Ewch i’r prif gynnwys

Y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant (BA)

  • Côd UCAS: R5V2
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Prif nod ein cwrs ar y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant yw eich paratoi i fod yn ddinasyddion gwybodus mewn cymdeithas sy’n gyforiog o gyfryngau.

Mae ein cyrsiau’n astudio’r llu agweddau ar newyddiaduraeth, y cyfryngau, diwylliant a chyfathrebu ac yn ystyried effaith y rheiny ar gymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant poblogaidd mewn oes o globaleiddio a newidiadau cymdeithasol dynamig. Maen nhw’n rhoi i chi sgiliau swydd-benodol fel dulliau ymchwilio a hefyd, os dewiswch, ymarfer newyddiadurol, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy llawer ehangach sydd o werth mewn amrywiaeth o sectorau.

Man cychwyn y radd hon yw’r rhagdybiaeth bod angen i ni, os ydym am ddeall ein cymdeithas fodern, ddeall rôl ganolog y cyfryngau a’r diwydiannau diwylliannol ynddi.

Er y gallwch gymryd nifer cyfyngedig o fodiwlau mwy ymarferol, ar yr academaidd a’r dadansoddol y mae pwyslais y radd.

Byddwch yn ymuno ag amgylchedd ysgogol o ddeallusol sy’n ymroddedig i wneud y mwyaf o’ch potensial trwy ddatblygiad personol a digwyddiadau gyrfaoedd. Mae nifer o’n darlithwyr profiadol yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol yn eu meysydd pwnc.

Er bod y cwrs hwn yn heriol ac yn academaidd ei natur, NID yw'n darparu hyfforddiant galwedigaethol newyddiaduraeth.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:

  • mae modiwlau’r cyfryngau mor amrywiol â Rheoli Cyfryngau Cyfathrebu, Gwleidyddiaeth Rhyfel a Phropaganda ac Achosion Cyfathrebu
  • bydd gennych fynediad at gynlluniau Erasmus ac Astudio Dramor
  • wythnosau gyrfaoedd a gweithdai wedi eu trefnu’n rheolaidd i sicrhau eich bod chi’n barod ar gyfer 'byd gwaith'

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4041
  • MarkerCaerdydd, CF10 1FS

Gofynion mynediad

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC ym mhynciau'r Celfyddydau, y Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol.

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 7.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.0 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 100 yn gyffredinol, gydag o leiaf 20 ym mhob is-sgil.

PTE Academic

O leiaf 70 yn gyffredinol gydag o leiaf 54 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

III: o leiaf Teilyngdod ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

.Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B / 6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.



Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Nid oes proses gyfweld, a bydd deiliaid cynigion yn cael gwahoddiad i ddiwrnodau ymweld i ymgeiswyr ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae’r radd BA yn y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Chyfathrebu yn gwrs modiwlaidd tair-blynedd, llawn amser. Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau’n cynnwys 12 wythnos o addysgu, a neilltuir gweddill y semester i arholiadau a mathau eraill o asesu, ynghyd â’r prosesau sy’n ymwneud â marcio a byrddau arholi. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Addysgir chwe modiwl craidd 20 credyd gan ddefnyddio fformat darlith/seminar yn bennaf. Bydd syniadau a dulliau yn cael eu cyflwyno i chi mewn darlithoedd a byddwch yn cyflawni gwaith mwy cymhwysol a seiliedig ar dîm mewn seminarau.

Blwyddyn dau

Bydd un modiwl craidd a phum modiwl dewisol yn cael eu haddysgu drwy ddefnyddio fformat darlith/seminar yn bennaf, er y bydd y tasgau a ddatblygir mewn seminarau yn fwy uchelgeisiol.

Bydd disgwyl i chi ddatblygu protocolau ymchwil, ar eich pen eich hun ac mewn grwpiau, a dechrau arbrofi gyda a dylunio gweithdrefnau methodolegol (fel dulliau arolygu, ethnograffeg, a dadansoddi cynnwys a sgyrsiau).

Erbyn diwedd blwyddyn dau, bydd gennych chi’r sgiliau sydd eu hangen i ysgrifennu traethawd hir ym mlwyddyn tri.

Blwyddyn tri

Bydd blwyddyn tri yn cynnwys traethawd hir dewisol, un modiwl craidd a dewis o fodiwlau dewisol a fydd yn eich galluogi i arbenigo yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi. Er y bydd nifer o’r rhain ar ffurf darlith/gweithdy, bydd yr amrywiaeth o ddulliau dysgu yn fwy amrywiol ac yn cynnwys aseiniadau mwy cymhleth a heriol.

Byddwch yn cynnal ymchwil annibynnol ac yn defnyddio syniadau damcaniaethol a dulliau gwaith ymarferol a/neu ddadansoddol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae ein haddysgu yn aml yn cael ei arwain a’i lywio gan ein gwaith ymchwil. Cewch eich addysgu mewn amgylchedd cefnogol a bydd tiwtor personol sy’n aelod o staff academaidd yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn gallu rhoi cyngor ar amrywiaeth eang o faterion.

Bydd arferion dysgu a chynhyrchu cyfryngau newydd ac aml-gyfrwng pe baech chi’n dewis rhai o’r modiwlau newyddiaduraeth a chyfryngau mwy ymarferol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch tiwtor personol.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:

  • ddarllen, dadansoddi a chyfosod testunau academaidd cymhleth
  • dadansoddi testunau cyfryngau gwahanol, gan gynnwys geiriau, delweddau a sain
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
  • gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • cynnal gwahanol fathau o ymchwil annibynnol ar gyfer traethodau, prosiectau, cynyrchiadau creadigol neu draethodau hir
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 93% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn symud ymlaen i’n graddau meistr newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu ôl-raddedig, ac yna i swyddi amrywiol yn y cyfryngau.

Ymhlith enghreifftiau diweddar o swyddi lefel mynediad mae: awdur cynnwys, gweithredwr cyfryngau digidol, cynghorydd polisi cyfryngau cymdeithasol, intern ymchwil, intern golygyddol, gohebydd, gweithredwr/cynorthwyydd cysylltiadau cyhoeddus, intern polisi, gweithredwr ymgyrchoedd, cynorthwyydd addysgu a rheolwr prosiect hefyd.

Ar ôl mynd yn eu blaenau o swyddi lefel mynediad mae ein cyn-fyfyrwyr bellach yn cynnal nifer o rolau cyfryngau a gweinyddu fel: newyddiadurwr cynhyrchu (Telegraph Media Group), golygydd cylchgrawn (The Independent), uwch swyddog y wasg (Guardian News & Media), cynhyrchydd ffilmiau (See Saw Films) a rheolwr ymgyrchoedd digidol a chymunedol (Ruder Finn).

Gyrfaoedd graddedigion

  • Journalist
  • Digital Media Executive
  • Social Media Policy Advisor
  • Editor
  • Public Relations

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth