Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (MMath)

  • Maes pwnc: Mathemateg
  • Côd UCAS: G112
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 5 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae'r fersiwn hon o'r radd MMath yn cynnwys cyfle yn y drydedd flwyddyn i wella cyflogadwyedd drwy weithio mewn rôl fel mathemategydd a/neu ystadegydd gyda thâl.

briefcase

Blwyddyn ar leoliad proffesiynol

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn mewn gwaith cyflogedig mewn rôl mathemategydd neu ystadegydd lle gallwch ennill profiad gwaith gwerthfawr a datblygu eich sgiliau proffesiynol. Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant a thîm lleoliadau penodol i'ch cynorthwyo i ganfod lleoliad a chymorth yn ystod eich cyfnod yma.

rosette

Ystyriaeth am ddyfarniad proffesiynol

Os ydych chi’n cwblhau’r cyfnod hyfforddiant proffesiynol gallwch gael eich ystyried ar gyfer dyfarniad Uwch Drwydded City and Guilds (LCGI).

book

Gwybodaeth arbenigol

Ochr yn ochr â dysgu technegau mathemategol uwch, byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau arbenigol drwy edrych yn fanwl ar bynciau y tu hwnt i gwmpas y radd BSc.

scroll

Blwyddyn yn seiliedig ar brosiectau

Yn ystod eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i gwblhau prosiect mathemategol sylweddol ar lefel uwch ym maes ymchwil o'ch dewis.

building

Cyfleusterau rhagorol

Byddwch yn cael eich addysgu yn Abacws, cartref newydd yr Ysgol Mathemateg. Mae’r adeilad blaenllaw hwn wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, ac mae mannau addysgu arloesol yn nodwedd allweddol, gan gynnwys Ystafell Masnachu efelychiadol newydd ar gyfer mathemateg ariannol.

Mae'r MMath gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol yn ddewis gwych os hoffech chi gael dealltwriaeth ddyfnach o fathemateg wrth ennill profiad yn y byd go iawn mewn rôl mathemategydd neu ystadegydd cyflogedig. Mae’r cwrs yn ymhelaethu ar y BSc i’ch paratoi ar gyfer mynediad lefel uchel i alwedigaethau perthnasol. Mae hefyd yn sylfaen gadarn ar gyfer dilyn gyrfa ymchwil.

Mae'r cwrs hwn yr un peth â'r BSc pedair blynedd gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol gyda phumed flwyddyn ychwanegol o astudio pan fyddwch chi'n cwblhau darn mawr o waith prosiect, fel:

  • arolwg o faes theori mathemateg sydd eisoes yn bodoli, ond nad yw'n rhan o’r modiwlau a addysgir
  • prosiect ymchwil rhagarweiniol
  • datblygu darn o feddalwedd mathemategol

Byddwch yn archwilio pwnc ymchwil o'ch dewis ac yn datblygu'r sgiliau proffesiynol hanfodol y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt. Byddwch yn dangos eich bod yn rheng flaen y ddisgyblaeth drwy astudio pynciau fel Dadansoddiad Mathemategol, Ffiseg Fathemategol a Deinameg Hylifol yn fanwl.

Mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion, gall lleoliad eich helpu i sicrhau sgiliau a phrofiad ychwanegol fydd yn sicrhau eich bod yn rhagori ar ymgeiswyr eraill. Gallai eich helpu i gael rôl barhaol ar ôl graddio, yn ogystal â chynnig cyd-destun o’r byd go iawn i gefnogi eich astudiaethau. Os nad ydych chi’n sicr pa lwybr gyrfa i’w ddilyn, mae’n gyfle gwych i archwilio eich opsiynau. Gallai eich helpu i wneud y penderfyniadau hollbwysig hynny am eich dyfodol.

