Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol (BA)
- Maes pwnc: Cymraeg
- Côd UCAS: Q561
- Derbyniad nesaf: Medi 2022
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Mae Caerdydd yn aros amdanoch
Ymgollwch ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y brifddinas.
Cysylltiadau’r Brifddinas
Lleoliad delfrydol gyda chysylltiadau â sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol, treftadaeth a chyfryngau i'ch helpu ar eich ffordd.
Croeso i bawb
Darparu cyfleoedd dysgu pwrpasol i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith.
Ffocws ar y gweithle
Cyfle i feithrin sgiliau Cymraeg ymarferol drwy ddau gyfnod o brofiad gwaith, mentora gan weithiwr proffesiynol, a modiwlau craidd am gyflogadwyedd.
Cymuned lewyrchus
Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.
Yng Nghymru fodern, gyda thwf sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a chyflwyno Safonau'r Gymraeg, mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn apelio'n fawr at gyflogwyr. Yn yr un modd, mae galw cynyddol am raddedigion sydd â sgiliau a phrofiad galwedigaethol.
Nod y rhaglen gyffrous, fodern ac amrywiol hon yw eich helpu i feithrin y sgiliau academaidd a chyflogadwyedd angenrheidiol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa mewn ystod o feysydd gwahanol.
Darperir llwybr craidd penodol gyda phwyslais galwedigaethol cryf fydd yn meithrin ymwybyddiaeth a sgiliau sy’n briodol ar gyfer y gweithle proffesiynol ac er mwyn astudio Cymraeg. Bydd yn rhoi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sy’n berthnasol i’r gweithle a gyrfaoedd penodol megis cyfieithu, cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, addysg neu’r diwydiant treftadaeth, ond mae pwyslais ar sgiliau trosglwyddadwy hefyd. Fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru pan lansiodd y weledigaeth ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd y rhain yn galluogi’r gweithlu i ddefnyddio’r Gymraeg “mewn ffyrdd mwy ymarferol, creadigol a diddorol”.
Rydym yn canolbwyntio ar agweddau fel y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, y gallu i ddadansoddi a dehongli’r byd o’ch cwmpas mewn modd beirniadol a chreadigol, creu testunau a dogfennau proffesiynol, a’r gallu i weithredu’n annibynnol ar lefel uchel. Y nod yw darparu sgiliau a phrofiadau academaidd a galwedigaethol lefel uchel, megis darllen, dehongli a chynhyrchu amrywiaeth o destunau, datrys problemau, creu strategaethau a gweithio’n unigol ac mewn tim. Un elfen bwysig o’r rhaglen yw’r cyfle i ymgymryd â phrofiad gwaith ym Mlynyddoedd 2 a 3 er mwyn cymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgwyd mewn ffordd ymarferol ym myd gwaith a chael eich mentora gan ymarferydd allanol.

Maes pwnc: Cymraeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
BBB-BBC. Rhaid i'r rhain gynnwys gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i chi hefyd feddu ar gymhwyster Cymraeg sy'n cyfateb i radd B ar lefel Safon Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol a gradd B mewn Cymraeg Safon Uwch Iaith Gyntaf neu Ail Iaith.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Gofynion mynediad ychwanegol
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,000 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,000 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £18,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £18,700 | Dim |
Blwyddyn tri | £18,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rhaglen tair blynedd amser llawn yw hon, sy’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae pob modiwl yn werth 20 credyd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/23. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022
Blwyddyn un
Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd (cyfanswm o 120 credyd) yn Gymraeg.
Datblygu sgiliau allweddol (ieithyddol, dadansoddol, creadigol ac o ran cyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth fydd yn cael y pwyslais ym mlwyddyn un.
Rydym yn cynnig dau lwybr – iaith gyntaf ac ail iaith. Bydd y llwybr y byddwch yn ei ddilyn yn dibynnu ar eich profiad o'r Gymraeg yn yr ysgol, mewn cyd-destun proffesiynol neu drwy gyrsiau iaith eraill.
