Ewch i’r prif gynnwys

Eidaleg a Siapanaeg (BA)

  • Côd UCAS: TR23
  • Derbyniad nesaf: Medi 2022
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

globe

Treuliwch flwyddyn dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd wrth i chi ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith.

structure

Wedi'i deilwra i’ch gallu

Mae modd astudio ein holl ieithoedd ar lefel dechreuwr neu uwch ac nid oes angen cymhwyster Safon Uwch.

people

Eidaleg a Japaneeg yn eu cyd-destun

Dysgwch am ieithoedd a diwylliannau’r Eidal a Japan yn y gymdeithas, gan gynnwys: hanes, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth.

exit

Rhyddid i ddewis

Enillwch brofiad ar leoliad gwaith, gweithiwch fel cynorthwyydd dysgu neu dewiswch astudio yn ystod eich blwyddyn dramor.

microphone

Anogwch eraill i ddysgu ieithoedd

Ysbrydolwch eraill drwy gymryd rhan mewn cynlluniau Myfyrwyr sy’n Llysgennad Iaith a Mentora Myfyrwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yw datblygu ac addysgu ein myfyrwyr i fod yn ‘ddinasyddion byd-eang’.  Yn ogystal â datblygu sgiliau iaith lefel uchel, mae ein rhaglen BA Eidaleg a Japaneeg yn eich galluogi i gael dealltwriaeth ryngddiwylliannol drylwyr sy'n cwmpasu gwybodaeth benodol am ddiwylliannau'r Eidal a Japan. Byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel o ran cyfathrebu a meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.

Mae’r Eidal yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliannau cyfoethog a soffistigedig. Eidaleg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol y gymuned Ewropeaidd, ac mae’n iaith diwylliant a diplomyddiaeth ar lefel fyd-eang o hyd.

Mae Japan yn y cyfnod cyfoes wedi’i seilio ar hanes diwylliannol cyfoethog, diddorol, sy’n ymestyn yn ôl filoedd o flynyddoedd. Mae’n dal yn bŵer economaidd pwysig yn ogystal ag yn arloeswr yn y diwydiannau moduron ac electronig, sy’n symud mor gyflym. Drwy astudio Japaneeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol mewn gweithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.

Drwy astudio Eidaleg ar y cyd â Japaneeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol mewn gweithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.

Rydym yn cynnig Eidaleg ar gyfer myfyrwyr uwch a dechreuwyr, a Japaneeg i ddechreuwyr yn unig. O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu a deunyddiau clyweledol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yr Eidal a Japan yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad lle siaredir Eidaleg a gwlad lle siaredir Japaneeg. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, a fydd yn ysgogi menter a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. 

Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol. 

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd mewn Eidaleg a Japaneeg, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yr Eidal a Japan.  

Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu

  • academic-schoolYr Ysgol Ieithoedd Modern
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Gofynion mynediad

ABB-BBB. Os oes gennych radd B yn yr iaith Safon Uwch berthnasol bydd gennych fynediad i'r llwybrau uwch ieithoedd.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL. Os oes gennych radd 6 yn yr iaith berthnasol yn HL bydd gennych fynediad i'r llwybrau uwch ieithoedd.

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC ym mhynciau'r Celfyddydau, y Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol. Os oes gennych radd B yn yr iaith Safon Uwch berthnasol yn ychwanegol at neu mewn cyfuniad â BTEC bydd gennych fynediad i'r llwybrau uwch ieithoedd. 

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.



Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. .

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Mae proffil pob ymgeisydd yn cael ei ystyried fel darlun cyflawn, gan ystyried eich diddordeb mewn ac addasrwydd ar gyfer y radd, fel y dangosir yn eich datganiad personol ac adroddiad y canolwr, yn ogystal â graddau a ragwelwyd ac a gyflawnwyd. Asesir eich gallu i gyflwyno dadl, tystiolaeth o chwilfrydedd deallusol a’ch brwdfrydedd a’ch ymrwymiad i astudio.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022

Myfyrwyr o'r DU ac Iwerddon

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) Ffi gostyngol Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU, bydd eich ffioedd dysgu yn unol â'r ffioedd a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £19,450 Dim
Blwyddyn dau £19,450 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) Ffi gostyngol Dim
Blwyddyn pedwar £19,450 Dim

Gwybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae BA Eidaleg a Japaneeg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau a sgiliau iaith lefel uchel dros flynyddoedd olynol i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob un o flynyddoedd y rhaglen byddwch yn astudio ar gyfer 120 o gredydau. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor – un semester yn yr Eidal neu wlad arall lle siaredir Eidaleg, a'r semester arall yn Japan neu wlad arall lle siaredir Japaneeg.

 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/23. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Byddwch yn cyfuno Eidaleg â Japaneeg, gan eich galluogi i brofi mwy nag un maes astudio.

Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â chymhwyster Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Eidaleg a Japaneeg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am Eidaleg neu Japaneeg. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith sy'n cyflwyno datblygiad yr Eidal a Japan fel cenhedloedd, gan archwilio beth yw arwyddocâd hynny i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Mae hefyd yn archwilio perthynas yr Eidal a Japan â'r byd, gan eich galluogi i archwilio rôl yr Eidal a Japan y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol. Bydd astudiaethau yn y meysydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Blwyddyn dau

Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Yn ogystal â 30 o gredydau mewn Eidaleg a Japaneeg, byddwch yn astudio 30 o gredydau yn edrych ar yr Eidal a Japan mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio yr Eidal a Japan yn fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth. Bydd gennych hefyd yr opsiwn i astudio Cyfieithu Arbenigol.

