Ewch i’r prif gynnwys

Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol (BSc)

  • Maes pwnc: Deintyddiaeth
  • Côd UCAS: B752
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

scroll

Lleoedd wedi'u hariannu'n llawn ar gael

Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer myfyrwyr BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol a myfyrwyr DipHE Hylendid Deintyddol. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.

rosette

Y 10 uchaf

Un o’r 10 uchaf ar gyfer deintyddiaeth yn y DU (The Complete University Guide 2022).

tick

Dewis cadarn

Fel rhan o'n cynnig i chi, os byddwch yn ein dewis ni fel eich dewis cadarn rydym yn addo cadw eich lle ar gyfer y flwyddyn ganlynol os byddwch yn methu â chael graddau eich cynnig, er mwyn eich galluogi i ailsefyll eich arholiadau.

building

Ennill sgiliau clinigol go iawn

Byddwch yn treulio amser mewn cyfleusterau allgymorth dros Gymru yn yr ail a’r drydedd flwyddyn yn ennill sgiliau clinigol go iawn.

academic-school

Ystafell efelychu £2.2 miliwn

Bydd ein hystafell efelychu fodern a gostiodd £2.2m yn eich paratoi'n berffaith ar gyfer darparu gofal deintyddol i gleifion yn y clinigau modern.

Gan mai ni yw’r unig Ysbyty Deintyddol yng Nghymru bydd gennych gyfle i wasanaethu a rheoli grŵp amrywiol o gleifion sydd ag amrywiaeth eang o glefydau deintyddol.

Mae hylenwyr a therapyddion deintyddol yn gweithio’n agos gydag aelodau eraill o’r tîm deintyddol. Gall hylenydd deintyddol gyflawni triniaethau megis tynnu cen a sgleinio, hybu iechyd y geg a gwneud gwaith selio holltau ataliol ar gyfer oedolion a phlant. Ar ben hynny, mae therapyddion yn gallu cyflawni amrywiaeth o driniaethau adferol (llenwadau) ar gleifion. Mae hefyd yn gallu tynnu dannedd cyntaf, ymgymryd â thriniaethau nerf a gosod coronau wedi’u rhaglunio ar ddannedd sydd wedi pydru’n wael mewn plant. 

Cwrs tair blynedd yw ein rhaglen ac fe'i dilysir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC). Rydym yn cynnig cymysgedd cyffrous o addysgu ac elfennau ymarferol. Mae’r rhaglen fodiwlaidd yn gwneud defnydd integredig o addysgu yn null darlithoedd, seminarau rhyngweithiol, efelychu clinigol ac ymarfer clinigol.

Cewch eich addysgu gan dîm ymroddedig o staff hylendid a therapi deintyddol, a bydd rhyngweithio pellach dan oruchwyliaeth a chyda chefnogaeth ymgynghorwyr a goruchwylwyr gofal sylfaenol. Mae gan lawer enw rhyngwladol yn eu meysydd arbenigedd, fel yr adlewyrchir ym mherfformiad diweddar yr ysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, sydd wedi’i osod yn gyntaf yn y DU o ran ei Uned Asesu.

Mae gennym glinigau deintyddol o’r radd flaenaf sydd ar gael ar draws yr Ysgol, sy’n hwyluso addysgu o’r gadair ochr mewn amgylchedd proffesiynol a gofalgar. Byddwch hefyd yn elwa ar ein cyfleusterau addysgu cyn-glinigol (pen phantom) a adnewyddwyd am £2.2m. Mae gennym Lyfrgell Ddeintyddol benodedig yn yr Ysgol Deintyddiaeth a adnewyddwyd yn ddiweddar. Mae’n gartref i gasgliad eang o lyfrau a mannau astudio preifat i gynorthwyo eich dysgu. Byddwch hefyd yn cael defnyddio ystafelloedd TG israddedig a gwerth £1.5m o ddarlithfeydd.

Mae eich cyfle i ymgysylltu a chymell cleifion a darparu triniaethau clinigol cyfoes yn golygu bod Hylendid a Therapi Deintyddol yn yrfa fydd yn eich ysgogi. Bydd gennych yr holl wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i'ch paratoi ar gyfer amgylchedd gwaith hylendid a therapi deintyddol.

Wrth gymhwyso, bydd clinigwyr yn cofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ac yn gallu gweithio mewn meysydd amrywiol yn y sector deintyddol: ymarfer cyffredinol; clinigau deintyddol cymunedol; ysbytai addysgu ac ysgolion deintyddol yn ogystal â chyfleoedd yn y lluoedd arfog.

Achrediadau

Maes pwnc: Deintyddiaeth

  • academic-schoolYsgol Deintyddiaeth
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2074 2468
  • MarkerParc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XY

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

BBB-BBC. Rhaid cynnwys gradd B mewn Bioleg neu Fioleg Ddynol.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi gael:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- a pedwar TGAU arall ar radd C/4, neu gymwysterau cyfatebol (lefel, pwnc a gradd).

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.

AMODAU CYFRIFIAD
Cyn i chi gychwyn ar eich cwrs, bydd angen i chi gael gwiriad iechyd - gan gynnwys sgrinio am firysau a gludir yn y gwaed - gan ein Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol. Os nad ydych yn imiwn i Hepatitis B, bydd angen i chi gwblhau rhaglen imiwneiddio lawn cyn cymryd rhan mewn gweithdrefnau clinigol.

Bydd angen i chi hefyd fod wedi cael brechiad Tetanws yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.
Nid yw bod â firws a gludir yn y gwaed neu glefydau heintus eraill yn eich atal rhag cwblhau'r cwrs hwn a chael cofrestriad y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, ond ni fydd rhai arbenigeddau yn agored i chi yn ystod hyfforddiant nac yn eich gyrfa.

Os oes gennych fater iechyd y credwch a allai gael effaith ar eich gallu i astudio neu ymarfer, cysylltwch â ni cyn cyflwyno cais. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) a yw'ch cais yn llwyddiannus. Os ydych chi'n gwneud cais o rai gwledydd dramor, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da. Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y gwiriad a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr wahardd fod yn ymwybodol bod gwneud cais i'r cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Feddygol Gymhwysol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Ni fyddwn yn gwneud cynnig heb gyfweliad.

Rhaid i bob ymgeisydd fodloni'r gofynion gofynnol ar Lefel 2 (TGAU fel arfer) a Lefel 3 (Safon Uwch fel arfer) er mwyn bod yn gymwys i'w hystyried ar gyfer cyfweliad.

Fel arfer, caiff ceisiadau eu sgorio yn ôl y 5 TGAU uchaf (neu gyfwerth), gan gynnwys pynciau gorfodol.  Bydd y datganiad a'r cyfeiriad personol hefyd yn cael eu gwerthuso.  Bydd y rhai sydd eisoes wedi bodloni'r holl ofynion mynediad gofynnol (dim graddau disgwyliedig) yn cael 1 pwynt ychwanegol.  Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno datganiad personol boddhaol a chyfeiriad at fod yn gymwys i'w hystyried ar gyfer cyfweliad.

Rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad a mynediad teg, ac yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir.

Fel arfer, bydd yr ymgeiswyr sy'n sgorio uchaf, gyda datganiad personol a chyfeiriadau addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad.  Os oes gan ymgeiswyr yr un sgôr, gellir ystyried elfennau eraill o'r cais.

Bydd ymgeiswyr sy'n byw yng Nghymru sydd wedi cwblhau cwrs Mynediad at Addysg Uwch Lefel 3 neu 4 sy'n seiliedig ar wyddoniaeth gyda swm priodol o Fioleg hefyd yn cael eu gwahodd i gyfweliad fel arfer. Mae angen o leiaf 45 credyd ar Lefel 3 (30 credyd ar Ragoriaeth a 15 ar Deilyngdod) i fodloni telerau'r cynnig os yw'n llwyddiannus yn y cyfweliad.  Rhaid bodloni gofynion Lefel 2 hefyd, a'r datganiad personol a'r geirdaon yn foddhaol.

Ein proses gyfweld

Rydym yn defnyddio fformat cyfres o gyfweliadau byr (MMI), sef cyfres o orsafoedd cyfweld byr, wedi'u hamseru'n ofalus, y byddwch chi'n mynd o un i'r nesaf yn eu tro.

Mae'r cyfweliadau hyn yn ein helpu i benderfynu a ydych chi:

  • yn gallu meddwl am ateb yn y fan a'r lle
  • wedi meddwl am rai o'r materion sy'n bwysig i'r proffesiwn
  • yn gallu gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol
  • yn gallu cyfleu syniadau yn effeithiol.

Maent hefyd yn canolbwyntio ar archwilio'r rhinweddau a'r priodoleddau personol sy'n bwysig i ddatblygiad eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae'r cyfweliadau hyn yn caniatáu inni gwrdd â chi wyneb yn wyneb ac asesu gwybodaeth nad yw bob amser yn hawdd ei chael yn y broses ymgeisio - ni fwriedir iddynt brofi faint o wybodaeth flaenorol sydd gennych am y pwnc na'r proffesiwn.

Cwestiynau Cyffredin

Ni chymerais y pynciau cywir ar gyfer Safon Uwch (neu gyfwerth).  Beth yw fy opsiynau?

Gallwch gymryd y cymhwyster gofynnol ar unrhyw adeg. Gellir ystyried rhai cymwysterau Lefel 3 eraill hefyd.

Wnewch chi dderbyn canlyniadau arholiadau a ail-gymerwyd?

Rydym yn derbyn canlyniadau arholiadau a ail-gymerwyd ar gyfer TGAU (neu gyfwerth) a Safon Uwch (neu gyfwerth).

Beth ydych chi'n edrych amdano yn y datganiad personol?

Mae'n rhaid i'r datganiad personol ddangos tystiolaeth o'r canlynol:

  • tystiolaeth o ymrwymiad i yrfa yn y proffesiynau deintyddol
  • tystiolaeth o rinweddau a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gofal iechyd deintyddol
  • tystiolaeth o brofiad gwaith neu wybodaeth am natur y proffesiynau deintyddol

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer y rhaglen hon. Mae'n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw'n ad-daladwy ar gyfer costau byw, ac mae ar gael i ymgeiswyr 'r DU. Mae manylion llawn, gan gynnwys gwybodaeth i ymgeiswyr o'r UE, ar gael ar ein tudalennau ynghylch cyllid GIG.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Mae lleoliad GIG yn rhan angenrheidiol o'r cwrs hwn. Mae'r GIG yn trefnu lleoliadau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n gymwys i dalu ffioedd DU yn unig. Felly, nid yw'r cwrs hwn ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn cynnig 2 raglen sydd â chysylltiad agos â’i gilydd: Diploma mewn Hylendid Deintyddol (rhaglen ddwy flynedd) a BSc mewn Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol (rhaglen tair blynedd), ac mae’r ddwy yn fodiwlaidd, ac yn rhedeg ochr yn ochr ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf.

Mae blynyddoedd dau a thri yn cynnig cyfleoedd i chi fynychu lleoliadau clinigol mewn clinigau deintyddol allgymorth lleol, gan ddarparu triniaeth i'r cyhoedd mewn sefyllfaoedd sy’n debyg iawn i faes ymarfer cyffredinol. Yn rhai o'r meysydd hyn byddwch yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr deintyddiaeth gan ddefnyddio dull gwaith tîm o ofalu am gleifion.

Drwy gydol y rhaglenni, mae addysgu a gweithredu proffesiynoldeb yn hollbwysig. Cewch eich dysgu am agweddau ar y gyfraith a moeseg mewn deintyddiaeth yn ogystal â materion ymarferol sy’n ymwneud â thriniaethau deintyddol, ac i gydnabod pwysigrwydd a rheidrwydd eich datblygiad gydol oes a phroffesiynol.

Mae eich cyfle i ymgysylltu a chymell cleifion a darparu triniaethau clinigol cyfoes yn golygu bod therapi a hylendid deintyddol yn yrfa fydd yn eich ysgogi.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio gwyddorau biofeddygol, pynciau clefyd dynol a chlefyd y geg a sut i'w atal. Bydd modiwl rhagarweiniol ar ymarfer clinigol yn cael ei gynnal yn ystod tymor dau, gyda’r nod o’ch paratoi ar gyfer eich cyswllt cyntaf â chleifion yn nhymor tri.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Gwyddorau BiofeddygolDE710220 Credydau
Clefydau DynolDE710320 Credydau
Clefydau Llafar a'u AtalDE710420 Credydau
Radiograffeg Deintyddol (Blwyddyn 1)DE710510 Credydau
Cyflwyniad i Ddeintyddiaeth GlinigolDE711130 Credydau
Ymarfer clinigolDE711220 Credydau

Blwyddyn dau

Yn ystod blwyddyn dau bydd pynciau eich cwrs yn cynnwys radioleg ddeintyddol, meddygaeth y geg ac iechyd cyhoeddus deintyddol. Yna bydd y pwyslais ar gyfnodontoleg (clefyd y deintgig) a'i driniaeth glinigol. Yn ystod y flwyddyn hon byddwch hefyd yn rheoli eich cleifion eich hun o dan oruchwyliaeth.

Ym Mlynyddoedd 2 a 3, byddwch yn mynychu lleoliadau clinigol mewn clinigau deintyddol allgymorth ledled Cymru, gan ddarparu triniaeth i'r cyhoedd mewn sefyllfaoedd sy'n gysylltiedig yn agos â maes ymarfer cyffredinol.

Blwyddyn tri

Mae'r pwyslais yn parhau gydag ymarfer clinigol pediatrig ac oedolion yn ogystal â phrosiect ymchwil diwedd blwyddyn.

Mae blynyddoedd dau a thri yn cynnig cyfleoedd i chi fynychu lleoliadau clinigol mewn clinigau deintyddol 'allgymorth' lleol, gan ddarparu triniaeth i'r cyhoedd deintyddol mewn sefyllfaoedd sy’n debyg iawn i faes ymarfer cyffredinol. Yn rhai o'r meysydd hyn byddwch yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr deintyddol gan ddefnyddio dull gweithio mewn tîm o ofalu am gleifion.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Prosiect YmchwilDE730130 Credydau
Ymarfer Clinigol PediatrigDE730430 Credydau
Paratoi ar gyfer YmarferDE730520 Credydau
Ymarfer Clinigol OedolionDE730640 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae’r addysgu ar y rhaglen yn integredig, felly byddwch yn dysgu am brosesau gwyddonol a phatholegol gwaelodol clefydau deintyddol a’r geg ar yr un pryd â chaffael y sgiliau clinigol i reoli cleifion yn briodol. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyfoethogi eich profiad dysgu. Mae'r rhain yn cynnwys darlithoedd, seminarau grŵp bach a sesiynau tiwtorial, addysgu clinigol uniongyrchol a phecynnau e-ddysgu. Cewch eich annog i ymchwilio i bynciau ac, ar adegau, i gyflwyno gwaith i'ch cymheiriaid.

Caiff gwybodaeth, sgiliau ac agweddau proffesiynol eu hasesu'n ffurfiannol ac yn grynodol trwy gydol y cwrs, gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau asesu. Mae tasgau asesu yn cynnwys arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau achos clinigol, profion sgiliau ymarferol, prosiectau, portffolios, asesiadau cymhwysedd, asesiadau ar-lein, cyflwyniadau llafar ac arholiadau clinigol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cefnogaeth tiwtoriaid personol yn yr Ysgol Deintyddiaeth. Pan fyddwch chi ar leoliadau, cewch eich cefnogi gan arweinydd clinigol profiadol.

Byddwn yn cyfathrebu'n gyffredinol trwy Dysgu Canolog, Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, y mae gan bob myfyriwr fynediad iddo. Bydd nodiadau o ddarlithoedd a deunyddiau eraill y cwrs, yn ogystal ag asesiadau ar-lein, ar gael ar Dysgu Canolog. Mae ein Gwasanaeth SMS hefyd yn caniatáu i wybodaeth bwysig gael ei hanfon yn uniongyrchol i ffonau symudol.

Mae'r Ysgol Deintyddiaeth yn gweithredu polisi cwricwlwm cynhwysol. Mae hyn yn golygu, ar gyfer y rhan fwyaf o asesiadau academaidd, y gellir gwneud addasiadau rhesymol yn unol ag argymhellion gan y gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr. Disgwylir safonau proffesiynol uchel, ac er y bydd addasiadau rhesymol yn cael eu bodloni gymaint â phosibl, bydd angen i'r Ysgol ystyried gofynion y Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Os oes gennych bryderon ynghylch addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch, rydym yn hapus i drafod natur, goblygiadau ac atebion posibl fel rhan o'r broses cyn ymgeisio.

Adborth

Darperir adborth ffurfiannol yn dilyn tasgau asesu ac yn ystod cyfarfodydd clinigol ar lafar ac fel adborth ysgrifenedig a gofnodwyd yn ddigidol. Anogir myfyrwyr i ddefnyddio adborth wedi'i bersonoli i lywio eu dysgu yn y dyfodol. Mae'r asesiadau ar bob lefel wedi'u hamserlennu ar adegau priodol, a gellir eu hadnabod mewn glasbrint asesu.

