Ewch i’r prif gynnwys

Cysylltiadau rhyngwladol (BSc Econ)

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Astudiwch faterion cyfoes byd-eang

Dewiswch fodiwlau sy'n amrywio o seiberddiogelwch a gwleidyddiaeth niwclear i’r newid yn yr hinsawdd a ffeministiaeth.

book

Edrychwch i'r dyfodol a'r gorffennol

Dysgwch am gysylltiadau rhyngwladol mewn cyd-destunau hanesyddol a chyfoes.

briefcase

Cyfleoedd gyrfa ledled y byd

Mae ein myfyrwyr bellach yn gweithio ym maes datblygu byd-eang, busnes rhyngwladol, diplomyddiaeth, gwasanaethau cudd-wybodaeth y llywodraeth, a newyddiaduraeth.

rosette

Interniaethau Proffesiynol

Mwynhewch ymweliadau gan siaradwyr uchel eu proffil o Lywodraeth y DU, NATO a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn ymdrin â rôl gwladwriaethau, cynghreiriau rhyngwladol, sefydliadau anllywodraethol a chwmnïau amlgenedlaethol mewn byd sy’n dod yn fwyfwy rhyngwladol.

Fel rhan o’r rhaglen radd hon, cewch gyfle i ganolbwyntio ar wleidyddiaeth fyd-eang a materion y byd, yn ogystal â chyfle i fynychu cyfres o ddarlithoedd gan y brifysgol ar Gysylltiadau Rhyngwladol a Chyfraith Ryngwladol, sydd wedi cynnwys siaradwyr uchel eu proffil o sefydliadau megis NATO a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Ein hamcan yw herio’r rhagdybiaethau y byddwch yn dod â nhw i’r pwnc ac annog agwedd feirniadol i natur y byd gwleidyddol a rhyngwladol mewn modd gweithredol. Ein bwriad yw eich paratoi ar gyfer marchnadoedd o wybodaeth ac ymarfer sy’n esblygu’n gyson er mwyn i chi, trwy’r rhaglen hon, ddod yn ddinesydd ifanc gweithgar a beirniadol a datblygu ymwybyddiaeth o werthoedd rhyngwladoli.

Mae graddedigion Cysylltiadau Rhyngwladol yn dilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o feysydd. Opsiwn pellach yw parhau i wneud astudiaeth ôl-raddedig.

Maes pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement
  • contact with people related to Cardiff University.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Na.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rhaglen tair blynedd amser llawn yw hwn, sy'n cynnwys 120 o gredydau y flwyddyn.

Bydd y flwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn damcaniaethau a safbwyntiau cysylltiadau rhyngwladol craidd, a datblygiad hanesyddol y system ryngwladol drwy astudio modiwlau craidd dynodedig. Bydd y llwyfan hwn yn darparu sylfaen ddamcaniaethol a hanesyddol ar gyfer astudiaeth fwy datblygedig o ystod gyfoethog o bynciau cysylltiadau rhyngwladol wrth i chi symud ymlaen.

Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn bydd yr astudiaeth yn canolbwyntio'n benodol ar gysylltiadau rhyngwladol a bydd yn ofynnol i chi astudio o leiaf 100 o gredydau yn y ddisgyblaeth bob blwyddyn. Mae nifer ac ystod y modiwlau sydd ar gael yn golygu eich bod yn gallu cael rhyfwaint o ddewis o fewn yr elfen orfodol honno ac oherwydd hynny dylunio a dilyn llwybr pwrpasol sy'n adlewyrchu eu diddordebau astudio penodol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio 120 o gredydau yn eich blwyddyn gyntaf o blith rhestr y modiwlau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol sydd ar gael.

Bydd cymorth sgiliau astudio sydd wedi'i integreiddio yn rhan o fodiwlau blwyddyn un yn eich helpu i feithrin sgiliau hanfodol astudio academaidd ac ymchwil annibynnol.

Blwyddyn dau

Byddwch yn astudio modiwlau sy'n cyfateb i 120 credyd ym mlwyddyn dau.

