Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddorau Cynaliadwyedd Amgylcheddol (BSc)

Pam astudio'r cwrs hwn

Cwrs, sydd â ffocws penodol, sy’n seiliedig ar Nodau Datblygu Cynaliadwy Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. Byddwch yn archwilio tri maes allweddol: dŵr glân, diraddiad tir, a chamau er budd yr hinsawdd.

briefcase

Rhagolygon cyflogaeth

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â phroblemau byd-eang cymhleth a bydd yn eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy fel dadansoddi beirniadol a datrys problemau.

structure

Cynnwys hyblyg i gwrs

Ewch ati i deilwra eich gradd i weddu i'ch diddordebau drwy ystod o fodiwlau dewisol a phrosiectau ymchwil ym mhob blwyddyn o'r cwrs hwn.

star

Dysgu yn seiliedig ar broblemau

Mae ein haddysgu yn integreiddio gwaith maes, sgiliau a theori, ac yn eich galluogi i ymchwilio ac archwilio eich pynciau eich hun dan arweiniad arbenigwyr ymchwil.

globe

Gwaith maes ymarferol

Cewch ddigon o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau gwaith maes gyda theithiau dydd rheolaidd a theithiau preswyl yn y DU a thramor.

location

Y genhedlaeth nesaf o ddaearyddwyr

Dod yn ddaearyddwr blaenllaw gyda gwybodaeth gyfunol o ddaearyddiaeth ddynol a ffisegol.

Cynaliadwyedd amgylcheddol yw un o heriau mwyaf a thargedau pwysicaf yr oes ohoni. Mae angen i ni weithredu ar frys er budd ein planed a datblygu strategaethau i weithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Ar ein cwrs Gwyddorau Cynaliadwyedd Amgylcheddol, byddwch yn archwilio tri maes allweddol: dŵr glân, diraddiad tir a chamau er budd yr hinsawdd. Rydym yn integreiddio gwaith maes, sgiliau a theori gan ddefnyddio dysgu seiliedig ar broblemau gyda sefyllfaoedd o’r byd go iawn i'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae galw amdanynt. Gan weithio ar draws sawl disgyblaeth, byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi, trafod a dadlau problemau cynaliadwyedd amgylcheddol yn feirniadol a chynnig atebion ymarferol i broblemau byd-eang cymhleth.

Manteisiwn i’r eithaf ar ein lleoliad ac rydym yn mynd ar deithiau maes rheolaidd yn y DU a thramor; mae'r gost wedi'i chynnwys ym mhris y cwrs. Byddwch yn cael cyfle i gynnal eich prosiect ymchwil eich hun, a fydd yn cynnig sgiliau a gwybodaeth werthfawr mewn maes sy'n ddiddorol ac yn bwysig i chi. Er mwyn cefnogi'r camau nesaf yn eich gyrfa, byddwch yn cynhyrchu portffolio yn dangos eich cynnydd a'ch cyflawniadau.

Mae'r cwrs hwn, sydd â ffocws penodol, yn archwilio meysydd amgylcheddol amserol sy'n seiliedig ar Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. Mae hyn yn sicrhau bod ein graddedigion yn datblygu sgiliau a gwybodaeth y mae galw mawr amdanynt mewn meysydd sylw mawr ar gyfer ymchwilwyr, llywodraethau a sefydliadau anllywodraethol.

Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BBC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth Lefel Uwch) neu 31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gyda dau bwnc gwyddonol Lefel Uwch). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Anifeiliaid, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg, Gwyddor Iechyd, TGCh, neu Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae costau gwaith maes eich modiwlau craidd wedi'u cynnwys ond bydd angen i chi gyfrannu at fwyd os yw'n cael ei ddarparu yn ystod y daith. Y myfyriwr fydd yn talu cost unrhyw fodiwlau gwaith maes dewisol (hyd at y lefel wedi'i chapio a bennir gan yr Ysgol).

Chi sy’n gyfrifol am ddarparu dillad dal dŵr ar gyfer pob rhan o’r corff ac esgidiau cerdded cadarn (sy’n cynnal y fferau ac sydd â gwadnau cryf sy’n cydio’n dda; esgidiau rhedeg neu esgidiau cerdded ysgafn) ar gyfer gweithgareddau maes.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd amser llawn a thair blynedd o hyd yw hon.

Mae'r rhaglen yn defnyddio Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (SDGs) i ffurfio tair Her Fawr (cymdeithasol neu fyd-eang). Defnyddir y rhain fel canolbwynt dysgu: dŵr glân, diraddiad tir a chamau er budd yr hinsawdd.

