Archaeoleg a Hanes (BA)
- Meysydd pwnc: Archaeoleg a chadwraeth, Hanes a hanes yr henfyd
- Côd UCAS: VV14
- Derbyniad nesaf: Medi 2022
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn
Labordai pwrpasol
Cewch ddefnyddio ein labordai a hefyd ein hystafelloedd darlunio a ffotograffiaeth ddigidol.
Astudiwch gydag angerdd
Dilynwch eich diddordebau gyda phynciau sy'n amrywio o gaethwasiaeth yn America i hanes Sofietaidd a Japan.
Lleoliadau - cartref a thramor
Profwch weithgareddau gan gynnwys cloddio, prosiectau amgueddfa a gweithgareddau labordy.
Anturiaethau gwaith maes
Cewch feithrin sgiliau ymarferol a rhoi'r hyn y byddwch yn ei ddysgu ar waith; darganfod lleoliadau cyffrous a datgelu byd o'r gorffennol.
Gweithdai gyrfaoedd rhyngweithiol
Cyfle i hogi eich sgiliau gyrfa a chael cipolwg gwerthfawr ar rolau a sectorau sy'n addas i chi.
Mae'r BA mewn Archaeoleg a Hanes yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfuno astudio Hanes ag astudio'r gorffennol dynol o'r gwreiddiau dynol cynharaf hyd at y gorffennol diweddar.
Mae graddau cydanrhydedd yn cyffroi ac yn gwobrwyo llawer o fyfyrwyr wrth iddynt weld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Yn aml ceir materion a safbwyntiau ategol a sgiliau sy’n cysylltu’r pynciau, boed y rheiny’n ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol, neu’n ymchwil ddiweddar. Mae’r radd yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen ar fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’r Archaeoleg neu Hanes ar lefel ôl-raddedig, ynghyd ag amrywiaeth werthfawr o sgiliau deallusol a throsglwyddadwy i fyfyrwyr sy’n mynd i broffesiynau eraill.
Mae Archaeoleg yn mynd i'r afael â chwestiynau mawr am y gorffennol dynol, nad oes cofnod ysgrifenedig ar gael ar gyfer llawer ohono. Mae Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar Ynysoedd Prydain, Ewrop a gwledydd dwyrain Môr y Canoldir. Byddwch yn dysgu gyda staff sy'n gwneud gwaith ymchwil cyffrous ar bob cyfnod, o darddiad y ddynoliaeth gynnar i'r gorffennol diweddar. Byddwch hefyd yn elwa ar ein labordai addysgu ac ymchwil pwrpasol, offer arolygu a geoffisegol pwrpasol ac amrywiaeth o offer soffistigedig ar gyfer dadansoddi arteffactau.
Mae Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd yn eich galluogi i ddysgu am fydoedd gwahanol iawn pobl y gorffennol ac i ddeall y presennol yn well. Mae'n rhoi dealltwriaeth i chi i’r broses o newid o Rufain a Gwlad Groeg hynafol trwy’r oesoedd canol hyd y cyfnodau modern. Cewch astudio hanes cymdeithasau mewn amryw rannau o’r byd, o India a Tsieina, trwy’r Almaen a Ffrainc, i Brydain, Cymru a Chaerdydd. Yn anad dim, byddwch yn dysgu sut i 'wneud hanes' dros eich hun a meithrin y math o sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Byddwch yn dysgu meddwl yn annibynnol, a dadansoddi ac asesu corff o ddeunydd, asesu ei gryfderau a'i wendidau, a chyflwyno'ch casgliadau yn glir.
Mae’r radd yn anelu at ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth feirniadol ynghylch deunydd materol ar gyfer amrywiaeth eang o gyfnodau a chymdeithasau, a meithrin sgiliau deallusol fel y gallu i asesu tystiolaeth yn feirniadol, gwerthuso gwahanol ddehongliadau o’r dystiolaeth, llunio dadleuon ar sail tystiolaeth, a mynegi barn yn gadarn ar lafar ac yn ysgrifenedig. Rydym yn cyflwyno gradd sy'n cynnig rhaglen heriol ac amrywiol o fodiwlau. Fe'i hategir gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr yn yr Ysgol.