Rhaid i chi ddewis o leiaf 100 credyd o gasgliad modiwl Cysylltiadau Rhyngwladol dynodedig. Ar ben hynny, gallwch ddewis astudio un modiwl 20 credyd ychwanegol o gasgliadau modiwlau Cysylltiadau Rhyngwladol neu Wleidyddiaeth.

Bydd ystod o fodiwlau sy'n cwmpasu meysydd fel diogelwch rhyngwladol, llywodraethu rhyngwladol a theori ryngwladol ar gael. Mae'r trefniant hwn yn golygu bod gan eich rhaglen ffocws penodol ar gysylltiadau rhyngwladol, ond rydych yn cadw elfen o ddewis a dyluniad sy'n eich galluogi i ddilyn llwybr sy'n adlewyrchu eich diddordebau astudio penodol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rhyw, Rhyw a MarwolaethPL922020 Credydau
Cysylltiadau Rhyngwladol y Rhyfel OerPL922120 Credydau
Technolegau Digidol a Gwleidyddiaeth Fyd-eangPL922320 Credydau
Llywodraethu Byd-eangPL922420 Credydau
Gwleidyddiaeth yr UEPL922520 Credydau
O ysbïo i Gwrthderfysgaeth: Cudd-wybodaeth mewn Gwleidyddiaeth GyfoesPL922920 Credydau
Gwleidyddiaeth fodern CymruPL923320 Credydau
Meddwl Gwleidyddol Modern: Machiavelli to MillPL923420 Credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio'r Gymdeithas GyfalafolPL923820 Credydau
Mae'r Barbariaid yn Dod!: Damcaniaethau Gwleidyddol Traws-ddiwylliannolPL924020 Credydau
Syniadau ac ideoleg mewn Gwleidyddiaeth PrydainPL924120 Credydau
Anifeiliaid, Aer, ac Ardaloedd y tu hwnt i awdurdodaeth genedlaethol - Gwleidyddiaeth Cyfundrefnau Amgylcheddol Byd-eangPL924220 Credydau
Personoliaeth, rhagfarn a pholareiddio: Seicoleg WleidyddolPL924420 Credydau
Agweddau Beirniadol at Wleidyddiaeth y Dwyrain CanolPL924520 Credydau
Gwleidyddiaeth Ffiniau: Gwrthdaro a Chydweithrediad yn Ewrop FodernPL924620 Credydau
Chwyldroi'r Gorchymyn Gwleidyddol: Damcaniaeth Gymdeithasol Prydain yn y ddeunawfed ganrifPL924920 Credydau
Gwneud ymchwil gwleidyddolPL925120 Credydau
Gwleidyddiaeth Hinsawdd (In)ActionPL925220 Credydau
Gwleidyddiaeth Cyfnewid RhyngwladolPL926060 Credydau
Credoau'r CymryPL928620 Credydau
Gwleidyddiaeth Prydain ers 1945PL928720 Credydau
Diogelwch Rhyngwladol: Cysyniadau a MaterionPL928820 Credydau
Cyfiawnder a Gwleidyddiaeth: Theori Wleidyddol GyfoesPL929120 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL929220 Credydau
Cyfraith ryngwladol mewn byd sy'n newidPL929920 Credydau

Blwyddyn tri

Byddwch yn astudio modiwlau sy'n cyfateb i 120 credyd ym mlwyddyn tri.

Fel ym mlwyddyn dau, byddwch yn dewis o leiaf 100 credyd o fodiwlau Cysylltiadau Rhyngwladol dynodedig ac yn dewis modiwl 20 credyd arall o blith casgliad y modiwlau Cysylltiadau Rhyngwladol neu Wleidyddiaeth.

Mae hyn yn golygu y bydd ail a thrydedd flwyddyn eich gradd yn cael eu pwysoli tuag at fodiwlau Cysylltiadau Rhyngwladol, gan eich galluogi i ganolbwyntio eich rhaglen astudio ar bynciau fel gwleidyddiaeth amgylcheddol fyd-eang, diogelwch rhyngwladol, technolegau digidol, rhyfel a heddwch, a gwleidyddiaeth ôl-drefedigaethol.