Blwyddyn 1: Mae 60 o gredydau yn y modiwl Her Fawr craidd ar Ddŵr Glân gan gynnwys prosiect annibynnol. Mae 20 o gredydau ychwanegol o fodiwlau craidd sy’n darparu gwybodaeth a sgiliau yn ymwneud â’r Her Fawr. Mae 40 o gredydau dewisol ar gael o ddetholiad o fodiwlau arbenigol.

Blwyddyn 2: Mae 60 o gredydau yn y modiwl Her Fawr craidd ar Ddiraddiad Tir a’i effeithiau, gan gynnwys prosiect annibynnol. Mae modiwl 20 credyd craidd ychwanegol. Mae 40 o gredydau dewisol ar gael o ddetholiad o fodiwlau arbenigol.

Blwyddyn 3: Mae 60 o gredydau yn y modiwl Her Fawr craidd ar Gamau er budd yr Hinsawdd, sy’n cynnwys eich traethawd hir. Mae 20 o gredydau craidd ychwanegol a 40 o gredydau dewisol ar gael o ddetholiad o fodiwlau arbenigol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Blwyddyn dau

Blwyddyn tri

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Students investigating land degradation in Spain.

Dysgu ac asesu

Yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, rydym yn annog dull cyfeillgar ac anffurfiol o addysgu a dysgu gan ddefnyddio rhyngweithio rhwng myfyrwyr a staff gan gynnwys gwaith maes. Byddwch yn cael eich addysgu a'ch cefnogi gan ddarlithwyr sy'n arbenigwyr yn eu maes ymchwil a hwyluswyr sy'n arbenigwyr ar ddatblygu dysgu.

Mae cyfleoedd dysgu sy’n rhoi myfyrwyr yn gyntaf yn cael eu creu drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau:

  • dysgu ar sail problemau (50% o'r rhaglen hon)
  • darlithoedd
  • seminarau, tiwtorialau, goruchwyliaethau neu fformatau grwpiau bach eraill
  • astudio ar eich pen eich o dan gyfarwyddyd, darllen a defnyddio llyfrgelloedd
  • dosbarthiadau ymarferol mewn labordy, gan gynnwys defnyddio labordai gwyddonol a chyfleusterau cyfrifiadurol datblygedig
  • gwaith maes, wedi'i addysgu ac wedi’i drefnu eich hun
  • ystod o gyfleoedd dysgu sy’n rhoi’r myfyriwr yn gyntaf, a allai gynnwys amgylcheddau dysgu rhithwir, astudio hunangyfeiriedig, gwaith tîm a dysgu yn y gwaith
  • sesiynau ymarferol e-ddysgu a thechnoleg gwybodaeth.

Mae'r rhaglen yn pwysleisio eich ymgysylltiad â'ch rhaglen ddysgu eich hun, a'ch perchnogaeth ohoni. Mae hefyd yn datblygu 'dysgu sut i ddysgu' sy'n hanfodol ar gyfer dull cynaliadwy o ddysgu gydol oes.

Rydym yn defnyddio Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig i ffurfio Heriau Mawr (cymdeithasol neu fyd-eang) fel ffocws y rhaglen. Trwy'r Heriau Mawr hyn byddwch yn gweithio ar y cyd i fynd i'r afael â thair problem yn y byd go iawn: dŵr glân, diraddiad tir a chamu er budd yr hinsawdd.

Mae'r pwyslais ar broblemau'r byd go iawn yn cynnig math dilys o gymhelliant i'r gwaith, gan eich annog i adeiladu ymgysylltiad dyfnach â'r pwnc gyda llai o bwyslais ar asesiadau. Nid oes unrhyw ateb diffiniedig i’r Heriau Mawr, felly bydd angen i chi ddiffinio'r broblem a chymhwyso ffordd newydd o feddwl er mwyn datblygu cynigion a’u cyflwyno.

Mae'r Heriau Mawr yn chwalu ffiniau’r disgyblaethau traddodiadol gan eich galluogi i gael gwybodaeth o wahanol ddisgyblaethau a safbwyntiau a’i hintegreiddio. Mae'r dull hwn yn rhoi cyfle ichi feddwl yn feirniadol y tu hwnt i gwmpas un ddisgyblaeth.

Mae'r rhaglen yn defnyddio dysgu ar sail problemau (PBL) sy'n addas iawn ar gyfer y dysgu ar y cyd a rhyngddisgyblaethol. Yn ôl pob tebyg, bydd hyn yn ehangu y tu hwnt i ffiniau pynciau er mwyn mynd i'r afael â'r Heriau Mawr.

Mae dysgu ar sail problemau yn ymwneud â chi yn bennaf. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau tiwtorial bach, gan gydweithio â'ch cyfoedion i gymryd rhan mewn hyfforddiant ac addysg ymarferol. Byddwch yn mynychu llai o ddarlithoedd o gymharu â chwrs traddodiadol sy'n seiliedig ar ddarlithoedd. Mae dysgu ar sail problemau yn ffordd weithredol o ddysgu sy'n rhoi gwell gwybodaeth i chi, yn gwella'ch cymhelliant ac yn eich annog i ddatblygu sgiliau sy'n hanfodol mewn amrywiaeth eang o rolau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Cefnogaeth

Bydd modiwl yr Her Fawr ym mhob blwyddyn yn rhoi sylfaen ar gyfer eich cwrs. Neilltuir tiwtor personol i chi fydd yn eich tywys trwy'r Her Fawr gan roi cefnogaeth academaidd a bugeiliol. Bydd y modiwl hefyd yn datblygu rhwydweithiau cymorth grŵp cyfoedion.

Wrth ichi symud ymlaen trwy'r cwrs, bydd cefnogaeth grŵp cyfoedion yn disodli cefnogaeth academaidd. Bydd cefnogaeth staff bugeiliol yn parhau trwy gydol y flwyddyn. Bydd lefel y gefnogaeth a gewch yn cael ei hailosod bob blwyddyn fel eich bod cael yr un lefel o gefnogaeth ar ddechrau pob blwyddyn.

Rydym yn cydnabod y gallai fod angen mwy o gefnogaeth ym Mlwyddyn 1 nag yn y blynyddoedd dilynol ac efallai y bydd angen mwy o gefnogaeth ar rai myfyrwyr. Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael gan staff os bydd ei angen arnoch.

Cyfleusterau

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Caiff darlithoedd eu recordio lle bo'n bosibl fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Mae gan wefan Dysgu Canolog fodiwl Cynllunio Datblygiad Personol hefyd sy’n eich helpu i asesu eich cynnydd yn rheolaidd ac i ddiwallu eich anghenion datblygu.

Gwasanaethau cefnogi

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Amrywiaeth

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy'n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anableddau, strwythurau teuluol, rhyw, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hiliau, credoau crefyddol neu gredoau eraill, a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol. Darllenwch am ein hymrwymiad at egwyddorion Athena SWAN a’n statws Efydd.

Sut caf fy asesu?

Modules will be assessed  through:

  • practical assignments 
  • essay assignments 
  • fieldwork 
  • oral presentations 
  • dissertation 
  • formal examinations. 

Formative assessment is used widely across the School to provide feedback for you to develop learning and understanding. Formative assessment is typically used prior to summative assessment. Summative assessment is used for quality assurance and audit to demonstrate achievement at appropriate levels.

Peer assessment is also used on some assessments to help self-assessment as a vehicle for reflection. By judging the work of others, you will gain insight into your own performance.

You will receive written feedback for written coursework assignments and oral feedback for oral presentations.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos y canlynol:

  • Dealltwriaeth systematig o Nodau Datblygu Cynaliadwy amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig, yn enwedig y targedau sylfaenol mewn cysylltiad â Dŵr Glân, Bywyd ar Dir a Chamau er Budd yr Hinsawdd. Hefyd, y ddealltwriaeth gefnogol o brosesau amgylcheddol gofodol ac amserol a'u cydberthynas rhwng systemau amgylcheddol, cemegol a ffisegol ar draws graddfeydd;
  • Dealltwriaeth eang o reoli adnoddau amgylcheddol, yn enwedig heriau byd-eang Dŵr Glân, Bywyd ar Dir a Camau er Budd yr Hinsawdd, gan gynnwys dulliau llywodraethu;
  • Dealltwriaeth systematig o natur amlddisgyblaethol gwyddoniaeth daearyddiaeth amgylcheddol, dulliau archwilio gwyddonol ac ymagweddau athronyddol, yn ogystal â dealltwriaeth ymarferol o'r angen i integreiddio gwybodaeth o'r gwyddorau cysylltiedig, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â System y Ddaear, gwyddorau’r cefnfor, atmosfferig, ffisegol a Daearyddiaeth;
  • Y gallu i weithio ar draws gwyddorau cynaliadwyedd amgylcheddol i gysylltu gwybodaeth a phrofiad o wyddorau perthynol i ddeall ystod o amgylcheddau gan gynnwys eu perthynas â chymdeithas.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i drafod, dehongli ac egluro achosion, graddfeydd ac effeithiau materion gwyddoniaeth cynaliadwyedd amgylcheddol, yn enwedig Heriau Mawr Dŵr Glân, Bywyd ar Dir a Gweithredu er Budd yr Hinsawdd wrth gymhwyso syniadau, cysyniadau a dulliau perthnasol yn feirniadol;
  • Y gallu i gasglu, coladu, cydosod a gwerthuso data a gwybodaeth am wyddoniaeth cynaliadwyedd amgylcheddol yn feirniadol, gan ddefnyddio dulliau perthnasol mewn meysydd sy’n gysylltiedig â Daearyddiaeth.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos y canlynol:

