Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg a Cherddoriaeth (BA)

  • Côd UCAS: QW53
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Welsh students

Pam astudio’r cwrs hwn

Drwy gyfuno’r Gymraeg a Cherddoriaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Gall gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml ceir materion a safbwyntiau sy’n cysylltu’r pynciau, boed y rheiny’n ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil diweddar.

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae rhaglenni israddedig yr Ysgol Cerddoriaeth yn hyblyg ac yn heriol, gan roi cyfle ichi arbenigo a datblygu eich diddordebau eich hun ochr yn ochr â chael eich trwytho ym meysydd estheteg cerddoriaeth, dadansoddi, cyfansoddi, ethnogerddoreg, hanes cerddoriaeth, a pherfformiad. Mae lleoliad yr ysgol yn ychwanegu’n fawr at ei hapêl ar gyfer selogion cerddoriaeth, gan fod Caerdydd yn lleoliad gwych ar gyfer astudio cerddoriaeth yn y DU: mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol, Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr fynychu ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhad ar gyfer cyngherddau.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:

  • y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
  • modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
  • ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
  • y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
  • y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
  • y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
  • y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
  • mae'r hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, gan gynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol.
  • y modiwl Busnes Cerddoriaeth sy’n cynnig lleoliad gwaith byr
  • cyfleoedd dysgu fel gweithdai cyfansoddi, y dosbarthiadau meistr ar berfformio, cyfres cyngherddau’r Brifysgol, darlithoedd John Bird gan academyddion gwadd, ynghyd â’r sgyrsiau gyrfaoedd sy’n cynnig cyfleoedd i ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol sy’n weithredol ym myd cerddoriaeth

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Cerddoriaeth

Mae ein Hysgol fywiog, sydd dan arweiniad y gymuned, yn cynnig hyfforddiant cerddorol trylwyr a chyfleoedd gwerthfawr i berfformio, cyfansoddi ac i astudio cerddoriaeth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4392
  • Marker31 Heol Corbett, Cathays, Caerdydd, CF10 3EB

Ysgol y Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad iaith, cymdeithas a hunaniaeth yng Nghymru gyfoes drwy addysgu ac ymchwil o'r safon uchaf.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

BBB-BBC. Rhaid cynnwys gradd B mewn Cerddoriaeth ac Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

D mewn Tystysgrif BTEC mewn unrhyw bwnc, gradd B mewn Cerddoriaeth Safon Uwch, a gradd B mewn Cymraeg (iaith gyntaf neu ail iaith).

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Cerddoriaeth HL. Rhaid bod gennych hefyd gymhwyster Iaith Gymraeg sy'n cyfateb i radd B ar Safon Uwch.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.


Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Heblaw eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd tair blynedd llawn amser, sy’n cynnwys 120 o gredydau'r flwyddyn, wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng Cymraeg a Cherddoriaeth.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio ar gyfer cyfanswm o 120 credyd.

Yn y Gymraeg, mae dau lwybr yn y flwyddyn gyntaf, un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf, ac un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith. Bydd myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf yn astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Cerddoriaeth, tra bydd myfyrwyr ail iaith yn astudio 80 credyd yn y Gymraeg a 40 credyd Cerddoriaeth.

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un y Gymraeg ar ddatblygu sgiliau allweddol (rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith er mwyn datblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Yn ei hanfod, mae’r flwyddyn gyntaf mewn Cerddoriaeth yn flwyddyn sylfaen sy’n eich paratoi i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch. Mae’n cynnig hyfforddiant creiddiol mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol. Fel myfyriwr BA byddwch yn cael dewis rhydd o’r pynciau hyn.

I ategu eich astudiaethau academaidd, cewch eich annog yn weithredol i ymuno â Chôr neu Gerddorfa’r Brifysgol ac ensembles eraill.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau llafarCY150020 credydau
Defnyddio'r GymraegCY150120 credydau
Y Gymraeg HeddiwCY150820 credydau
Astudio Testunau LlenyddolCY151220 credydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau
Composition 1AMU110710 credydau
Ethnomusicology 1: Music in Human LifeMU112410 credydau
Elements of Tonal Music 1MU112520 credydau
A History of Popular MusicMU112610 credydau
The Full WorksMU112820 credydau
Composition 1BMU120810 credydau
Elements of Tonal Music 2MU122720 credydau
From Page to Stage: Dramaturgy in Musical TheatreMU123010 credydau
Practical Musicianship 1MU131410 credydau
Repertoire StudiesMU131720 credydau
Practical Contribution Portfolio IMU131810 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Cerddoriaeth.