Cewch gyfle i ysgrifennu traethawd hir sy'n eich galluogi i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymchwil. Mae'r traethawd hir Cysylltiadau Rhyngwladol yn rhoi’r cyfle i chi gymryd rhan mewn ymchwil dan oruchwyliaeth ond hunangyfeiriedig. Byddwch yn gallu dewis maes ffocws a ffefrir a chaiff goruchwyliwr priodol ei benodi.

Er mwyn cael y gorau posibl i lwyddo, bydd angen cyflawni 2:1 yn gyffredinol yn eich asesiad blwyddyn dau i allu dewis y modiwl traethawd hir fel arfer.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hanes Meddwl mewn Cysylltiadau RhyngwladolPL931120 Credydau
Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Oes NiwclearPL932020 Credydau
Bomiau, Bwledi a Ballot-flychau: Gwrthdaro Gogledd Iwerddon, 1969 i 1998PL932420 Credydau
Economi wleidyddol: Rhesymoldeb mewn Byd Afresymol?PL932520 Credydau
Diwylliant Poblogaidd a Gwleidyddiaeth y BydPL932820 Credydau
Rhyfel a ChymdeithasPL933120 Credydau
Gwleidyddiaeth Trais a LladdPL933520 Credydau
Cyfiawnder, Cyfreithlondeb a Chyfraith RyngwladolPL933620 Credydau
Gwleidyddiaeth America LadinPL933720 Credydau
Rhyw, Cyffuriau a Pholisi CyhoeddusPL933820 Credydau
Gwleidyddiaeth mewn Ymarfer: Modiwl Lleoliad GwaithPL934020 Credydau
Be the Change: Llywodraethu heb y WladwriaethPL934620 Credydau
Gwleidyddiaeth a Llywodraethu BrexitPL934720 Credydau
Cynrychioli DatblyguPL934820 Credydau
Gwleidyddiaeth Populism yn EwropPL935020 Credydau
Llywodraethu Iechyd Cyhoeddus Byd-eang: Pandemigau Firaol, a'r 'epidemig' cyffuriau byd-eangPL935320 Credydau
Gwrthdaro, cystadlu a chynghreiriau yn y "Dwyrain Canol Newydd"PL935420 Credydau
Cysylltiadau Eingl-Americanaidd ac Amddiffyn y Rhyfel OerPL935720 Credydau
Tsieina yn y BydPL935820 Credydau
Strategaeth mewn Theori ac YmarferPL935920 Credydau
Economi Wleidyddol Cymru: O Lo i Covid-19PL936120 Credydau
Economi Wleidyddol Cymru: o 'Oes y glo' i 'Oes y clo'PL936220 Credydau
Argyfwng ac Ymrwymiad mewn Meddwl Gwleidyddol ModernPL936320 Credydau
Diwedd y byd fel yr ydym yn ei adnabodPL936420 Credydau
Ar ôl y Gorllewin: IR 2.0PL936520 Credydau
Dirty Hands: Problemau Moeseg GwleidyddolPL936620 Credydau
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yr Unol DaleithiauPL937420 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL937720 Credydau
Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder: Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruPL937820 Credydau
Modiwl Astudiaethau SeneddolPL938020 Credydau
Traethawd Hir Cysylltiadau RhyngwladolPL938520 Credydau
Traethawd Hir GwleidyddiaethPL938620 Credydau
Etholiadau yn y Deyrnas UnedigPL938720 Credydau
Sefydliad Rhyngwladol Byd-eang mewn Gwleidyddiaeth y BydPL939120 Credydau
Personoliaeth a GrymPL939220 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau.

Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf ond yn gyffredinol yn darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol.

