Ewch i’r prif gynnwys

Hanes (BA)

  • Côd UCAS: V100
  • Derbyniad nesaf: Medi 2022
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Clirio ac Addasu

Mae'r cwrs hwn gael trwy broses Clirio ac Addasu ar gyfer dechrau astudio yn 2021. Ffoniwch ni ar 0333 241 2800 i drafod eich opsiynau a chadw lle.


Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae ein cyrsiau'n cwmpasu hanes cymdeithasau mewn rhannau amrywiol o'r byd, yn cynnwys yr Unol Daleithiau, yr Almaen, Rwsia, Dwyrain Ewrop, Ffrainc, Prydain, Cymru, India a Tsieina.

O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, rydym yn eich annog i 'wneud hanes' drosoch eich hunan, gan ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Byddwch yn dysgu i feddwl yn annibynnol, i asesu cryfderau a gwendidau corff o dystiolaeth hanesyddol, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau yn glir. Cewch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau sy'n adlewyrchu syniadau diweddaraf y ddisgyblaeth, wedi'u haddysgu gan ymchwilwyr blaenllaw yn y maes.

Rydym wedi cael enw da ers tro o ran ein haddysgu, ymchwil a hyd a lled daearyddol a chronolegol yr Hanes yr ydym yn ei astudio. Ond yn fwy na hyn – rydym yn ymfalchïo mewn meithrin amgylchedd cyfeillgar, personol a chefnogol.

Nodweddion nodedig

  • An exciting variety of specialised, research-led teaching options that cover a wide chronological and geographic range from the medieval world to the modern period.
  • Taught by leading academics, you can explore the history of societies in diverse parts of the globe, including Britain, Europe, Russia, the US, China, and India.
  • You will re-evaluate existing understandings of the past to create new and original interpretations of your own.
  • You develop skills as an independent thinker and learner, enabling you to research topics comprehensively and interpret original sources from a diversity of places and periods.
  • Emphasis on undergraduate research as you ‘do’ as well as ‘read’ history from second year
  • A structured skills programme which embeds academic, transferable and employability skills into learning from the very beginning

Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd

Gofynion mynediad

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried BTECs mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddolwr perthnasol. 

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae’r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2022. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2022 i ddangos y newidiadau.

Mae BA Hanes yn rhaglen gradd tair blynedd. Byddwch yn astudio modiwlau gwerth 120 o gredydau bob blwyddyn.

Mae ein modiwlau blwyddyn o hyd yn gynnyrch dylunio trwyadl ac ail-werthuso parhaus. Mae staff academaidd, myfyrwyr ac arbenigwyr allanol yn cydweithio i wneud yn siŵr bod y cynlluniau gradd yn bodloni safonau ansawdd eu disgyblaethau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/23. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio 120 o gredydau ym Mlwyddyn Un.

Mae’r holl fyfyrwyr Hanes blwyddyn gyntaf yn astudio ‘Ymarfer Hanes’. Bydd hwn yn eich cyflwyno i fframweithiau gwahanol sy’n sail i ymchwil hanesyddol a’r ffyrdd amrywiol o ysgrifennu hanes. Bydd hefyd yn darparu hyfforddiant yn y sgiliau angenrheidiol i arfer hanes ar lefel israddedig.

Gallwch ddewis astudio modiwlau y tu allan i'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. Yr Ysgolion Academaidd sy'n cymryd rhan sy'n cynnig y modiwlau hyn.

Blwyddyn dau

Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, rhoddir rhagor o bwyslais ar waith seminar, gyda goruchwyliaeth unigol ar gyfer traethodau estynedig a thraethodau hir.

Mae’r cwrs craidd yn cynnwys darlithoedd wythnosol wedi’u hategu gan seminarau bob pythefnos mewn grwpiau bach. Nid yw’r modiwl Astudio Annibynnol yn cynnwys unrhyw ddarlithoedd neu seminarau ond mae’n cael ei addysgu drwy sesiynau goruchwylio unigol gyda staff academaidd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Approaches to HistoryHS170130 credydau
Exploring Historical DebateHS170230 credydau

Blwyddyn tri

Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn astudio modiwl gorfodol traethawd hir, sy’n cael ei addysgu drwy sesiynau goruchwylio unigol gyda'r cynghorydd academaidd.

