Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Integredig (MEng)

  • Maes pwnc: Peirianneg
  • Côd UCAS: H113
  • Derbyniad nesaf: Medi 2022
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

star

Cynnwys a arweinir gan ddiwydiant

Caiff cynnwys ein cwrs ei lywio gan gydweithrediad diwydiannol a'i gyflwyno gan staff academaidd blaenllaw, y mae llawer ohonynt yn Beirianwyr Siartredig neu wedi gweithio mewn diwydiant.

mortarboard

Ysgoloriaethau allanol ar gael

Mae myfyrwyr yn gymwys i gyflwyno cais ar gyfer ysgoloriaethau gan Academi Bŵer y DU a Sefydliad Sgiliau Electronig y DU UKESF (mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o'r ddau gynllun).

screen

Cyfleusterau o safon y diwydiant

Bydd gofod stiwdio dylunio dynodedig, labordai arbenigol, gweithdai ac ystafelloedd cyfrifiadurol ar gael ar eich cyfer.

mortarboard

Breintiau graddedigion

Mae graddedigion yn dilyn llwybr cyflymach a mwy uniongyrchol i statws Peiriannydd Siartredig na myfyrwyr BEng.

rosette

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni'n llawn y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig.

Mae angen dull amlddisgyblaethol i fynd i’r afael â chymhlethdod a soffistigedigrwydd peirianneg fodern. Felly, mae diwydiant yn chwilio am beirianwyr sydd â gwybodaeth a sgiliau eang mewn mwy nag un o'r disgyblaethau peirianneg traddodiadol.

Gradd amlddisgyblaethol yw'r MEng Peirianneg Integredig, sydd wedi'i llunio o amgylch peirianneg drydanol, electronig a mecanyddol, sy'n ceisio datblygu myfyrwyr ym meysydd gweithgynhyrchu, mecatroneg, dylunio drwy gymorth cyfrifiadur ac ynni adnewyddadwy. Bydd eich gwybodaeth eang am wahanol agweddau ar beirianneg yn sicrhau y gallwch ryngweithio â pheirianwyr o'r holl ddisgyblaethau peirianneg traddodiadol mewn unrhyw amgylchedd amlddisgyblaethol.

Byddwch hefyd yn dod yn gyfarwydd â rôl peirianneg yn yr amgylchedd busnes, gan fod sylw arbennig yn cael ei roi i economeg, rheolaeth a'r gyfraith.

Mae'r MEng yn caniatáu ichi ddefnyddio'r ddwy flynedd ddiwethaf i ehangu a chryfhau eich gwybodaeth. Byddwch yn elwa o ddysgu ar lefel uwch mewn dylunio a rheoli a gwerthfawrogiad o'r technegau sydd eu hangen i reoli a threfnu prosiect dylunio peirianneg amlddisgyblaethol.

Mae cyrsiau peirianneg integredig eraill yn cynnwys:

  • Sylfaen drylwyr yn hanfodion peirianneg os dewiswch gwrs BEng
  • Y cyfle i ddilyn blwyddyn ryngosod mewn diwydiant os dewiswch radd BEng pedair blynedd berthnasol neu’r radd MEng pum mlynedd
  • Y cyfle i astudio dramor mewn sefydliad partner am un semester os dewiswch y radd MEng (Rhyngwladol) berthnasol
  • Y cyfle i astudio iaith os dewiswch y radd MEng perthnasol gyda blwyddyn ryngosod mewn prifysgol yn Ffrainc, yr Almaen neu Sbaen

Achrediadau

Maes pwnc: Peirianneg

  • academic-schoolYr Ysgol Peirianneg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4656
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd A mewn Mathemateg. Bydd angen i chi basio’r elfen ymarferol o bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

FFfioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,450 Dim
Blwyddyn dau £23,450 Dim
Blwyddyn tri £23,450 Dim
Blwyddyn pedwar £23,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac amrywiaeth o adnoddau dysgu eraill.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2022. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2022 i ddangos y newidiadau.

Mae hon yn radd amser llawn pedair blynedd o hyd. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o fodiwlau, 20 credyd yw gwerth rhai ohonynt, a hyd at 40 credyd yr un yw gwerth prosiectau blynyddoedd tri a phedwar. Mae angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.

Mae dau semester bob blwyddyn, pob semester yn cynnwys 11 wythnos addysgu, un wythnos adolygu a chyfnod arholiadau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/2023. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Network AnalysisEN106410 Credydau
LaboratoryEN107220 Credydau
Professional EngineeringEN107910 Credydau
Analogue Communications SystemsEN108110 Credydau
Electrical and Electronic Engineering 1EN108210 Credydau
Power Engineering and Electrical MaterialsEN108510 Credydau
Engineering Mathematics 1EN109320 Credydau
Engineering ComputingEN109410 Credydau
MechanicsEN110220 Credydau

Blwyddyn dau

Mae’r ail flwyddyn eto'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Control EngineeringEN205810 Credydau
Microcontroller Applications and Embedded DesignEN208110 Credydau
Engineering Mathematics 2EN209010 Credydau
Materials and ManufactureEN210120 Credydau
ThermofluidsEN210320 Credydau
Machine and Power ElectronicsEN270810 Credydau
Power Systems AnalysisEN270910 Credydau
Programming for EngineeringEN275010 Credydau
Integrated Product DesignEN281020 Credydau

Blwyddyn tri

Byddwch yn gwneud prosiect mawr yn y drydedd flwyddyn sy’n 40 credyd i gyd.  Byddwch yn gweithio'n unigol ar y prosiect, ochr yn ochr ag aelod o staff goruchwylio.