Sut caf fy asesu?

The assessment schedule is designed to demonstrate that you have: 

  • attained the standards required by Cardiff University for the award of a Bachelor of Science in Dental Hygiene and Dental Therapy;

  • achieved the required level of competency to become an independent practising dental hygienist/therapist having met the registration standards expected by the General Dental Council (GDC)

This will be measured across four domains identified by the GDC: clinical, communication, professionalism, management and leadership (Preparing for Practise 2015).

For further information please visit the GDC website: www.gdc-uk.org

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

  • Sgiliau Clinigol. Byddwch yn datblygu'r sgiliau clinigol sy'n ofynnol i raddio fel therapydd/hylenydd deintyddol gweithredol annibynnol.
  • Gweithio mewn tîm. Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau grŵp, gan weithio mewn parau a newid am yn ail rhwng gweithredu a chynorthwyo. Mae hyn yn datblygu eich gallu i gydweithio. Rydym yn sicrhau y byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tîm deintyddol ehangach, gan gynnwys: Ymgynghorwyr y GIG, gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol, nyrsys deintyddol, technegwyr deintyddol a staff gweinyddol.
  • Sgiliau cyfathrebu cryf. Byddwch yn datblygu'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gydol y cwrs, o ddarlithoedd ffurfiol i ryngweithio ag unigolion o wahanol gefndiroedd. Disgwylir i chi ddangos y gallu hwn trwy ymrwymiad i eBortffolio arfer myfyriol.
  • Dysgu hunan-gyfeiriedig. Disgwylir i chi ymrwymo cryn dipyn o amser i ddysgu hunan-gyfeiriedig, gan ddefnyddio'r adnodd gwybodaeth eang a ddarperir. Bydd eich gallu i arwain eich dysgu a'ch datblygiad yn hanfodol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol parhaus.
  • Technoleg gwybodaeth. . Caiff sgiliau eu datblygu trwy Ddysgu â Chymorth Cyfrifiadur, Prosesu Geiriau, Pecynnau Ystadegol, meddalwedd Cyflwyno, sgiliau gwybodaeth a'r system cadw lle i gleifion a chofnod electronig ar gyfrifiadur, SALUD.

Ar ôl graddio, o ganlyniad i ymgysylltu'n llawn â'r cwrs, byddwch yn gallu:

  • cyflawni'r gofynion a'r cwricwlwm a gyflwynir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol;
  • deall y prif ddisgyblaethau sy'n berthnasol i rôl hylenwyr a therapyddion deintyddol;
  • hyrwyddo sgiliau gweithio mewn tîm gyda gwerthfawrogiad o weithio mewn amgylchedd amlddiwylliannol;
  • delio â sefyllfaoedd clinigol a rheoli cleifion;
  • cyfrannu at y gweithlu deintyddol;
  • dangos annibyniaeth feirniadol, gonestrwydd deallusol a sgiliau ymarferol yng nghyd-destun ymarfer clinigol diogel;
  • dangos cymhwysedd yn yr amrywiaeth o weithdrefnau a nodwyd gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym ymhlith rhai o ysgolion deintyddol gorau’r DU o ran cyflogadwyedd – yn 2017, sicrhaodd 100% o’n myfyrwyr israddedigion swydd yn y DU 6 mis ar ôl ennill eu cymwysterau Ffynhonnell: Cofnod Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch Unistats.

Wrth gymhwyso, bydd clinigwyr yn cofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ac yn gallu gweithio mewn meysydd amrywiol yn y sector deintyddol: ymarfer deintyddol cyffredinol; clinigau deintyddol cymunedol; ysbytai addysgu ac ysgolion deintyddol yn ogystal â chyfleoedd yn y lluoedd arfog.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Ymarfer Deintyddol Arbenigol/Cyffredinol
  • Ymarfer Deintyddol Cymunedol
  • Ymchwil Feddygol

Lleoliadau

Mae blynyddoedd dau a thri yn cynnig cyfleoedd i chi fynychu lleoliadau clinigol mewn clinigau deintyddol allgymorth lleol, gan ddarparu triniaeth i'r cyhoedd deintyddol mewn sefyllfaoedd sy’n debyg iawn i faes ymarfer cyffredinol. Yn rhai o'r meysydd hyn byddwch yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr deintyddiaeth gan ddefnyddio dull gwaith tîm o ofalu am gleifion.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.