Ewch i’r prif gynnwys

Economeg Busnes gydag Iaith Ewropeaidd (Ffrangeg) (BSc)


Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Treuliwch flwyddyn dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd wrth i chi ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith.

location

Wedi'i deilwra i’ch diddordebau

Arbenigwch mewn economeg ddiwydiannol, hanes economaidd, economeg llafur neu economeg ryngwladol.

building

Ystafell fasnachu o’r radd flaenaf

Paratowch eich hun ar gyfer masnachu a rheoli risg mewn amgylchedd rheoledig gydag Investor Simulations, TRETS a Bloomberg.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

certificate

Nodwyd am ragoriaeth

Achrededig gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB).

Mae rhaglen radd Economeg Busnes gyda Ffrangeg yn cynnig dealltwriaeth o theori economaidd i fyfyrwyr, yn enwedig nodweddion strwythur a rheoli mentrau busnes modern. Mae hefyd yn ceisio darparu lefel uchel o gymhwysedd mewn Ffrangeg a gwybodaeth am economi Ffrainc.

Amcan y rhaglen yw eich addysgu am brif nodweddion economi ddiwydiannol y DU a'r datblygiadau allweddol mewn busnes.

Byddwch yn ystyried polisi busnes y llywodraeth a pholisïau busnes rhyngwladol gan nodi eu goblygiadau ar ddatblygiad marchnadoedd a chwmnïau. Cewch hefyd eich cyflwyno i feysydd y tu hwnt i economeg ynghyd â'r cyfle i ddilyn modiwlau mewn arian busnes, y farchnad ac elfennau eraill o reoli.

Drwy astudio Economeg Busnes a Ffrangeg, mae'r rhaglen yn annog amrywiaeth o sgiliau penodol i’r maes a chraidd trosglwyddadwy a fydd o werth i chi mewn addysg yn y dyfodol ac yn eich gyrfa ddilynol.

Achrediadau

Maes pwnc: Economeg

  • academic-schoolYsgol Busnes Caerdydd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys Ffrangeg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Ffrangeg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn Busnes, a gradd B mewn Ffrangeg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.


Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement
  • contact with people related to Cardiff University.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,350 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £19,700 Dim
Blwyddyn dau £19,700 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £2,955 Dim
Blwyddyn pedwar £19,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs Economeg Busnes gyda Ffrangeg yn gwrs astudio amser llawn 4 blynedd, sy'n cynnwys modiwlau gorfodol a dewisol ym mhob un o’r 4 blynedd. Mae myfyrwyr fel arfer yn ennill 120 credyd bob blwyddyn a 480 i gyd.

Addysgir cyfran sylweddol o'r modiwlau sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen gan Adran Economeg yr Ysgol Busnes. Addysgir rhai modiwlau, yn enwedig ym mlwyddyn un, gan adrannau eraill o'r Ysgol Busnes. Addysgir y modiwlau iaith gan Ysgol Ieithoedd Modern y Brifysgol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/2023. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn un, byddwch yn cymryd dau fodiwl dwbl gorfodol, yn ogystal ag un modiwl dwbl gorfodol pellach fesul semester (Microeconomeg, a Macroeconomeg) mewn Economeg Busnes yn ogystal â modiwl iaith gorfodol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Applied Stats and Maths in Econ and BusinessBS150120 Credydau
Economic HistoryBS154620 Credydau
MicroeconomicsBS155120 Credydau
MacroeconomicsBS165220 Credydau
Advanced French Language Year 1ML618840 Credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau byddwch yn cymryd 60 credyd o fodiwlau craidd yn yr Ysgol Busnes a 60 credyd o fodiwlau craidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Mae blwyddyn tri yn cynnwys blwyddyn o astudio mewn prifysgol yn Ffrainc neu'r Swistir yn rhan o'ch gradd. Mae'r rhaglen astudio yn amodol ar gymeradwyaeth Ysgol Busnes Caerdydd a bydd yn cyfateb i 6 modiwl dwbl neu 12 modiwl sengl yn Ysgol Busnes Caerdydd (120 credyd). Bydd yn cynnwys modiwlau mewn economeg, rheoli, busnes, cyfrifeg ac ati. Caiff y rhain eu haddysgu a'u hasesu yn Ffrangeg, gan ddarparu cymhwysedd yn yr iaith o fewn fframwaith cyfrifeg ac economeg. Rydym wedi datblygu cysylltiadau â nifer o brifysgolion neu sefydliadau cyfatebol yn Ffrainc, Sbaen, y Swistir a'r Almaen. Ein bwriad fyddai i bob grŵp o'r Ysgol mewn unrhyw sefydliad lletyol gynnwys dau i bedwar myfyriwr. Gall myfyrwyr sy'n astudio yn Ewrop yn rhan o'u rhaglen radd fod yn gymwys i gael grant gan gynllun Erasmus, a weithredir gan y Cyngor Prydeinig.