Mae ein myfyrwyr presennol yn manteisio ar ein cysylltiadau cryf â diwydiant ac yn cwblhau lleoliadau cyffrous mewn sefydliadau fel:

  • Cyllid a Thollau EM
  • y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • GIG Cymru
  • Nationwide
  • BAE Systems
  • IBM
  • Disney

Maes pwnc: Mathemateg

  • academic-schoolYr Ysgol Mathemateg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB. Rhaid i'r rhain gynnwys cynnwys gradd A mewn Mathemateg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i'r rhain gynnwys gradd 6 mewn Dadansoddiad a Dulliau Mathemateg neu Fathemateg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,800 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim
Blwyddyn pump £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £5,640 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim
Blwyddyn pump £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Bydd angen i chi gefnogi eich costau byw eich hun yn ystod y flwyddyn ar leoliad. Mae hyn yn cynnwys rhent, cludiant a bwyd. Nid oes cymorth ariannol ar gael ar gyfer hyn gan y Brifysgol ond dylai'r cyflog a ddarperir gan y darparwr lleoliad fod yn ddigonol i dalu'r costau hyn. Efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â blwyddyn dramor dalu am fisa addas a/neu yswiriant iechyd.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Ym mhob blwyddyn o’r Rhaglen, byddwch yn cymryd Modiwlau hyd at werth 120 o gredydau. Treulir y ddwy flynedd gyntaf yn astudio Mathemateg. Treulir y drydedd flwyddyn ar leoliad diwydiannol a byddwch yn dychwelyd i gwblhau eich gradd ym mlynyddoedd pedwar a phump.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio 120 credyd Mathemateg. Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau'n orfodol, ond, mae elfen o ddewis sy'n eich galluogi i ddewis rhwng modiwlau mewn Mecaneg neu Gyllid. Mae'r modiwlau mewn Mathemateg yn cwmpasu meysydd sylfaenol Calculus, Algebra, Dadansoddi, Cyfrifiadura, Ystadegau a Thebygolrwydd.

Bydd yn ofynnol i chi basio pob modiwl blwyddyn gyntaf er mwyn gallu parhau ar y cynllun gradd Lleoliad Proffesiynol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hafaliadau Gwahaniaethol ElfennolMA100110 Credydau
Cyfrifiadura ar gyfer MathemategMA100320 Credydau
GeometregMA100410 Credydau
Sylfeini Mathemateg IMA100520 Credydau
Sylfeini Mathemateg IIMA100620 Credydau
Algebra llinol IMA100810 Credydau
Cyflwyniad i Theori TebygolrwyddMA150010 Credydau

Blwyddyn dau

Mae modiwlau craidd ym Mlwyddyn Dau sy’n parhau i adeiladu gwybodaeth sylfaenol ym meysydd Calculus, Algebra a Dadansoddi. Mae rhagor o fodiwlau dewisol ar gael yn yr ail flwyddyn, gan gynnwys mathemateg pur a chymhwysol, ystadegau a chyllid Yn ychwanegol, cyflwynir pwnc ymchwil weithredol. Bydd y modiwlau y byddwch yn eu dewis yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer ym Mlynyddoedd Pedwar a Phump.

Mae'n ofynnol i chi gyflawni cyfartaledd o 55%, o leiaf, i barhau â'ch astudiaethau i flwyddyn Tri ar y cynllun MMath gyda Lleoliad Proffesiynol. Bydd myfyrwyr sy'n methu â chyrraedd y cyfartaledd o 55% yn cael eu trosglwyddo i'r cynllun gradd BSc Mathemateg gyda Lleoliad Proffesiynol.

I ymgymryd â lleoliad nid oes unrhyw ofyniad ychwanegol, heblaw bod yn rhaid i chi basio o leiaf 100 credyd ym Mlwyddyn Dau cyn dechrau ar Leoliad.