Mae seminarau yn gyfle i ofyn cwestiynau a thrafod syniadau pwysig mewn amgylchedd grŵp bach. Eu pwrpas yw eich helpu i gyfuno'r wybodaeth a'r syniadau a gewch o ddarlithoedd a darlleniadau ac i archwilio materion yn feirniadol ac yn fanwl. Mae darlleniadau a chwestiynau penodedig yn sail ar gyfer trafod drwy gyfeirio eich sylw at agweddau perthnasol ar y pwnc ac at ffynonellau gwybodaeth amrywiol. Mae rhoi cyflwyniadau'n datblygu'ch gallu i gasglu, trefnu a chyfuno syniadau a gwybodaeth berthnasol ac i gyfleu'r rhain yn gryno ac yn rhesymegol. Mae trafodaethau dan law myfyrwyr a thiwtoriaid yn hogi sgiliau rhesymegol ac yn rhoi cyfle ichi ymarfer defnyddio dulliau, theorïau a chysyniadau gwahanol ar gyfer y pwnc dan sylw. Mae hefyd yn eich cyflwyno i wahanol ddehongliadau o ddigwyddiadau a syniadau gwleidyddol. Mae datrys problemau mewn grŵp yn helpu i ddatblygu sgiliau cydweithio.

Darpariaeth Gymraeg

Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg Mae seminarau wedi’u haddysgu yn y Gymraeg ar gael mewn modiwlau ym mhob blwyddyn. Gallwch ddewis ysgrifennu’r cyfan neu rywfaint o’ch gwaith a asesir ac arholiadau yn y Gymraeg. Os ydych yn cael ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg gofynnir i chi ddewis nifer penodol o fodiwlau cyfrwng Cymraeg er mwyn bodloni termau eich ysgoloriaeth, ac mae angen gwneud hyn ar gyfer pob casgliad modiwl.

Sut y caf fy nghefnogi?

Cewch diwtor personol a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y rhaglen a’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Byddan nhw hefyd yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf os ydych chi’n profi unrhyw anawsterau. Yn ogystal, mae'r holl staff addysgu yn cadw oriau swyddfa rhagnodedig o ran pryd gallwch chi gwrdd â nhw a thrafod unrhyw ymholiadau dysgu sy'n codi o'r modiwl neu o'ch astudiaethau yn gyffredinol.

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, lle gallwch gyrchu fforymau trafod a dod o hyd i ddeunyddiau cwrs gan gynnwys deunyddiau amlgyfrwng, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig, grwpiau trafod ac ati. Byddwch hefyd yn gallu myfyrio ar eich cynnydd ac ar y sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy adran ar wefan Dysgu Canolog y Brifysgol o'r enw Cynllunio Datblygiad Personol.

O fewn modiwlau, bydd gofynion a disgwyliadau dysgu ac asesu yn cael eu hesbonio'n ofalus gan arweinydd y modiwl yn y dosbarth a thrwy ddeunyddiau ategol sydd ar gael ar Dysgu Canolog.

Mae llawer o fodiwlau'n cynnwys mathau cynnar o asesu sydd wedi'u cynllunio i fonitro cynnydd a rhoi adborth cyn darnau hirach o waith cwrs ac arholiadau terfynol. Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar yr holl waith cwrs.

Mae ystod o staff ar gael i ddarparu cefnogaeth bellach, gan gynnwys llyfrgellydd arbenigol. Mae aelod o staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau fod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau.

Yn ganolog, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’ch cefnogi, sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd gwych a chanolfannau adnoddau.

Adborth

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Defnyddir cyngor blaenorol ac adborth ysgrifenedig (ar gyfer traethodau) i'ch helpu i ddeall beth sy'n ofynnol.

Nid yw adborth ffurfiannol yn cyfrannu at eich cynnydd na phenderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod adborth ffurfiannol yn gwella eich dealltwriaeth a’ch dysgu cyn i chi gwblhau eich asesiad crynodol. Yn fwy penodol, mae adborth ffurfiannol yn helpu i chi:

  • ganfod eich cryfderau a’ch gwendidau a meysydd targed sydd angen gweithio arnyn nhw.
  • Helpu staff i’ch cefnogi a rhoi sylw i'r problemau a ganfuwyd, gyda strategaethau wedi'u targedu ar gyfer gwella.