Mae gennym gytundebau partneriaeth rhyngwladol gyda sefydliadau o safon uchel yn Ewrop ac ar hyn o bryd mae gennym gytundebau cyfnewid gyda:

Yn Ffrainc:

  • BBA ESSEC Ecole de Management International
  • Ysgol Rheolaeth Audencia Nantes
  • Universite Pantheon-Assas, Paris II
  • Ysgol Busnes Toulouse
  • ESSCA Ecole de Management

Yn y Swistir

  • Prifysgol Lausanne

Blwyddyn pedwar

Ym mlwyddyn pedwar byddwch yn cymryd 60 credyd o fodiwlau craidd a 30 credyd o fodiwlau dewisol yn yr Ysgol Busnes, ochr yn ochr â modiwl 30 credyd craidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. (Noder: Ni ellir dyblygu teitlau modiwlau wrth ddewis modiwlau dewisol)

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
EconometricsBS355120 Credydau
International Economic HistoryBS355620 Credydau
Labour EconomicsBS355820 Credydau
International TradeBS356820 Credydau
Industrial EconomicsBS357220 Credydau
Economic Statistics in Theory and PracticeBS357820 Credydau
Development EconomicsBS359520 Credydau
EconometricsBS955110 Credydau
International Economic HistoryBS955610 Credydau
Labour EconomicsBS955810 Credydau
International TradeBS956810 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Tra bo ein staff, a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth o fewn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil diweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn a chyfoes.

Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.

Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol Cymraeg yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os ydych yn profi unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd ef neu hi yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.

I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hwb Myfyrwyr Israddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn rheolaidd. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol ar waith ysgrifenedig, ac adborth ysgrifenedig cyffredinol.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol ar ôl pob cyfnod arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.

Sut caf fy asesu?

Assessment methods vary from module to module but, across your degree scheme as a whole, you can expect a mixture of exams, coursework, essays, practical work, presentations, and individual and group projects.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • deall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • dod o hyd i wybodaeth rifol berthnasol, ei dehongli a'i chyflwyno ��� i gefnogi sail adroddiadau prosiect ac achosion busnes
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a phecynnau meddalwedd safonol, lle bo hynny'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gwybodaeth arall

Defnyddir ein Hystafell Masnachu yn rhan o rai cyrsiau economeg a cyfrifeg ond mae'n agored i holl fyfyrwyr yr Ysgol Busnes. Mae'r cyfleuster hwn yn cael ei oruchwylio gan fyfyrwyr PhD hyfforddedig fydd yn eich helpu i ymgyfarwyddo â'r feddalwedd a'r technegau modelu a ddefnyddir mewn ystafelloedd masnachu go iawn.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i gyflawni eich dyheadau proffesiynol, gan roi’r sgiliau, y chwilfrydedd a’r hyder i chi adael eich marc mewn marchnad swyddi gystadleuol. P’un a oes gennych syniad clir o’r hyn yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu ddim syniad o gwbl, mae gennym yr adnoddau a’r cymorth i’ch tywys chi.

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth o ddiwydiannau a phroffesiynau gan gynnwys bancio a rheoli cyllid, logisteg a rheoli cadwyni cyflenwi, Llywodraeth y DU a'r Gwasanaeth Sifil, a dadansoddi data.

Yn yr Ysgol Fusnes mae gennym Ganolfan Gyrfaoedd bwrpasol sy'n cynnig cefnogaeth benodol i fusnes, gan gynnwys lleoliadau diwydiannol, interniaethau, profiad gwaith a mewnwelediadau.

Byddwch yn elwa ar ymgynghoriadau gyrfa, gweithdai cyfweliadau ac ysgrifennu CV, digwyddiadau diwydiant-benodol ac asesiadau seicometrig arbenigol a hyfforddiant sgiliau eang.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Cyfrifydd, Dadansoddwr Busnes, Economegydd, Darlithydd, Rheolwr AD, Gweithredwr Marchnata, Rheolwr Cynhyrchu
  • Brocer Stoc.

Lleoliadau

Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd ennill profiad gwaith yn ystod eich astudiaethau. Mae ein Rheolwr Lleoliadau Gwaith dynodedig yn cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau am swyddi a thechnegau cyfweliad hefyd ar gael gan Ymgynghorydd Gyrfaoedd mewnol yr Ysgol Busnes.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.