Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg a Cherddoriaeth (BA)

  • Côd UCAS: GW13
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r amser y byddwch yn ei dreulio ar bob pwnc yn symiau tebyg i’w gilydd, gan eich galluogi i elwa ar ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau cerddorol wrth astudio pwnc cyfareddol a heriol Mathemateg. Byddwch yn cael eich annog i fynd ar drywydd meysydd sydd o ddiddordeb i chi drwy gyrsiau modiwlaidd hyblyg iawn.

Mae dinas Caerdydd yn gartref i'r celfyddydau, ac yn lleoliad gwych ar gyfer yr astudio Cerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol (Opera Cenedlaethol Cymru) a hefyd gerddorfa symffoni broffesiynol (Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC). Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr fynd i ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhad ar gyfer cyngherddau.

Mae disgwyl i chi fod wedi cyrraedd neu fod wedi dangos tystiolaeth o weithio tuag at Radd 8 mewn un neu ragor o offerynnau, neu lais, ar adeg gwneud eich cais. Efallai y cewch chi eich ystyried os nad ydych chi’n astudio Lefela Cerddoriaeth ond bod gennych chi Radd 8 Ymarferol a Gradd 7/8 Theori a’ch bod chi’n astudio pynciau priodol ar Safon Uwch.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion unigryw’r radd yn cynnwys:

  • hyfforddiant offerynnol sy’n cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer eich prif offeryn astudio
  • modiwlau Busnes Cerddoriaeth sy’n cynnig lleoliad gwaith byr
  • gweithdai cyfansoddi, y dosbarthiadau meistr ar berfformio, cyfres cyngherddau’r Brifysgol, darlithoedd John Bird gan academyddion gwadd a’r sgyrsiau gyrfaoedd sy’n cynnig llawer o gyfleoedd i ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol sy’n weithredol ym myd cerddoriaeth. Defnyddir dosbarthiadau Mathemateg i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau hanfodol.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Cerddoriaeth

Mae ein Hysgol fywiog, sydd dan arweiniad y gymuned, yn cynnig hyfforddiant cerddorol trylwyr a chyfleoedd gwerthfawr i berfformio, cyfansoddi ac i astudio cerddoriaeth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4392
  • Marker31 Heol Corbett, Cathays, Caerdydd, CF10 3EB

Yr Ysgol Mathemateg

Mae ein graddau deallusol cyffrous wedi'u hachredu er mwyn cwrdd â gofynion addysgol enwebiad Mathemategydd Siartredig.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Caerdydd, CF24 4AG

Gofynion mynediad

AAB-ABB. Rhaid cynnwys gradd A mewn Mathemateg a gradd B mewn Cerddoriaeth. Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (megis Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7). Lle na ellir pennu lefelau sgiliau yn ôl cymwysterau amgen, efallai y cewch eich gwahodd i glyweliad.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DD mewn Diploma BTEC mewn Cerddoriaeth a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch. Bydd ymgeiswyr heb BTEC Music yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (megis Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7). Lle na ellir pennu lefelau sgiliau yn ôl cymwysterau amgen, efallai y cewch eich gwahodd i glyweliad. 

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Cerddoriaeth HL. Bydd ymgeiswyr heb HL Music yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (megis Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7). Lle na ellir pennu lefelau sgiliau yn ôl cymwysterau amgen, efallai y cewch eich gwahodd i glyweliad. 

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

- gradd 8 Cerddoriaeth Ymarferol mewn offeryn neu lais.



Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Lle na ellir pennu lefelau sgiliau yn ôl cymwysterau amgen, efallai y cewch eich gwahodd i glyweliad.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Heblaw eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Gradd dair blynedd lawn amser yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu’n gyfartal rhwng y ddwy Ysgol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Yn ei hanfod, mae’r flwyddyn hon mewn Cerddoriaeth yn flwyddyn sylfaen sy’n eich paratoi i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch. Byddwch yn cael hyfforddiant creiddiol mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol.

Yn y flwyddyn gyntaf mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn cynnig hyfforddiant creiddiol mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol. Fel myfyriwr BA byddwch yn cael dewis rhydd o’r pynciau hyn.

I ategu eich astudiaethau academaidd, rydych chi’n cael eich annog yn weithredol i ymuno â Chôr neu Gerddorfa’r Brifysgol ac ensembles eraill.

Ym Mathemateg, mae blwyddyn un ar hyn o bryd yn cynnwys pedwar modiwl gorfodol. Y rhain yw Sylfeini Mathemateg I, Fectorau a Matricsau, Sylfeini Mathemateg II a Hafaliadau Differol Elfennol.

Sylwer bod rhai modiwlau yn y ddau bwnc yn darparu paratoad hanfodol ('rhagofynion') ar gyfer modiwlau mwy datblygedig os ydych chi’n dymuno eu dilyn mewn blynyddoedd diweddarach.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Elementary Differential EquationsMA100110 credydau
Foundations of Mathematics IMA100520 credydau
Foundations of Mathematics IIMA100620 credydau
Linear Algebra IMA100810 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Composition 1AMU110710 credydau
Ethnomusicology 1: Music in Human LifeMU112410 credydau
Elements of Tonal Music 1MU112520 credydau
A History of Popular MusicMU112610 credydau
The Full WorksMU112820 credydau
Composition 1BMU120810 credydau
Elements of Tonal Music 2MU122720 credydau
From Page to Stage: Dramaturgy in Musical TheatreMU123010 credydau
Practical Musicianship 1MU131410 credydau
Repertoire StudiesMU131720 credydau
Practical Contribution Portfolio IMU131810 credydau

Blwyddyn dau

O ran Cerddoriaeth, mae cyrsiau yn fwy datblygedig a byddwch yn canolbwyntio ar bynciau mwy arbenigol, gan ddewis o blith pedwar grŵp: Cyfansoddi ac Astudiaethau Electroacwstig, Dawn Gerddorol Ysgrifenedig ac Ymarferol, Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol, ac Astudiaethau Hanesyddol.