Maes pwnc: Archaeoleg a chadwraeth
Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBB
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Gofynion mynediad ychwanegol
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Yn unol â pholisi derbyn Prifysgol Caerdydd. Mae'n bosibl y cyfwelir ymgeiswyr sy'n dychwelyd i addysg mewn modd nad yw'n arferol, megis trwy gwrs Mynediad.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,000 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,000 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £18,950 | Dim |
Blwyddyn dau | £18,950 | Dim |
Blwyddyn tri | £18,950 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Bydd angen dillad addas (e.e. dillad ac esgidiau addas) ac weithiau llety (e.e. pabell a bag cysgu) ar gyfer teithiau maes a gwaith maes. Mae gan y Brifysgol arian ar gael i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol o ran prynu’r offer hwn.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2022. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2022 i ddangos y newidiadau.
Rhaglen radd tair blynedd 360 credyd, gyda 120 credyd ym mhob blwyddyn, yw hon sy'n cynnwys modiwlau craidd. Mae'n cynnig sgiliau a hyfforddiant hanfodol ac amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol sy'n eich galluogi i deilwra'ch gradd i fodloni'ch diddordebau. Mae'r cwrs wedi'i strwythuro fel eich bod yn caffael mewn blynyddoedd olynol y wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i ddod yn ymchwilydd annibynnol a'ch galluogi i gael swydd broffesiynol ar lefel uchel.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/2023. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022
Blwyddyn un
Ym Mlwyddyn Un, byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau Archaeoleg a 60 credyd o fodiwlau Hanes.
Bydd y modiwlau Archaeoleg yn cyflwyno'r dystiolaeth faterol i chi ar y cymdeithasau hynafol yr Aifft, Gwlad Groeg a Rhufain yn ardal Môr y Canoldir, ac astudio Prydain o Oes yr Iâ i’r cyfnod canoloesol.
Mae’r holl fyfyrwyr Hanes blwyddyn gyntaf yn cymryd ‘Ymarfer Hanes’ sy’n eich cyflwyno i fframweithiau gwahanol sy’n sail i ymchwil hanesyddol a’r nifer o ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra’n darparu hyfforddiant yn y sgiliau angenrheidiol i arfer hanes ar lefel israddedig.
Bydd prosiect gwaith maes Blwyddyn Dau archaeoleg yn cael ei wneud yn yr haf ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, er ei fod yn cael ei gredydu i Semester yr Hydref yn yr Ail Flwyddyn. Caiff y prosiect ei addysgu drwy bedair wythnos o gyfranogiad myfyrwyr ar waith archeolegol fel cloddio, arolygon maes, prosiectau curadurol amgueddfa neu unrhyw weithgareddau mewn labordy yn dilyn cloddio..
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
History in Practice Part 1: Questions, Frameworks and Audiences. | HS1119 | 20 Credydau |
The Archaeology of Mediterranean Societies: Egypt, Greece and Rome | HS2123 | 20 Credydau |
Discovering Archaeology | HS2126 | 20 Credydau |
The Archaeology of Britain: Prehistory to Present | HS2130 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
The Making of The Modern World, 1750-1970 | HS1105 | 20 Credydau |
Medieval Worlds, AD 500 -1500 | HS1112 | 20 Credydau |
Renaissance, Reformation and Revolution | HS1117 | 20 Credydau |
Modern Britain: Ideas, Politics, Society and Culture | HS1135 | 20 Credydau |
Introduction to Ancient History 1: Gods, Kings and Citizens, 1000-323 BCE | HS3105 | 20 Credydau |
Introduction to Ancient History 2: Empires East and West, 323 BCE to 680 CE | HS3106 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Ym Mlwyddyn Dau, byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau Archaeoleg a 60 credyd o fodiwlau Hanes.
Mae Archaeoleg blwyddyn dau ar gyfer myfyrwyr cydanrhydedd yn cynnwys un prosiect gwaith maes 20 credyd a 40 o gredydau o amrywiaeth eang o fodiwlau penodol i gyfnod, pwnc neu dechneg ym maes Archaeoleg a Hanes yr Henfyd. Bydd hyn yn rhoi cryn dipyn o hyblygrwydd i chi ddilyn y pynciau y mae gennych fwyaf o ddiddordeb ynddyn nhw.
Bydd prosiect gwaith maes Blwyddyn Tri yn cael ei wneud yn yr haf ar ddiwedd yr ail flwyddyn, er ei fod yn cael ei gredydu i Semestr yr Hydref yn y Drydedd Flwyddyn. Caiff y prosiect ei addysgu drwy bedair wythnos o gyfranogiad myfyrwyr ar waith archeolegol fel cloddio, arolygon maes, prosiectau curadurol amgueddfa neu unrhyw weithgareddau mewn labordy yn dilyn cloddio..
Drwy ymgymryd â gradd Hanes, gallwch astudio cymdeithasau'r gorffennol mewn rhannau amrywiol o'r byd, gan gynnwys Tsieina, yr Unol Daleithiau, Rwsia a Phrydain. Byddwch yn dysgu i feddwl yn annibynnol, asesu cryfderau a gwendidau corff o dystiolaeth hanesyddol i chi eich hun, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau yn glir.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Archaeology Field and Practical Skills 1 | HS2203 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Ym Mlwyddyn Tri, byddwch yn dewis 60 credyd arall o Archaeoleg a 60 credyd Hanes, a allai gynnwys traethawd hir ar bwnc o'ch dewis naill ai mewn Hanes neu Hanes yr Henfyd.
Rhaid i fyfyrwyr sydd am wneud traethawd hir Archaeoleg yn y flwyddyn olaf fod wedi cymryd yr Astudiaeth Archaeolegol Annibynnol ragofynnol ym Mlwyddyn Dau.
Mae Archaeoleg blwyddyn olaf i fyfyrwyr cydanrhydedd yn cynnwys un prosiect gwaith maes 20 credyd a 40 o gredydau o amrywiaeth eang o fodiwlau penodol i gyfnod, pwnc neu dechneg ym maes Archaeoleg a Hanes yr Henfyd. Bydd hyn yn rhoi cryn dipyn o hyblygrwydd i fyfyrwyr ddilyn y pynciau sydd fwyaf o ddiddordeb i chi.
Bydd prosiect gwaith maes Blwyddyn Tri yn cael ei wneud yn yr haf ar ddiwedd yr ail flwyddyn, er ei fod yn cael ei gredydu i Semestr yr Hydref yn y Drydedd Flwyddyn. Caiff y prosiect hwn ei addysgu drwy bedair wythnos o gyfranogiad myfyrwyr ar waith archaeolegol fel cloddio, arolygon maes, prosiectau curadurol amgueddfa neu unrhyw weithgareddau mewn labordy yn dilyn cloddio.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Archaeology Field and Practical Skills 2 | HS2204 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn eich galluogi chi i ddatblygu mewn amgylchedd dysgu o ansawdd uchel, a gefnogir gan ddull o ennill gwybodaeth a sgiliau lle mae'r ffocws ar y myfyriwr.
Mae'r dulliau addysgu'n cynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, teithiau maes a sesiynau tiwtorial un i un. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid.
Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y ddarlith, mewn grwpiau bach.
Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Maen nhw’n cynnig cyfle buddiol i ymgymryd yn feirniadol â’r prif syniadau a deunydd darllen sy’n gysylltiedig â phwnc, ac i ymchwilio i feysydd o ddiddordeb arbennig gydag arbenigwr yn y maes.
Hyrwyddir sgiliau archaeolegol trwy dasgau ymarferol a gwaith maes, gan gynnwys ymweliadau undydd â safleoedd yn ogystal â chyfnodau helaeth o gloddio, dadansoddiadau labordy neu astudio yn yr amgueddfa. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid.