  • Cynnal dadansoddiad a dehongliad beirniadol o wahanol fathau o ddata amgylcheddol yn rhan o ymchwil i edrych ar faterion amserol a chysyniadau damcaniaethol gan gynnwys Heriau Mawr Dŵr Glân, Bywyd ar Dir a Chamau er Budd yr Hinsawdd.
  • Cynllunio, dylunio a gweithredu ymchwil sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, wneud defnydd beirniadol o ystod o ddulliau ansoddol a meintiol o gasglu a dadansoddi data. Gall hyn fod yn seiliedig ar waith maes, ymchwiliadau ar y môr neu labordy neu astudiaethau desg
  • Defnyddio a gwerthuso dulliau i gaffael data geo-ofodol a chynrychioli data o'r fath mewn fformatau cartograffig a graffig priodol.
  • Defnyddio platfformau priodol, gan gynnwys GIS
  • Y gallu i gynnal ymchwil cynaliadwyedd amgylcheddol sy'n cynnwys integreiddio a dadansoddi data amrywiol, sy’n aml yn anghyflawn ac ansicr gan ddefnyddio methodolegau a dulliau ansoddol a meintiol priodol
  • Defnyddio a gwerthuso sgiliau ymarferol a mewn technoleg gwybodaeth, systemau gwybodaeth ddaearyddol, technegau cartograffig, ystadegol a dadansoddi data eraill
  • Gallu cynnal ymchwil am wyddoniaeth cynaliadwyedd amgylcheddol yn ddiogel trwy gynllunio trefniadaeth a logisteg casglu data a gwerthuso’r risgiau, y cyfyngiadau a’r materion moesegol sy’n gysylltiedig â chasglu data mewn amgylcheddau amrywiol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos y canlynol:

  • Cyfleu gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau gan ddefnyddio cyfryngau llafar, ysgrifenedig a gweledol i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg
  • Gweithio gydag eraill i gyflawni tasgau cyffredin, cymryd cyfrifoldeb am rolau grŵp ac unigol, rheoli adnoddau ac asesu ymddygiadau.
  • Diffinio problemau, datrys a mynd i'r afael â Heriau Mawr cymhleth sy'n aml yn anhydrin o fewn ystod o ymchwil cynaliadwyedd amgylcheddol, yn enwedig Dŵr Glân, Bywyd ar Dir a Chamau er Budd yr Hinsawdd
  • Gallu defnyddio sgiliau rheoli prosiect a threfnu effeithiol drwy weithio'n annibynnol a thrwy weithio mewn tîm
  • Y gallu i gynnal astudiaeth annibynnol ac ysgolheictod personol, wedi'u meithrin trwy gymryd mwy o gyfrifoldeb personol, menter a phrofiadau hunan-ddysgu
  • Y gallu i osod nodau ar gyfer gwaith academaidd a datblygu’r sgiliau a’r cymwyseddau sydd eu hangen i gael swydd a / neu gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich dysgu a'ch datblygiad eich hun gan ddefnyddio myfyrio ac adborth i ddadansoddi'ch galluoedd eich hun, gwerthuso cynlluniau a dewisiadau amgen, a chymryd camau. Gosod meini prawf ar gyfer cyfathrebu proffesiynol a rhyngbersonol a gwneud hynny’n effeithiol mewn ystod eang o sefyllfaoedd.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Ymhlith y swyddi nodweddiadol ar gyfer graddedigion mae ymgynghori a rheoleiddio amgylcheddol a chynaliadwyedd, cadwraeth, ysgrifennu gwyddoniaeth, polisi llywodraeth genedlaethol, elusennau amgylcheddol, addysgu, cynllunio trafnidiaeth, addysg amgylcheddol ac iechyd amgylcheddol. Mae'r cwrs hwn hefyd yn darparu hyfforddiant rhagorol ar gyfer astudio ac ymchwil ôl-raddedig.

Gallai darpar gyflogwyr gynnwys llywodraeth leol a chwmnïau a sefydliadau fel Asiantaeth yr Amgylchedd, BAM Construct UK, Airbus a Wales and West Utilities.

Yn seiliedig ar ymatebion o arolwg diweddaraf Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) roedd 90% o raddedigion ein Hysgol yn gweithio neu'n cymryd rhan mewn astudiaeth bellach o fewn chwe mis i raddio, gydag eraill yn cymryd amser allan i deithio.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.