Cewch gefnogaeth i gyflwyno cais am leoliad, a gellir ei gyflawni ag amrywiaeth eang o ddarparwyr ar draws y diwydiant a’r llywodraeth, gan gynnwys llawer yn y gwasanaethau proffesiynol ac ariannol, y diwydiant fferyllol, a sefydliadau fel Swyddfa’r Ystadegau Gwladol. Y myfyriwr sy'n gyfrifol am sicrhau lleoliad ac ni ellir gwarantu lleoliad. Os nad yw myfyriwr yn cael lleoliad, byddant yn cael eu trosglwyddo i'r radd MMath Mathemateg pedair blynedd h.y. heb leoliad.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Calculus o sawl newidynMA200110 Credydau
Dadansoddiad CymhlethMA200310 Credydau
Cyfres a ThrawsnewidiadauMA200410 Credydau
Dadansoddiad go iawnMA200610 Credydau
Algebra llinol IIMA200820 Credydau
Calculus FectorMA230110 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Mae blwyddyn tri yn cael ei threulio mewn cyflogaeth cyflogedig, gan weithio fel mathemategydd mewn sefydliad yn y DU neu Yn Ewrop.

Pan fyddwch chi ar eich lleoliad, darparwr eich lleoliad fydd yn goruchwylio eich gwaith yn uniongyrchol. Byddwch yn gweithio ar broblemau go iawn ac yn defnyddio mathemateg i gynhyrchu canlyniadau. Bydd gennych hefyd gysylltiad agos â'n cydlynwyr lleoliadau fel y gallant drafod eich cynnydd a sicrhau eich bod yn cael y gorau o'r flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys ymweliadau yn ogystal â chysylltiad ebost rheolaidd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hyfforddiant DiwydiannolMA9999120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Mae cysylltiad agos rhwng y modiwlau ym mlwyddyn pedwar, a diddordebau ymchwil yr Ysgol. Dewisir 120 credyd o fodiwlau dewisol. Mae ystod eang o fodiwlau ar gael, sy'n eich galluogi i ganolbwyntio ar feysydd o sydd ddiddordeb arbennig i chi. Mae modiwl gorfodol mewn Dadansoddi Swyddogaethol a Fourier ac mae gennych opsiynau eang.

Blwyddyn pump

Ym mlwyddyn pump mae'r cwrs yn datblygu hyfforddiant ymchwil a sgiliau mathemategol uwch. Mae darn mawr o waith prosiect hefyd, lle byddwch yn cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau a ddysgwyd ym mhedair blynedd gyntaf y radd, er mwyn mynd i'r afael â rhai problemau ymarferol neu ddamcaniaethol. Mae amrywiaeth o fodiwlau dewisol ar gael mewn Mathemateg Bur a Chymhwysol yn ogystal â rhai opsiynau mewn Ystadegau ac Ymchwil Weithredol.

Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu, yn ogystal â defnyddio eich sgiliau mathemategol mewn pwnc ymchwil o'ch dewis

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Prosiect MMathMA490040 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae gwybodaeth graidd yn cael ei haddysgu drwy gymysgedd o ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarfer, sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach ac astudio dan arweiniad. Mae Mathemateg yn ddisgyblaeth hierarchaidd, felly mae strwythur y cwrs yn systematig, gan adeiladu ar ddealltwriaeth sylfaenol. Cewch eich annog i ddysgu'n fwyfwy annibynnol drwy gydol y cwrs.

Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, a myfyrio ar asesiadau ac adborth.

Mae'r ddwy flynedd gyntaf yn canolbwyntio ar roi dealltwriaeth sylfaenol. Mae'r ddwy flynedd olaf yn ymdrin ag ystod o ddeunydd pwnc cyfoes, gan adlewyrchu diddordebau ymchwil yn yr Ysgol. Drwy gydol y gwaith o gyflawni‘r rhaglen, lle bynnag y bo'n bosibl, mae canlyniadau ymchwil diweddar yn cael eu defnyddio i ddangos enghreifftiau a thaflu goleuni ar y pwnc.

Yn y flwyddyn gyntaf, mae sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach yn cael eu cynnal ym mhob modiwl mathemateg. Mae ymarferion yn rhan annatod o‘r holl fodiwlau sy'n seiliedig ar ddarlithoedd, ac mae'r rhain yn eich galluogi i gymhwyso eich gwybodaeth a gwella eich sgiliau datrys problemau. Ar hyn o bryd cynhelir dosbarthiadau ymarfer neu enghreifftiau ychwanegol ym mhob modiwl mathemateg. Yn y rhain, bydd darlithydd yn trafod problemau ychwanegol gyda chi, yn rhoi adborth cyffredinol ar lafar ac yn modelu atebion ar gyfer myfyrio pellach.