Addysgu yn Gymraeg
Mae'r rhan o'r radd sy'n dilyn Hanes yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer dysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amodol ar argaeledd staff, mae’r addysgu trwy gyfrwng yn y Gymraeg mewn seminarau ar gael mewn rhai neu’r cyfan o’r prif gyrsiau craidd, a chynigir o leiaf un dewis iaith Gymraeg ym mlynyddoedd dau a thri. Mae goruchwyliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ar gyfer traethodau hir (Archwilio Dadleuon Hanesyddol) a thraethodau estynedig, a gall myfyrwyr ddewis ysgrifennu’r cyfan neu ran o’ch gwaith a asesir a’ch arholiadau yn Gymraeg.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae pob modiwl yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog, lle gallwch gael gafael ar ddeunyddiau cwrs a dolenni i adnoddau darllen ac ar-lein cysylltiedig. Yn ogystal â phrif lyfrgelloedd y Brifysgol, bydd gennych fynediad at Lyfrgell Sheila White, sy'n cynnwys copïau ychwanegol o lyfrau ar hanes a diwylliant Gwlad Groeg a Rhufeinig.
Byddwch yn cael Tiwtor Personol fydd yn gallu eich cynghori ar faterion academaidd a materion bugeiliol mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol. Mae Tiwtoriaid Personol yn cwrdd â chi yn rheolaidd i drafod cynnydd a rhoi cyngor ac arweiniad, ac maent ar gael i ymgynghori â nhw ar adegau eraill yn ôl yr angen. Mae cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad ar gael trwy raglen strwythuredig o Gynllunio Datblygiad Personol a thrwy gyfarfodydd wedi'u trefnu gyda Thiwtoriaid Personol.
Sut caf fy asesu?
Assessment
Modules are assessed by various methods, including coursework essays, written reports, source criticisms, critical reviews, examinations, class tests and oral presentations.
Coursework and examinations are used not only for assessment purposes but also as a means of developing your capacities to gather, organise, evaluate and deploy relevant information and ideas from a variety of sources in reasoned arguments. Assessment, including coursework, exams, and oral presentations, will test the different skills you have learned.
Progression is built into assessment, in that you will do smaller guided tasks in Year One, as well as formative essays in Years Two and Three. Progression is also evident in the growing emphasis on lengthier, independent work culminating in an optional 10,000-word dissertation in Year Three. Final Year modules also demand deeper engagement with independent methods of working, together with greater demands on handling critically a larger number of bibliographical tasks and items.
The format of the assessed work for the second-year Independent Study is chosen by the student; possible formats include an extended essay, a piece of creative writing, sample pages from a book or magazine, a teachers’ pack, a film, or a reconstruction drawing or model.
Feedback
You will receive written feedback on all your coursework assessments, and oral feedback on assessed presentations and seminar work. You will also receive oral and written feedback from your supervisor on preparatory work and drafts for the Independent Study and Dissertation. Individual written feedback is provided for exams.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
- Sgiliau deallusol - fel meddwl yn feirniadol, rhesymu, cymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth, dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth, beirniadu dehongliadau neu ddadleuon, ymdopi â data ansicr neu anghyflawn, llunio dadleuon yn seiliedig ar dystiolaeth, a'u cyflwyno'n effeithiol yn ysgrifenedig ac mewn dadl;
- sgiliau cyflogadwyedd - fel cyfathrebu effeithiol trwy adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar, cyfrannu at drafodaethau grŵp, gweithio'n annibynnol ac mewn timau, defnyddio adnoddau TG yn effeithiol, a rheoli amser;
