Ewch i’r prif gynnwys

Economeg a Chyllid gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (BSc Econ)

  • Maes pwnc: Economeg
  • Côd UCAS: 42P9
  • Derbyniad nesaf: Medi 2022
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

book

Dysgu gan y gorau

Byddwch yn elwa o arbenigedd a chefnogaeth staff ymchwil-weithredol mewn Ysgol sydd ar y brig am effaith ymchwil.

location

Wedi'i deilwra i’ch diddordebau

Arbenigwch mewn economeg ddiwydiannol, hanes economaidd, economeg llafur neu economeg ryngwladol.

building

Ystafell fasnachu o’r radd flaenaf

Paratowch eich hun ar gyfer masnachu a rheoli risg mewn amgylchedd rheoledig gydag Investor Simulations, TRETS a Bloomberg.

briefcase

Blwyddyn ar leoliad

Cewch brofiad o ddiwydiant yn eich dewis faes; gan ddatblygu sgiliau a chysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

certificate

Nodwyd am ragoriaeth

Achrededig gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB).

Mae'r cwrs Economeg a Chyllid yn cynnig cyfle i chi gyfuno prif elfennau Economeg ag astudio Cyllid.

Mae'r rhaglen yn pwysleisio'r berthynas agos rhwng Economeg a Chyllid, ac yn gosod y pynciau hynny yn eu cyd-destunau sefydliadol, cymdeithasol a gwleidyddol ehangach.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddilyn meysydd arbenigol o ddiddordeb arbennig.

Defnyddir cymysgedd o fodiwlau craidd a dewisol, sy'n eich galluogi i ddilyn rhai meysydd diddordeb, wrth gaffael gwybodaeth gadarn o brif elfennau'r ddau bwnc. Rhoddir yr un pwyslais ar y ddau bwnc trwy gydol tair blynedd y radd.

Bydd y rhaglen yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol, trwy'r flwyddyn lleoliad gwaith proffesiynol, i ymgymryd â swyddi cyfrifol yn gynnar mewn amrywiaeth o yrfaoedd ac mewn amrywiol sectorau bancio a chyllid.

Achrediadau

Maes pwnc: Economeg

  • academic-schoolYsgol Busnes Caerdydd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys Mathemateg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn Busnes, a gradd B mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

FFfioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,800 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £19,700 Dim
Blwyddyn dau £19,700 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £3,940 Dim
Blwyddyn pedwar £19,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs Economeg a Chyllid yn gwrs astudio amser llawn pedair blynedd, sy'n cynnwys modiwlau gorfodol a dewisol. Byddwch fel arfer yn ennill 120 credyd bob blwyddyn a 480 i gyd.

Mae cyfran sylweddol o fodiwlau’r rhaglen yn cael eu haddysgu gan Adran Economeg yr Ysgol tra bod rhai modiwlau, yn enwedig ym mlwyddyn 1, yn cael eu haddysgu gan adrannau eraill o'r Ysgol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/2023. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn un byddwch yn gwneud pedwar modiwl dwbl gorfodol, yn ogystal â dau fodiwl sengl gorfodol ac un modiwl dwbl dewisol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Legal StudiesBS150520 Credydau
Contemporary Economic IssuesBS154520 Credydau
Economic HistoryBS154620 Credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau byddwch yn cymryd pum modiwl dwbl gorfodol ac un modiwl dwbl dewisol.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Caiff blwyddyn tri ei threulio ar Leoliad Proffesiynol. Gall hyn fod yn rhan hynod werthfawr o'ch rhaglen gan fod llawer o fanteision y gallwch eu cael ohoni:

  • gallwch gael cymorth drwy gydol y broses ymgeisio a recriwtio drwy weithdai wedi'u teilwra a chyngor un-i-un.
  • byddwch yn cael eich cefnogi tra byddwch ar leoliad. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ymgartrefu yn eu lleoliadau yn gyflym iawn, ond rydym wrth law i helpu ac i roi cyngor os oes arnoch ein hangen ni.
  • dylai eich perfformiad academaidd wella - mae myfyrwyr sy'n cwblhau blwyddyn ar leoliad yn perfformio'n well yn eu blwyddyn olaf yn gyffredinol.
  • byddwch yn cael cipolwg ar sefydliad a gyrfa heb unrhyw ymrwymiadau tymor hir – gallai hyn eich helpu wrth gynllunio eich gyrfa yn y dyfodol.
  • mae’n bosibl y cewch fynd i mewn i sefydliad ar lefel uwch ar ôl cwblhau eich astudiaethau.
  • cewch gyfle i ennill arian wrth astudio.
  • byddwch yn datblygu sgiliau newydd ac yn ychwanegu at eich CV.

