Ewch i’r prif gynnwys

Bancio a Chyllid gydag Iaith Ewropeaidd (Ffrangeg) (BSc)

  • Côd UCAS: N3R9
  • Derbyniad nesaf: Medi 2022
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

globe

Treuliwch flwyddyn dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd wrth i chi ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith.

star

Cenhedlaeth newydd o feddylwyr

Ymchwiliwch i ddylanwadau cyfoes y farchnad stoc gan gynnwys technoleg, rheoleiddio a pholisi.

building

Ystafell fasnachu o’r radd flaenaf

Paratowch eich hun ar gyfer masnachu a rheoli risg mewn amgylchedd rheoledig gydag Investor Simulations, TRETS a Bloomberg.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

certificate

Nodwyd am ragoriaeth

Achrededig gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB).

Achrediadau

Maes pwnc: Economeg

  • academic-schoolYsgol Busnes Caerdydd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu

  • academic-schoolYr Ysgol Ieithoedd Modern
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Gofynion mynediad

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022

Myfyrwyr o'r DU ac Iwerddon

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) Ffi gostyngol Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU, bydd eich ffioedd dysgu yn unol â'r ffioedd a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £19,700 Dim
Blwyddyn dau £19,700 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) Ffi gostyngol Dim
Blwyddyn pedwar £19,700 Dim

Gwybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/23. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn un, byddwch yn cymryd dau fodiwl dwbl gorfodol, yn ogystal ag un modiwl gorfodol pellach fesul semester (Microeconomeg, a Macroeconomeg) yn ogystal â modiwl iaith dwbl.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Applied Stats and Maths in Econ and BusinessBS150120 credydau
Introduction to AccountingBS150320 credydau
MicroeconomicsBS155120 credydau
MacroeconomicsBS165220 credydau
Advanced French Language Year 1ML618840 credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau byddwch yn cymryd 60 credyd o fodiwlau craidd yn yr Ysgol Busnes a 60 credyd o fodiwlau craidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Mae blwyddyn tri yn cynnwys blwyddyn o astudio mewn prifysgol yn Ffrainc neu'r Swistir yn rhan o'ch gradd. Mae'r rhaglen astudio yn amodol ar gymeradwyaeth Ysgol Busnes Caerdydd a bydd yn cyfateb i 6 modiwl dwbl neu 12 modiwl sengl yn Ysgol Busnes Caerdydd (120 credyd). Bydd yn cynnwys modiwlau mewn economeg, rheoli, busnes, cyfrifeg ac ati. Caiff y rhain eu haddysgu a'u hasesu yn Ffrangeg, felly bydd yn darparu cymhwysedd yn yr iaith o fewn fframwaith cyfrifeg economeg, ac arbenigeddau busnes.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi datblygu cysylltiadau â nifer o brifysgolion neu sefydliadau cyfatebol yn Ffrainc, Sbaen, y Swistir a'r Almaen. Ein bwriad fyddai i bob grŵp o Ysgol Busnes Caerdydd mewn unrhyw sefydliad lletyol gynnwys dau i bedwar myfyriwr. Gall myfyrwyr sy'n astudio yn Ewrop yn rhan o'u rhaglen radd fod yn gymwys i gael grant gan gynllun Erasmus, a weithredir gan y Cyngor Prydeinig.

Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd gytundebau partneriaeth rhyngwladol gyda sefydliadau o safon uchel yn Ewrop. Ar hyn o bryd mae gan yr Ysgol gytundebau cyfnewid gyda:

Yn Ffrainc:

  • BBA ESSEC Ecole de Management International
  • Ysgol Rheolaeth Audencia Nantes
  • Universite Pantheon-Assas, Paris II
  • Ysgol Busnes Toulouse
  • ESSCA Ecole de Management

Yn y Swistir

  • Prifysgol Lausanne

Blwyddyn pedwar

Ym mlwyddyn pedwar byddwch yn cymryd 60 credyd o fodiwlau craidd a 30 credyd o fodiwlau dewisol yn yr Ysgol Busnes, ochr yn ochr â modiwl 30 credyd craidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. (Noder: Ni ellir dyblygu teitlau modiwlau wrth ddewis modiwlau dewisol).

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Financial EconomicsBS355420 credydau
International FinanceBS355520 credydau
Economics of BankingBS357120 credydau
High-Level Proficiency in French LanguageML636630 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Financial DerivativesBS351510 credydau
EconometricsBS355120 credydau
International Economic HistoryBS355620 credydau
Labour EconomicsBS355820 credydau
International TradeBS356820 credydau
Industrial EconomicsBS357220 credydau
Economic Statistics in Theory and PracticeBS357820 credydau
Development EconomicsBS359520 credydau
Security Analysis and Portfolio ManagementBS361510 credydau
Responsible Banking and Sustainable EconomyBS362310 credydau
EconometricsBS955110 credydau
International Economic HistoryBS955610 credydau
Labour EconomicsBS955810 credydau
International TradeBS956810 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn swydd a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio. Mae'r rhaglen radd Busnes yn cynnig ystod eang o sgiliau a gaiff eu cymeradwyo gan lawer o gyflogwyr yn sector breifat a'r sector gyhoeddus.

Mae'r radd bancio a chyllid yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd mewn bancio, cyfrifeg a sefydliadau ariannol eraill. Nid oes rhaid i raddedigion sefyll rai o arholiadau Sefydliad Siartredig y Bancwyr ychwaith.

Yn ychwanegol at Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, rydym wedi buddsoddi yn ein Canolfan Yrfaoedd bwrpasol ein hunain er mwyn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd am swyddi a mynediad at gyngor ac arweiniad penodol i’r diwydiant busnes.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Cyfrifydd
  • Dadansoddwr Busnes
  • Economegydd
  • Rheolwr AD
  • Darlithydd
  • Gweithredwr Marchnata
  • Gweithredwr Cynhyrchu
  • Brocer Stoc.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw’r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2017/18 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2020.