Mae adborth crynodol yn cyfrannu at gynnydd na phenderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod asesiad crynodol yw rhoi syniad o’r graddau rydych wedi llwyddo i gyflawni deilliannau dysgu bwriadedig Modiwl neu Raglen a bydd yn eich galluogi i nodi unrhyw gamau sydd eu hangen er mwyn gwella. Dylai'r holl adborth gysylltu'n uniongyrchol â meini prawf graddio/asesu'r Modiwl.

Rhoddir adborth mewn tiwtorialau, dosbarthiadau trafod a dosbarthiadau problemau yn ogystal â thrwy sylwadau ysgrifenedig unigol ar waith cwrs.

Sut caf fy asesu?

Year one is an introductory year. Results from Years two and three determine degree classification.

The programme structure is intended to progressively develop skills of academic study and independent research. This is delivered via levels based teaching and supported by, for example, study skills support at first year, specific research training at second year and longer research essays, primary research exercises and, if selected, the dissertation at third year.

Forms of teaching and assessment across the three years of the programme will include a wide range of methods and approaches, from essays and exams to group work, blogs, primary document analysis, writing briefings and learning diaries.
 

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon byddwch yn gallu dangos dealltwriaeth feirniadol o amrywiaeth o ddamcaniaethau cysylltiadau rhyngwladol, natur y system ryngwladol a strwythurau pŵer byd-eang (gyda'r prif ffocws ar asiantaethau fel Gwladwriaethau, Sefydliadau Rhyngwladol ac actorion eraill nad ydynt yn wladol) ynghyd â meistrolaeth ar sgiliau trosglwyddadwy cysylltiedig, fel:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Deall natur ac arwyddocâd gwleidyddiaeth fel gweithgaredd byd-eang.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o esblygiad hanesyddol a chymeriad cyfoes gwleidyddiaeth y byd.
  • Cymhwyso cysyniadau a damcaniaethau a ddefnyddir yn astudiaeth cysylltiadau rhyngwladol wrth ddadansoddi syniadau, arferion a materion gwleidyddol yn fyd-eang.
  • Defnyddio gwahanol gategorïau o dystiolaeth i ddangos cymhwysedd a chyfyngiadau'r cysyniadau, y damcaniaethau a'r dulliau uchod.
  • Gwerthuso gwahanol ddehongliadau o faterion a digwyddiadau gwleidyddol y byd.
  • Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o agweddau allweddol ar gysylltiadau rhyngwladol cyfoes, gan fynd i'r afael ag astudiaethau byd-eang a rhanbarthol hefyd.
  • Ymgysylltu'n feirniadol â deunyddiau ymchwil cyfoes ym meysydd perthnasol cysylltiadau rhyngwladol.
  • Rheoli amser, tasgau ac adnoddau yn effeithiol.

Sgiliau Deallusol:

  • Casglu, trefnu a defnyddio tystiolaeth, data a gwybodaeth am amrywiaeth o ffynonellau.
  • Datblygu dadl resymol, cyfosod gwybodaeth berthnasol ac arfer barn feirniadol.
  • Myfyrio ar eich dysgu eich hun a defnyddio adborth adeiladol.
  • Rheoli eich dysgu eich hun yn hunanfeirniadol.
  • Cyfleu syniadau’n effeithiol ac yn rhugl, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Gweithio’n annibynnol, gan ddangos mentergarwch a’r gallu i drefnu eu hunain a rheoli amser.
  • Cydweithio ag eraill a chyfrannu at gyflawni nodau cyffredin.
  • Defnyddio technolegau cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer casglu a chyflwyno gwybodaeth.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae graddau mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn darparu sylfaen ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd megis mewn cyrff anllywodraethol, datblygiad byd-eang, busnes rhyngwladol, diplomyddiaeth a chudd-wybodaeth mewn llywodraeth, newyddiaduraeth, ac ymchwil polisi, yn ogystal â bod yn sail ar gyfer pynciau mwy arbenigol sy’n cael eu haddysgu ar lefel ôl-raddedig.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 28% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.