Byddwch hefyd yn dewis tri modiwl dewisol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
DissertationHS180130 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn eich galluogi chi i ddatblygu mewn amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf. Ategir hyn gan ymagwedd ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Mae'r dulliau addysgu'n cynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, teithiau maes a sesiynau tiwtorial un i un. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.  Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y ddarlith, mewn grwpiau bach.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Maen nhw’n cynnig cyfle buddiol i ymgymryd yn feirniadol â’r prif syniadau a deunydd darllen sy’n gysylltiedig â phwnc, ac i ymchwilio i feysydd o ddiddordeb arbennig gydag arbenigwr yn y maes.

Addysgu Iaith Cymraeg

Mae’r adran yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer dysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg Os oes staff ar gael, mae modd addysgu yn Gymraeg mewn seminarau ar gyfer rhai neu bob un o’r prif gyrsiau craidd, a chynigir o leiaf un dewis iaith Gymraeg ym mlynyddoedd dau a thri. Mae goruchwyliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ar gyfer traethodau hir (Archwilio Dadleuon Hanesyddol) a thraethodau estynedig, a gallwch ddewis ysgrifennu’r cyfan neu ran o’ch gwaith a asesir a’ch arholiadau yn Gymraeg.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

20%

Astudio annibynnol dan arweiniad

81%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

12%

Astudio annibynnol dan arweiniad

88%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

14%

Astudio annibynnol dan arweiniad

86%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu. 

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Cewch adborth drwy waith ysgrifenedig ffurfiannol, trafodaeth seminar, adborth ysgrifenedig ar draethodau, tiwtorialau traethawd, a sesiynau goruchwylio Archwilio Dadl Hanesyddol a Thraethawd Hir (sy’n cynnwys adborth ysgrifenedig a llafar ar lyfryddiaethau, cynlluniau ymchwil, a phenodau drafft).

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

42%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

58%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

38%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

63%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

38%

Arholiadau ymarferol

4%

Gwaith cwrs

59%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Mae’r radd hon yn datblygu amrywiaeth o sgiliau deallusol: meddwl yn feirniadol, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon seiliedig ar dystiolaeth, a chyflwyno barn yn effeithiol yn ysgrifenedig ac mewn trafodaethau. Hefyd, byddwch yn ennill sgiliau ymarferol fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol, a rheoli amser. Mae ein graddau’n rhoi pwyslais amlwg ar ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i lawer o yrfaoedd.

Yn gyffredinol, mae sgiliau a dealltwriaeth ddeallusol yn cael eu caffael yn gynyddol. Yn ystod eich gradd, byddwn yn disgwyl gweld rhagor o ddyfnder ac ehangder yn eich astudiaethau. Yn fras:

  • Mae Blwyddyn Un yn eich cyflwyno i amrywiaeth ac ystod o ddulliau a ddefnyddir mewn hanes.
  • Mae Blwyddyn Dau yn rhoi hyfforddiant penodol i chi ar ddadansoddi cysyniadau, damcaniaethau a dulliau a ddefnyddir gan haneswyr yn feirniadol.
  • Mae’r flwyddyn olaf yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu’r sgiliau hyn drwy ymgysylltu’n drefnus â ffynonellau cynradd yn eich modiwlau a chwestiynu’r rhain ac wrth gynhyrchu Traethawd Hir sy’n seiliedig ar ymchwil gwreiddiol.

Cewch eich annog i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am eich dysgu eich hun ac am gyflwyno eich canfyddiadau. Ni allwn ddysgu drosoch chi, ond eich cyfrifoldeb ni yw eich helpu i ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a sesiynau tiwtorial, ac i’ch helpu i ddysgu'n annibynnol. Erbyn diwedd y radd, byddwch wedi meithrin sylfaen gadarn yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan yr hanesydd enwog Marc Bloch unwaith fel 'crefft yr hanesydd'.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i adnabod eu sgiliau a'u priodoleddau. Mae graddedigion Hanes yn dod o hyd i waith mewn amrywiaeth eang o swyddi proffesiynol. Nid yw pob un o'r swyddi hyn yn gysylltiedig â Hanes. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, ac mae rhai wedi dod yn haneswyr o fri rhyngwladol.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Historian
  • Teacher
  • Lecturer
  • Curator

Lleoliadau

Mae gan yr Ysgol Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sy'n cefnogi myfyrwyr gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 28% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth