Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddorau Biolegol (Sŵoleg) gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (BSc)

  • Maes pwnc: Sŵoleg
  • Côd UCAS: C301
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod

Pam astudio'r cwrs hwn

Sŵoleg yw'r astudiaeth o bob math o anifeiliaid, gan gynnwys eu hanatomi, eu ffisioleg, eu geneteg, a'u haddasiadau ar gyfer goroesi ac atgenhedlu mewn amgylcheddau gwahanol. Mae hon yn wybodaeth hollbwysig os ydym am gynnal amgylcheddau naturiol iach, rheoli plâu ac afiechydon, gwarchod bioamrywiaeth a diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl.

Mae ein gradd Gwyddorau Biolegol (Sŵoleg) wedi'i hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb ym maes eang bioleg anifeiliaid. Mae'n gwrs gwirioneddol ryngddisgyblaethol sy'n tynnu ar y cryfderau ymchwil a geir ledled yr Ysgol. Yn ogystal â rhoi sylw i esblygiad ac amrywiaeth y prif grwpiau o anifeiliaid, cewch hefyd y cyfle i astudio modiwlau ecoleg, ffisioleg a geneteg. Mae gennym arbenigedd penodol ym meysydd ymddygiad a swyddogaeth yr ymennydd, a byddwch yn astudio ymddygiad a niwrowyddoniaeth yn rhan o'r cwrs hwn.

Mae cysylltiad agos rhwng cynnwys y cwrs a diddordebau ymchwil ein staff (mae llawer ohonynt yn arweinwyr yn eu maes); mae hyn yn eich galluogi i fwynhau’r cyffro o ddysgu mewn amgylchedd ymchwil gweithredol, ac yn helpu i sicrhau bod y pynciau rydych chi'n ymdrin â nhw yn hynod amserol, ac yn berthnasol ac yn bwysig yn y byd sydd ohoni.

Yn rhan o'r cwrs hwn byddwch yn treulio eich trydydd flwyddyn ar leoliad mewn canolfan maes, sefydliad sŵolegol neu fotanegol, amgueddfa, labordy ymchwil diwydiannol, neu sefydliad cymeradwy arall o'ch dewis. Mae’n gyfle gwych i ennill profiad ymchwil proffesiynol uniongyrchol, a gwyddwn ei fod yn gwella'ch gradd ac yn rhoi cryn hwb i’ch rhagolygon dilynol wrth chwilio am swydd. Yn y DU y cynhelir llawer o’r lleoliadau, ond mae ein myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau dramor hefyd, gan gynnwys yn Ne-ddwyrain Asia, De Affrica, yr Almaen, yr Eidal, Awstralia, Madagascar, ac UDA.

Mae ein gradd Sŵoleg yn cynnig digonedd o gyfleoedd ar gyfer gwaith maes ymarferol hefyd, gan eich galluogi i gael profiad ymarferol o dechnegau ymchwil maes. Yn ogystal â chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil maes trwy gydol eich cyfnod yng Nghaerdydd, gallwch hefyd ddewis o blith cyrsiau maes arbenigol sy’n seiliedig ar brojectau yn y DU a thu hwnt.

Yn yr un modd â phob un o'r graddau yn Ysgol y Biowyddorau, mae ein cwrs Sŵoleg yn cynnig yr hyblygrwydd i deilwra'r cwrs i'ch diddordebau a'ch dyheadau gyrfaol eich hun. Mae teitl eich gradd yn hyblyg hefyd hyd at eich blwyddyn olaf, fel y gallwch naill ai barhau â BSc Gwyddorau Biolegol (Sŵoleg) nes byddwch yn graddio, neu newid i un arall o'n graddau biowyddorau yn ystod eich dwy flynedd gyntaf o astudio.

Bydd teitl eich gradd derfynol yn dibynnu ar y modiwlau a ddewiswch, a bydd eich Tiwtor Personol yn eich tywys trwy'r opsiynau sydd ar gael i chi. Efallai y bydd gennych hefyd yr opsiwn o newid i'n gradd meistr integredig pedair blynedd MBiol, sy'n sail ardderchog ar gyfer gyrfa ym maes ymchwil wyddonol yn y dyfodol.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig sylfaen ragorol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd yn ogystal â hyfforddiant cryf i wyddonwyr ymchwil. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd cyffrous a boddhaus ym meysydd gwyddonol ac anwyddonol, gan gynnwys ecoleg forol, bioleg, ymchwil a chadwraeth maes neu sw, cyfraith amgylcheddol, ymchwil fiofeddygol, cyhoeddi gwyddonol, newyddiaduraeth, addysgu a gwyddoniaeth filfeddygol. Mae llawer hefyd yn dewis mynd â'u hastudiaethau ymhellach trwy ddilyn gradd meistr neu PhD.

Nodweddion nodedig

  • Enjoy a flexible course structure that enables you to tailor your degree to match your interests and aspirations.
  • Enhance your career prospects and gain professional research experience with a sandwich year placement.
  • Develop your field research skills with one of our popular project-based field courses. Opt for one of our UK-based courses or choose to travel further afield to locations such as Tobago or Borneo.
  • Experience the excitement of learning in active research environment, with teaching staff who are leading researchers in their field.
  • Make use of the latest equipment, techniques and facilities in your project work.
  • The School of Biosciences offers exciting training opportunities with a conservation-focused field centre in Borneo and strong involvement in the University's Sustainable Places Research Institute.

Maes pwnc: Sŵoleg

  • academic-schoolYsgol y Biowyddorau
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4119
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid cynnwys Bioleg (neu Fioleg Ddynol) neu Gemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, Gwyddoniaeth Fforensig, neu Reoli Anifeiliaid gyda Rhagoriaeth ym mhob un o'r Unedau Craidd/Gorfodol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,800 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £5,640 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Mae cyrsiau maes a gynhelir dramor yn golygu costau ychwanegol ��� yn bennaf o ran llety a theithio’r myfyrwyr. Rydym yn ymdrechu i gadw'r rhain cyn lleied â phosibl, er enghraifft rydym yn cadw ein Gorsaf Maes a’n staff ein hunain yn Borneo, ac nid yw’r costau hyn yn cael eu hadfer o ffioedd i fyfyrwyr. Rydym yn cynnig rhai cyrsiau maes ardderchog yng Nghymru hefyd nad ydynt yn arwain at gostau ychwanegol.

Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer agweddau eraill ar hyfforddiant, er y gallai rhai gwasanaethau (fel myfyrwyr yn argraffu yn ôl y galw) godi ffi.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs BSc hwn yn llawn amser dros bedair blynedd academaidd. Mae'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd, gyda thri modiwl 40 credyd yn cael eu haddysgu yn yr ail flwyddyn. Mae’r drydedd flwyddyn yn cael ei threulio ar leoliad proffesiynol ac, yn y flwyddyn olaf, mae’r prosiect ymchwil yn cario 30 o gredydau ac yn cael ei wneud ochr yn ochr â thri modiwl 30 credyd. Er ein bod yn ceisio cynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl wrth wneud ein cyrsiau, gellir cyfyngu ar y dewis o fodiwlau ar sail Gradd Mynediad i sicrhau capasiti ar fodiwlau craidd y mae’n rhaid eu gwneud wrth astudio ar gyfer rhai graddau.

Mae modiwlau blwyddyn un yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial ategol sy’n rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol gefndir yn ogystal â dosbarthiadau ymarferol. Mae ein cynlluniau gradd amrywiol yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin, sy’n rhoi sylw i’r holl agweddau ar y biowyddorau ac mae ganddynt y fantais o gynnig hyblygrwydd o ran eich dewis gradd. Mae dosbarthiadau’n rhoi sgiliau TG biolegwyr i fyfyrwyr a dealltwriaeth o ddadansoddi data yn ystadegol, a defnyddir gwaith cwrs i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.

Yn yr ail flwyddyn, mae sesiynau ymarferol helaeth mewn labordai yn helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a’r gallu i werthuso data arbrofol yn feirniadol. Defnyddir aseiniadau a osodwyd a deunydd darllen i hyrwyddo dysgu hunangyfeiriedig a dadansoddi llenyddiaeth ymchwil sylfaenol.

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol sy’n berthnasol i’ch gradd. Yn ystod y lleoliad hwn byddwch yn ymgymryd â phob agwedd ar ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofol, caffael a dadansoddi data ac, yn olaf, cyflwyno data.

Yn y flwyddyn olaf, mae angen astudio'n llawer mwy annibynnol, ac mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr baratoi adroddiad cynhwysfawr sy’n seiliedig ar ymchwil (labordy, llenyddiaeth, addysgeg, neu ymrwymiad gwyddonol).

Drwy gydol cyfnod y cwrs rydym yn ymdrechu i gynnig dewis mor eang â phosibl i’ch caniatáu i deilwra eich gradd i’ch nodau astudio.