- Sgiliau menter - fel creadigrwydd (sy’n cael eu hymarfer yn benodol yn y prosiect Astudio Annibynnol), datrys problemau, mentergarwch a meddwl yn annibynnol;
- Sgiliau ymchwil - (a ddatblygwyd yn arbennig yn yr Astudiaeth Annibynnol a'r Traethawd Hir): diffinio prosiect, llunio cwestiynau ymchwil, lleoli gwybodaeth berthnasol, a chyflwyno'r canlyniadau mewn cyflwyniad llafar ac mewn adroddiad ysgrifenedig estynedig;
- sgiliau penodol i’r ddisgyblaeth - dadansoddi problemau hanesyddol, lleoli a defnyddio tystiolaeth briodol ac adnoddau llyfryddol, trin deunydd llenyddol ac archaeolegol, dadansoddi delweddau, darllen arysgrifau, papyri a darnau arian, a deall y confensiynau ysgolheigaidd a ddefnyddir mewn cysylltiad â'r mathau hyn o dystiolaeth;
- Sgiliau archaeolegol ymarferol - fel sgiliau gwaith maes, darlunio, ffotograffiaeth, arolygu, geoffiseg, GIS, dyddio, dadansoddiad gwyddonol o arteffactau, esgyrn, priddoedd ac olion planhigion, ymarfer amgueddfa ac allgymorth cyhoeddus.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Yn 2015-16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Rydym yn trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i adnabod eu sgiliau a'u priodoleddau. Mae ein graddedigion Hanes yn dod o hyd i waith mewn ystod eang o feysydd cyflogaeth broffesiynol cysylltiedig a heb fod yn gysylltiedig. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, a rhai wedi dod yn haneswyr rhyngwladol honedig.
Credwn mewn rhoi’r cyfleoedd gorau i’n graddedigion ddod o hyd i gyflogaeth. Rydym yn trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd er mwyn helpu myfyrwyr i nodi eu sgiliau a’u priodoleddau, ac mae gennym ein Swyddog cyflogadwyedd a Lleoliadau’r Gweithle mewnol yn yr Ysgol. Mae rhai o'n graddedigion yn mynd i broffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd academaidd. Mae'r rhan fwyaf, fodd bynnag, yn cystadlu'n llwyddiannus iawn mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill.
Lleoliadau
Mae gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sydd yn cefnogi myfyrwyr gyda chyfleoedd profiad gwaith a chyngor ar yrfaoedd yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.
Rydym yn cynnig profiad yn y gweithle i’n myfyrwyr drwy ein lleoliadau gwaith wedi eu cyllido dros gyfnod o bedair wythnos, ym meysydd cloddio, amgueddfeydd a threftadaeth ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn.
Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog a’u cefnogi’n ariannol i fynd ar leoliadau gwaith maes dramor. Mae myfyrwyr Archaeoleg hefyd yn cael eu hannog i fanteisio ar Raglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd (CUROP), sy’n cynnig lleoliadau dros yr haf i israddedigion Prifysgol Caerdydd yn amgylchedd ymchwil y Brifysgol. Mae CUROP yn cynnig taliad i helpu myfyrwyr sydd ar leoliad am hyd at wyth wythnos, gan weithio o dan oruchwyliaeth ar brosiectau ymchwil sydd wedi’u diffinio gan y staff. Mae cyfleoedd i weithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant treftadaeth (e.e. Cadw) fel rhan o'r modiwl lleoliadau gwaith maes neu’r modiwl cyfathrebu treftadaeth ac i gael rhagor o brofiad o weithio gyda'r cyhoedd o bob oedran drwy amrywiaeth o fentrau (e.e. y grŵp allgymorth Archaeoleg gerila, prosiect treftadaeth CAER a’r cynllun Rhannu gydag Ysgolion). Yn olaf, mae seminarau ymchwil wythnosol gyda siaradwyr gwadd rhyngwladol, Cymdeithas Archaeoleg myfyrwyr ac ystod o ddigwyddiadau eraill (e.e. cynadleddau, penwythnosau Bushcraft).
Gwaith maes
Gwneir prosiectau gwaith maes blynyddoedd dau a tri yn ystod yr haf cyn y blynyddoedd academaidd blaenorol hynny. Caiff y prosiectau gwaith maes eu haddysgu drwy bedair wythnos o gyfranogiad myfyrwyr ar waith archaeolegol fel cloddio, arolygon maes, prosiectau curadurol amgueddfa neu unrhyw weithgareddau mewn labordy yn dilyn cloddio.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.