Cyfieithu (BA)
- UCAS code: Q910
- Next intake: September 2021
- Duration: 3 years
- Mode: Full time
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Entry Year
Why study this course
Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yw datblygu ac addysgu ein myfyrwyr i fod yn ‘ddinasyddion byd-eang’. Yn ogystal â datblygu sgiliau iaith lefel uchel, mae ein rhaglen BA Cyfieithu yn eich galluogi i gael dealltwriaeth ryngddiwylliannol drylwyr sy'n cwmpasu gwybodaeth benodol am ddiwylliannau'r iaith rydych chi’n ei hastudio. Byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel o ran cyfathrebu a meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
Mae Cyfieithu yn bwysig iawn ar y llwyfan Ewropeaidd a byd-eang. Drwy astudio Cyfieithu, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan eich gwneud yn gystadleuol ac yn ddeniadol mewn gweithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.
Rydym yn cynnig Cyfieithu ar gyfer myfyrwyr sydd â sgiliau iaith uwch a dechreuwyr. O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu a deunyddiau clyweledol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant Cyfieithu a Chyflwyniad i ddulliau Cyfieithu yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.
Byddwch yn parhau i ddatblygu’r sgiliau allweddol a'r cymwyseddau hyn ym Mlwyddyn 2.
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i naill ai ysgrifennu traethawd hir, a fydd yn ysgogi menter a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig neu Brosiect Cyfieithu Anodedig, sydd yn ddefnyddiol i ddangos i ddarpar gyflogwyr.
Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen tair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd yn yr iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cyfieithu.
Noder: Gallwch arbenigo mewn hyd at ddwy iaith ar y rhaglen hon, os byddwch yn dewis Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg neu Bortiwgaleg. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis arbenigo mewn naill ai Japaneeg neu Tsieinëeg, byddwch yn gallu astudio un iaith yn unig ochr yn ochr â Chyfieithu. Ni allwch gyfuno Japaneeg neu Tsieinëeg ag ieithoedd eraill.
Where you'll study
Yr Ysgol Ieithoedd Modern
Un o ysgolion iethioedd modern fwyaf dynamig y Deyrnas Unedig. Rydym yn ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid er mwyn hyrwyddo manteision amlieithrwydd.
Entry requirements
ABB-BBB. Os oes gennych radd B yn yr iaith Safon Uwch berthnasol bydd gennych fynediad i'r llwybrau uwch ieithoedd.
Extended/International Project Qualification: Applicants with grade A in the EPQ/IPQ will typically receive an offer one grade lower than the standard A level offer. Please note that any subject specific requirements must still be met.
The Welsh Baccalaureate Advanced Skills Challenge Certificate will be accepted in lieu of one A-Level (at the grades listed above), excluding any specified subjects.
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Celfyddydau, Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol. Os oes gennych radd B yn yr iaith Safon Uwch berthnasol yn ychwanegol at neu mewn cyfuniad â BTEC bydd gennych fynediad i'r llwybrau uwch ieithoedd.
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Os oes gennych radd 6 yn yr iaith berthnasol yn HL bydd gennych fynediad i'r llwybrau uwch ieithoedd.
Other UK qualifications may also be accepted, often in lieu of A-levels, but subject requirements must be met. If you are offering non-UK qualifications, our qualification equivalences guide should allow you to calculate what kind of offer you are likely to receive.
Please be aware that this is a general guide, and that some programmes may have more detailed or specific entry requirements which will be reflected in your offer.
GCSE
Grade C or grade 4 in GCSE English Language.
IELTS (academic)
At least 6.5 overall with a minimum of 5.5 in each subskill.
TOEFL iBT
At least 90 overall with minimum scores of 17 for writing, 17 for listening, 18 for reading and 20 for speaking.
PTE Academic
At least 62 overall with a minimum of 51 in all communicative skills.
Trinity ISE II/III
II: at least two Distinctions and two Merits.
III: at least a Pass in all components.
Other accepted qualifications
Please visit our English Language requirements page for more information on our other accepted language qualifications.
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course. If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Please see our admissions policies for more information about the application process.
Tuition fees
Students from the UK
Tuition fee (2021/22) | Deposit |
---|---|
£9,000 | None |
Students from the EU, EEA and Switzerland
If you are an EU/EEA/Swiss national, unless you qualify for UK fee status, tuition fees for 2021/22 will be in line with the fees charged for international students. UKCISA have provided information about Brexit and tuition fees.
Students from the rest of the world (international)
Tuition fee (2021/22) | Deposit |
---|---|
£18,200 | None |
Financial support
Financial support may be available to individuals who meet certain criteria. For more information visit our funding section. Please note that these sources of financial support are limited and therefore not everyone who meets the criteria are guaranteed to receive the support.
Additional costs
Accommodation
We have a range of residences to suit your needs and budget. Find out more on our accommodation pages.
Living costs
We’re based in one of the UK’s most affordable cities. Find out more about living costs in Cardiff.
Course structure
Mae BA Cyfieithu yn rhaglen gradd tair blynedd. Mae wedi ei strwythuro fel y byddwch yn caffael cymwyseddau a sgiliau iaith lefel uchel dros flynyddoedd olynol i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.
Ym mhob un o flynyddoedd y rhaglen byddwch yn astudio ar gyfer 120 o gredydau.
The modules shown are an example of the typical curriculum and will be reviewed prior to the 2021/22 academic year. The final modules will be published by September 2021.