Y tu allan i'ch astudiaethau ffurfiol, cewch y cyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Mentora Myfyrwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae disgyblion mewn ysgolion uwchradd dethol yn cael eu mentora gan ein myfyrwyr israddedig sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig. Mae’r myfyrwyr hyn yn mynd i'r ysgolion i fentora disgyblion mewn grwpiau bach o ddau neu dri dros gyfnod o bum wythnos.

Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon Iaith i Fyfyrwyr, sy'n gweithredu fel eiriolwyr ar gyfer dysgu ieithoedd. Yn dilyn hyfforddiant penodol, fel Llysgennad mae’n bosibl y cewch gyfle i siarad yn gyhoeddus mewn digwyddiadau, gan rannu eich profiad personol o ddysgu ieithoedd. Gallwch gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, megis sesiynau blasu iaith, cyflwyno a hyrwyddo’r flwyddyn dramor, cefnogi diwrnodau a digwyddiadau iaith mewn ysgolion, neu hybu ieithoedd modern mewn ffeiriau gyrfaoedd neu ddiwrnodau agored.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir eich trydedd flwyddyn yn yr Eidal neu mewn gwlad arall lle siaredir Eidaleg, ac yn Japan neu mewn gwlad arall lle siaredir Japaneeg. Bydd y flwyddyn yn eich galluogi i feithrin eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Eidalaidd a Japaneaidd, a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.

Mae eich opsiynau ar gyfer y flwyddyn hon yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy Gynllun y British Council, neu weithio i sefydliad neu gwmni Eidalaidd. Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Os dewiswch yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd sy'n cynnwys Fenis, Verona, Milan, Pavia, Parma, Ferrara, Fflorens, Pisa a Catania, Chuo, Dokkyo, Toyo, Waseda.

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y British Council fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r British Council yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Eidaleg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Eidaleg a Japaneeg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei gael ar bethau.

Rhaid cael fisa er mwyn astudio yn Japan. Mae Dilyniant i’r Flwyddyn Dramor yn Japan yn dibynnu ar Lysgenhadaeth Japan yn cymeradwyo eich cais am fisa yn llwyddiannus.

Disgrifir y dogfennau angenrheidiol ar gyfer ffeilio cais am Dystysgrif Cymhwysedd i’r Swyddfa Mewnfudo ar wefan Swyddfa Mewnfudo Japan.

Bydd yr Ysgol Ieithoedd Modern yn gwneud cais i’r swyddfa mewnfudo berthnasol am Dystysgrif Cymhwyster am Statws Preswyl ("Tystysgrif Cymhwyster") ar eich rhan. Mae'r Dystysgrif Cymhwyster yn darparu prawf eich bod yn cydymffurfio â’r amodau ar gyfer mynediad a ragnodir yn Erthygl 7 Paragraff 1 Eitem 2 y Ddeddf Rheoli Mewnfudo. Gan hynny, bydd meddu ar Dystysgrif Cymhwyster yn hwyluso’r gweithdrefnau ar gyfer cyhoeddi fisa yn llysgenadaethau tramor Japan, yn ogystal ag arolygu mewnfudo ym meysydd awyr Japan.

Bydd cymorth a chanllawiau i’ch paratoi chi ar gyfer gwneud cais am eich fisa a’ch blwyddyn dramor ar gael gan yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mlwyddyn 2 eich rhaglen astudio.

Mae astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 o gredydau mewn Eidaleg a 30 o gredydau mewn Japaneeg, yn ychwanegol at 60 o gredydau mewn modiwlau dewisol. Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

28%

Astudio annibynnol dan arweiniad

72%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

36%

Astudio annibynnol dan arweiniad

64%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

0%

Astudio annibynnol dan arweiniad

0%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 4

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

22%

Astudio annibynnol dan arweiniad

79%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA Eidaleg a Japaneeg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd cydlynydd blwyddyn dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl yr ydych yn ei chael ar bethau.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor. 

Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Mae ein tîm gwasanaethau proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Yn ogystal, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.   

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

60%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

37%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

58%

Arholiadau ymarferol

27%

Gwaith cwrs

15%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

0%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

0%

Blwyddyn 4

Arholiadau ysgrifenedig

43%

Arholiadau ymarferol

13%

Gwaith cwrs

43%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg, Eidaleg a Japaneeg.
  • Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gychwyn ac ymgymryd â dadansoddiadau o wybodaeth.
  • Cyrraedd casgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan gyfiawnhau’r rhain gyda rhesymu cadarn a dehongliadau manwl o ddeunydd ffynhonnell.
  • Technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynllunio ac ysgrifennu traethawd academaidd, gan ddefnyddio’r confensiynau cyfeirio priodol.
  • Gwerthusiad beirniadol o syniadau a dadleuon, drwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau ysgrifenedig a llafar.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Dadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Arddangos sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Sgiliau ieithyddol uwch, ynghyd â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliannau a llenyddiaeth yr Eidal a Japan.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Arddangos sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am swydd.

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Translator
  • Teaching
  • Finance and Banking

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

 

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw’r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2017/18 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2020.