Ym mlwyddyn dau y Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.

Yn ogystal â’r elfennau craidd hyn, mae’r cwrs Cymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, megis cynllunio ieithyddol, sgriptio a chyfieithu.

Yn ail a thrydedd flwyddyn Cerddoriaeth, byddwch yn dewis o blith grwpiau o fodiwlau dadansoddol, arddulliol a hanesyddol, ynghyd â gallu cerddorol ymarferol. Rydym wedi datblygu ein modiwlau blwyddyn dau sydd wedi’u dylunio i’ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o’r proffesiwn cerddoriaeth yn well, a rhoi cyfle ichi gael lleoliad byr mewn maes sy’n ymwneud â cherddoriaeth neu’r celfyddydau, naill ai mewn un bloc neu ar ffurf cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau Academaidd UwchCY221020 credydau
Llenyddiaeth PlantCY231020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY236020 credydau
Bywydau LlênCY242520 credydau
TafodieithegCY245020 credydau
SosioieithyddiaethCY253020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY266520 credydau
Opera WorldsMU211110 credydau
Opera WorldsMU211220 credydau
Music Sounded Out: Interpreting Oral and Recorded Genres and FormsMU212220 credydau
OrchestrationMU216120 credydau
The Business of Music 1MU216410 credydau
Performance Practice and Organology: the Long Eighteenth Century, 1700-1830MU216710 credydau
Performance Practice and Organology: the Long Eighteenth Century, 1700-1830MU216820 credydau
Reading Film SoundMU217910 credydau
Reading Film SoundMU218120 credydau
Music in France Since 1900MU221110 credydau
Music in France Since 1900MU221220 credydau
Tonal Common Practice: Styles and TechniquesMU221420 credydau
Studio Techniques 1: Midi and SynthesisersMU223120 credydau
Ethnomusicology 2: Music in Cross-Cultural PerspectiveMU227120 credydau
The Business of Music 2MU227220 credydau
Analysing 20th Century MusicMU229120 credydau
Composition 2MU232020 credydau
Practical Musicianship 2MU235810 credydau
Practical Contribution Portfolio 2MU236010 credydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Cerddoriaeth.

Ym mlwyddyn tri y Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau (20 credyd) neu 9,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.

Bydd eich modiwlau Cerddoriaeth yn adeiladu ar y sylfaen a sefydlwyd yn ystod blynyddoedd un a dau gan eich trochi ymhellach yn academia cerddoriaeth, yn ogystal â phrosiectau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Llenyddiaeth PlantCY331020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY336020 credydau
Bywydau LlênCY342520 credydau
TafodieithegCY345020 credydau
SosioieithyddiaethCY353020 credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY366520 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 credydau
A History of Popular MusicMU112610 credydau
Challenging Tradition: Counterpoint from Bartok to BartschMU312020 credydau
Studio Techniques 2: Audio and Hard Disk RecordingMU316320 credydau
The Birth of ModernismMU316520 credydau
Nineteenth Century Italian OperaMU316920 credydau
Jazz, Culture and PoliticsMU328720 credydau
EnsembleMU329220 credydau
Practical Musicianship 4 (Performance)MU334420 credydau
DissertationMU335140 credydau
Composition 3MU335340 credydau
RecitalMU335640 credydau
Project in Music AnalysisMU335740 credydau
Project in EthnomusicologyMU335840 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn arbennig yn achos y llwybr ail-iaith).

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

25%

Astudio annibynnol dan arweiniad

76%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

0%

Astudio annibynnol dan arweiniad

0%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

0%

Astudio annibynnol dan arweiniad

0%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol ar arholiadau yn dilyn cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

35%

Arholiadau ymarferol

19%

Gwaith cwrs

46%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

0%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

0%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

0%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

0%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae'r radd yn arbennig o addas ar gyfer y rhai sydd am gael gyrfa ym myd addysg neu academia, neu’r celfyddydau, ond gall arwain yr un mor effeithiol at fathau eraill o gyflogaeth i raddedigion neu ddarparu sylfaen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig.

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig.

Yn 2015/16, dywedodd 100% o raddedigion Ysgol y Gymraeg oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn cerddoriaeth yn helpu ein myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, ym mhroffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.

Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i gael gyrfa gyda’r BBC, Cyngor y Celfyddydau, Glyndebourne Opera, Opera Cenedlaethol Lloegr, prifysgolion, Oxford University Press, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’r London Symphony Orchestra, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau diwydiannol, masnachol ac elusennol eraill.

Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 56% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth