulio’r flwyddyn hon mewn prifysgol dramor yn profi arferion a diwylliant gwlad wahanol. Mae gennym bartneriaid academaidd mewn nifer o wledydd yn Ewrop, yn ogystal ag yn Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Study AbroadMA9990120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Ym Mlwyddyn Pedwar, nid oes unrhyw fodiwlau gorfodol ac mae gennych ddewisiadau eang.

Mae gennych yr hyblygrwydd i arbenigo mewn maes penodol o fathemateg, neu gadw at set eang o ddiddordebau ac archwilio sawl maes gwahanol.

Yn ogystal â modiwlau a addysgir, gallwch hefyd ddewis ymgymryd â phrosiect 10 credyd neu 20 credyd unigol sy'n rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig – cyfathrebu, cyflwyno a rheoli amser - a chymhwyso eich gwybodaeth fathemategol i ymchwiliad o'ch dewis.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Introduction to Functional and Fourier AnalysisMA300520 Credydau
Coding TheoryMA300710 Credydau
Algebraic TopologyMA300810 Credydau
Introduction to Number Theory 2MA301110 Credydau
Ordinary Differential EquationsMA301210 Credydau
Algebra II: RingsMA301410 Credydau
Algebra III: FieldsMA301510 Credydau
Partial Differential EquationsMA301610 Credydau
Measure TheoryMA301820 Credydau
Methods of Applied MathematicsMA330420 Credydau
Fluid DynamicsMA330520 Credydau
Finite ElasticityMA331210 Credydau
Project Module (Full Year)MA339120 Credydau
Project Module (Half)MA339210 Credydau
Project Module (Half) Spring SemesterMA339310 Credydau
Regression Analysis and Experimental DesignMA350220 Credydau
Stochastic Processes for Finance and InsuranceMA350320 Credydau
Official StatisticsMA350410 Credydau
Multivariate Data AnalysisMA350610 Credydau
Algorithms and HeuristicsMA360210 Credydau
OptimisationMA360320 Credydau
Game TheoryMA360410 Credydau
Algorithmau a Dulliau Hewristig / Algorithms and HeuristicsMA365210 Credydau
Behavioural FinanceMA380010 Credydau
Cyflwyniad i addysgu Mathemateg mewn ysgol uwchraddMA390020 Credydau
Introduction to Secondary School Mathematics TeachingMA390120 Credydau
Reading ModuleMA390310 Credydau
Modiwl Darllen (Tymor yr Hydref)MA395210 Credydau
ProsiectMA397020 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester yr HydrefMA397110 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester y GwanwynMA397210 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Cewch eich addysgu mewn darlithoedd, tiwtorialau i grwpiau bach, a dosbarthiadau trafod enghreifftiau. Cewch eich annog i ddysgu'n fwyfwy annibynnol drwy gydol y cwrs.

Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, a myfyrio ar asesiadau ac adborth.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau pob blwyddyn, byddwch yn cael arweiniad ynghylch nodau'r modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen. Byddwn yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.

Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol ar unwaith.

Bydd y sefydliad lletyol yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer ar gyfer y lleoliad gwaith dramor ym mlwyddyn tri, i roi cefnogaeth ac arweiniad bugeiliol i chi. Bydd cydlynydd astudio dramor yr Ysgol yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd hefyd i adolygu'ch cynnydd personol ac academaidd.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Cewch ragor o gymorth dysgu hefyd drwy Wasanaeth Cefnogi Mathemateg cyffredinol y Brifysgol. Sesiynau hamddenol ac anffurfiol sydd ar gael bob dydd yw'r rhain. Gall myfyrwyr alw heibio i drafod unrhyw elfen o'u hastudiaethau gyda thiwtor naill ai mewn cyfarfod un i un, neu mewn grŵp bach.

Sut caf fy asesu?

Many modules have written examinations at the end of the autumn or spring Semesters, with some also having an element of continuous assessment. This may include problem-solving exercises, written reports, computer programs and oral presentations. Feedback on progress is typically provided through a combination of discussion in class, written comments on submitted work and review of outline solutions to problems. You are encouraged to discuss any queries related to specific modules with individual lecturers.