Llwybr iaith gyntaf
Modiwlau craidd:
- Iaith ac Ystyr
- Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
- Awdur, Testun a Darllenydd
- Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol [Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol]
- Mapio'r Cymry
- Herio'r Traddodiad Llenyddol [Herio'r Traddodiad Llenyddol]
Llwybrau ail iaith
Modiwlau craidd:
- Sgiliau Llafar
- Defnyddio’r Gymraeg
- Yr Iaith Gymraeg heddiw
- Astudio Testunau Llenyddol
Modiwlau dewisol:
- Trafod Ein Llên
- Cymraeg Creadigol a Phroffesiynol [Cymraeg Creadigol a Phroffesiynol]
Ar y naill lwybr, addysgir pob modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Trafod ein llên | CY1510 | 20 Credydau |
Cymraeg Creadigol a Phroffesiynol | CY1511 | 20 Credydau |
Sgiliau Astudio Llenyddiaeth | CY1513 | 20 Credydau |
Rhoi’r Cymry ar y Map | CY1514 | 20 Credydau |
Sgiliau Iaith | CY1515 | 20 Credydau |
Y Gymraeg Heddiw | CY1516 | 20 Credydau |
Iaith ac Ystyr | CY1600 | 20 Credydau |
Awdur, Testun a Darllenydd | CY1601 | 20 Credydau |
Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes | CY1602 | 20 Credydau |
Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol | CY1753 | 20 Credydau |
Mapio'r Cymry | CY1754 | 20 Credydau |
Herio'r Traddodiad Llenyddol | CY1755 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth a gawsoch ym mlwyddyn un. Bydd llwybr credyd craidd yn canolbwyntio ar agweddau galwedigaethol a datblygu sgiliau academaidd a sgiliau yn y gweithle. Bydd modiwl Yr Iaith ar Waith yn cynnwys lleoliad profiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.
Llwybr iaith gyntaf
Ar gyfer myfyrwyr sydd wedi dilyn y llwybr iaith gyntaf yn y flwyddyn gyntaf, y modiwlau craidd yw:
- Yr Iaith ar Waith
- Treftadaeth a Thwristiaeth neu Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith - cynhelir y modiwlau hyn bob yn ail flwyddyn
Llwybrau ail iaith
Ar gyfer myfyrwyr sydd wedi dilyn y llwybr ail iaith yn y flwyddyn gyntaf, y modiwlau craidd yw:
- Yr Iaith ar Waith
- Sgiliau Academiadd Uwch
- Treftadaeth a Thwristiaeth neu Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith - cynhelir y modiwlau hyn bob yn ail flwyddyn
Mae modiwlau blwyddyn dau a blwyddyn olaf yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol sy'n berthnasol i ystod o wahanol feysydd cyflogaeth ac astudio ôl-raddedig.
Fel arfer mae modiwlau dewisol unigol yn cael eu cynnig bob yn ail flwyddyn, ac felly gallant fod ar gael yn yr ail flwyddyn neu’r flwyddyn olaf.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Yr Iaith ar Waith | CY2205 | 20 Credydau |
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith | CY2610 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | CY2105 | 20 Credydau |
Sgiliau Academaidd Uwch | CY2210 | 20 Credydau |
Rhyddiaith Ddiweddar | CY2410 | 20 Credydau |
Sgriptio | CY2700 | 20 Credydau |
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990 | CY2810 | 20 Credydau |
Caffael Iaith | CY2910 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Bydd y modiwlau craidd unwaith eto'n canolbwyntio ar agweddau galwedigaethol yng nghyd-destun y Gymraeg. Y modiwlau craidd yw:
- Ymchwilio Proffesiynol
- Cyfieithu Proffesiynol
- Treftadaeth a Thwristiaeth neu Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith - cynhelir y modiwlau hyn bob yn ail flwyddyn
Bydd y modiwl Ymchwilio Proffesiynol yn rhoi’r cyfle i chi gynhyrchu traethawd neu brosiect 5,000 gair, o dan gyfarwyddyd aelod arbenigol o staff. Byddwch yn cymhwyso'r sgiliau a ddatblygwyd eisoes drwy gwblhau lleoliad profiad gwaith pellach mewn gweithle sy'n berthnasol i'r maes. Mae'r modiwl Cyfieithu Proffesiynol yn rhoi cyfle i chi drafod egwyddorion ac ymarfer sgiliau drwy dderbyn cyfarwyddyd ac adborth ar gyfieithiadau ymarferol. Gall hyn fod yn ffordd effeithiol o ddangos eich sgiliau i gyflogwyr yn y dyfodol neu gall arwain at ragor o ymchwil. Byddwch hefyd yn dewis modiwlau pellach o blith modiwlau arbenigol yr Ysgol.