Ym mlwyddyn pump, byddwn yn disgwyl i fyfyrwyr chwarae rhan fwy amlwg oherwydd bydd rhai darlithoedd yn cael eu cynnal ar ffurf seminarau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau pob blwyddyn, byddwch yn cael arweiniad ynghylch nodau'r modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen. Byddwn yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.

Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Ysgol Mathemateg eich cynghori ar faterion academaidd, ac mae gan bob blwyddyn astudio gydlynydd blwyddyn sy'n gallu cynnig cyngor ar faterion gweinyddol.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Cewch ragor o gymorth dysgu hefyd drwy Wasanaeth Cefnogi Mathemateg cyffredinol y Brifysgol. Sesiynau hamddenol ac anffurfiol sydd ar gael bob dydd yw'r rhain. Gall myfyrwyr alw heibio i drafod unrhyw elfen o'u hastudiaethau gyda thiwtor naill ai mewn cyfarfod un i un, neu mewn grŵp bach.

Byddwch yn barod am eich lleoliad gwaith fel a ganlyn. Ym Mlwyddyn 1, byddwch yn cymryd rhan yn ein rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa sydd eisoes wedi'i sefydlu. Ym Mlwyddyn 2, bydd rhaglen o sesiynau datblygu sgiliau (a drefnir ar y cyd â'r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau, sy'n rhan o Undeb y Myfyrwyr) yn caniatáu ichi wella'ch sgiliau proffesiynol yn fwy ffurfiol cyn eich blwyddyn ar leoliad.

Pan fyddwch chi ar leoliad, bydd staff Academaidd a staff Gwasanaethau Proffesiynol yn ymweld â chi o leiaf ddwywaith. Mae pwyntiau cyswllt a enwir os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau.

Sut caf fy asesu?

Many modules have written examinations at the end of the autumn or spring Semesters, with some also having an element of continuous assessment. This may include problem-solving exercises, written reports, computer programs and oral presentations.  Feedback on progress is typically provided through a combination of discussion in class, written comments on submitted work and review of outline solutions to problems. You are encouraged to discuss any queries related to specific modules with individual lecturers.

The Professional Placement year is assessed via a combination of a report, a poster and an oral presentation. You are required to reflect upon and provide evidence for your progress in the areas of Professional Standards, Communication and Information Management, Leadership, Professional Development, Working with Others, and Managing Customer Relations. You submit monthly formative journal entries for which feedback will be provided, thereby monitoring your progress.

The grade of your final degree will be based on 10% from your Year Two studies, 10% from your Year Three placement, 30% from Year Four and 50% from Year Five.

Feedback:

Written feedback and outline solutions on in-course assessment give you an opportunity to reflect on your progress. Further feedback is provided in examples classes and tutorials (in Year One) to review problems in more detail and discuss potential solutions. You should discuss any queries related to specific modules with individual lecturers. There are a number of further feedback mechanisms in place to support your study; please see “How will I be supported?” below.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dull dadansoddol o ddatrys problemau
  • Dealltwriaeth o syniadau profi, calcwlws, algebra, dadansoddi a mathemateg gymhwysol
  • Dealltwriaeth ehangach o gysyniadau mathemategol haniaethol, dadleuon rhesymegol a rhesymu casgliadol
  • Rhesymu a thrin mathemategol

Mae'r Lleoliad hefyd yn caniatáu ichi ddangos:

  • Profiad o gymhwyso cysyniadau mathemategol mewn amgylchedd masnachol
  • Ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau proffesiynol a moesegol
  • Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sy'n gysylltiedig â byd gwaith

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i lunio modelau mathemategol a’u datrys
  • Y sgiliau i ddefnyddio ffyrdd dadansoddol a rhesymegol o feddwl i ddod i gasgliadau yn seiliedig ar wybodaeth feintiol
  • Sgiliau cyfathrebu a'r gallu i gyfathrebu gwybodaeth a dealltwriaeth fathemategol
  • Cynllunio a chynnal darn o ymchwil newydd