The grade of your final degree will be based on 20% from your year two studies, 10% from the year three placement and 70% from year four.

Your year abroad will be assessed on the results from the courses studied in the host institution and a presentation and oral exam at the start of the next term back in Cardiff.

You may also be asked to share your experiences with students considering the study-abroad option.

Feedback:

Written feedback and outline solutions on in-course assessment give you an opportunity to reflect on your progress. Further feedback is provided in examples classes and tutorials (in year one) to review problems in more detail and discuss potential solutions. You should discuss any queries related to specific modules with individual lecturers. There are a number of further feedback mechanisms in place to support your study; please see “How will I be supported?” below.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd pwysig. Byddwch yn:

  • datblygu eich sgiliau cyfathrebu a'ch gallu i gyfathrebu Mathemateg ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar
  • datblygu sgiliau trefnu ac yn gallu rheoli eich hun yn dda
  • gwella eich sgiliau cyfrifiadura, TG, adalw gwybodaeth a thrin data
  • datblygu eich gallu i feddwl mewn ffyrdd rhesymegol a dadansoddol wrth ystyried problemau mewn disgyblaethau eraill
  • dangos sgiliau gweithio mewn grŵp, rheoli amser a chyflwyno
  • datblygu eich dealltwriaeth o'r diwylliant academaidd mewn gwlad dramor
  • dangos ymrwymiad i ddysgu gydol oes drwy ymgysylltu mewn proses o gynllunio datblygiad personol
Mathematics lecture room with students
Mathematics lecture room with students

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Gallwch ddefnyddio eich gradd BSc Mathemateg gyda Blwyddyn Dramor fel llwybr i’r gweithlu, lle gallech gwrdd â’n cynfyfyrwyr sy’n gweithio mewn swyddi traddodiadol fel addysgu, gwaith actiwaraidd, a chyfrifeg, yn ogystal â TG, ymchwil fferyllol, peirianneg a mwy. Fel arall, efallai byddwch chi’n dewis ehangu eich opsiynau gyrfa i gynnwys ystod o feysydd cysylltiedig trwy gwblhau astudiaethau ôl-raddedig mewn mathemateg, y gwyddorau, cyfrifiadureg neu beirianneg.

Cymorth gyrfaoedd mathemateg

Yn semester y Gwanwyn yn eich blwyddyn gyntaf, bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr ar gael i chi i helpu i gefnogi eich rhagolygon gyrfa. Mae’r dosbarthiadau’n ymdrin â phrofiad gwaith, CV a llythyrau esboniadol, ffurflenni cais, technegau cyfweliad, a chyflwyniad i LinkedIn.

Mae gennym ni fwrdd swyddi myfyrwyr sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, gydag amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion, gwirfoddoli, interniaethau a lleoliadau. Ar ben hynny, rydym ni’n trefnu rhaglen lawn o gyflwyniadau gan fyfyrwyr a chyflogwyr bob blwyddyn gyda chyflogwyr fel Grŵp Bancio Lloyds, HSBC, PwC, Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid, Sainsburys, Network Rail, GSK, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Dŵr Cymru, a’r Swyddfa Feteorolegol.

Mae'r Ysgol Mathemateg hefyd yn cynnig Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a ddyfarnir am gyflawniad academaidd.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Rheolwr Cyllid
  • Darlithydd
  • Dadansoddwr Risg
  • Ystadegydd

Lleoliadau

Mae’r dewis o dreulio blwyddyn tri yn astudio dramor yn ymestyn y radd BSc i bedair blynedd. Mae gennym gytundebau gyda nifer o sefydliadau ar draws Ewrop, yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia. Mae cyllid ar gael ar gyfer costau teithio a byw mewn rhai achosion.

Os byddwch yn penderfynu peidio â mynd ar leoliad dramor, bydd gennych ddau ddewis. Gallwch newid i raglen tair blynedd BSc Mathemateg, neu raglen radd sy'n cynnwys Lleoliad Gwaith Proffesiynol. Bydd blwyddyn o Leoliad Proffesiynol yn cadw hyd eich gradd BSc yn bedair blynedd. Gall yr opsiwn hwn ddibynnu ar eich perfformiad academaidd.

Astudio yn Gymraeg

ae hyd at 36% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cai

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.