Un o nodweddion deniadol y rhaglen hon yw ei hyblygrwydd – gallwch ddewis dilyn llwybr llenyddol neu lwybr ieithyddol a chymdeithasegol a dewis o blith detholiad o fodiwlau ymarferol a chreadigol. Gallwch hefyd ddewis cyfuniad o fodiwlau sy'n adlewyrchu eich diddordebau academaidd a'ch anghenion galwedigaethol penodol eich hun.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith | CY3610 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | CY3105 | 20 Credydau |
Rhyddiaith Ddiweddar | CY3410 | 20 Credydau |
Yr Ystafell Ddosbarth | CY3660 | 20 Credydau |
Sgriptio | CY3700 | 20 Credydau |
Cyfieithu Proffesiynol | CY3705 | 20 Credydau |
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990 | CY3810 | 20 Credydau |
Caffael Iaith | CY3910 | 20 Credydau |
Ymchwilio Proffesiynol | CY4000 | 20 Credydau |
Ymchwilio Proffesiynol Estynedig | CY4101 | 40 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Byddwch yn ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Cewch eich addysgu mewn darlithoedd, gweithdai a seminarau. Mae darlithoedd yn rhoi trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y gweithdai a'r seminarau, a datblygu eich syniadau eich hun. Mae'r gweithdai a'r seminarau yn gyfle ymarferol i chi ymchwilio i'r syniadau a amlinellir yn y darlithoedd a chwblhau tasgau amrywiol.
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr. Bydd y rhain yn cynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth, a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:
- deall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- nodi a defnyddio data perthnasol
- datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
- gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- myfyrio ar eich prosesau academaidd a dysgu ar ôl cael beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Sut y caf fy nghefnogi?
Ym mlwyddyn 1 byddwch yn dilyn Rhaglen Tiwtora Personol Ysgol y Gymraeg fydd yn golygu yn cwrdd â'ch tiwtor personol yn rheolaidd (bob pythefnos yn y semester cyntaf) yn unigol ac fel grŵp. Bydd y sesiynau hyn yn eich cyflwyno i wybodaeth bwysig am agweddau penodol ar eich astudiaethau, ac yn rhoi cyfle i drafod eich profiadau fel myfyriwr, e.e. dysgu ac asesu, cyflogadwyedd, amgylchiadau esgusodol, ymarfer annheg, ac ati. Bydd rhaglen yr ail semester yn cynnwys cyfarfod penodol ar gyflogadwyedd a llwybr gyrfa, lle bydd cyfle i drafod eich diddordebau o ran rhaglenni a modiwlau'r Ysgol.
Bydd y cyfarfod hwn yn rhagflaenu diwrnod cyn-gofrestru'r Ysgol (tua diwedd Semester y Gwanwyn), lle bydd myfyrwyr ym mlynyddoedd 1 a 2 yn cwrdd â'u tiwtor personol i ystyried y dewis o fodiwlau ar gyfer y blynyddoedd dilynol, a chael cyngor arnynt. Cyn mynd i'r cyfarfod gyda'ch tiwtor personol byddwch wedi cael adnodd digidol gan arweinwyr modiwlau dewisol yr Ysgol, gan roi cyflwyniad byr i'r modiwlau a gwybodaeth bwysig amdanynt. Ar ddiwrnod Cyn-gofrestru'r Ysgol bydd cyfle i chi drafod a chodi unrhyw gwestiynau i arweinwyr modiwlau mewn sesiwn 'holi ac ateb' benodol.
Bydd y tiwtor personol yn cadw cofnod ar system SIMS o unrhyw gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn academaidd er mwyn hwyluso'r broses gynghori. Wrth gwrs, mae croeso i fyfyrwyr gysylltu â'u tiwtor personol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd os ydyn nhw eisiau cyngor am fodiwl neu os ydyn nhw am ystyried opsiynau o ran trosglwyddo rhwng rhaglenni.
Byddwch hefyd yn mynd i gyfarfod penodol bob semester yn rhan o Wythnos Adborth a Chyngor Academaidd Ysgol Cymru. Nod y cyfarfodydd unigol hyn gyda'ch tiwtor personol fydd adolygu a myfyrio ar farciau asesu, a'r adborth a gafwyd yn ystod y semester blaenorol. Mae'n gyfle da i ystyried eich cryfderau a'r meysydd hynny sydd angen eu datblygu, yn ogystal â gosod targedau pendant ar gyfer gwella eich gwaith a'ch prosesau academaidd.
Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol, bydd gennych wythnos annibynnol bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a aseswyd, darllen ac adolygu.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.
Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.
Defnyddir asesiadau unigol ac asesiadau lle byddwch yn gweithio fel grŵp a gaiff eu marcio gan y tiwtor. Ar gyfer y cyflwyniad grŵp byddwch yn cael eich marcio ar sail cyfuniad o farc cyflwyniad grŵp a chyfraniad unigol. Bydd y ddwy elfen hyn wedi eu pwysoli fel a ganlyn o ran marc yr asesiad:
- Marc grŵp ar gyfer y cyflwyniad – 40%
- Marc unigol ar gyfer y cyflwyniad – 60%
Bydd y marciwr yn ystyried y cynnyrch a’r broses lle bo hynny’n ystyrlon o safbwynt deilliannau’r modiwl (e.e. gall y bydd rhagor o bwyslais ar y cynnyrch o safbwynt modiwlau ail iaith Blwyddyn 1 lle pennir y marc ar sail iaith a mynegiant). Bydd y marciwr yn gwneud defnydd o gofnodion cyfarfodydd grŵp ac arsylwi yn y dosbarth er mwyn hwyluso’r elfen hon.
Bydd asesiadau Cyflwyniadau llafar (unigol a grŵp) wedi eu seilio ar feini prawf penodol sy’n seiliedig ar ddeilliannau’r modiwl, a bydd arweinwyr modiwlau yn cynnig canllawiau eglur o safbwynt cyfrifoldebau myfyrwyr, ac yn cynnig cyfleoedd i grwpiau ymarfer gweithio mewn grŵp a chyflwyno ar lafar.
Mae modiwl traethawd neu brosiect y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.
Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau ar dasgau ffurfiannol a chrynodol (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Bydd gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth unigol ar arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.
Beth yw deilliannau dysgu'r cwrs/rhaglen?
Mae'r canlyniadau dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall beth a ddisgwylir gennych chi a bydd staff academaidd yn canolbwyntio ar beth yn union maen nhw am i chi ei gyflawni ym mhob Modiwl.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn gallu:
- dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o safle a phwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle cyfoes
- dangos dealltwriaeth dda o ddatblygiad y Gymraeg a’i llenyddiaeth mewn gwahanol gyfnodau, o safbwynt ieithyddol, llenyddol a chymdeithasol, a dealltwriaeth o rai dulliau cyfoes o geisio ei hadfer a’i hyrwyddo
- dangos dealltwriaeth o ystod o destunau o wahanol gyfnodau hanesyddol ac o wahanol genres
Sgiliau Deallusol:
Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn gallu:
- arddangos sgiliau deallusol, ymarferol a phroffesiynol sy’n caniatáu darllen agos, disgrifio, dadansoddi, a chynhyrchu testunau o wahanol fathau (gan gynnwys cynhyrchu testunau creadigol)
- dadansoddi rôl greiddiol iaith yn y broses o greu ystyr, a’r gallu i werthfawrogi grym affeithiol iaith
- gwerthfawrogi sut y mae rhagdybiaethau diwylliannol yn effeithio ar y broses o lunio barn
- gwerthuso testunau, cysyniadau a theorïau perthnasol i faes y Gymraeg a’i llenyddiaeth yn feirniadol, a’u trafod gan ddefnyddio’r eirfa a therminoleg briodol
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn gallu:
- datblygu sgiliau mewn ystod addas o gyd-destunau proffesiynol er mwyn cynhyrchu Cymraeg ysgrifenedig safonol a Chymraeg llafar safonol
- rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a feithrinwyd ar waith:
- yn y gweithle, drwy gwblhau cyfnodau o brofiad gwaith ar leoliad sy’n berthnasol i’r radd
- drwy adfyfyrio ar y profiadau hyn, gan gynnwys llunio dadansoddiad beirniadol o gyfnod o brofiad gwaith ar leoliad
- drwy gwblhau traethawd neu brosiect estynedig sy’n berthnasol i lwybr arbenigol y radd ac sy’n gynnyrch astudio annibynnol dan gyfarwyddyd tiwtor
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn gallu:
- defnyddio cyweiriau ieithyddol eraill, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn cyd-destunau perthnasol i’r gweithle ac yn ehangach
- rhoi sgiliau rhifedd ar waith wrth ddadansoddi data sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth
- defnyddio technoleg gwybodaeth i gyflwyno a dadansoddi deunyddiau mewn dull effeithiol a graenus, gan gynnwys defnyddio meddalwedd i wirio a gloywi iaith
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn gallu bod yn gymhwyster hynod werthfawr ar gyfer rolau sy’n gofyn am siaradwyr dwyieithog. Mae llawer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd megis y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg ar bob lefel yng Nghaerdydd neu rywle arall.
