Ewch i’r prif gynnwys

Iaith Saesneg (BA) Rhan-amser


Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Treuliwch semester dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd mewn bywyd a dysg.

location

Wedi'i deilwra i chi

Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.

building

Profiad yn y diwydiant

Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.

book

Dysgu gan y gorau

Cewch elwa o gynnwys a arweinir gan ymchwil; a dysgu gan ysgolheigion iaith byd-enwog.

Mae ein gradd Iaith Saesneg yn canolbwyntio ar y croestoriad diddorol rhwng iaith a diwylliant, cymdeithas, gwleidyddiaeth a meddwl ac mae'n cynnig sylfaen gadarn ym mhob un o'r agweddau allweddol ar ddadansoddi iaith.

Fe ddysgwch chi arfau ieithyddol hanfodol fel ffoneteg, dadansoddi gramadeg a disgwrs, a hynny gan y rhai sy’n helpu i ddatblygu’r meysydd hynny. Mae ein hymagwedd yn eang a chynhwysol o agweddau megis dadansoddi testunau amlfoddol gan gyfuno delwedd geiriau a sain a geir mewn cymaint o’r cyfryngau cyfoes.

Mae ein gradd wedi'i threfnu i gyd-fynd ag ystod eang o opsiynau gyrfaol perthnasol. Mae modiwlau craidd yn rhoi sylfaen gadarn i chi. Yna byddwch yn cael eich arwain i adeiladu rhaglen sy’n gweddu i'ch diddordebau a datblygu arbenigedd, gan ddewis y modiwlau dewisol gorau i gyd-fynd â'ch cynlluniau.

Mae ein cymuned yn groesawgar, yn rhyngwladol ei safbwynt ac yn gartref i'r Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu a berchir yn fyd-eang. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn meithrin amgylchedd cyfeillgar, personol a chefnogol, gan eich cefnogi drwy gynnal cyfarfodydd un-i-un yn rheolaidd.

Cyflwyno cais ar gyfer 2022 neu 2023

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB. Noder: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34 pwynt gan gynnwys 6,5,5 mewn pynciau Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O 2023 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei hailenwi'n Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru. Bydd y cymhwyster hwn yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith arnoch ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C.

Croesewir ceisiadau gan rai sy’n cynnig cymwysterau eraill.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

FFfioedd am statws cartref

Codir ffioedd ar gyfer y cwrs hwn fesul modiwl. Ewch i'n tudalen Cyrsiau a godir ffi fesul modiwl am ragor o wybodaeth.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Codir ffioedd ar gyfer y cwrs hwn fesul modiwl. Ewch i'n tudalen Cyrsiau a godir ffi fesul modiwl am ragor o wybodaeth.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Dyma'r fersiwn ran-amser o'r cwrs BA Saesneg amser llawn a gellir astudio’r cwrs dros chwe blynedd yn hytrach na thair blynedd yn amser llawn. Mae myfyrwyr fel arfer yn cymryd 60 credyd y flwyddyn (yn wahanol i fyfyrwyr amser llawn sy'n cymryd 120 credyd y flwyddyn).

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/2023. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Mae’r ddau fodiwl craidd, Cyflwyniad i Iaith a Chyflwyniad i Iaith a Chymdeithas, yn rhoi sylfaen wych o ran disgrifio, dadansoddi a dehongli iaith, ac mewn sosioieithyddiaeth. Yna byddwch yn dewis o’n pedwar modiwl dewisol i gwblhau eich gofynion credyd.

Os dymunwch, gallwch ddewis astudio hyd at ddau fodiwl mewn llenyddiaeth Saesneg a/neu athroniaeth yn hytrach na'r rhai a restrir uchod.

Fel arfer, bydd myfyrwyr rhan-amser yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r cam hwn o'r rhaglen, gan ddilyn 60 credyd y flwyddyn. Cysylltwch â'r Ysgol yn uniongyrchol (encap@caerdydd.ac.uk) i drafod yr opsiynau sydd ar gael.

Blwyddyn dau

Mae dau fodiwl craidd yn cwmpasu holl elfennau hanfodol seineg, gramadeg a semanteg geiriadurol (ystyr geiriau), a’r holl ddamcaniaethau mawr o ddadansoddi disgwrs, adeiladu stoc gyffredin o wybodaeth a dealltwriaeth.

Mae’r modiwlau dewisol 'sylfaen' yn yr ail flwyddyn yn rhoi cyflwyniadau diddorol i amrywiaeth o feysydd astudio allweddol mewn Saesneg Iaith. Ar hyn o bryd, mae'r pynciau yn cynnwys sosioieithyddiaeth, iaith a diwylliant, hanes, Saesneg, datblygiad iaith plant, iaith a rhyw, dulliau ymchwil, nodweddion arddull ac eraill.