Mae'r flwyddyn ar Leoli hefyd yn caniatáu ichi ddangos:

  • Y gallu i feddwl ac ysgrifennu'n feirniadol

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Defnyddio nifer o becynnau meddalwedd modern
  • Hyfedredd mewn perfformio arbrofion mewn dosbarthiadau labordy, gan ddangos sgiliau dadansoddi ac ymchwilio
  • Y gallu i gymhathu a chyfleu dadleuon mathemategol manwl
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau, y gallu i ysgrifennu'n gydlynol ac yn eglur, a rhoi cyflwyniadau.

Mae'r Flwyddyn ar Leoliad yn caniatáu ichi arddangos y canlynol:

  • Y gallu i ddefnyddio meddalwedd neu dechnegau priodol eraill i ddatrys problemau go iawn
  • Y gallu i weithredu'n broffesiynol yn y gweithle

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Rhesymu rhesymegol
  • Meddwl yn annibynnol
  • Meddwl yn feirniadol
  • Y gallu i gymhwyso sgiliau mathemategol i ddatrys problemau
  • Defnyddio technoleg gwybodaeth ac adnoddau llyfrgell
  • Rheoli amser a llwyth gwaith
  • Gweithio gydag eraill
  • Sgiliau trefnu a rheoli eich hun
  • Y gallu i wneud ymchwil annibynnol

Mae'r Flwyddyn ar Leoliad yn caniatáu ichi arddangos y canlynol:

  • Sgiliau gwell i fyfyrio'n feirniadol, arwain a datrys problemau
  • Profiad gwaith mewn swydd sy'n gysylltiedig â Mathemateg
  • Sgiliau cyflogadwyedd a'r gallu i ddangos mentergarwch

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Gallwch ddefnyddio eich gradd MMath fel llwybr i'r gweithlu lle gallwch gwrdd â'n cyn-fyfyrwyr sy'n gweithio mewn amrywiaeth o feysydd, megis gwyddor data, ymchwil weithredol, technoleg rhyngrwyd, meddygaeth, bancio, logisteg, rheoli risg, a marchnata. Neu, efallai byddwch chi’n dewis ehangu eich opsiynau gyrfa i gynnwys ystod o feysydd cysylltiedig trwy gwblhau PhD mewn mathemateg, y gwyddorau, cyfrifiadureg neu beirianneg.

Cymorth Gyrfaoedd Mathemateg

Yn Semester y Gwanwyn yn eich blwyddyn gyntaf, bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr ar gael i chi i helpu i gefnogi eich rhagolygon gyrfa. Mae’r dosbarthiadau’n ymdrin â phrofiad gwaith, CV a llythyrau esboniadol, ffurflenni cais, technegau cyfweliad, a chyflwyniad i LinkedIn.

Mae gennym ni fwrdd swyddi myfyrwyr sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, gydag amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion, gwirfoddoli, interniaethau a lleoliadau. Ar ben hynny, rydym ni’n trefnu rhaglen lawn o gyflwyniadau gan fyfyrwyr a chyflogwyr bob blwyddyn gyda chyflogwyr fel Grŵp Bancio Lloyds, HSBC, PwC, Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid, Sainsburys, Network Rail, GSK, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Dŵr Cymru, a’r Swyddfa Feteorolegol.

Mae'r Ysgol Mathemateg hefyd yn cynnig Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a ddyfarnir am gyflawniad academaidd.

Lleoliadau

Mae lleoliad gwaith blwyddyn o hyd ar gael ar y rhaglen hon, ac mae i'w gymryd ar ôl i chi gwblhau blwyddyn dau.

Mae darparwyr lleoliadau diweddar wedi cynnwys: CGI, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Goldman Sachs, y Weinyddiaeth Amddiffyn, y Gwasanaeth Traffig Awyr Cenedlaethol a Walt Disney.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 36% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.