Dylid nodi nad yw derbyn y rhaglen hon yn gwarantu y cewch leoliad gwaith. Y myfyriwr sy'n bennaf gyfrifol am sicrhau lleoliad gwaith, ond gall ein tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd eich cynorthwyo i ddod o hyd i rywbeth addas, ac wrth eich paratoi ar gyfer y broses ymgeisio a recriwtio.

Rydym yn eich cynghori'n gryf eich bod yn dechrau'r broses o ddod o hyd i leoliad cyn gynted â phosibl. Mae proses recriwtio llawer o gyflogwyr graddedig yn agor tua blwyddyn cyn i'r lleoliadau ddechrau mewn gwirionedd. Yn aml, mae nifer o gamau i fynd drwyddynt, gan gynnwys canolfannau profi ac asesu seicometrig, a gall y broses gyfan gymryd hyd at bedwar mis (weithiau'n hirach) o'r dechrau i'r diwedd; mae'n bwysig iawn eich bod yn dechrau chwilio'n gynnar.

Rydym yn annog pob myfyriwr yn gryf i ddod o hyd i leoliadau gwaith â thâl a'u trefnu. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried lleoliadau di-dâl ar yr amod ei bod yn amlwg bod y profiad yn eich galluogi i fodloni deilliannau dysgu'r rhaglen, a'ch bod yn gwbl ymwybodol o unrhyw oblygiadau ariannol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Professional PlacementBS4020120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Ym mlwyddyn pedwar, byddwch yn gwneud pum modiwl dwbl gorfodol ac un modiwl sengl fesul semester neu un modiwl dwbl.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Tra bo ein staff, a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth o fewn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil diweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn a chyfoes.

Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.

Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol Cymraeg yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os ydych yn profi unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd ef neu hi yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Fel rheol, eich tiwtor personol sy'n ysgrifennu tystlythyrau ar gyfer ceisiadau am swydd, felly dylech roi gwybod i'ch tiwtor personol am sut rydych chi'n dod ymlaen. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.

I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hwb Myfyrwyr Israddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn rheolaidd. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol ar waith ysgrifenedig, ac adborth ysgrifenedig cyffredinol.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnodau arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.

Sut caf fy asesu?

Assessment methods vary from module to module but, across your degree scheme as a whole, you can expect a mixture of exams, coursework, essays, practical work, presentations, and individual and group projects.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • deall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • dod o hyd i wybodaeth rifol berthnasol, ei dehongli a'i chyflwyno ��� i gefnogi sail adroddiadau prosiect ac achosion busnes
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
  • gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gwybodaeth arall

Defnyddir ein Hystafell Masnachu yn rhan o rai cyrsiau economeg a cyfrifeg ond mae'n agored i holl fyfyrwyr yr Ysgol Busnes. Mae'r cyfleuster hwn yn cael ei oruchwylio gan fyfyrwyr PhD hyfforddedig fydd yn eich helpu i ymgyfarwyddo â'r feddalwedd a'r technegau modelu a ddefnyddir mewn ystafelloedd masnachu go iawn.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae'r rhaglen radd Busnes yn cynnig ystod eang o sgiliau a gaiff eu cymeradwyo gan lawer o gyflogwyr yn sector breifat a'r sector gyhoeddus. Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn swydd a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Yn ogystal â Gwasanaeth Gyrfaoedd canolog y Brifysgol, mae ein myfyrwyr yn elwa o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Lleoliadau ar y campws sy'n eu helpu i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd gwaith a chael mynediad at hyfforddiant, canllawiau a chyngor sy'n benodol i'r diwydiant busnes.

Lleoliadau

Myfyrwyr sy’n gyfrifol am ddod o hyd i'w lleoliadau gwaith eu hunain, er y bydd tîm cyflogadwyedd yr Ysgol yn eu cefnogi. Caniateir i fyfyrwyr sy’n methu a chael gafael ar leoliad gwaith addas drosglwyddo i'r rhaglen 'ddi-leoliad' gyfwerth, gan gymryd bod y gofynion academaidd perthnasol yn cael eu bodloni. Gellir cynnal lleoliadau gwaith yn Saesneg neu yn Gymraeg.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cai

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.