Mae yna fodiwlau craidd eraill a rhai modiwlau dewisol hefyd, gan adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn y blynyddoedd cynharach.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Engineering Project ManagementEN302410 Credydau
Thermodynamics and Heat TransferEN304210 Credydau
Automatic ControlEN305710 Credydau
Power ElectronicsEN305810 Credydau
Individual ProjectEN340040 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Commercialising InnovationEN300610 Credydau
Solid MechanicsEN303710 Credydau
Robotics and Image ProcessingEN306210 Credydau
Object Oriented Engineering ComputingEN308510 Credydau
Embedded SystemsEN308710 Credydau
Fluid Power and ControlEN351310 Credydau
Power Systems AEN370110 Credydau
Electrical Machines and Drives AEN370210 Credydau
Renewable Energy TechnologiesEN370810 Credydau
Grid Integration of RenewablesEN370910 Credydau
Product DesignEN390610 Credydau

Blwyddyn pedwar

Byddwch yn gwneud dau brosiect grŵp yn y bedwaredd blwyddyn, sy'n gysylltiedig ag ymchwil amserol. Gyda’i gilydd, mae'r rhain yn ffurfio hanner yr asesiad cyffredinol.

Mae’r modiwlau craidd yn cynnwys Rheoli mewn Diwydiant a gallwch ddewis modiwlau o blith modiwlau eraill.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Addysgir trwy ddarlithoedd, dosbarthiadau enghreifftiau a llawer o waith yn y labordy, TG a gwaith ymarferol. Mae'r modiwlau a addysgir yn y ddwy flynedd gyntaf yn rhai gorfodol i raddau helaeth, ond mae opsiynau ar gael ym mlynyddoedd tri a phedwar fel rheol. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 40-credyd ym mlwyddyn tri, a dyrennir goruchwyliwr ar eu cyfer o blith y staff addysgu. Bydd cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr.

Sut y caf fy nghefnogi?

Dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd ac sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor yno i’ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn academaidd a materion personol mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol, pan fydd angen ychydig o arweiniad arnoch. Ein nod yw eich helpu chi i oresgyn unrhyw broblem, fach neu fawr, mor ddiffwdan a chyflym â phosibl.

Ar gyfer y prosiect 40 credyd ym mlwyddyn tri, dyrennir goruchwyliwr i chi yn y maes ymchwil arbenigol eang a byddwch yn cwrdd yn rheolaidd.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.

Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth ar asesiadau ysgrifenedig. Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn i grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar ar gyflwyniadau a chyfraniadau i weithgareddau grŵp.

Sut caf fy asesu?

Your progress in each module is usually assessed at various stages through each semester (through a short test) to give you feedback on your progress, then finally at the end of the appropriate semester. Assessment is undertaken using methods including formal written examinations, case studies, assignments and project work.

Examinations count for 60% to 70% of all assessment throughout the course, depending on the options chosen. The remainder is composed mainly of project work and larger pieces of coursework, plus performance in laboratories.

The opportunity to test knowledge and understanding is given through class tests throughout years one and two, plus feedback on written assessments. Occasionally, peer assessment of an individual’s contribution to a group may be used, and students may also receive oral feedback on presentations and contributions to group activities.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu trwy'r Cyngor Peirianneg, sy'n golygu bod cymwyseddau craidd UK-SPEC (Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Broffesiynol) wedi'u hintegreiddio trwy gydol y blynyddoedd y caiff y cwrs ei addysgu.

Trwy waith labordy byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol sy'n canolbwyntio ar gymhwyso ystod o egwyddorion peirianneg i broblemau technolegol, rheoliadol a moesegol bywyd go iawn a wynebir yn y proffesiwn peirianneg.

Byddwch hefyd yn:

  • Gwella eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, trwy gyfres o adroddiadau ac aseiniadau
  • Datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a hyder i ddatrys problemau amlddisgyblaethol mewn cyd-destun peirianneg.
  • Gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm, eich gallu i ymarfer syniadau gwreiddiol a barn broffesiynol dda

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae gan ein graddedigion peirianneg integredig swyddi allweddol mewn cwmnïau blaenllaw fel Halcrow, Atkins, BP, BAE Systems, RWE npower, Mott McDonald, Network Rail, Rolls Royce, Ford, Tata Steel, Nokia, Bosch ac eraill. Mae ein graddedigion hefyd wedi symud ymlaen i weithio mewn llywodraeth leol, gyda chwmnïau a sefydliadau cyfleustodau rhyngwladol y DU a rhyngwladol megis Climate Energy a GlaxoSmithKline.

A hithau ar flaen y gad ym maes ymchwil beirianegol, mae gan Gaerdydd gysylltiadau cryf â byd diwydiant. Datblygwyd cysylltiadau niferus â chwmnïau yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy ein cynlluniau Blwyddyn mewn Diwydiant a thrwy waith ymgynghorol ein staff. Mae hynny’n cynnwys cynghori ynghylch materion fel polisi ynni, dylunio pontydd, defnyddiau magnetig a dyfeisiau lled-ddargludo.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cai

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.