Yn 2016/17, dywedodd 91% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Gyrfaoedd graddedigion
- Newyddiadurwr
- Gwas Sifil
- Athro
- Cyfreithiwr
- Cyfryngau
Lleoliadau
Mae Blynyddoedd 2 a 3 yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle sy'n berthnasol i ddisgyblaeth y Gymraeg (hyd at 35 awr yn achos 'Yr Iaith ar Waith' (Blwyddyn 2) ac o leiaf 35 awr yn achos 'Ymchwil Broffesiynol' (Blwyddyn 3)). Mae'r cyfnodau hyn o brofiad gwaith yn rhan o raglen ehangach o ddigwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar gyflogadwyedd a datblygu sgiliau gyrfa.
Mae ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith ar leoliad yn rhoi cyfle gwerthfawr i chi gymhwyso ac ymarfer y wybodaeth a'r sgiliau rydych chi wedi'u hennill eisoes. Mae hefyd yn gyfle gwych i chi ennill profiad ymarferol o fyd gwaith, datblygu sgiliau newydd a defnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destun proffesiynol.
Mae gan yr Ysgol gysylltiadau â nifer o gyflogwyr yng Nghaerdydd a'r ardal (sefydliadau, cwmnïau neu ysgolion), a byddwn yn defnyddio ein cysylltiadau a'n partneriaethau i gynnig profiadau defnyddiol ac ystyrlon i chi fel myfyrwyr. Mae'r rhestr isod yn nodi rhai o'r lleoliadau (yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector) sydd wedi cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr o Ysgol y Gymraeg:
Amgueddfa Cymru (Caerdydd a Sain Ffagan)
Archifau Morgannwg
BBC Cymru
CBAC
Comisiynydd y Gymraeg
Cwmni Cambrensis
Cwmni Cyfieithu Prysg
Cyngor Caerdydd
Green Bay
Gwasg Prifysgol Cymru
Llenyddiaeth Cymru
Menter Caerdydd
Plaid Cymru
S4C
Swyddfa Swyddog y Gymraeg, Coleg y Cymoedd
Uned Gyfieithu Llywodraeth Cymru
Uned Gyfieithu Prifysgol Caerdydd
Urdd Gobaith Cymru
Yr Hen Lyfrgell
ysgolion uwchradd a chynradd yn ardal Caerdydd
Dylid nodi mai rhestr enghreifftiol yw hon, ac nid yw'n dangos yr union leoliadau fydd ar gael bob blwyddyn
Byddwch yn cael ffurflen mynegiant o ddiddordeb yn ystod diwrnod Cyn-gofrestru'r Ysgol (tua diwedd eich blwyddyn gyntaf), yn ogystal â'r cyfle i gael cyngor ar leoliadau posib gan eich tiwtor personol. Bydd yr ysgol yn gofyn ichi ddychwelyd y ffurflen ynghyd â CV erbyn diwedd Semester y Gwanwyn.
Bydd yr Ysgol yn goruchwylio'r broses o ddod o hyd i brofiad gwaith trwy sicrhau bod y lleoliad yn addas yng nghyd-destun cyflawni canlyniadau'r modiwl, yn ogystal â sicrhau bod gwiriadau iechyd a diogelwch yn cael eu cwblhau. Bydd yr ysgol yn trefnu unrhyw wiriadau DBS sy'n ofynnol (os ydych chi'n mynd i ysgol, er enghraifft). Ysgol y Gymraeg fydd yn gyfrifol am dalu am y gwiriadau hyn hefyd. Os oes gennych gyswllt penodol â lleoliad y tu allan i Gaerdydd, bydd yr Ysgol yn ystyried pa mor addas yw'r lleoliad yn achos pob cais unigol.
Byddwch hefyd yn cael llawlyfr 'Ymgymryd â lleoliad profiad gwaith' fydd yn cynnwys manylion a gwybodaeth baratoadol ynghylch y cyfnod o brofiad gwaith. Bydd hefyd yn nodi'ch cyfrifoldebau ar leoliad (bydd yr ysgol hefyd yn rhoi llawlyfr i gyflogwyr i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r broses a'u cyfrifoldebau). Bydd tiwtoriaid modiwlau craidd, ynghyd â'ch tiwtor personol, wrth law i gynnig cyngor i chi ar y broses ac ymateb i unrhyw broblemau a allai godi yn ystod eich lleoliad.
Er na fyddwch yn cael taliad na chostau yng nghyd-destun eich profiad gwaith, gall ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith ar leoliad olygu eich bod yn creu cysylltiadau gwerthfawr yn y gweithle yng Nghymru, ac mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i sicrhau swyddi yn y sefydliadau hynny, neu rai tebyg, maes o law.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.