Mae’r modiwlau a ddengys yn enghreifftiau o’r cwricwlwm arferol, a chânt eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/2. Cyhoeddir y modiwlau terfynol ym mis Medi 2021.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau ar gyfer GwyddoniaethBI100120 Credydau
Strwythur a Swyddogaeth Organebau BywBI100220 Credydau
Organebau a'r AmgylcheddBI100320 Credydau
Y Cell DynamigBI100420 Credydau
Cemeg FiolegolBI101420 Credydau
Geneteg ac EsblygiadBI105120 Credydau

Blwyddyn dau

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Amrywiaeth ac Addasu AnifeiliaidBI213140 Credydau
Geneteg a'i ChymwysiadauBI213240 Credydau
Ecoleg Rhan ABI213530 Credydau
Ecoleg Rhan BBI213610 Credydau
Bioleg CelloeddBI223140 Credydau
BiocemegBI223240 Credydau
Bioleg Celloedd Datblygiadol a Bôn-gelloeddBI223340 Credydau
Bioleg Foleciwlaidd y genynBI223440 Credydau
FfisiolegBI233140 Credydau
Cysyniadau o GlefydBI233240 Credydau
Anatomeg YmarferolBI233340 Credydau
Ymennydd ac YmddygiadBI243140 Credydau
Niwrowyddoniaeth SylfaenolBI243240 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Blwyddyn SandwichBI9999120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym yn rhoi profiad addysgol sy’n rhoi’r myfyriwr yn gyntaf yn seiliedig ar ragoriaeth academaidd ac mae wedi'i lywio gan ymchwil sy'n arwain y byd. Rydym yn ceisio cefnogi pob dysgwr mewn diwylliant dysgu cynhwysol.

Byddwch yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth graidd trwy ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarferol neu waith maes, seminarau ymchwil, gweithdai a thiwtorialau, a byddwch yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth ar lefel uwch drwy astudio'n annibynnol, gweithio mewn grwpiau a gwaith prosiect.

Disgwylir i chi gynnal astudiaeth annibynnol a disgwylir mwy o annibyniaeth o ran dysgu wrth i'r cwrs fynd rhagddo.

Gall fod elfennau dethol o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a gallwch hefyd ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer cymorth academaidd a chymorth bugeiliol, pe byddech yn dymuno hynny.

Bydd myfyrwyr ag anableddau yn cael cefnogaeth lawn mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Cefnogi Anabledd a Dyslecsia’r Brifysgol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein holl staff academaidd yn ymchwilwyr profiadol yn eu priod feysydd ac maen nhw’n angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda myfyrwyr.

Byddwch yn rhyngweithio â staff academaidd yn bennaf yn ystod darlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (sesiynau tiwtorial). Bydd myfyrwyr hefyd yn cael tiwtor personol fydd yn cynnig cymorth bugeiliol a chyngor academaidd drwy gydol cyfnod y cwrs.

Mae drws ein staff darlithio ar agor o hyd i fyfyrwyr sydd ag ymholiadau penodol am ddeunydd cwrs, neu system lle mae modd trefnu cyfarfodydd. Gallwch gysylltu â nhw trwy ebost hefyd, yn ogystal â siarad â nhw yn ystod y sesiynau addysgu.

Mae gan bob cwrs gradd gydlynydd cynllun gradd hefyd sy’n gallu eich cynghori ar faterion academaidd, ac mae gan bob blwyddyn astudio gydlynydd blwyddyn sy’n gallu cynghori ar faterion gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r cwrs. Hefyd, mae Swyddfa Addysg hwylus gyda gweinyddwyr cyfeillgar a phrofiadol sy’n gallu ateb y rhan fwyaf o ymholiadau gweinyddol hefyd.

Adborth
Cewch adborth ar eich astudiaeth, eich gwaith a’ch cynnydd mewn sawl ffordd, o sylwadau ysgrifenedig ffurfiol ar eich gwaith a gyflwynwyd i sgyrsiau mwy anffurfiol a chyngor yn ystod dosbarthiadau a sesiynau ymarferol.

Drwy gydol cyfnod y cwrs, byddwn yn rhoi adborth manwl ar yr holl waith cwrs a asesir. Fel arfer, rhoddir hyn ar-lein drwy system 'Grademark', sy'n eich galluogi i weld eich adborth yn hwylus trwy ddyfais llechen neu gyfrifiadur.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich cynnydd academaidd a’ch datblygiad personol gyda'ch Tiwtor Personol, a thrafod papurau arholiad traethawd er mwyn gwella eich perfformiad. Yn ystod y gwaith ymarferol a’r prosiect ymchwil, cewch adborth ychwanegol yn rheolaidd gan y staff academaidd sy’n eich goruchwylio.