Mae'r hyfforddiant a ddarperir drwy’r modiwlau hyn yn eich paratoi i wneud eich dewis o blith y modiwlau 'estynedig' mwy arbenigol, dan arweiniad ymchwil, sydd ar gael ym mlwyddyn tri.

Fel arfer, bydd myfyrwyr rhan-amser yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r cam hwn o'r rhaglen, gan ddilyn 60 credyd y flwyddyn. Cysylltwch â'r Ysgol yn uniongyrchol (encap@caerdydd.ac.uk) i drafod yr opsiynau sydd ar gael.

Blwyddyn tri

Cynigir modiwlau yn y drydedd flwyddyn yn y meysydd pwnc y mae staff yn gweithio ynddynt ar hyn o bryd, gan roi cipolwg unigryw i chi ar rywfaint o’r gwaith ymchwil mwyaf diweddar ac arloesol ym maes Saesneg iaith. Mae'r modiwlau hyn yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i chi gasglu a dadansoddi eich data eich hun.

Ar hyn o bryd, mae’r modiwlau yn mynd i’r afael â meysydd fel anhwylderau cyfathrebu, ieithyddiaeth fforensig, cyfathrebu perswadiol, dysgu ac addysgu ieithoedd, iaith ac ideoleg, ieithyddiaeth corpws, ffonoleg a disgwrs cyfryngau.

Ceir hefyd gyfleoedd i ymgymryd â phrosiect (20 credyd) neu draethawd estynedig (40 credyd) yn eich dewis o faes ymchwil (yn amodol ar berfformiad yn yr ail flwyddyn).

Fel arfer, bydd myfyrwyr rhan-amser yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r cam hwn o'r rhaglen, gan ddilyn 60 credyd y flwyddyn. Cysylltwch â'r Ysgol yn uniongyrchol (encap@caerdydd.ac.uk) i drafod yr opsiynau sydd ar gael.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
DiscourseSE136220 Credydau
Sound, Structure and MeaningSE141120 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Children, Language and CommunicationSE131220 Credydau
Research MethodsSE131820 Credydau
Sounds of SpeechSE133620 Credydau
SociolinguisticsSE136920 Credydau
Words and MeaningSE137020 Credydau
Language and GenderSE140320 Credydau
Style and GenreSE141620 Credydau

Blwyddyn pedwar

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Children, Language and CommunicationSE131220 Credydau
Research MethodsSE131820 Credydau
Sounds of SpeechSE133620 Credydau
SociolinguisticsSE136920 Credydau
Words and MeaningSE137020 Credydau
Language and GenderSE140320 Credydau
Style and GenreSE141620 Credydau

Blwyddyn pump

Blwyddyn chwech

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

A range of formative and summative assessment methods are used, including essays, examinations, presentations, portfolios and creative assignments.

Essays and examinations are used not only for assessment purposes but also as a means of developing your capacities to gather, organise, evaluate and deploy relevant information and ideas from a variety of sources in reasoned arguments. Dedicated essay workshops and individual advice enable you to produce your best work, while written feedback on essays feeds forward into future work, enabling you to develop your strengths and address any weaker areas.

The optional final-year dissertation provides you with the opportunity to investigate a specific topic of interest to you in depth and to acquire detailed knowledge about a particular field of study, to use your initiative in the collection and presentation of material and present a clear, cogent argument and draw appropriate conclusions.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • deall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
  • gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Rydym yn darparu profiad academaidd hynod foddhaol i’n myfyrwyr sy'n cynorthwyo eu datblygiad fel dinasyddion sy’n meddwl yn feirniadol ac sy’n ymwybodol yn ddiwylliannol, y mae eu sgiliau dadansoddol uchel, eu pwerau mynegiant a’u hunanddibyniaeth flaengar yn eu gwneud nhw’n hynod o ddeniadol i gyflogwyr.

Mae graddau mewn Saesneg Iaith yn cyfuno’r goreuon o blith sgiliau dyniaethau (hyblygrwydd, cyfathrebu, beirniadu) â sgiliau gwyddorau cymdeithasol (dadansoddi technegol a dull systematig). Mae cyrchfannau cyffredin yn cynnwys addysgu ysgolion cynradd ac uwchradd, addysgu Saesneg fel iaith dramor, newyddiaduraeth (digidol), marchnata a cysylltiadau cyhoeddus, gwerthu a hysbysebu, y gwasanaeth sifil a gweinyddiaeth gyhoeddus.

Yn 2013/14, adroddodd 91% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Awdur
  • Dadansoddwr Gwybodaeth am Droseddau
  • Darlithydd
  • Athro
  • Cynorthwy-ydd Ymchwil
  • Swyddog y Fyddin

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.