Year one
Module title | Module code | Credits |
---|---|---|
Introduction to Translation Methods | ML8100 | 20 credits |
Introduction to Translation Theory | ML8101 | 20 credits |
Module title | Module code | Credits |
---|---|---|
Understanding Hispanidad in a Global Context | ML0187 | 20 credits |
Advanced Spanish Language Year 1 | ML0188 | 40 credits |
Beginners Spanish Language Year 1 | ML0189 | 40 credits |
Histories and Cultures of the Portuguese-Speaking World: National and Transnational | ML4186 | 20 credits |
Portuguese Language for Heritage Learners Year 1 | ML4187 | 40 credits |
Advanced Portuguese Language Year 1 | ML4188 | 40 credits |
Beginners Portuguese Language Year 1 | ML4189 | 40 credits |
National and Global Perspectives on France | ML6187 | 20 credits |
Advanced French Language Year 1 | ML6188 | 40 credits |
Beginners French Language Year 1 | ML6189 | 40 credits |
German History and Culture in Transnational Context | ML7187 | 20 credits |
Advanced German Language Year 1 | ML7188 | 40 credits |
Beginners German Language Year 1 | ML7189 | 40 credits |
Introduction to Italian Studies in a Transnational Context | ML8179 | 20 credits |
Advanced Italian Language (Year 1) | ML8188 | 40 credits |
Beginners Italian Language Year 1 | ML8189 | 40 credits |
Year two
Module title | Module code | Credits |
---|---|---|
Principles of Translation Theory | ML2200 | 30 credits |
Introduction to Specialised Translation | ML2201 | 30 credits |
Module title | Module code | Credits |
---|---|---|
Ex-Advanced Language Year 2 Spanish | ML0279 | 30 credits |
Ex-Beginners Language Year 2 Spanish | ML0280 | 30 credits |
Cultures in Context (Spanish) | ML0282 | 30 credits |
Ex-Beginners Language Year 2 Portuguese | ML4280 | 30 credits |
Ex-Advanced Language Year 2 Portuguese | ML4281 | 30 credits |
Cultures in Context (Portuguese) | ML4282 | 30 credits |
Ex-Beginners Language Year 2 French | ML6280 | 30 credits |
Ex-Advanced Language Year 2 French | ML6281 | 30 credits |
Cultures in Context (French) | ML6282 | 30 credits |
Ex-Beginners Language Year 2 German | ML7250 | 30 credits |
Ex-Advanced Language Year 2 German | ML7251 | 30 credits |
Cultures in Context (German) | ML7282 | 30 credits |
Ex-Beginners Language Year 2 Italian | ML8280 | 30 credits |
Ex-Advanced Language Year 2 Italian | ML8281 | 30 credits |
Whose 'culture' is it anyway? Identity, Power and Memory in C20th Italy | ML8283 | 30 credits |
Year three
Module title | Module code | Credits |
---|---|---|
Translation as a Profession | ML2375 | 30 credits |
The University is committed to providing a wide range of module options where possible, but please be aware that whilst every effort is made to offer choice this may be limited in certain circumstances. This is due to the fact that some modules have limited numbers of places available, which are allocated on a first-come, first-served basis, while others have minimum student numbers required before they will run, to ensure that an appropriate quality of education can be delivered; some modules require students to have already taken particular subjects, and others are core or required on the programme you are taking. Modules may also be limited due to timetable clashes, and although the University works to minimise disruption to choice, we advise you to seek advice from the relevant School on the module choices available.
Learning and assessment
Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.
Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.
Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.
Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.
Year 1
Scheduled learning and teaching activities
20%
Guided independent study
80%
Placements
0%
Year 2
Scheduled learning and teaching activities
45%
Guided independent study
55%
Placements
0%
Year 3
Scheduled learning and teaching activities
32%
Guided independent study
68%
Placements
0%
How will I be supported?
Mae ein rhaglen BA mewn Cyfieithu yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.
Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.
Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.
Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu.
Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.
Mae ein tîm gwasanaethau proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Yn ogystal, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.
Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.
Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Year 1
Written exams
57%
Practical exams
7%
Coursework
37%
Year 2
Written exams
62%
Practical exams
9%
Coursework
29%
Year 3
Written exams
47%
Practical exams
12%
Coursework
42%
What skills will I practise and develop?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:
- Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
- Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
- Y gallu i gyfieithu gwahanol fathau o destunau a chyfleu eu hystyr mewn modd proffesiynol.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:
- Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn Saesneg ac iaith dramor fodern, a hynny yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gychwyn ac ymgymryd â dadansoddiadau o wybodaeth.
- Cyrraedd casgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan gyfiawnhau’r rhain gyda rhesymu cadarn a dehongliadau manwl o ddeunydd ffynhonnell.
- Technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynllunio ac ysgrifennu traethawd academaidd, gan ddefnyddio’r confensiynau cyfeirio priodol.
- Gwerthusiad beirniadol o syniadau a dadleuon, drwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau ysgrifenedig a llafar.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:
- Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
- Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
- Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
- Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
- Gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:
- Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
- Y gallu i ddadansoddi testunau cymhleth.
- Dehongli a defnyddio data perthnasol.
- Arddangos sgiliau ymchwil ymarferol.
- Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
- Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
- Arddangos sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
- Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
- Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
- Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
Careers
Graduate careers
- Translator
- Teaching