Sut caf fy asesu?

First and second year modules are usually assessed through a combination of coursework and examinations. All modules include coursework assessments, which may take the form of written practical reports, structured reports, class tests, structured answer tests, group work, poster and oral presentations and computing/statistical problem-solving exercises. Assessments may be summative and count towards the final module mark, or formative, helping you to learn and practice key skills and knowledge through feedback.

Examinations at the end of each module comprise a machine-marked, structured answer section (assessing breadth of knowledge) and a written answer section (assessing depth of knowledge in specific topics).  

During the Professional Training Year you will produce a placement report, which will count towards your final degree assessment.

In the final year, taught modules are assessed by examination and extended analytical coursework. Your final year research project is assessed by a supervisor’s evaluation and a written report.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  1. Dadansoddi, cyfosod a chrynhoi deunydd sy'n berthnasol i ystod eang o bynciau yn y Biowyddorau o amrywiaeth o ffynonellau, a'i werthuso'n feirniadol.
  2. Trafod materion cyfredol ymchwil, ymchwilio a/neu ddadl o fewn nifer dethol o feysydd ffocws.
  3. Trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organynnau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau.
  4. Trafod y meysydd allweddol y mae'r Biowyddorau yn rhan ohonynt mewn cymdeithas ar lefel fyd-eang, er mwyn cyfrannu at y ddadl barhaus ynghylch materion o bwysigrwydd byd-eang cyfoes.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  1. Dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau yn feirniadol.
  2. Cyfosod dadl neu safbwynt, yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth gadarn y gellir ei chyfleu'n glir ac yn gryno.
  3. Trafod materion o nifer o safbwyntiau a gwerthoedd a dod i ddyfarniad beirniadol ystyriol gan nodi rhagdybiaethau a chyfyngiadau.
  4. Llunio dogfennau gramadegol gywir mewn arddull a fformat academaidd priodol, gan ddefnyddio syniadau perthnasol a chyfeirio atynt.
  5. Trafod pwysigrwydd cywirdeb academaidd ac ymchwil

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  1. Derbyn amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth ac ymateb iddynt: testunol, rhifiadol, geiriol, graffigol.
  2. Dehongli a thrin data rhifiadol.
  3. Datrys problemau trwy amrywiaeth o ddulliau.
  4. Pennu dilysrwydd a chywirdeb deilliannau ystadegol.
  5. Defnyddio amrywiaeth o gyfryngau digidol sy'n hynod berthnasol i'r amgylchedd gwaith modern.
  6. Cymhwyso technegau cyfoes mewn ymchwil er mwyn datrys problemau biolegol.
  7. Cofnodi data a chanlyniadau mewn modd trefnus a chywir.
  8. Rhyngweithio mewn amgylchedd gwaith proffesiynol, gan weithio mewn timau a grwpiau cydweithredol.
  9. Cynnal amrywiaeth o sgiliau ymarferol labordy a sgiliau maes mewn modd cywir a chyson.
  10. Dangos sgiliau trin â dwylo yn y lleoliad ymarferol gwyddonol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  1. Cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn briodol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd drwy ddefnyddio ystod o fformatau a dulliau a defnyddio iaith wyddonol briodol.
  2. Dyfynnu gwaith a chyfeirio ato mewn modd priodol, gan sicrhau cywirdeb academaidd ac osgoi llên-ladrad p'un a yw hynny'n fwriadol ai peidio.
  3. Defnyddio’r rhyngrwyd a ffynonellau electronig eraill yn feirniadol fel dull cyfathrebu a ffynhonnell wybodaeth
  4. Nodi nodau a chyfrifoldebau unigol a chyfunol a pherfformio mewn modd sy'n briodol i'r rolau hyn, yn enwedig y rhai sy'n cael eu datblygu trwy astudiaethau ymarferol, labordy a/neu faes.
  5. Cydnabod a pharchu barn a safbwyntiau aelodau eraill y tîm, a gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd grŵp, fel arweinydd ac aelod o dîm.
  6. Defnyddio sgiliau trafod.
  7. Gwerthuso eu perfformiad eu hunain fel unigolyn ac aelod o dîm.
  8. Gwerthuso perfformiad pobl eraill.
  9. Trafod natur ryngddisgyblaethol gwyddoniaeth a dilysrwydd gwahanol safbwyntiau.
  10. Dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth).
  11. Nodi targedau, a gweithio tuag atynt, ar gyfer datblygiad personol, datblygiad proffesiynol, datblygiad academaidd a datblygiad gyrfa
  12. Dangos dull addasadwy, hyblyg ac effeithiol o astudio a gweithio.
  13. Adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth o rôl ac effaith eiddo deallusol (IP) mewn amgylchedd ymchwil;
  14. Dangos sgiliau cynllunio ac arwain er mwyn pennu nodau cyraeddadwy yn y gweithle a’u bodloni.
  15. Cydweithio o fewn amgylchedd tîm.
  16. Trafod natur ryngddisgyblaethol gwyddoniaeth a dilysrwydd gwahanol safbwyntiau.
  17. Datblygu prosiect ymchwil, gan gynnwys rheoli adnoddau, amser a llwyth gwaith.
  18. Gosod amcanion rhesymol a nodi strategaethau i gyflawni'r rhain o fewn amserlen y cytunwyd arni.
  19. Dysgu technegau a dulliau newydd o fewn y labordy neu'r amgylchedd gwaith maes.
  20. Crynhoi corff eang o lenyddiaeth a'i gymhwyso i lunio cynllun ymchwil a dadansoddi canlyniadau.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Lleoliadau

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn ryngosod a dreulir ar leoliad proffesiynol yn ennill profiad ymchwil uniongyrchol perthnasol. Fel rheol bydd eich blwyddyn yn cael ei threulio gydag un sefydliad, a byddwch yn cynnal eich prosiect ymchwil eich hun, gan ymgymryd â holl agweddau'r gwaith ymchwil, gan gynnwys casglu data, dadansoddi a chyflwyno.

Mae ein myfyrwyr yn dod o hyd i leoliadau mewn ystod o sefydliadau, gan gynnwys sefydliadau ymchwil, amgueddfeydd, canolfannau maes, sŵau, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt a sefydliadau amgylcheddol eraill - mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, y Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Durrell. (Jersey), Labordy Bioleg Moleciwlaidd Ewrop (Hamburg) a Lab Siarcod Bimini (Bahamas). Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cyflawni lleoliadau mewn prifysgolion yn y DU a thu hwnt gan gynnwys yn Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Malta, Sbaen, UDA, Awstralia, Seland Newydd a De Affrica.

Bydd ein Cydlynwyr Lleoliadau yn eich helpu i ddewis a threfnu lleoliad addas, ac rydym yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr bod eich lleoliad yn cynnig profiad a hyfforddiant ymchwil ymarferol sy'n addas ar gyfer eich gradd a'ch dyheadau o ran gyrfa.

Drwy gydol eich blwyddyn ar leoliad, byddwch yn parhau i gael cymorth gennym ni. Bydd eich blwyddyn ar leoliad yn cael ei hasesu ac yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol. Mae rhai myfyrwyr ar leoliad yn cael cyflog neu dâl (e.e. ysgoloriaeth ymchwil Erasmus); os na chewch gyflog byddwch fel arfer yn gymwys i wneud cais am fenthyciad myfyrwyr.

Mae’r flwyddyn ‘ryngosod’ ar gael i bob myfyriwr ac nid yw’n dibynnu ar gyflawni graddau penodol ym mlynyddoedd un a dau (er y byddem yn disgwyl i chi fod yn gwneud yn dda er mwyn bod yn ymgeisydd cystadleuol am leoliadau). Gallwch ddod i’r Brifysgol ar gwrs BSc 3 blynedd, ac yna dewis newid i raglen ryngosod 4 blynedd ym mlwyddyn dau os ydych yn dymuno gwneud hynny.

Mae dod o hyd i leoliad yn broses gystadleuol ac ni ellir gwarantu llwyddiant. Fodd bynnag, rydym fel arfer yn llwyddo i helpu ein myfyrwyr blwyddyn ryngosod i ddod o hyd i leoliadau perthnasol a gwerth chweil.

Mae ein gradd Sŵoleg yn cynnwys digonedd o gyfleoedd i wneud gwaith maes ymarferol hefyd, a gall myfyrwyr ail flwyddyn sy’n dilyn y modiwl Ecoleg a Chadwraeth ddewis o blith sawl cwrs arbenigol yn seiliedig ar brosiect sy’n cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau ym mhedwar ban byd. Mae'r cyrsiau maes sydd ar gael gennym fel arfer yn cynnwys ecoleg drofannol (Borneo, Malaysia), ecoleg forol (y Caribî a Malaysia), ecoleg afonydd (Cymru) ac ecoleg coetiroedd (Cymru). Noder: gall cyfyngiadau teithio neu brinder staff effeithio ar ba gyrsiau sydd ar gael.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.