Lluniwyd ein modiwlau blwyddyn dau, Busnes Cerddoriaeth I/II, i’ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o’r proffesiwn cerddoriaeth yn well ac i roi cyfle i chi gael lleoliad byr mewn maes sy’n ymwneud â cherddoriaeth neu’r celfyddydau, naill ai mewn un bloc neu ar ffurf cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

O ran Mathemateg, gweler y rhestr modiwlau i weld manylion y modiwlau unigol sydd ar gael.

Noder nad yw Ystadegau ar gael fel maes pwnc i fyfyrwyr sy'n dilyn Cerddoriaeth.

Blwyddyn tri

O ran Cerddoriaeth, rydych chi unwaith eto’n dewis o blith y pedwar grŵp pwnc, ac yn dilyn un (ond dim mwy na dau) o’r tri prif brosiect academaidd: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoreg, neu Brosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth.

Cewch gwblhau portffolio cyfansoddiadau byr (Cyfansoddi IV) a/neu ddatganiad 'caeedig' o flaen arholwyr yn unig (Dawn gerddorol ymarferol IV).

Nid oes modiwlau craidd ar gyfer Mathemateg ym mlwyddyn tri.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

O ran Cerddoriaeth, cewch eich addysgu gan staff academaidd gydag arbenigedd ar draws cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoleg a cherddoriaeth boblogaidd.

Mae'r hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol ar gyfer eich prif offeryn astudio. Mae hyn yn cynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Byddwch yn cael 24 gwers hanner awr yn ystod y flwyddyn.

Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o arddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai mewn grwpiau bach, sesiynau tiwtorial unigol, hyfforddiant offerynnol ensemble, ymarferion ac astudio annibynnol.

Mae Mathemateg yn seiliedig ar ddarlithoedd wedi eu hategu gan ddosbarthiadau enghreifftiol (a dosbarthiadau labordy lle bo'n briodol).  Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, ac ymwneud yn llawn a myfyrio ar yr asesiadau a gaiff eu cynnal.  Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

26%

Astudio annibynnol dan arweiniad

74%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

27%

Astudio annibynnol dan arweiniad

73%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

24%

Astudio annibynnol dan arweiniad

76%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

O ran Cerddoriaeth, ar ddechrau pob blwyddyn byddwch yn cael canllaw i nodau modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen a gwrando. Bydd y tiwtoriaid personol a ddyrennir i chi yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar ddewis modiwlau a byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw.

Ar gyfer y prosiectau blwyddyn derfynol byddwch yn cael goruchwyliwr i fonitro cynnydd a darparu ymgynghoriadau unigol trwy drefniant.

Mewn Mathemateg mae tiwtorialau academaidd wedi eu trefnu ar gyfer pob modiwl craidd ym Mlwyddyn Un, a byddwch hefyd yn cael tiwtor personol sy'n gallu cynnig cyngor, arweiniad a chymorth bugeiliol i chi.  Mae gwasanaeth galw heibio bob dydd yn yr Ysgol, hefyd, lle gallwch ofyn unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â Mathemateg.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

67%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

30%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

57%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

43%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

87%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

13%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, fel:

  • llythrennedd datblygedig
  • llythrennedd cyfrifiadurol
  • meddwl yn rhesymegol a dadansoddol am broblemau
  • sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • ymdopi ag ansicrwydd/cymhlethdod
  • creadigrwydd a meddwl yn arloesol
  • sgiliau fel arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli, yn rhan annatod o weithgareddau cerddorol ymarferol
  • nodi, cofnodi a chyfathrebu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol
Musicians

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa


Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau  yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae ein modiwlau ar gyfer yr ail flwyddyn ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall y gwahanol ganghennau yn y proffesiwn cerddoriaeth yn well. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau.

Mae ein cyfres flynyddol o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth yn gyfle gwych i chi gwrdd â phobl broffesiynol mewn amryw feysydd fel perfformio, addysg cerddoriaeth, newyddiaduraeth cerddoriaeth, rheoli'r celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.

Yn 2015/16, dywedodd 89% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Bydd y rhaglenni gradd Mathemateg yn eich arfogi â sgiliau rhifiadol arbenigol ac yn datblygu eich gallu i feddwl yn rhesymegol ac yn ddadansoddol. Mae'r rhain yn nodweddion y mae galw amdanynt ar draws amrywiaeth eang o yrfaoedd ysgogol a gwerth chweil.

Yn ogystal â’r addysg ffurfiol ar y rhaglen, mae’r Ysgol Mathemateg hefyd yn ymgysylltu'n helaeth â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogwyr. Mae hyn yn cynnwys Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, nifer o gyflwyniadau gan gwmnïau yn yr Ysgol, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a noddir ar gyfer cyflawniad academaidd.

Lleoliadau

Mae modiwlau Blwyddyn dau ar Fusnes Cerddoriaeth I/II yn rhoi cyfle am leoliad gwaith byr, naill ai mewn un bloc neu fel cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 17% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth